Scriptures
1 Nephi 2


Pennod Ⅱ.

Ac yn awr, nid wyf fi, Nephi, yn rhoddi achyddiaeth fy nhadau yn y rhan hon o’m cof-lyfr; ac ni roddaf ychwaith unrhyw amser ar y llafnau hyn ag wyf yn ysgrifenu; canys y mae hyny yn cael ei roddi yn y cof-lyfr a gadwyd gan fy nhad; am hyny nid wyf yn ei ysgrifenu yn y gwaith hwn. Oblegid y mae yn ddigon i mi ddywedyd, ein bod yn ddisgynyddion o Joseph. Ac nid yw yn perthyn i mi fod yn fanwl i roddi hanes cyflawn o holl bethau fy nhad, canys ni allant gael eu hysgrifenu ar y llafnau hyn, oblegid yr wyf yn chwennych y lle fel y gallwyf ysgrifenu pethau Duw. Cyflawnder fy mwriad i yw, fel y gallwyf berswadio dynion i ddyfod at Dduw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob, a bod yn gadwedig. Am hyny y pethau sydd yn bleserus i’r byd, nid wyf yn eu hysgrifenu, ond y pethau sydd yn rhyngu bodd Duw, ynghyd â’r rhai hyny nad ydynt o’r byd. Am hyny mi a roddaf orchymyn i’m hâd na lanwont hwy y llafnau hyn â phethau nad ydynt o werth i blant dynion.

Ac yn awr yr wyf yn ewyllysio i chwi wybod, ddarfod ar ol i’m tad Lehi orphen prophwydo ynghylch ei had, i’r Arglwydd lefaru wrtho drachefn, gan ddywedyd, nad oedd yn addas iddo ef, Lehi, gymmeryd ei deulu i’r anialwch yn unig; ond y dylai ei feibion gymmeryd merched i wreiga, fel y gallent gyfodi hâd i’r Arglwydd yn ngwlad yr addewid.

A bu i’r Arglwydd orchymyn iddo, am i mi, Nephi, a’m brodyr, ddychwelyd drachefn i wlad Jerusalem, a dwyn Ishmael a’i deulu i waered i’r anialwch.

A bu ddarfod i mi, Nephi, ynghyd â’m brodyr, fyned eilwaith i’r anialwch er myned i fyny i Jerusalem. A bu i ni fyned i fyny i dŷ Ishmael, a nyni a gawsom ffafr yn ngolwg Ishamel, yn gymmaint ag i ni lefaru wrtho eiriau yr Arglwydd.

A bu i’r Arglwydd dyneru calon Ishmael, ac hefyd ei deulu, yn gymmaint ag iddynt gymmeryd eu taith gyda ni i waered i’r anialwch, at babell ein tad. A bu fel yr oeddem yn teithio ya yr anialwch, wele, Laman a Lemuel, a dwy o ferched Ishmael, a dau fab Ishmael, a’u teuluoedd, a wrthryfelasant yn ein herbyn; ïe, yn fy erbyn i, Nephi, a Sam, a’u tad Ishmael, a’i wraig, a thair o’i ferched ereill.

A bu yn y gwrthryfel hwnw, iddynt ddymuno dychwelyd i wlad Jerusalem. Ac yn awr, myfi, Nephi, gan fod yn flin o herwydd caledrwydd eu calonau, a lefarais wrthynt, gan ddywedyd, Wele, chwychwi ydych fy mrodyr henaf; a pha fodd yr ydych chwi mor gelyd eich calonau, ac mor ddall eich meddyliau, fel ag y mae anghen i mi, eich brawd ieuengaf, i lefaru wrthywch, ïe, ac i roddi esiampl i chwi? Pa fodd nad ydych wedi gwrandaw ar air yr Arglwydd? Pa fodd yr ydych wedi anghofio i chwi weled angel yr Arglwydd? Ië, a pha fodd yr ydych wedi anghofio y pethau mawrion a wnaeth yr Arglwydd erddom ni, wrth ein gwaredu allan o ddwylaw Laban, ac hefyd fel y gallem gael y cof-lyfr? Ië, a pha fodd yr ydych wedi anghofio fod yr Arglwydd yn alluog i wneuthur pob peth yn ol ei ewyllys, i feibion dynion, os bydd iddynt hwy weithredu ffydd ynddo ef? Am hyny byddwn ffyddlawn iddo. Ac os byddwn yn ffyddlawn iddo, bydd i ni gael gwlad yr addewid; ac fe gewch chwi wybod mewn rhyw amser dyfodol, y cyflawnir gair yr Arglwydd mewn perthynas i ddinystr Jerusalem; canys rhaid cyflawni pob peth a lefarodd yr Arglwydd mewn perthynas i ddinystr Jerusalem. Canys, wele, yn fuan ysbryd yr Arglwydd ni ymrysona â hwynt; canys, wele, gwrthodasant y prophwydi, a Jeremiah a fwriasant i garchar. A cheisiasant gymmeryd ymaith fywyd fy nhad, yn gymmaint ag iddynt ei yru allan o’r wlad.

Yn awr, wele, meddaf i chwi, os dychwelwch chwi i Jerusalem, chwithau hefyd a ddinystrir gyda hwynt. Ac yn awr, os ydych yn dewis, ewch i fyny i’r wlad, a chofiwch y geiriau yr wyf yn lefaru wrthych, os bydd i chwi fyned y dinystrir chwithau hefyd; canys felly y mae ysbryd yr Arglwydd yn fy nghymhell i lefaru.

A bu, wedi i mi, Nephi, lefaru y geiriau hyn wrth fy mrodyr, iddynt fod yn ddigllawn wrthyf. A bu iddynt osod eu dwylaw arnaf—canys, wele, yr oeddynt yn llidiog iawn—a rhwym asant fi â rheffynau, canys ceisiasant gymmeryd ymaith fy mywyd, fel y gallent fy ngadael yn yr anialwch i’m dyfetha gan greaduriaid gwylltion.

Eithr bu i mi weddio ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, O Arglwydd, yn ol fy ffydd yr hon sydd ynot ti, gwared fi allan o ddwylaw fy mordyr; ïe, dyro nerth i mi fel y drylliwyf y rhwymau â pha rai y’m rhwymwyd.

A bu pan lefarais y geiriau hyn, wele, rhyddhawyd y rhwymau oddiar fy nwylaw a’m traed, ac mi a sefais o flaen fy mrodyr, ac a lefarais wrthynt drachefn.

A bu iddynt fod yn ddigllawn wrthyf drachefn, a cheisio gosod eu dwylaw arnaf; ond, wele, un o ferched Ishmael, ïe, ac hefyd ei mam, ac un o feibion Ishmael, a ymbiliasant â’m brodyr, yn gymmaint ag iddynt dyneru eu calonau; a hwy a beidiasant ymdrechu cymmeryd ymaith fy mywyd.

A bu iddynt fyned yn athrist, o herwydd eu drygioni, yn gymmaint ag iddynt ymostwng i lawr o’m blaen, ac ymbil â mi i faddeu iddynt y peth a wnaethent yn fy erbyn.

A bu i mi faddeu iddynt yn rhwydd yr hyn oll a wnaethent, ac annogais hwynt i weddio ar yr Arglwydd eu Duw am faddeuant. A bu iddynt wneuthur felly. A bu wedi iddynt ddarfod gweddio ar yr Arglwydd, i ni eilwaith fyned yn mlaen ar ein taith tua phabell ein tad.

A bu i ni ddyfod i waered i babell ein tad. Ac ar ol i mi a’m brodyr, a holl dŷ Ishmael, ddyfod i waered i babell fy nhad, hwy a ddiolchasant i’r Arglwydd eu Duw,—ac a offrymasant aberth a phoeth-offrymau iddo ef.

A dygwyddodd ein bod ni wedi casglu ynghyd bob math o hadau, hadau ŷd o bob math, ac hefyd hadau ffrwythau o bob math. A bu tra yr oedd fy nhad yn aros yn yr anialwch iddo lefaru wrthym, gan ddywedyd, Wele, mi a freuddwydiais freuddwyd; neu, mewn geiriau ereill, mi a welais weledigaeth. Ac wele, o herwydd y peth a welais, y mae genyf achos i orfoleddu yn yr Arglwydd oblegid Nephi, a Sam hefyd; canys y mae genyf achos i feddwl yr achubir hwynt, ac hefyd llawer o’u hâd. Ond, wele, Laman a Lemuel, yr wyf yn ofni yn fawr o’ch plegid chwi; canys, wele, meddyliais i’m weled yn fy mreuddwyd anialwch tywyll a diffaeth.

A bu i mi weled dyn, ac yr oedd wedi ymdrwsio mewn gwisg wèn: ac efe a ddaeth ac a safodd o’m blaen. A bu iddo lefaru wrthyf, a gorchymyn i mi ei ganlyn. A bu fel yr oeddwn yn ei ganlyn ef, i mi weled fy hun mewn diffrwythdir tywyll a diffaeth. Ac ar ol i mi deithio am yspaid llawer o oriau mewn tywyllwch, dechreuais weddio ar yr Arglwydd, am iddo gymmeryd trugaredd arnaf yn ol amldeer ei drugareddau.

A bu ar ol i mi weddio ar yr Arglwydd, i mi weled maes mawr ac eang. A bu i mi weled pren, ffrwyth yr hwn oedd yn ddymunol i wneuthur un yn ddedwydd.

A bu i mi fyned yn mlaen, a chyfranogi o’i ffrwyth; a chanfyddais ei fod yn felys iawn, tuhwnt i ddim a brofais erioed o’r blaen. Ië, a chanfyddais fod ei ffrwyth yn wỳn, tuhwnt i’r holl wyndra a welais erioed. Ac fel yr oeddwn yn cyfranogi o’i ffrwyth, llanwodd fy enaid â llawenydd mawr iawn; o ba herwydd, dechreuais ddymuno gael o’m teulu i gyfranogi o hono hefyd; canys gwyddwn ei fod yn fwy dymunol nag un ffrwyth arall. Ac fel yr oeddwn yn taflu fy ngolygon o gwmpas, fel y gallwn efallai ganfod fy nheulu hefyd, mi a welais afon o ddwfr; ac yr oedd yn rhedeg rhag ei blaen, ac yn agos i’r pren o ba un y cymmeraswn y ffrwyth. Ac mi a edrychais i weled o ba le y daethai; ac mi a welais ei phen ychydig i ffwrdd; ac wrth ei phen, canfyddais eich mam Sariah, a Sam, a Nephi; a safasent fel pe na wyddent pa le i fyned.

A bu i mi wneuthur awgrym iddynt; ac mi hefyd a ddywedais werthynt â llef uchel, am iddynt ddyfod ataf fi, a chyfranogi o’r ffrwyth, yr hwn oedd yn ddymunol tu hwynt i bob ffrwyth arall.

A bu iddynt ddyfod ataf, a chyfranogi o’r ffrwyth hefyd. A bu i mi ddymuno fod i Laman a Lemuel ddyfod a chyfranogi o’r ffrwyth hefyd; gan hyny, mi a deflais fy ngolygon tua phen yr afon, fel y gallwn efallai eu gweled.

A bu i mi eu gweled hwynt, ond ni ddeuent ataf fi. Ac mi a welais wialen o haiarn; ac yr oedd yn estynedig ar hyd làn yr afon, ac yn arwain tuag at y pren wrth ba un y safaswn. Ac mi a welais hefyd lwybr uniawn a chul, yr hwn a ddaethai yn mlaen gyda’r wialen o haiarn, hyd at y pren wrth ba un y safaswn; ac yr oedd yn arwain hefyd, wrth ben y ffynnonell, i faes mawr ac eang, fel pe buasai yn fyd; ac mi a welais dorfeydd dirifedi o bobloedd; llawer o ba rai oeddynt yn ymwasgu yn mlaen, fel y gallent gyrhaedd y llwybr ag oedd yn arwain at y pren wrth yr hwn y safaswn.

A bu iddynt ddyfod allan, a dechreu ar y llwybr ag oedd yn arwain at y pren. A bu i gaddug o dywyllwch gyfodi; ïe, caddug o dywyllwch mawr iawn, yn gymmaint ag iddynt hwy oedd wedi dechreu ar y llwybr, golli eu ffordd, nes crwydro ymaith a myned ar goll.

A bu i mi weled ereill yn ymwasgu yn mlaen, a hwy a ddaethant ac a gymmerasant afael yn mhen y wialen o haiarn; a hwy a ymwasgasant yn mlaen trwy y caddug o dywyllwch, gan ddal gafael yn y wialen haiarn, hyd y nod nes iddynt ddyfod yn mlaen a chyfranogi o ffrwyth y pren. Ac ar ol iddynt hwy gyfranogi o ffrwyth y pren, taflasant eu golygon oddiamgylch fel pe buasai arnynt gywilydd. A minnau hefyd a deflais fy ngolygon oddiamgylch, ac a welais, ar ochr arall yr afon o ddwfr, adeilad mawr ac eang; ac yr oedd yn sefyll megys pe byddai yn yr awyr, yn uchel uwchlaw y ddaear; ac yr oedd wedi ei lenwi â phobl, hen ac ieuanc, gwrryw a benyw; ac yr oedd dull eu gwisgoedd yn hardd iawn; ac yr oeddynt yn yr agwedd o watwar a chyfeirio eu bysedd tuag at y rhai ag oedd wedi dyfod at, ac yn cyfranogi l’r ffrwyth. Ac ar ol iddynt brofi o’r ffrwyth yr oeddynt yn cywilyddio, o herwydd yrhai hyny ag oedd yn eu gwawdio; a hwy a syrthiasant ymaith i lwybrau gwaharddedig ac a gollwyd.

Ac yn awr, nid wyf fi, Nephi, yn adrodd holl eiriau fy nhad. Ond, i fod yn fyr wrth ysgrifenu, wele, efe a ganfydodd dorfeydd ereill yn ymwasgu yn mlaen; a hwy a ddaethant ac a gymmerasant afael yn mhen y wialen o haiarn; ac a wthiasant eu ffordd yn mlaen, gan ddal gafael yn barhaus yn y wialen o haiarn, hyd nes y daethant a syrthio i lawr, a chyfranogi o ffrwyth y pren. Ac efe hefyd a welodd dorfeydd ereill yn chwilio eu ffordd tua’r adeilad mawr ac helaeth hwnw.

A bu i lawer foddi yn nyfnderau y ffynnonell; a llawer a gollwyd o’i olwg ef, gan grwydro mewn ffyrdd dyeithr. A mawr oedd y dyrfa a elent i mewn i’r adeilad rhyfedd hwnw. Ac ar ol iddynt fyned i mewn i’r adeilad hwnw, cyfeiriasant fysedd i’m gwawdio i, a’r rhai hyny ag oedd yn cyfranogi o’r ffrwyth hefyd; ond ni chymmerasom un sylw o honynt. Y rhai hyn ydynt eiriau fy nhad: canys cynnifer ag a gymmerent sylw o honynt, oeddynt yn syrthio ymaith. A Laman a Lemuel ni chyfranogasant o’r ffrwyth, meddai fy nhad.

A bu wedi i’m tad lefaru holl eiriau ei freuddwyd neu ei weledigaeth, y rhai oeddynt lawer, efe a ddywedodd wrthym, o herwydd y pethau hyn a welodd efe yn ei weledigaeth, ei fod yn ofni yn fawr oblegid Laman a Lemuel; ïe, ofnai rhag iddynt gael eu tori ymaith o bresennoldeb yr Arglwydd: ac efe a’u cynghorodd y pryd hwnw gyda holl deimladau tad tyner, am iddynt wrandaw ar ei eiriau, fel, ysgatfydd, y byddai yr Arglwydd yn drugarog tuag atynt, a pheidio eu bwrw ymaith; ïe, fe bregethodd fy nhad wrthynt.

Ac ar ol iddo ef bregethu wrthynt, ac hefyd brophwydo wrthynt lawer o bethau, gorchymynodd iddynt i gadw gorchymynion yr Arglwydd; ac efe a attaliodd lefaru wrthynt. A’r holl bethau hyn fy nhad a welodd, ac a glywodd, ac a lefarodd, tra yn trigo mewn pabell, yn nyffryn Lemuel; ac hefyd llawer iawn o bethau yn ychwaneg, y rhai ni ellir eu hysgrifenu ar y llafnau hyn. Ac yn awr, gan fy mod wedi llefaru ynghylch y llafnau hyn, wele nid hwy ydynt y llafnau ar ba rai yr wyf yn rhoddi hanes cyflawn am helynt fy mhobl; canys y llafnau ar ba rai yr wyf yn rhoddi hanes cyflawn am fy mhobl, a enwais wrth yr enw Nephi; gan hyny gelwir hwynt yn lafnau Nephi, yn fy enw fy hun; a’r llafnau hyn hefyd a elwir yn lafnau Nephi.

Er hyny, yr wyf wedi derbyn gorchymyn oddiwrth yr Arglwydd, fod i mi wneuthur y llafnau hyn i’r dyben neillduol o fod hanes yn cael ei gerfio am weinidogaeth fy mhobl. Ar y llafnau ereill y dylid cerfio hanes teyrnasiad y breninoedd, a rhyfeloedd ac ymrafaelion fy mhobl; gan hyny mae y llafnau hyn, y rhan fwyaf, at y weinidogaeth; a’r llafnau ereill, y rhan fwyaf, at deyrnasiad y breninoedd, a’r rhyfeloedd, ac ymrafaelion fy mhobl.—Gan hyny, mae yr Arglwydd wedi gorchymyn i mi wneuthur y llafnau hyn i ryw ddyben doeth ynddo ef; yr hwn ddyben ni wn i. Eithr y mae yr Arglwydd yn gwybod pob peth o’r dechreuad; gan hyny y mae efe yn parotoi ffordd i gyflawni ei holl weithredoedd yn mhlith plant dynion; canys, wele, y mae ganddo bob gallu hyd at gyflawniad ei eiriau oll. Ac felly y mae. Amen.