Pennod Ⅴ.
A bu yn awr, ar ol i mi, Nephi, orphen llefaru wrth fy mrodyr, wele hwy a ddywedasant wrthyf, Yr wyt ti wedi mynegi i ni bethau celyd, mwy nag y gallwn ni eu dyoddef.
A bu i mi ddywedyd wrthynt, fy mod yn gwybod i mi lefaru pethau celyd yn erbyn y drygionus, yn unol â’r gwirionedd; ac yr wyf wedi cyfiawnhau y cyfiawn, a thystiolaethu y cant eu dyrchafu i fyny yn y dydd diweddaf; am hyny, y mae’r euog yn cymmeryd fod y gwirionedd yn galed, canys y mae yn eu tori hwy hyd at y canol. Ac yn awr, fy mrodyr, pe buasech chwi yn gyfiawn, ac yn ewyllysgar i wrandaw y gwirionedd, a thalu sylw iddo, fel y gallech rodio yn uniawn gerbron Duw, yna ni rwgnachech oblegid y gwirionedd, a dywedyd, Yr wyt ti yn llefaru pethau celyd yn ein herbyn ni. A bu i mi, Nephi, annog fy mrodyr, gyda phob diwydrwydd, i gadw gorchymmynion yr Arglwydd. A bu iddynt hwy ymddarostwng gerbron yr Arglwydd: yn gymmaint ag i mi gael llawenydd a gobaith mawr am danynt, y gwnelent rodio yn llwybrau cyfiawnder. Yn awr, yr holl bethau hyn a lefarwyd, ac a gyflawnwyd, pan oedd fy nhad yn trigo mewn pabell mewn dyffryn a alwai efe yn Lemuel.
A bu i mi, Nephi, gymmeryd un o ferched Ishmael yn wraig; ac hefyd, fy mrodyr a gymmerasant ferched Ishmael yn wragedd; ac hefyd Zoram a gymmerodd ferch henaf Ishmael yn wraig. Ac felly fy nhad a gyflawnodd holl orchymynion yr Arglwydd, y rhai a roddwyd iddo. Ac hefyd, myfi, Nephi, a fendithiwyd gan yr Arglwydd yn fawr iawn.
A bu i lais yr Arglwydd lefaru wrth fy nhad yn y nos, a gorchymyn iddo gymmeryd ei daith yn y boreu i’r anialwch. A bu pan oedd fy nhad yn codi yn y boreu, ac yn myned allan i ddrws y babell, er ei fawr wyndod, iddo weled ar y llawr belen gron o wneuthuriad cywrain; ac yr oedd o bres coeth. Ac oddifewn y belen yr oedd dwy werthyd; ac un a bwyntiai at y ffordd ag oeddym i fyned i’r anialwch.
A bu i ni gasglu ynghyd pa bethau bynag a allem gario i’r anialwch,—a’r holl weddill o’r darpariadau ag oedd yr Arglwydd wedi roddi i ni; a ni a gymmerasom hâd o bob math, fel y gallem fyned ag ef i’r anialwch.
A bu i ni gymmeryd ein pebyll, ac ymadael i’r anialwch, yn groes i’r afon Laman. A bu i ni deithio am yspaid pedwar diwrnod, yn agos yn ddeheuol mewn cyfeiriad deheu-ddwyreiniol, ac ni a godasom ein pebyll drachefn; ac ni a alwasom enw y lle yn Shazer.
A bu i ni gymmeryd ein bwäau a’n saethau, a myned allan i’r anialwch i ladd ymborth i’n teuluoedd; ac ar ol i ni ladd ymborth i’n teuluoedd, ni a ddychwelasom drachefn at ein teuluoedd yn yr anialwch, i’r lle Shazer. Ac ni a aethom allan drachefn i’r anialwch, gan ddilyn yr un cyfeiriad, a chadw yn y rhanau mwyaf ffrwythlawn o’r anialwch, y rhai oeddynt ar y cyffiniau gerllaw y Môr Coch. A bu i ni deithio am yspaid amryw ddyddiau, gan ladd ymborth ar hyd y ffordd, â’n bwäau a’n saethau, a’n ceryg, a’n ffyn tafl; ac ni a ddilynasom gyfeiriadau y belen, yr hon a’n harweiniai i’r rhanau mwyaf ffrwythlawn o’r anialwch. Acar ol i ni deithio am yspaid amryw ddyddiau, ni a godasom ein pepyll am yspaid o amser, fel y gallem drachefn ymorphwys a chael ymborth i’n teuluoedd.
A bu pan oeddwn i, Nephi yn myned allan i ladd ymborth, wele, mi a dorais fy mwa, yr hwn a wnaed o ddur coeth: ac ar ol i mi dori fy mwa, wele, fy mrodyr, oeddynt ddigllawn wrthyf, oblegid colli fy mwa, canys ni chawsom ddim ymborth. A bu i ni ddychwelyd heb ymborth i’n teuluoedd. A chan eu bod hwy wedi mawr flino, o herwydd eu teithio, hwy a ddyoddefasant lawer o eisieu ymborth.
A bu i Laman a Lemuel, a meibion Ishmael, ddechreu grwgnach yu ddirfawr, o herwydd eu dyoddefiadau a’u blinderau yn yr anialwch: ac hefyd, fy nihad a ddechreuodd rwgnach yn erbyn yr Arglwydd ei Dduw; ïe, yr oeddynt oll yn drist iawn, hyd y nes grwgnachasant yn erbyn yr Arglwydd.
Yn awr dygwyddodd i mi, Nephi, gael fy ngofidio gan fy mrodyr, o herwydd colli fy mwa; a chan fod eu bwäau hwythau wedi colli eu springs, dechreuodd fod yn dra anhawdd, ïe, yn gymaint ag na allem gael dim ymborth. A bu i mi, Nephi, lefaru llawer wrth fy mrodyr, o herwydd eu bod wedi caledi eu calonau drachefn, hyd at achwyn yn erbyn yr Arglwydd eu Duw. A bu i mi, Nephi, wneuthur bwa o goed, a saeth o wialen syth: am hyny, mi a arfogais fy hunan â bwa a saeth, â ffondafl ac â cheryg. Ac mi a ddywedais wrth fy nhad, Pa le yr af i ymofyn ymborth? A bu iddo ef ymofyn â’r Arglwydd, canys hwy a ymddarostyngasant o herwydd fy ngair i; canys mi a ddywedais lawer o bethau wrthynt yn ngrymusder fy enaid.
A bu i lais yr Arglwydd ddyfod at fy nhad; ac efe a wir geryddwyd oblegid ei rwgnachrwydd yn erbyn yr Arglwydd, yn gymmaint ag iddo gael ei ddarostwng i ddyfnderau tristwch. A bu i lais yr Arglwydd ddywedyd wrtho, Edrycha ar y belen, a gwel y pethau ydynt wedi eu hysgrifenu. A bu, pan welodd fy nhad y pethau oedd wedi eu hysgrifenu ar y belen, efe a ofnodd ac a ddychrynodd yn ddirfawr; ac hefyd fy mrodyr, a meibion Ishmael, a’n gwragedd.
A bu i mi, Nephi, ganfod fod y cyfeirwyr oedd yn y belen, yn gweithio yn ol y ffydd, a’r diwydrwydd, a’r sylw a roddasem ni iddynt. Ac yr oedd hefyd yn ysgrifenedig arnynt, ysgrifeniad newydd, yr hwn oedd yn hawdd i’w ddarllen, yr hwn a roddai ar ddeall i ni ynghylch ffyrdd yr Arglwydd; ac yr oedd yn cael ei ysgrifenu a’i newid o bryd i bryd, yn ol y ffydd a’r diwydrwydd a roddasem ni iddo. Ac fel hyn yr ydym yn gweled fod yr Arglwydd, trwy offerynau bychain, yn dwyn oddiamgylch bethau mawrion.
A bu i mi, Nephi, fyned i fyny i ben y mynydd, yn ol y cyfarwyddiadau ag oedd ar y belen. A bu i mi ladd anifeiliaid gwylltion, yn gymmaint ag i mi gael ymborth i’n teuluoedd. A bu i mi ddychwelyd i’n pebyll, gan ddwyn yr anifeiliaid a laddaswn; ac yn awr pan welsant fy mod wedi cael ymborth, mor fawr oedd eu llawenydd. A bu iddynt ymddarostwng gerbron yr Arglwydd, a rhoddi diolchgarwch iddo.
A bu i ni drachefn gymmeryd ein taith, gan fyned yn agos yn yr un cyfeiriad ag yn y dechreu; ac ar ol i ni deithio am yspaid llawer o ddyddiau, ni a godasom ein pebyll drachefn, fel y gallem aros dros yspaid o amser.
A bu i Ishmael farw, a chladdwyd ef yn y lle yr hwn a alwyd Naham. A bu i ferched Ishmael alaru yn ddirfawr, o herwydd colli eu tad, ac o herwydd eu gofidiau yn yr anialwch; a hwy a rwgnachasant yn erbyn fy nhad, am iddo eu dwyn hwynt allan o wlad Jerusalem, gan ddywedyd, Mae ein tad wedi marw; ïe, ac yr ydym ni wedi crwydro llawer yn yr anialwch, ac wedi dyoddef llawer o helbulon, newyn, syched a blinder; ac ar ol yr holl ddyoddefiadau hyn y mae yn rhaid i ni farw yn yr anialwch o newyn. Ac fel hyn y grwgnachasant yn erbyn fy nhad, ac hefyd yn fy erbyn innau; ac yr oeddynt yn dymuno dychwelyd drachefn i Jerusalem. A Laman a ddywedodd wrth Lemuel, ac hefyd wrth feibion Ishmael, Wele, lladdwn ein tad, ac hefyd ein brawd Nephi, yr hwn sydd wedi cymmeryd arno i fod yn llywodraethwr a dysgawdwr i ni, y rhai ydym ei frodyr henaf; Yn awr, dyweda fod yr Arglwydd wedi ymddyddan ag ef, ac hefyd fod angylion wedi gweinyddu iddo. Ond wele, gwyddom ei fod yn dywedyd celwydd wrthym; ac y mae yn mynegi y pethau hyn i ni, ac yn gwneuthur llawer o bethau trwy gyfrwysdra, fel y gallo ddallu ein llygaid, gan dybied, efallai, y medr ein harwain ymaith i ryw anialwch dyeithr; ac ar ol iddo ein harwain ymaith, tybia wneuthur ei hun yn frenin ac yn llywodraethwr arnom ni, fel y gallo wneuthur o honom yn ol ei ewyllys a’i bleser. Ac yn y modd hyn y darfu i’m brawd Laman gynhyrfu eu calonau i ddigofaint.
A bu i’r Arglwydd fod gyda ni, ïe, hyd y nod llais yr Arglwydd a ddaeth ac a lefarodd lawer o eiriau wrthynt, ac a’u ceryddodd yn enbyd; ac ar ol iddynt gael eu ceryddu gan lais yr Arglwydd, hwy a droisant ymaith eu digofaint, ac a edifarhasant am eu pechodau, yn gymmaint ag i’r Arglwydd eu bendithio hwy drachefn ag ymborth, fel na fuom feirw.
A bu i ni drachefn gymmeryd ein taith yn yr anialwch; ac ni a deithiasom yn agos yn ddwyreiniol, o’r amser hwnw yn mlaen. Ac ni a deithiasom ac a aethom drwy lawer o flinderau yn yr anialwch; a’n gwragedd a ddygasant blant yn yr anialwch. Ac yr oedd bendithion yr Arglwydd mor fawr tuag atom, fel pan yr oeddem yn byw ar gig anmrwd yn yr anialwch, yr oedd ein benywod yn rhoddi digonedd o laeth i’w plant, ac yr oeddent yn gryfion, ïe, yn debyg i’r gwrrywod; a hwy a ddechreuasant ddyoddef eu teithiau heb rwgnach. Ac felly gwelwn fod yn rhaid i orchymynion Duw gael eu cyflawni. Ac os bydd plant dynion yn cadw gorchymynion Duw, y mae efe yn eu meithrin, ac yn eu cryfhau, ac yn darparu moddion trwy ba rai y gallant gyflawni y peth y gorchymynodd efe iddynt: am hyny, efe a ddarparodd foddion i ni tra yn teithio yn yr anialwch. Ac ni a deithiasom am yspaid llawer o flynyddau, ïe, hyd y nod wyth mlynedd, yn yr anialwch. Ac ni a ddaethom i’r tir yr hwn a alwasom yn Llawnder, oblegid ei ffrwyth lawer, ac hefyd ei fêl gwyllt; a’r holl bethau hyn a barotowyd gan yr Arglwydd, fel na fuasem farw. Ac ni a welsom y môr, yr hwn a alwasom yn Irreantum, yr hyn o’i gyfieithu yw, dyfroedd lawer.
A bu i ni godi ein pebyll ar làn y môr; ac er i ni ddyoddef llawer o flinderau a llawer o anhawsdra, ïe, gymmaint fel nad alwn eu hysgrifenu oll, etto darfu i ni orfoleddu yn ddirfawr pan ddaethom at làn y môr; ac ni a alwasom y lle yn Llawnder, oblegid ei ffrwyth lawer.
A bu ar ol i mi, Nephi, fod yn nhir Llawnder, am yspaid llawer o ddyddiau, i lais yr Arglwydd ddyfod ataf, gan ddywedyd, Cyfoda, a dos i’r mynydd. A bu i mi gyfodi a myned i fyny i’r mynydd, a galw ar yr Arglwydd.
A bu i’r Arglwydd lefaru wrthyf, gan ddywedyd, Ti a gai adeiladu llong, yn ol y dull a ddangosaf i ti, fel y gallwyf gludo dy bobl yn groes i’r dyfroedd hyn. Ac mi a ddywedais, Arglwydd, Pa le yr af i gael mŵn i’w dodi, fel y gallwyf wneuthur offerynau i adeiladu y llong yn ol y dull a ddangosaist i mi? A bu i’r Arglwydd fynegi wrthyf pa le yr awn i gael mŵn, fel y gallwn wneuthur offerynau.
A bu i mi, Nephi, wneuthur megin i chwythu y tân, allan o grwyn anifeiliaid; ac ar ol i mi wneuthur megin, fel y gallwn gael rhywbeth i chwythu y tân, mi a darawais ddwy gareg yn erbyn eu gilydd, fel y gallwn gynneu tân: canys nid oedd yr Arglwydd hyd yn hyn wedi dyoddef i ni wneyd llawer o dân, pan yn teithio yn yr anialwch; canys efe a ddywedodd, Mi a wnaf i’th ymborth fod yn felys, fel na choginot ef; ac mi a fyddaf hefyd yn oleuni i chwi yn yr anialwch; ac mi a barotoaf y ffordd o’ch blaen, os bydd i chwi gadw fy ngorchymynion; am hyny, yn gymmaint ag y bydd i chwi gadw fy ngorchymynion, chwi a arweinir tua gwlad yr addewid; a chwi a gewch wybod mai genyf fi y’ch arweinir. Ië, a’r Arglwydd a ddywedodd hefyd, Ar ol i chwi gyrhaedd gwlad yr addewid, chwi a gewch wybod mai myfi, yr Arglwydd, wyf Dduw; ac mai myfi, yr Arglwydd, a’ch gwaredodd o ddinystr; ïe, mai myfi a’ch dygodd allan o wlad Jerusalem. Am hyny, myfi, Nephi, a ymdrechais gadw gorchymynion yr Arglwydd, ac a annogais fy mrodyr i ffyddlondeb a diwydrwydd.
A bu i mi wneuthur offerynau allan o’r mŵn, yr hwn a doddais allan o’r graig. A phan welodd fy mrodyr fy mod ynghylch adeiladu llong, hwy a ddechreuasant rwgnach yn fy erbyn, gan ddywedyd, Mae ein brawd yn ffol, canys y mae yn tybied y gall adeiladu llong; ïe, ac y mae efe hefyd yn tybied y gall groesi y dyfroedd mawrion hyn. Ac felly yr oedd fy mrodyr yn achwyn yn fy erbyn, ac yn dymuno na chaffent weithio, canys ni chredent y gallwn i adeiladu llong; ac ni chredent ychwaith fy mod yn cael fy nghyfarwyddo gan yr Arglwydd.
A bu i mi, Nephi, fod yn dra gofidus oblegid caledrwydd eu calonau; ac yn awr pan welsant fy mod i yn dedhreu gofidio yr oeddynt yn falch yn eu calonau, yn gymmaint ag iddynt orfoleddu droswyf, gan ddywedyd, Ni a wyddem nas gallech chwi adeiladu llong, canys gwyddem eich bod yn ddiffygiol mewn medrusrwydd; am hyny, nis gelli gyflawni gorchwyl mor fawr; ac yr ydwyt yn debyg i’n tad, yn cael ei arwain ymaith gan wag ddychymmygion ei galon; ïe, y mae efe wedi ein harwain allan o wlad Jerusalem, ac yr ydym yn crwydro yn yr anialwch dros yr amryw fiynyddoedd hyn; ac y mae ein benywod wedi ymboeni, gan fod yn feichiog ar blant; ac y maent wedi dwyn plant yn yr anialwch a dyoddef pob peth oddieithr marwolaeth; a buasai yn well pe byddent wedi marw, cyn iddynt ddyfod allan o Jerusalem, nâ dyoddef yblinderau hyn. Wele, yr holl fiynyddoedd hyn yr ydym wedi dyoddef yn yr anialwch, yn yr hwn amser y gallem fod yn mwynhau ein meddiannau a gwlad ein hetifeddiaeth: ïe, a gallem fod yn ddedwydd; ac ni a wyddom fod y bobl ag oeddynt yn ngwlad Jerusalem, yn bobl gyflawn; canys yr oedynt yn cadw deddfau a barnedigaethau yr Arglwydd, a’i holl orchymynion, yn ol cyfraith Moses: am hyny, ni a wyddom eu bod yn bobl gyfiawn; ac y mae ein tad ni wedi eu barnu hwynt a’n harwain ni ymaith o herwydd ein ood yn gwrandaw ar ei eiriau ef; ïe, ac y mae ein brawd yn debyg iddo. Ac yn ol iaith o’r dull hyn y grwgnachai ac yr achwynai fy mrodyr yn ein herbyn.
A bu i mi, Nephi, lefaru wrthynt, gan ddywedyd, A ydych chwi yn credu y cawsai ein tadau, y rhai oeddynt blant Israel, eu dwyn ymaith o ddwylaw yr Aifftiaid, pe na wrandawent ar eiriau yr Arglwydd? Ië, a ydych chwi yn tybied y cawsent hwy eu dwyn allan o gaethiwed, pe na fuasai i’r Arglwydd orchymyn i Moses i’w dwyn hwynt allan o gaethiwed? Yn awr, yr ydych yn gwybod i blant Israel fod mewn caethiwed; ac yr ydych yn gwybod eu bod yn cael eu llwytho â thasg-waith, yr hwn oedd yn drwm i’w ddyoddef; am hyny, yr ydych yn gwybod mai peth da iddynt hwy, oedd cael eu dwyn allan o gaethiwed. Yn awr, yr ydych yn gwybod fod Moses wedi cael gorchymyn gan yr Arglwydd i gyflawni y gwaith mawr hwnw; ac yr ydych yn gwybod mai trwy ei air y rhanwyd dyfroedd y Môr Coch yma ac acw, ac yr aethant trwodd ar dir sych. Ond yr ydych yn gwybod i’r Aifftiaid gael eu boddi yn y Môr Coch, y rhai oeddynt fyddinoedd Pharaoh; ac yr ydych yn gwybod hefyd i’r lleill gael eu porthi â manna yn yr anialwch; ïe, ac yr ydych yn gwybod i Moses, trwy ei air, yn ol gallu Duw yr hwn oedd ynddo, daraw y graig, ac i ddwfr ddyfod allan, fel y gallai plant Israel dori eu syched; ac er eu bod yn cael eu harwain, a’r Arglwydd eu Duw, eu Gwaredwr, yn myned o’u blaen hwynt, gan eu harwain hwynt y dydd, a’u goleuo hwynt y nos, a gwneuthur pob peth iddynt ag oedd yn llesol i ddyn i’w gael, darfu iddynt galedu eu calonau, a dallu eu meddyliau, a chablu yn erbyn Moses ac yn erbyn y gwir a’r bywiol Dduw.
A bu mai yn ol ei air, y dinystriodd hwynt; ac yn ol ei air yr arweiniodd hwynt; ac yn ol ei air y gwnaeth bob peth iddynt: ac ni wnaed dim, oddieithr trwy ei air ef. Ac ar ol iddynt groesi afon yr Iorddonen, efe a’u gwnaeth hwynt yn alluog i ymlid allan blant y wlad, ïe, a’u gwasgaru hwynt i ddinystr. Ac yn awr, a ydych chwi yn tybied fod plant y wlad hon, y rhai oeddynt yn ngwlad yr addewid, y rhai a yrwyd allan gan ein tadau, a ydych chwi yn tybied eu bod yn gyfiawn? Wele, meddaf i chwi, nac oeddynt. A ydych chwi yn tybied y buasai ein tadau yn fwy dewisol na hwy, pe buasent yn gyfiawn? Yr wyf yn dywedyd wrthych, Na fuasent: wele, mae yr Arglwydd yn cyfrif pob cnawd yn un: yr hwn sydd yn gyfiawn a gaiff ffafr yr Arglwydd. Eithr wele, yr oedd y bobl hyn wedi gwrthod pob gair o eiddo Duw, ac wedi addfedu mewn drygioni; ac yr oedd cyflawnder digofaint yr Arglwydd arnynt; ac yr oedd yr Arglwydd wedi melldithio y wiad yn eu herbyn hwynt, ac wedi ei bendithio i’n tadau; ïe, efe a’i melldithiodd hi yn eu herbyn hwynt er eu dinystr; ac efe a’i bendithiodd hi i’n tadau, er cael o honynt allu drosti. Wele, yr Arglwydd a greodd y ddaear fel y byddai iddi gael ei phresylio! Ac efe a greodd ei blant fel y gallent ei meddu. Ac y mae efe yn cyfodi i fyny genedl gyflawn, ac yn dinystrio cenedloedd y drygionus. Ac y mae efe yn arwain ymaith y cyfiawn i diroedd gwerthfawr, a’r drygionus y mae ei orseddfainc, a’r ddaear hon yw ei droedfainc. Ac y mae efe yn caru y rhai hyny a’u mynant ef yn Dduw iddynt. Wele, yr oedd efe yn caru ein tadau! Ac efe a ymgyfammododd â hwynt, ïe, sef Abraham, Isaac, a Jacob: ac yr oedd efe yn cofio y cyfammodau y rhai a wnaeth; am hyny, efe a’u dygodd hwynt allan o wlad yr Aifft, ac a’u hunionodd hwynt yn yr anialwch â’i wialen, canys hwy a galedasant eu calonau megys chwithau; a’r Arglwydd a’u hunionodd hwynt o herwydd eu drygioni. Efe a ddanfonodd wib-seirff tanllyd i’w plith hwynt; ac ar ol iddynt gael eu brathu, efe a barotôdd ffordd i’w gwella: a’r gwaith ag oedd ganddynt i’w wneuthur, oedd edrych; ac o herwydd symlrwydd y ffordd, neu ei rhwyddineb, darfu i lawer gael eu dinystrio. A hwy a galedasant eu calonau o bryd i bryd, ac a gablasant yn erbyn Moses, ac hefyd yn erbyn Duw; er hyny, yr ydych chwi yn gwybod iddynt gael eu dwyn allan i wolad yr addewid trwy ei allu digyffeiyb ef. Ac yn awr, ar ol yr holl bethau hyn, y mae yr amser wedi dyfod pan y maent wedi myned yn ddrygionus, ïe, yn agos i addfedrwydd; ac nis gwn ai nad ydynt y dydd hwn ar gael eu dinystrio; canys mi a wn fod yn rhaid i’r dydd ddyfod pan y bydd yn rhaid iddynt gael eu dinystrio, oddieithr ychydig yn unig, y rhai a ddygir i gaethiwed; am hyny, yr Arglwydd a orchymynodd i’m tad fyned i’r anialwch; ac yr oedd yr Iuddewon hefyd yn ceisio cymmeryd ymaith ei fywyd ef, ïe, ac yr ydych chwithau hefyd wedi ceisio cymmeryd ymaith ei fywyd ef; am hyny, yr ydych yn llofruddion yn eich calonau, ac yr ydych yn debyg iddynt hwy. Yr ydych yn gyflym i wneuthur drygioni, eithr yn hwyrfrydig i gofio yr Arglwydd eich Duw. Yr ydych wedi gweled angel, ac efe a lefarodd wrthych; ïe, chwi a glywsoch ei lais ef o bryd i bryd; ac y mae efe wedi llefaru wrthych mewa llais dystaw main, eithr yr oeddech chwi yn ddideimlad, fel na allech deimlo ei eiriau; am hyny, y mae efe wedi llefaru wrthych megys â llais taran, yr hwn a achosai i’r ddaear grynu fel pe bai yn ymhollti. Ac yr ydych yn gwybod hefyd, mai trwy nerth ei air hollalluog, y medr efe achosi i’r ddaear fyned heibio; ïe, ac yr ydych yn gwybod mai trwy ei air y medr efe lyfnhau y lleoedd geirwon, a rhwygo i fyny y lleoedd gwastad. O, paham, ynte, y gellwch chwi fod mor gelyd eich calonau? Wele, mae fy enaid yn cael ei rwygo gan ofid o’ch plegid chwi, a’m calon yn cael ei phoenydio: yr wyf yn ofni rhag i chwi gael eich tori ymaith yn dragywydd. Wele, yr wyf fi yn llawn o ysbryd Duw, gan gymmaint nes y mae fy nghyfansoddiad yn ddirym.
A bu yn awr, wedi i mi lefaru y geiriau hyn, iddynt fod yn ddigllawn wrthyf, ac yn chwennych fy nhaflu i ddyfnderau y môr: ac fel yr oeddynt yn dyfod i osod eu dwylaw arnaf, mi a lefarais wrthynt, gan ddywedyd, Yn enw y Duw Hollallnog, yr wyf yn gorchymyn i chwi na chyffyrddoch â mi, canys yr wyf wedi fy llenwi gan allu Duw, hyd at ysiad fu nghnawd; a phwy bynag a osodo ei ddwylaw arnaf fi, a wywa megys corsen sych; ac efe a fydd megys diddym o flaen gallu Duw, canys Duw a’i tery ef.
A bu i mi, Nephi, ddywedyd wrthynt, na rwgnachent mwyacy yn erbyn eu tad; nac ychwaith attal gweithio i mi, oblegid yr oedd Duw wedi gorchymyn i mi adeiladu llong.
Ac mi a ddywedais wrthynt, pe buasai Duw wedi gorchymyn i mi wneuthur pob peth, mi a allaswn eu gwneuthur. Pe gorchymynai efe i mi ddywedyd wrth y dwfr hwn, Bydd di yn dir, efe a fyddai yn dir; a phe buasai i mi ei ddywedyd, cawsai ei wneyd. Ac yn awr, os oes gan yr Arglwydd y fath allu mawr, ac os yw wedi cyflawni cynnifer o wyrthiau yn mhlith plant dynion, paham nas gall fy nghyfarwyddo innau fel ag i adeiladu llong?
A bu i mi, Nephi, ddywedyd llawer o bethau wrth fy mrodyr, hyd nes y cawsant eu dyrysu, ac y methasant wrthryfela yn fy erbyn; ac ni feiddiasant osod eu dwylaw arnaf, na’m eyffwrdd â’u bysedd, hyd y nod am yspaid llawer o ddyddiau. Yn awr ni feiddient wneuthur hyn, rhag iddynt wywo o’m blaen, canys yr oedd ysbryd Duw mor bwerus; ac felly y gweithredodd ef arnynt hwy.
A bu i’r Arglwydd ddywedyd wrthyf, Estyn allan dy law etto at dy frodyr, ac ni chant wywo o’th flaen, eithr mi a’u hysgydwaf hwynt, medd yr Arglwydd; ac hyn a wnaf, fel y gwybyddont mai myfl yw yr Arglwydd eu Duw.
A bu i mi estyn allan fy llaw at fy mrodyr, ac ni wywasant o’m blaen; eithr yr Arglwydd a’u hysgydwodd hwynt, hyd y nod yn ol y gair a lefarodd. Ac yn awr, dywedasant, Ni a wyddom mewn sicrwydd fod yr Arglwydd gyda thi, canys ni a wyddom mai gallu yr Arglwydd a’n hysgydwodd. A hwy a syrthiasant i lawr o’m blaen, ac a fynent fy addoli, eithr mi a’u gwaherddais hwynt, gan ddywedyd, Myfi yw dy frawd, ïe, sef dy frawd ieuengaf; am hyny, addola yr Arglwydd dy Dduw, ac anrhydedda dy dad a’th fam, fel y byddo i ti hir ddyddiau yn y wlad a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti.
A bu iddynt addoli yr Arglwydd, a dyfod allan gyda mi; ac ni a weithiasom goed o wneuthuriad cywrain. A’r Arglwydd a ddangosodd i mi o bryd i bryd yn ol pa ddull y gweithiwn goed y llong. Yn awr, ni ddarfu i mi, Nephi, weithio coed y llong yn ol y dull a ddysgwyd gan ddynion, ac ni adeiladais y llong ychwaith yn ol dull dynion; eithr mi a’i hadeiladais yn ol y dull a ddangosodd yr Arglwydd i mi; am hyny, nid oedd yn ol dull dynion.
A myfi, Nephi, a aethym i’r mynydd yn fynych, ac a weddiais yn fynych ar yr Arglwydd; am hyny, yr Arglwydd a ddangosodd i mi bethau mawrion.
A bu ar ol i mi orphen y llong, yn ol gair yr Arglwydd, fy mrodyr a welsant mai da oedd, a bod ei gwneuthruiad yn hardd iawn: am hyny, hwy a ymgrymasant eu hunain drachefn gerbron yr Arglwydd.
A bu i lais yr Arglwydd ddyfod at fy nhad, am i mi gyfodi a myned i wnered i’r llong. A dygwyddodd dranoeth, ar ol i ni barotoi pob peth, llawer o ffrwythau a chig o’r anialwch, a mêl mewn cyflawnder, a darpariadau, yn ol yr hyn a orchymynodd yr Arglwydd i ni, fyned o honom i waered i’r llong, gyda ein llwythau a’n hadau, a pha beth bynag a ddygasom gyda ni, pob un yn ol ei oedran; am hyny, aethom oll i waered i’r llong, gyda ein gwragedd a’n plant.
Ac yn awr, yr oedd fy nhad wedi cenedlu dau fab, yn yr anialwch; yr henaf a alwyd yn Jacob, a’r ieuengaf yn Joseph. A bu ar ol i ni oll fyned i waered i’r llong, a chymmeryd genym ein darpariadau a’r pethau a orchymynwyd i ni, fyned o honom allan i’r môr, a chael ein gyru o flaen y gwynt tuagwlad yr addewid; ac ar ol i ni gael ein gyru o flaen y gwynt am yspaid llawer o ddyddiau, wele fy mrodyr, a meibion Ishmael, ac hefyd eu gwragedd, a ddechreuasant ymlawenhau, yn gymmaint nes iddynt ddechreu dawnsio, a chanu, a llefaru gyda llawer o ysgafnder, hyd y nod nes yr anghofiasant trwy ba allu y dygwyd hwynt hyd yno; ïe, yr oeddynt wedi myned yn ysgafn iawn. A myfi, Nephi, a ddechreuais ofni yn ddirfawr, rhag i’r Arglwydd fod yn ddigllawn wrthym, a’n taraw ni, o herwydd ein drygioni, ac i ni gael ein llyncu i fyny yn nyfnderau y môr; am hyny, myfi, Nephi, a ddechreuais lefaru wrthynt mewn cryn sobrwydd; eithr wele yr oeddynt yn ddigllawn wrthyf, ac yn dywedyd, Ni fynwn ein brawd ieuengaf i lywodraethu arnom ni.
A bu i Laman a Lemuel ymafiyd ynof a’m rhwymo â chordynau, a thriniasant fi gyda llawer o erwindeb; er hyny yr Arglwydd a’u dyoddefodd, fel y dangosai ei allu, hyd at gyflawniad ei air yr hwn a lefarodd ynghylch y drygionus.
A bu wedi iddynt fy rhwymo, yn gymmaint nas gallwn symud, y cwmpawd, yr hwn a baarotodd yr Arglwydd, a ddarfyddodd weithio; am hyny, ni wyddent pa ffordd i lywio y llong, yn gymmaint ag i ystorm fawr gyfodi, ïe, tymhestl fawr a dychrynllyd, a nyni a yrwyd yn ol ar y dyfroedd am yspaid tri diwrnod; a hwy a ddechreuasant ofni yn ddirfawr, rhag iddynt gael eu boddi yn y môr; er hyny ni ryddhausant fi. Ac ar y pedwerydd dydd o’n gyriad yn ol, dechreuodd y dymhestl fod yn erwin iawn.
A bu i ni fod ynghylch cael ein llyneu i fyny yn nyfnderau y môr. Ac ar ol i ni gael ein gyru yn ol ar y dyfroedd am yspaid pedwar diwrnod, dechreuodd fy mrodyr weled fod barnedigaethau Duw arnynt, a bod yn rhaid iddynt drengu, oddieithr iddynt edifarhau am eu drygioni; am hyny, hwy a ddaethant ataf, ac a ryddhausant y rhwymau oedd am fy arddwrnau, ac wele yr oeddynt wedi chwyddo yn fawr iawn; ac hefyd yr oedd fy fferau wedi ehwyddo llawer, a mawr oedd eu tostrwydd hwynt.
Er hyny, mi a edrychais ar fy Nuw, ac a’i moliannais trwy gydol y dydd; ac ni rwgnachais yn erbyn yr Arglwydd, o herwydd fy nhrallod.
Yn awr, yr oedd fy nhad Lehi wedi dywedyd llawer o bethau wrthynt bwy, ac hefyd wrth feibion Ishmael; ond wele hwy a ohwythasant lawer o fygythion yn erbyn unrhyw un a wnai lefaru droswyf; a chan fod fy rhieni mewn gwth o oedran, ac wedi dyoddef llawer o drallod oblegid en plant, yr oeddynt wedi en darostwng, ïe, hyd y nod i wely cystudd. O herwydd eu gofid, a’u tristwch mawr, a drygioni fy mrodyr, yr oeddynt hyd y nod yn agos a chael eu cymmeryd ymaith o amser, i gyfarfod â’u Duw; ïe, yr oedd eu penwyni yn agos a chael ei ddwyn i waered i orwedd yn isel yn y llwch; ïe, yr oeddynt yn agow a chael eu bwrw i’r dyfrllyd fedd. Ac yr oedd Jacob a Joseph hefyd, gan eu bod yn ienainc, ac mewn anghen am lawer o faeth, yn cael eu gofidio o herwydd cystudd eu mam; ac hefyd fy ngwraig, gyda’i dagrau a’i gweddiau, ac hefyd fy mhlant; etto ni feddalhaodd hyny galonau fy mrodyr, fel y gollyngent fi yn rhydd; ac ni allai dim, oddieithr gallu Duw, yr hwn a’i hygythiai â dinystr, feddalhau eu calonau; am hyny, pan welsant eu bod ynghylch cael eu llyncu i fyny yn nyfnderau y môr, hwy a edifarasant am y peth a wnaethant, yn gymmaint ag iddynt fy rhyddhau.
A bu ar ol iddynt fy rhyddhau, wele, i mi gymmeryd y cwmpawd, ac efe a weithiodd y ffordd a ewyllysiwn i. A bu i mi weddio ar yr Arglwydd; ac ar ol i mi weddio, y gwyntoedd a ostegodd, a’r ystorom a beidiodd, a bu tawelwch mawr.
A bu i mi, Nephi, lywio y llong, fel yr hwyliasom drachefn tua gwlad yr addewid. A bu ar ol i ni hwylio am yspaid llawer o ddyddiau, gyrhaedd o honom wlad yr addewid; a nyni a aethom allan ar hyd y wlad, ac a godasom ein pebyll; ac ni a’i galwasom yn wlad yr addewid.
A bu i ni ddechreu trin y ddaear, a dechreu hau hadau; ïe, nyni a osodasom ein holl hadau yn y ddaear, y rhai a ddygasom o wlad Jerusalem. A bu iddynt dyfu yn hynod; am hyny ni a fendithwyd â chyflawnder.
A bu i ni gael allan yn ngwlad yr addewid, fel yr oeddem yn teithio yn yr anialwch, fod yno anifeiliaid yn y coedwigoedd o bob math, y fuwch a’r ych, a’r asyn a’r ceffyl, a’r afr a’r afr wyllt, a phob math o anifeiliaid gwylltion, y rhai oedd at wasanaeth dyn. Ac ni a gawsem bob math o fŵn, mŵn aur, arian, a chopr.
A bu i’r Arglwydd orehymyn i mi, ac am hyny mi a wnaethym lafnau o fŵn, fel y gallwn gerfio arnynt hanes fy mhobl. Ac ar y llafnau a wnaethym, mi a gerfiais gof-ysgrif fy nhad, ac hefyd ein teithiau yn yr anialwch, a phrophwydoliaethau fy nhad; ac hefyd llawer o’m prophwydoliaethau fy hun a gerfiais arnynt. Ac nis gwyddwn i yn yr amser y gwnaethym hwynt, y gorchymynai yr Arglwydd i mi wneuthur y llafnau hyn: am hyny, y mae cof-lyfr fy nhad, ac achyddiaeth ei dadau, a’r rhan fwyaf o’n gweithrediadau yn yr anialwch, wedi eu cerfio ar y llafnau hyny am ba rai yr wyf wedi llefaru; am hyny, mae y pethau a gymmerasant le cyn i mi wneuthur y llafnau hyn, mewn gwirionedd, yn cael eu crybwyll yn fwy neillduol ar y llafnau cyntaf.
Ac ar ol i mi wneuthur y llafnau hyn mewn ffordd o orchymyn, myfi, Nephi, a dderbyniais orchymyn fod i’r weinidogaeth a’r prophwydoliaethau, sef y rhanau mwyaf goleu a gwerthfawr o honynt, gael eu hysgrifenu ar y llafnau hyn; a bod y pethau a ysgrifenwyd, i gael eu cadw er hyfforddi fy mhobl, y rhai a gaent feddiannu y wlad, ac hefyd er dybenion doeth ereill, y rhai ydynt hysbys i’r Arglwydd: am hyny, myfi, Nephi, a wnaethym gof-ysgrif ar y llafnau ereill, yr hon a rydd hanes, neu a rydd fwy o hanes am ryfeloedd, ac amrysonau, a dinystriadau fy mhobl. A hyn a wnaethym, a gorchymynais i’m pobl yr hyn a wnelent ar ol i mi fyned, a bod iddynt drosglwyddo y llafnau hyn i lawr o un genedlaeth i’r llall, neu o un prophwyd i’r llall, hyd nes y rhoddai yr Arglwydd orchymynion pellach. A rhoddir hanes o honof yn gwneuthur y llafnau hyn etto: ac yna, wele, yr wyf yn myned rhagof yn ol yr hyn wyf wedi lefaru; ac hyn wyf yn ei wneuthur fel y byddo y pethan mwyaf santaidd yn cael eu cadw er gwybodaeth i’m pobl. Er hyny, nid wyf yn ysgrifenu dim ar lafnau, oddieithr fy mod yn meddwl ei fod yn gyssegredig. Ac yn awr, os wyf yn cyfciliorni, felly y cyfeiliornasant gynt; nid am fy mod am esgusodi fy hun o herwydd dynion ereill, eithr o herwydd y gwendid sydd ynof, yn ol y cnawd, yr wyf am esgusodi fy hun. Canys yr hyn y mae rhai dynion yn ystyried o werth mawr, i’r corff a’r enaid, a ddibrisia ereill ac a sathrant dan draed. Ië, y mae hyd y nod Duw Israel, gan ddynion, yn cael ei sathru dan draed; yr wyf yn dweyd, sathru dan draed, eithr mi a lefaraf mewn geiriau ereill. Hwy a’i dibrisiant ef, ac ni wrandawant ar lais ei gynghorion; ac wele, y mae efe yn dyfod yn ol geiriau ei angel, mewn chwe chan mlynedd oddiar yr amser y gadawodd fy nhad Jerusalem, A’r byd, o herwydd eu drygioni, a’i barnant ef yn beth diddym; am hyny hwy a’i ffrewyllant, ac efe a’u dyoddefa; a hwy a’i tarawant, ac efe a’u dyoddefa. Ië, hwy a boerant arno, ac efe a’u dyoddefa, o herwydd ei fawr drugaredd a’i hir-amynedd tuag at blant dynion. A Duw ein tadau, y rhai a ddygwyd allan o’r Aifft, o gaethiwed, ac hefyd a gadwyd yn yr anialwch ganddo ef; ïe, Duw Abraham, ac Isaac, a Duw Jacob, a rydd ei hun, yn ol geiriau yr angel, megys dyn, i ddwylaw dynion drygionus, i gael ei ddyrchafu i fyny, yn ol geiriau Zenock, ac i gael ei groeshoelio, yn ol geiriau Neum, ac i gael ei gladdu mewn beddrod, yn ol geiriau Zenos, y rhai a lefarodd efe ynghylch y tri diwrnod o dywyllwch, yr hyn a fyddai yn arwydd o’i farwolaeth, i’r rhai hyny a gyfannedent ynysoedd y môr, eithr yn cael ei roddi yn fwyaf neillduol i’r rhai hyny ag ydynt o dŷ Israel. Canys fel hyn y llefarodd y prophwyd, Yr Arglwydd Dduw yn ddiau a ymwêl â holl dŷ Israel yn y dydd hwnw: rhai â’i lais, o herwydd eu cyfiawnder, er eu llawenydd mawr a’u hiachawdwriaeth, ac ereill â tharanau a mellt ei allu, trwy dymhestloedd, trwy dân, a thrwy fwg, a thrwy niwl tywyllwch, a thrwy y ddaear yn ymagor, a thrwy fynyddoedd yn ymgodi; ac yn ddiau y mae yn rhaid i’r holl bethau hyn ddyfod, medd y prophwyd Zenos. A rhaid i greigiau y ddaear hollti; ac oblegid griddfanau y ddaear, ysbryd Duw a weithreeda ar lawer o freninoedd ynysoedd y môr, i ddywedyd fod Duw natur yn dyoddef. A chyda golwy ar y rhai hyny a fyddant yn Jerusalem, medd y prophwyd, hwy a fflangellir gan yr holl bobloedd, o herwydd eu bod yn croeshoelio Duw Israel, a throi ymaith eu calonau, gan wrthod arwyddion a rhyfeddodan, a gallu a gogoniant o herwydd eu bod yn troi ymaith eu calonau, medd y prophwyd, a diystryru Sanct Israel, hwy a gant grwydro yn y cnawd, a threngu, a myned yn wawd ac yn ddiareb, ac i gael eu ffieiddio yn mhlith pob cenedl; er hyny, pan ddaw y dydd hwnw, medd y prophwyd, pan na throant ymaith mwyach eu calonau oddiwrth Sanct Israel, yna efe a gofia y cyfammodan y rhai a wnaeth â’u tadau; ïe, yna efe a gofia am ynysoedd y môr; ïe, a’r holl bobl y rhai ydynt o dŷ Israel a gasglaf i mewn, medd yr Arglwydd, yn ol geiriau y prophwyd Zenos, o bedwar cwr y ddaear; ïe, a’r holl ddaear a gant weled iachawdwriaeth yr Arglwydd, medd y prophwyd; po cenedl, llwyth, iaith, a phobl, a fendithir.
A myfi, Nephi, a ysgrifenais y pethau hyn i’m pobl, fel y galwn efallai eu perswadio hwynt i gofio yr Arglwydd en Gwaredwr; am hyny, yr wyf yn llefaru wrth holl dŷ Israel, os bydd iddynt feddu y pethau hyn. Canys, wele, y mae ynof weithrediadau yr ysbryd, y rhai ydynt yn fy mlino, hyd nes y mae fy nghymmalau yn weinion, ynghylch y rhai hyny ag ydynt yn Jerusalem; canys oni fuasai i Dduw fod yn drugarog, i ddangos i mi yn eu cylch, hyd y nod megys i’w brophwydi gynt, mi a fuaswn wedi trengu hefyd; ac yn ddiau efe a ddangosodd i’r prophwydi gynt yr holl bethau perthynol iddynt hwy; ac hefyd efe a ddangosodd i lawer o berthynas i ninnau; am hyny, mae yn rhaid ein bod ni yn gwybod yn eu cylch hwynt, canys y mae eu hanes yn ysgrifenedig ar y llafnau pres.