Scriptures
1 Nephi 3


Pennod Ⅲ.

Ac yn awr, yr wyf fi, Nephi, yn myned i roddi hanes ar y llafnau hyn, am fy ngweithrediadau, ac am fy nheyrnasiad a’m gweinidogaeth; gan hyny, er myned yn mlaen â’m hanes, rhaid i mi lefaru rhywfaint am bethau fy nhad, ac hefyd am fy mrodyr.

Canys, wele, dygwyddodd, ar ol i’m tad orphen llefaru geiriau ei freuddwyd, ac hefyd eu cynghori hwynt i bob diwydrwydd, iddo lefaru wrthynt ynghylch yr Iuddewon, y buasai iddynt, ar ol cael eu dinystrio, hyd y nod y ddinas fawr hòno Jerusalem, ac i lawer gael eu cludo ymaith yn gaethion i Babilon, yn amser priodol yr Arglwydd, gael eu dychwelyd drachefn; ïe, sef eu dwyn yn ol o gaethiwed, ac ar iddynt gael eu dychwelyd yn ol o gwaethiwed, y cawsent drachefn etifeddu gwlad eu hetifeddiaeth.

Ië, chwe achan mlynedd o’r amser y gadawodd fy nhad Jerusalem, yr Arglwydd a gyfodai i fyny brophwyd yn mhlith yr Iuddewon; sef Messiah; neu, mewn geiriau ereill, Iachawdwr y byd. Ac efe hefyd a lefarodd ynghylch y prophwydi, y fath nifer fawr ag oedd wedi tystiolaethu am y pethau hyn, mewn perthynas i’r Messiah hwn, am ba un yr oedd wedi llefaru, neu Waredwr y byd. O ba herwydd, yr oedd holl ddynolryw mewn sefyllfa golledig a syrthiedig, a pharhaent felly byth, oni fyddai iddynt ymddibynu ar y Gwaredwr hwn.

Ac efe a lefarodd hefyd ynghylch prophwyd ag oedd i ddyfod o flaen y Messiah, i barotoi ffordd yr Arglwydd; ïe, y byddai iddo fyned allan a llefain yn yr anialwch, Parotowch ffordd yr Arglwydd, a gwnewch ei lwybrau ef yn uniawn; canys y mae un yn sefyll yn eich plith chwi nad adwaenoch; ac y mae efe yn alluocach nâ myfi, carai esgidau yr hwn nid wyf fi deilwng i’w dattod. A llawer a lefarodd fy nhad ynghylch y peth hwn.

A’m tad a ddywedodd y buasai yn bedyddio yn Bethabary, tuhwnt i’r Iorddonen; ac efe a ddywedodd hefyd y buasai yn bedyddio â dwfr; ïe, y buasi yn bedyddio y Messiah â dwfr. Ac ar ol bedyddio y Messiah â dwfr, y buasai yn gweled ac yn dwyn tystiolaeth, ei fod wedi bedyddio Oen Duw, yr hwn a dynai ymaith bechodau y byd.

A bu wedi i’m tad lefaru y geiriau hyn, iddo lefaru wrth fy mrodyr ynghylch yr efengyl a gawsai ei phregethu yn mhlith yr Iuddewon; ac hefyd ynghylch methiant yr Iuddewon mew anghrediniaeth. Ac ar ol iddynt ladd y Messiah, yr hwn a ddeuai, ac ar ol iddo gael ei ladd, efe a gyfodai oddiwrth y meirw, ac a eglurai e hun, trwy yr Ysbryd Glân, i’r Cenedloedd.

Ië, fy nhad a lefarodd lawer ynghylch y Cenedloedd, ac hefyd ynghylch tŷ Israel, y buasai iddynt gael eu cyffelybu i olewydden, cangenau yr hon a gawsent eu tori ymaith, a’u gwasgaru ar wyneb yr holl ddaear. Gan hyny, medd efe, anghenrhaid yw i ni gael ein harwain yn gytun i wlad yr addewid, er cyflanwi gair yr Arglwydd, y buasai i ni gael ein gwasgaru ar wyneb yr holl ddaear. Ac ar ol i dŷ Israel gael ei wasgaru, y cawsent eu casglu drachefn; neu, yn fyr, ar ol i’r Cenedloedd dderbyn cyflawnder yr Efengyl, y cangenau naturiol o’r olewydden, neu weddillion tŷ Israel, a gawsent eu himpio i mewn, neu ddyfod i wybodaeth o’r gwir Fessiah, eu Hargiwydd a’u Gwaredwr. Ac yn ol iaith o’r dull hyn y darfu i’m tad brophwydo a llefaru wrth fy mrodyr, ac hefyd llawer o bethau yn ychwaneg, y rhai nid wyf yn ysgrifenu yn y llyfr hwn, canys mi a ysgrifenais gymmaint o honynt ag oedd yn fuddiol i mi yn fy llyfr arall. A’r holl bethau hyn am ba rai yr wyf wedi llefaru, a wnaethwyd pan eodd fy nhad yn trigo mewn pabell, yn nyffryn Lemuel.

A bu ar ol i mi, Nephi, glywed holl eiriau fy nhad ynghylch y pethau a welodd mewn gweledigaeth; ac hefyd y pethau a iefarodd trwy alu yr Ysbryd Glân, yr hwn allu a dderbyniodd trwy ffydd yn Mab Duw; a Mab Duw oedd y Messiah ag oedd i ddyfod; yr oeddwn i, Nephi, yn ewyllysio hefyd i weled, a chlywed a gwybod am y pethau hyn, trwy allu yr Ysbryd Glân, yr hwn yw rhodd Duw i’r holl rai hyny a’i dyfal geisiant ef, yn gystal mewn hen amseroedd ag yn yr amser y dadguddia ei hun i blant dynion; canys yr un yw efe ddoe, heddyw, ac yn dragywydd; ac y mae’r ffordd wedi ei pharotoi er cyn seiliad y byd, os bydd iddynt edifarhau a dyfod ato ef; canys yr hwn sydd yn ddiwyd yn ceisio a gaiff; a dirgeledigaethau Duw a eglurir iddynt, trwy allu yr Ysbryd Glân, yn gystal yn yr amseroedd hyn ag yn yr amseroedd gynt; ac yn gystal yn yr amseroedd gynt ag mewn amseroedd i ddyfod; am hyny y mae ystod yr Arglwydd yn un cylchdro tragywyddol. Gan hyny, cofia, O ddyn, canys am dy holl weithredoedd, y dygir di i farn. Am hyny, os ymgeisiaist wneuthur yn ddrygionus yn nyddiau dy ymbrawf, yna ti a geir yn aflan o flaen brawdle Duw; ac ni chaiff dim aflan drigo gyda Duw; am hyny, bydd yn rhaid eich bwrw ymaith am byth. Ac y mae yr Ysbryd Glân yn rhoddi awdurdod i mi lefaru y pethau hyn, a pheidio eu gwadu hwynt.

Canys bu wedi i mi ewyllysio y pethau a welodd fy nhad, a chan gredu fod yr Arglwydd yn abl i’w gwneuthur yn hysbys i mi, fel yr oeddwn yn eistedd ac yn myfyrio yn fy nghalon, cymmerwyd fi ymaith yn Ysbryd yr Arglwydd, ïe, i fynydd tra uchel, yr hwn ni welais erioed o’r blaen, ac ar yr hwn ni osodais fy nhroed erioed o’r blaen. A’r ysbryd a ddywedodd wrthyf. Wele, pa beth wyt yn ewyllysio? Ac mi a ddywedais, Yr wyf yn ewyllysio gweled y pethau a welodd fy nhad. A’r ysbryd a ddywedodd wrthyf, A wyt ti yn credu i’th dad weled y pren am ba un y llefarodd? Ac mi a ddywedais, Ydwyf, ti a wyddost fy mod yn credu holl eiriau fy nhad.

Ac wedi i mi lefaru y geiriau hyn, yr ysbryd a waeddodd â llef uchel, gan ddywedyd, Hosanna i’r Arglwydd, y Goruchaf Dduw; canys efe sydd Dduw ar yr holl ddaear, ïe, sef uwchlaw pawb; a gwyn dy fyd di, Nephi, o herwydd dy fod yn credu yn Mab y Goruchaf Dduw; am hyny, ti a gai weled y pethau a ewyllysiaist. Ac wele y peth hyn a roddir i ti yn arwydd; ar ol i ti weled y pren a ddygodd y ffrwyth a brofodd dy dad, ti a gai hefyd weled dyn yn disgyn allan o’r nefoedd, ac arno ef yr edrychwch; ac ar ol i chwi edrych arno, chwi a ddygwch dystiolaeth mai efe yw Mab Duw.

A bu i’r ysbryd ddywedyd wrthyf, Edrycha! Ac mi a edrychais ac a welais bren; ac yr oedd yn debyg i’r pren a welodd fy nhad; ac yr oedd ei harddwch yn mhell uwchlaw, ïe, tu hwnt i bob harddwch; ac yr oedd ei wyndra yn rhagori ar wyndra yr eira lluchiedig.

A bu ar ol i mi weled y pren, i mi ddywedyd wrth yr ysbryd, Yr wyf yn gweled dy fod wedi dangos i mi y pren yr hwn sydd werthfawr uwchlaw pob peth. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Pa beth a ewyllysi? Ac mi a ddywedais wrtho, Gwybod ei ddehongliad; canys mi a lefarais wrtho megys y llefara dyn; canys mi a ganfyddais ei fod ef ar ddull dyn; etto, er hyny, mi a wyddwn mai ysbryd yr Arglwydd oedd; ac efe a lefarodd wrthyf fi megys y llefara un dyn wrth y llall.

A bu iddo ddywedyd wrthyf, Edrycha; ac mi a edrychais fel pe yn edrych arno ef, ac nis gwelswn ef; canys yr oedd wedi myned o’m gŵydd.

A bu i mi edrych a gweled dinas fawr Jerusalem, ac hefyd ddinasoedd ereill. Ac mi a welais ddinas Nazareth; ac yn ninas Nazareth mi a welais forwyn, ac yr oedd yn dra theg a gwyn.

A bu i mi weled y nefoedd yn agored; ac angel a ddaeth i waered ac a safodd o’m blaen; ac efe a ddywedodd wrthyf, Nephi, pa beth a weli? Ac mi a ddywedais wrtho, Morwyn, y fwyaf hardd a theg uwchlaw pob morwynion ereill? Ac efe a ddywedodd wrthyf, A adwaenost ti ymddarostyngiad Duw? Ac mi a ddywedais wrtho, Yr wyf yn gwybod ei fod ef yn caru ei blant; er hyny, nid wyf yn gwybod arwyddocâd pob peth. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Wele, y forwyn a welaist, yw mam Mab Duw, yn ol y cnawd.

A bu i mi weled iddi gael ei chymmeryd ymaith yn yr ysbryd; ac ar ol iddi gael ei chymmeryd ymaith yn yr ysbryd am yspaid amser, yr angel a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Edrycha! Ac mi a edrychais ac a welais y forwyn drachefn, yn dwyn plentyn yn ei breichiau. A’r angel a ddywedodd wrthyf, Wele Oen Duw, ïe, sef Mab y Tad tragywyddol! A wyddost ti arwyddâd y pren a welodd dy dad? Ac mi a’i hatebais ef, gan ddywedyd, Gwn, cariad Duw yw, yr hwn a dywallta ei hun ar led yn nghalonau plant dynion; am hyny, efe yw y mwyaf dymunol uwchlaw pob peth. Ac efe a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Ië, a’r mwyaf gorfoleduus i’r enaid. Ac ar ol iddo Iefaru y geiriau hyn, efe a ddywedodd wrthyf, Edrycha! Ac mi a edrychais, ac a welais Fab Duw yn myned allan yn mhlith plant dynion; ac mi a welais lawer yn syrthio i lawr wrth ei draed ac yn ei addoli.

A bu i mi ganfod mai y wialen o haiarn a welodd fy nhad, oedd gair Duw, yr hwn a arweiniai i’r ffynnon o ddyfroedd bywiol, neu at bren y bywyd; y dyfroedd hyn oeddynt arddangosiad o gariad Duw; ac mi a welais hefyd fod pren y bywyd yn arddangosiad o gariad Duw. A’r angel a ddywedodd wrthyf drachefn, Edrycha, a gwel ymddarostyngiad Duw! Ac mi a edrychais ac a welais Waredwr y byd, am yr hwn y llefarasai fy nhad; ac mi a welais hefyd y prophwyd, yr hwn a gai barotoi y ffordd o’i flaen. Ac Oen Duw a aeth allan ac a fedyddiwyd ganddo ef; ac ar ol iddo gael ei fedyddio, mi a welais y nefoedd yn agored, a’r Ysbryd Glân a ddaeth i waered o’r nef ac a arosodd arno ef ar ddull colomen. Ac mi a ganfyddais ei fod yn myned allan ac yn gweinidogaethu i’r bobl, mewn gallu a gogoniant mawr; ac yr oedd y torfeydd wedi ymgynnull ynghyd i’w wrandaw; ac mi a welais iddynt ei fwrw ef allan o’u plith. Ac mi a welais hefyd ddeuddeg ereill yn ei ganlyn ef.

A bu iddynt gael eu cymmeryd ymaith yn yr ysbryd, o flaen fy wyneb, ac nis gwelswn hwynt. A bu i’r angel lefaru wrthyf drachefn, gan ddywedyd, Edrycha! Ac mi a edrychais, ac mi a welais y nefoedd yn agored drachefn, ac a welais angylion yn disgyn at blant dynion; a hwy a weiniasant iddynt. Ac efe a Iefarodd wrthyf drachefn, gan ddywedyd, Edrycha! Ac mi a edrychais, ac mi a welais Oen Duw yn myned allan yn mhlith plant dynion. Ac mi a welais dorfeydd o bobl y rhai oeddynt gleifion, ac wedi eu cystuddio â phob math o afiec yd, a chan gythreuliaid ac ysbrydion aflan; a’r angel a lefarodd ac a ddangosodd yr holl bethau hyn i mi. A hwy a iachawyd trwy allu Oen Duw; a’r cythreuliaid a’r ysbrydion aflan a fwriwyd allan.

A bu i’r angel lefaru wrthyf drachefn, gan ddywedyd, Edrycha! Ac mi a edrychais ac a welais Oen Duw yn cael ei gymmeryd gan y bobl; ïe, Mab y Duw tragywyddol yn cael ei farnu gan y byd; ac mi a welais ac yr wyf yn dwyn tystiolaeth. A myfi, Nephi, a welais ei fod yn cael ei gyfodi i fyny ar y groes, a’i ladd dros bechodau y byd. Ac ar ol iddo gael ei ladd, mi a welais dorfeydd y ddaear wedi ymgasglu yn nghyd i ymladd yn erbyn apostolion yr Oen; canys felly y galwyd y deuddeg gan angel yr Arglwydd. Ac yr oedd torfeydd y ddaear wedi ymgynnull ynghyd; ac mi a welais eu bod mewn adeilad mawr ac helaeth, cyffelyb i’r adeilad a welodd fy nhad! Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrthyf drachefn, gan ddywedyd, Wele, y byd a’i ddoethineb, ïe, wele, y mae tŷ Israel wedi ymgasglu ynghyd, i ymladd yn erbyn deuddeg apostol yr Oen.

A bu i mi weled a dwyn tystiolaeth, mai yr adeilad mawr ac helaeth oedd balchder y byd; ac efe a syrthiodd; ac yr oedd ei syrthiad yn fawr iawn. Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrthyf drachefn, gan ddywedyd, Felly y bydd dinystr pob cenedl, llwyth, iaith, a phobl, a ymladdo yn erbyn deuddeg apostol yr Oen.

A bu i’r angel ddywedyd wrthyf, Edrycha, a gwel dy hâd, ac hefyd hâd dy frodyr! Ac mi a edrychais ac a welais wlad yr addewid; ac mi a welais dorfeydd o bobloedd, ïe, sef mewn rhifedi, cynnifer â thywod y môr.

A bu i mi weled torfeydd wedi ymgasglu ynghyd i ryfel, y naill yn erbyn y llall; ac mi a welais ryfeloedd, a son am ryfeloedd, a lladdiadau mawrion â’r cleddyf yn mhlith fy mhobl.

A bu i mi weled llawer o genedlaethau yn pasio heibio, yn ol y dull o ryfeloedd ac amrysonau yn y wlad; ac mi a welais lawer o ddinasoedd, ïe, hyd y nod na ddarfu i mi eu cyfrif.

A bu i mi weled caddug o dywyllwch dros wyneb gwlad yr addewid; ac mi a welais fellt, ac a glywais daranau, a daeargrynfäau, a phob math o sŵn terfysglyd; ac mi a welais y ddaear a’r creigiau yn ymrwygo; ac mi a welais y mynyddoedd yn treiglo yn ddrylliau; ac mi a welais wastad-diroedd y ddaear yn ymdori i fyny; ac mi a welais lawer o ddinasoedd wedi ymsuddo; ac mi a welais lawer wedi eu llosgi a thân; ac mi a welais lawer wedi syrthio i’r ddaear, o herwydd ei chryniad.

A bu ar ol i mi weled y pethau hyn, i mi weled fod y niwl o dywyllwch yn diflanu oddiar wyneb y ddaear; ac wele, mi a ganfyddais luoedd ag oeddynt wedi syrthio, o herwydd barnedigaethau mawr ac ofnadwy yr Arglwydd. Ac mi a welais y nefoedd yn agored, ac Oen Duw yn disgyn i waered o’r nef; ac efe a ddaeth i lawr, ac a ddangosodd ei hun iddynt. Ac mi a welais hefyd ac a ddygais dystiolaeth, i’r Yspryd Glân syrthio ar ddeuddeg ereill; a hwy a ordeiniwyd gan Dduw ac a ddewiswyd.

A’r angel a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Wele ddeuddeg dyscybl yr Oen, y rhai a ddewiswyd i weinidogaethu i’th hâd di. Ac efe a ddywedodd wrthyf, A wyt ti yn cofio am ddeuddeg apostol yr Oen? Wele, hwynt-hwy yw y rhai a farnant ddeuddeg llwyth Israel; am hyny y deuddeg gweinidog o’th hâd di a fernir ganddynt hwy; canys yr ydych chwi o dŷ Israel; a’r deuddeg gweinidog hyn a weli, a farnant dy hâd di. Ac, wele y maent hwy yn gyfiawn yn dragywydd; canys o herwydd eu ffydd yn Oen Duw, y mae eu gwisgoedd wedi eu cànu yn ei waed ef.

A’r angel a ddywedodd wrthyf, Edrycha! Ac mi a edrychais, ac a welais dair o genedlaethau yn pasio heibio yn gyfiawn; ac yr oedd eu gwisgoedd yn wynion, sef yn gyffelyb i Oen Duw. A’r angel a ddywedodd wrthyf, Nae y rhai hyn wedi eu cànu yn ngwaed yr Oen, o herwydd eu ffydd ynddo. A myfi, Nephi, a welais hefyd lawer o’r bedwaredd genedlaeth, y rhai a ddarfu basio heibio yn gyfiawn.

A bu, i mi weled lluoedd y ddaear wedi ymgasglu yn nghyd. A’r angel a ddywedodd wrthyf, Wele dy hâd di ac hefyd hâd dy frodyr! A bu i mi edrych a gweled pobl fy hâd wedi ymgasglu ynghyd yn lluoedd yn erbyn hâd fy mrodyr; ac yr oeddynt wedi ymgasglu ynghyd i ryfel.

A’r angel a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Wele y ffynnonell o ddwfr brwnt a welodd dy dad; ïe, sef yr afon a lefarodd efe yn ei chylch; a’i dyfnderau hi yw dyfnderau uffern; a’r caddug o dywyllwch yw temtasiynau y diafol, yr hwn sydd yn dallu llygaid, ac yn caledu calonau plant dynion, ac yn eu harwain hwynt ymaith i ffyrdd llydain, fel yr elont i ddinystr a cholledigaeth; a’r adeilad mawr ac eang a welodd dy dad, yw dychymygion gau a balchder plant dynion. Ac y mae gagendor mawr ac ofnadwy yn eu rhanu hwynt; ïe, sef gair cyfiawnder y Duw tragywyddol, a’r Messiah, yr hwn yw Oen Duw, am yr hwn y mae yr Ysbryd Glân yn dwyn tystiolaeth, o ddechreuad y byd hyd yr amser hwn, ac o’r amser hwn hyd byth ac yn dragywydd. A thra yr oedd yr angel yn llegaru y geiriau hyn, mi a welais ac a ganfyddais fod hâd fy mrodyr yn ymdrechu yn erbyn fy hâd i, yn ol gair yr angel; ac o herwydd balchder fy had i, a themtasiynau y diafol, mi a ganfyddais fod hâd fy mrodyr yn gorchfygu pobl fy hâd i.

A bu i mi weled a chanfod fod pobl hâd fy mrodyr wedi gorchfygu fy hâd i; a hwy a aethant allan yn lluoedd ar hyd wyneb yr holl wlad. Ac mi a’u gwelais hwynt wedi ymgasglu ynghyd yn lluoedd; ac mi a welais ryfeloedd a sôn am ryfeloedd yn eu plith hwynt; ac mewn rhyfeloedd a sôn am ryfeloedd, mi a welais lawer o genedlaethau yn pasio heibio. A’r angel a ddywedodd wrthyf, Wele, y rhai hyn a fethant mewn anghrediniaeth.

A bu i mi weled, ar ol iddynt fethu mewn anghrediniaeth, iddynt fyned yn bobl dywyll, ac atgas, a ffiaidd, yn llawn segurdod, a phob math o ffieidd-dra.

A bu i’r angel lefaru wrthyf, gan ddywedyd, Edrycha! Ac mi a edrychais ac a welais lawer o genedloedd a theyrnasoedd. A’r angel a ddywedodd wrthyf, Pa beth a weli di? Ac mi a ddywedais, Mi a welaf lawer o genedloedd a theyrnasoedd. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y rhai hyn ydynt genedloedd a theyrnasoedd y Cenedloedd.

A bu i mi weled yn mhlith cenedloedd y Cenedloedd sylfaen eglwys fawr. A’r angel a ddywedodd wrthyf, Wele sylfaen eglwys, yr hon yw y fwyaf ffiaidd uwchlaw pob eglwys arall, yr hon sydd yn lladd saint Duw, ïe, ac yn eu poeni hwynt ac yn eu rhwymo i lawr, ac yn eu hieuo hwynt mewn iau haiarn, ac yn eu darostwng i gaethiwed.

A bu i mi weled yr eglwys fawr a ffiaidd hon; ac mi a welais mai y diafol oedd ei sylfaen hi. Ac mi a welais hefyd aur, ac arian, a sidanau, ac ysgarlad, a llian main, a phob math o wisgoedd gwerthfawr; ac mi a welais lawer o buteiniaid. A’r angel a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Wele, yr aur, a’r arian, a’r sidanau, a’r ysgarlad, a’r llian main, a’r gwisgoedd gwerthfawr, a’r puteiniaid, ydynt ddymuniadau yr eglwys fawr a ffiaidd hon: ac hefyd er cael clod y byd, y maent yn dyfetha saint Duw, ac yn eu darostwng i gaethiwed.

A bu i mi edrych a gweled dyfroedd lawer; a hwy a wahaniaethent y Cenedloedd oddiwrth hâd fy mrodyr. A bu i’r angel ddywedyd wrthyf, Wele, y mae digofaint Duw ar hâd dy frodyr! Ac mi a edrychais ac a welais ddyn yn mhlith y Cenedloedd ag oeddynt wedi eu gwahaniaethu oddiwrth hâd fy mrodyr gan y dyfroedd lawer; ac mi a welais Ysbryd Duw yn dyfod i waered ac yn gweithredu ar y dyn; ac efe a aeth allan ar y dyfroedd lawer, sef at hâd fy mrodyr, y rhai oeddynt yn ngwlad yr addewid.

A bu i mi weled Ysbryd Duw yn gweithredu ar Genedloedd ereill; a hwy a aethant allan o gaethiwed, ar y dyfroedd lawer.

A bu i mi weled torfeydd lawer o’r Cenedloedd yn ngwlad yr addewid; ac mi a welais fod digofaint Duw ar hâd fy mrodyr; a hwy a wasgarwyd o flaen y Genedloedd, ac a darawyd. Ac mi a welais fod Ysbryd yr Arglwydd ar y Cenedloedd; eu bod yn llwyddo, ac yn cael y wlad yn etifeddiaeth; ac mi a welais eu bod yn wynion, ac yn deg a hardd iawn, yn gyffelyb i’m pobl i, cyn iddynt gael eu lladd.

A bu i myfi, Nephi, weled fod y Cenedloedd a aethant allan o gaethiwed, yn ymddarostwng o flaen yr Arglwydd; ac yr oedd gallu yr Arglwydd gyda hwynt; ac mi a welais fod eu mam Genedloedd wedi ymgasglu ynghyd ar y dyfroedd, ac ar y tir hefyd, i ryfela yn eu herbyn hwynt; ac mi a welais fod gallu Duw gyda hwynt, ac hefyd fod digofaint Duw ar bawb ag oedd wedi ymgasglu ynghyd yn eu herbyn hwynt i ryfel. A myfi, Nephi, a welais fod y Cenedloedd a aethant allan o gaethiwed, wedi eu gwaredu trwy allu Duw allan o ddwylaw yr holl genedloedd ereill.

A bu i mi, Nephi, weled eu bod hwy yn llwyddo yn y tir, ac mi a welais lyfr, ac yr oedd yn cael ei gario allan yn eu plith hwynt. A’r angel a ddywedodd wrthyf, A wyddost ti arwyddocâd y llyfr? Ac mi a ddywedais wrtho, Na wn i. Ac efe a ddywedodd, Wele y mae yn dyfod allan o enau Iuddew: a myfi, Nephi, a’i gwelais ef; ac efe a ddywedodd wrthyf, Y llyfr a welaist yw cof-lyfr yr Iuddewon, yr hwn sydd yn cynnwys cyfammodau yr Arglwydd, y rhai a wnaeth efe â thŷ Israel; ac y mae hefyd yn cynnwys llawer o brophwydoliaethau y prophwydi santaidd: ac y mae yn gof-lyfr tebyg i’r cerfiadau sydd ar y llafnau pres, ond nad oes dim cymmaint; er hyny, y maent yn gynnwys cyfammodau yr Arglwydd, y rhai a wnaeth efe â thŷ Israel; am hyny y maent o werth mawr i’r Cenedloedd.

Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf. Yr wyt ti wedi gweled y llyfr yn dyfod allan o enau Iuddew; a phan y daeth allan o enau Iuddew, yr oedd yn cynnwys symlrwydd efengyl yr Arglwydd, am yr hwn y dygwyd tystiolaeth gan y deuddeg apostol; a hwy a ddygasant dystiolaeth yn unol â’r gwirionedd ag sydd yn Oen Duw; am hyny, y mae y pethau hyn yn myned allan oddiwrth yr Iuddewon mewn purdeb, at y Cenedloedd, yn unol â’r gwirionedd ag sydd yn Nuw; ac ar ol iddynt fyned allan trwy ddwylaw deuddeg apostol yr Oen, oddiwrth yr Iuddewon, at y Cenedloedd, yr wyt yn gweled sylfaen eglwys fawr a ffiaidd, yr hon yw y mwynf ffiaidd uwchlaw pob eglwys arall; canys wele, y maent wedi cymmeryd ymaith oddiwrth efengyl yr Oen, lawer o ranau ag ydynt yn oleu ac yn dra gwerthfawr; ac hefyd y maent wedi cymmeryd ymaith lawer o gyfammodau yr Arglwydd; a hyn oll a wnaethant, fel y gallent ŵyrdroi ffyrdd uniawn yr Arglwydd; fel y gallent ddallu liygaid a chaledu calonau meibion dynion; am hyny, ti a weli, ar ol i’r llyfr fyned allan trwy ddwylaw yr eglwys fawr a ffiaidd, fod llawer o bethau goleu a gwerthfawr wedi eu cymmeryd ymaith o’r llyfr, yr hwn yw llyfr Oen Duw; ac ar ol i’r pethau golen a gwerthfawr hyn gael eu cymmeryd ymaith, y mae yn myned allan at holl genedloedd y Cenedloedd; ac ar ol iddo fyned allan at holl genedloedd y Cenedloedd ïe, hyd y nod yu groes i’r dyfroedd lawer a welaist gyda’r Cenedloedd a aethant allan o gaethiwed; ti a weli, o herwydd yr amryw bethau goleu a gwerthfawr a gymmerwyd allan o’r llyfr, y rhai oeddynt eglur i ddealltwriaeth plant dynion, yn ol y symlrwydd yr hwn sydd yn Oen Duw; o herwydd y pethau hyn a gymmerwyd ymaith oddiwrth efengyl yr Oen, y mae llawer iawn yn tramgwyddo, ïe, yn gymmaint nes y mae gan satan allu mawr drostynt; er hyny ti a welaist na fydd i’r Cenedloedd a aethant allan o gaethiwed, ac a gyfodwyd i fyny trwy allu Duw uwchlaw pob cenedl ar eyneb y tir, yr hwn sydd dir dewisol uwchlaw pob tir arall, yr hwn yw y tir a gyfammododd yr Arglwydd Ddaw â’th dad, y byddai i’w had ei gael yn etifeddiaeth,—lwyr ddyfetha cymmysg dy had di, y rhai ydynt yn mhlith dy frodyr; ac ni ddyoddefa efe i’r Cenedloedd ddyfetha had dy frodyr; ac ni ddyoddefa yr Arglwydd Dduw i’r Cenedloedd aros dros byrth yn y sefyllfa enbyd hono o dywyllwch, ag y gwelaist hwynt ynddi, o herwydd y rhanau goleu a mwyaf gwerthfawr o efengyl yr Oen y rhai a gadwyd yn ol gan yr eglwys ffiaidd hono ag y gwelaist ti ef ffurfiad. Am hyny, medd Oen Duw, mi a fyddaf drugarog tuag at y Cenedloedd, hyd at ymweled â gweddill tŷ Israel mewn barnedigaeth fawr.

A bu i angel yr Arglwydd lefaru wrthyf, gan ddywedyd, Wele, medd Oen Duw, ar ol i mi ymweled â gweddill tŷ Israel, a’r gweddill hwn am ba un y llefaraf, yw had dy had; am hyny, ar ol i mi ymweled â hwynt mewn barn, a’u taraw hwynt â llaw y Cenedloedd; ac ar ol i’r Cenedloedd dramgwyddo yn fawr o herwydd y rhanau mwyaf goleu a gwerthfawr o efengyl yr Oen, y rhai a gadwyd yn ol gan yr eglwys ffiaidd hono, yr hon yw mam puteiniaid, medd yr Oen; mi a fyddaf drugarog wrth y Cenedloedd yn y dydd hwnw, yn gymmaint ag y dygaf allan iddynt trwy fy ngallu fy hun, lawer o’m hefengyl ag a fyddo yn oleu a gwerthfawr, medd yr Oen; canys, wele, medd yr Oen, mi a amlygaf fy hun i’th had di, fel yr ysgrifenont lawer o bethau a weinyddaf iddynt, y rhai a fyddant yn oleu a gwerthfawr; ac ar ol i’th had di gael eu dinystrio a methu mewn anghrediniaeth, ac hefyd had dy frodyr; wele, y pethau hyn a guddir, ac a ddeuant allan i’r Cenedloedd, trwy ddawn a gallu yr Oen; ac ynddynt hwy y bydd fy efengyl yn ysgrifenedig, medd yr Oen, a’m craig, a’m hiachawdwriaeth; a gwyn fyd y rhai hyny a geisiant ddwyn allan fy Seion y dydd hwnw, canys hwy a gant ddawn a gallu yr Ysbryd Glân; ac os parhant hyd y diwedd, hwy a ddyrchefir i fyny yn y dydd diweddaf, ac a achubir yn nheyrnas dragywyddol yr Oen; a’r sawl a gyhoeddo heddwch, ïe, newyddion o lawnydd mawr, mor ddymunol y byddant ar y mynyddoedd.

A bu i mi weled gweddill had fy mrodyr, ac hefyd llyfr Oen Duw, yr hwn a ddaeth allan o enau yr Iuddew, ac iddo ddod allan oddiwrth y Cenedloedd, at weddill had fy mrodyr, ac ar ol iddo ddod allan atynt hwy, mi a welais lyfrau ereill, y rhai a ddaethant allan trwy allu yr Oen, oddiwrth y Cenedloedd atynt hwy, hyd at argyhoeddiad y Cenedloedd, a gweddill had fy mrodyr, ac hefyd yr Iuddewon, y rhai oeddynt wedi eu gwasgaru ar hyd holl wyneb y ddaear, fod cof-lyfrau y prophwydi a deuddeg apostol yr Oen yn wir.

A’r angel a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Y cof-lyfrau diweddaf hyn a welaist yn mhlith y Cenedloedd, a gant gadarnhau gwirionedd y rhai cyntaf, y rhai ydynt eiddo deuddeg apostol yr Oen, a gwneyd yn hysbys y pethau goleu a gwerthfawr a gymmerwyd ymaith oddiwrthynt; a chant wneyd yn hysbys i bob llwyth, iaith, a phobl, mai Oen Duw yw Mab y Tad tragywyddol, ac Iachawdwr y byd; a bod yn rhaid i bawb ddyfod ato ef, neu ni ellir eu hachub; a rhaid iddynt ddyfod yn ol y geiriau a gadarnheir trwy enau yr Oen: a geiriau yr Oen a wneir yn hysbys yn nghof-lyfrau dy had di, yn gystal ag yn nghof-lyfrau deuddeg apostol yr Oen; am hyny, hwy a sefydlir yn un; canys un Duw sydd ac un Bugail dros yr holl ddaear; ac y mae yr amser yn dyfod pan yr amlyga efe ei hun i bob cenedl, i’r Iuddewon, ac hefyd i’r Cenedloedd; ac ar ol iddo amlygu ei hun i’r Iuddewon, ac hefyd i’r Cenedloedd, yna efe a amlyga ei hun i’r Cenedloedd, ac hefyd i’r Iuddewon, a’r olaf a fyddant flaenaf, a’r blaenaf a fyddant olaf.

A bydd, os gwrandawa y Cenedloedd ar Oen Duw yn y dydd hwnw yr amlyga ei hun iddynt mew gair, ac hefyd mewn gallu, yn wir ddiau, hyd at gymmeriad ymaith eu meini tramgwydd, ac os na chaledant eu calonau yn erbyn Oen Duw, hwy a gyfrifir yn mysg had dy dad; ïe, hwy a gyfrifir yn mysy tŷ Israel; a hwy a fyddant yn bobl gwynfydedig yn ngwlad yr addewid dros byth: ni ddarostyngir hwy mwyach i gaethiwed; a thŷ Israel ni chywilyddir mwyach; a’r pwll mawr hwnw a gloddiwyd iddynt gan yr eglwys fawr a ffiaidd hono, yr hon a sylfaenwyd gan y diafol a’i blant, fel y gallai arwain eneidiau dynion i lawr i uffern; ïe, y pwll mawr hwnw a gloddiwyd er dinystr dynion, a lenwir gan y rhai a’i cloddiodd, er eu llwyr ddinystr, medd Oen Duw; nid dinystr yr enaid, oddieithr mai hyny yw ei daffiad i’r uffern hono nad oes iddi ddiwedd; canys wele, y mae hyn yn ol caethiwed y diafol, ac hefyd yn ol cyflawnder Duw, ar yr holl rai hyny a weithredant anwiredd a ffieidd-dra o’i flaen ef.

A bu i’r angel ddywedyd wrthyf fi, Nephi, gan ddywedyd, Yr wyt ti wedi gweled os gwna y Cenedloedd edifarhau, y bydd yn dda arnynt; a thi a wyddost hefyd ynghylch cyfammodau yr Arglwydd â thŷ Israel; ac yr wyt hefyd wedi clywed, mai yr hwn ni edifarha, a raid drengu; gan hyny, gwae y Cenedloedd, os caledant eu calonau yn erbyn Oen Duw; canys y mae yr amser yn dyfod, medd Oen Duw, y bydd i mi wneyd gwaith mawr a rhyfedd yn mhlith plant dynion; gwaith ag a fydd yn dragywyddol, naill ar un llaw neu ar y llal: naill ai er eu hargyhoeddi hwynt i heddwch a ywyd tragywyddol, neu er eu traddodi yn nghaledwch eu calonau a dallineb eu meddyliau, i gale eu darostwng i gaethiwed, ac hefyd i ddinystr, yn dymmorol ac ysbrydol, yn ol caethiwed y diafol, am yr hwn yr wyf wedi llefaru.

A bu ar ol i’r angel lefaru y geiriau hyn, iddo ddywedyd wrthyf, A wyt ti yn cofio am gyfammodau y Tad â thŷ Israel. Ac mi a ddywedais wrtho ef, Ydwyf. A bu iddo ef ddywedyd wrthyf, Edrycha! Ac wele yr eglwys fawr a ffiaidd hono, yr hon yw mam ffieidd-dra, sylfaen yr hon yw y diafol. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Wele, nid oes ond dwy eglwys yn unig; un yw eglwys Oen Duw, a’r llall yw eglwys y diafol; am hyny, yr hwn nid yw yn perthyn i eglwys Oen Duw, y mae yn perthyn i’r eglwys fawr hono, yr hon yw mam ffieiddra: a hi yw putain yr holl ddaear.

A bu i mi edrych a gweled putain yr holl ddaear, a hi a eisteddai ar ddyfroedd lawer; ac yr oedd ganddi lywodraeth dros yr holl ddaear, yn mhlith pob cenedl, llwyth, iaith, a phobl.

A bu i mi weled eglwys Oen Duw, a’i rhifedi oedd yn ychydig, o herwydd drygioni a ffieidd-dra y butain ag oedd yn eistedd ar ddyfroedd lawer; er hyny, mi a welais fod eglwys yr Oen, y rhai oeddynt saint Duw, hefyd ar wyned yr holl ddaear; ac yr oedd eu llywodraeth ar wyned y ddaear yn fach, o herwydd drygioni y butain fawr a welais.

A bu i mi weled mam fawr ffieidd-dra, ya casglu ei lluoedd ynghyd ar wyneb yr holl ddaear, yn mhlith holl genedloedd y Cenedloedd, i ymladd yn erbyn Oen Duw.

A bu i mi, Nephi, weled gallu Oen Duw yn disgyn ar saint eglwys yr Oen, ac ar bobl gyfammodol yr Arglwydd, y rhai oeddynt yn wasgaredig ar hyd wyneb yr holl ddaear; ac yr oeddynt wedi ymarfogi â chyfiawnder ac â gallu Duw mewn gogoniant mawr.

A bu i mi weled digofaint Duw yn cael ei dywallt allan ar yr eglwys fawr a ffiaidd, yn gymmaint â bod rhyfeloedd a sôn am ryfeloedd yn mhlith holl genedloedd a llwythau y ddaear; a phan ddechreuodd fod rhyfeloedd a sôn am ryfeloedd yn mhlith yr holl genedloedd a berthynent i fam ffieidd-dra, yr angel a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Wele, y mae digofaint Duw ar fam puteiniaid; ac wele, y mae digofaint Duw ar fam puteiniaid; ac wele, yr ydwyt yn canfod yr holl bethau hyn: a phan ddelo y dydd i ddigofaint Duw gael ei dywallt allan ar fam puteiniaid, yr hon yw eglwys fawr a ffiaidd yr holl ddaear, sylfaen yr hon yw y diafol, yna, yn y dydd hwnw, gwaith y Tad a ddechreuir, mewn parotoi ffordd i gyflawni ei gyfammodau, y rhai a wnaeth efe â’i bobl, y rhai ydynt o dŷ Israel.

A bu i’r angel lefaru wrthyf, gan ddywedyd, Edrycha! Ac mi a edrychais ac a welais ddyn, ac yr oedd wedi ymwisgo mewn gwisg wèn; a’r angel a ddywedodd wrthyf, Wele, un o ddeuddeg apostol yr Oen! Wele, efe a gaiff weled ac ysgrifenu y gweddill o’r pethau hyn; ïe, a llawer o bethau ag ydynt wedi bod; ac efe hefyd a gaiff ysgrifenu ynghylch diwedd y byd; am hyny, mae pethau a ysgrifena yn gyfiawn a chywir; ac wele, y maent yn ysgrifenedig yn y llyfr a welaist yn dyfod allan o enau yr Iuddew; ac yn yr amser y deuent allan o enau yr Iuddew, neu, yn yr amser y daeth y llyfr allan o enau yr Iuddew, yr, oedd y pethau ysgrifenedig yn eglur a phur, ac yn dra gwerthfawr, ac yn rhydd i amgyffrediad pob dyn. Ac wele, y pethau a ysgrifena yr apostol hwn o eiddo yr Oen, ydynt lawer o bethau ag yr ydwyt wedi eu gweled; ac wele, y gweddill a gai di weled; ond y pethau a gai di weled ar ol hyn, ni chei ysgrifenu; canys y mae yr Arglwydd Dduw wedi arfaethu apostol yr Oen i’w hysgrifenu hwynt. Ac hefyd i ereill ag ydynt wedi bod y mae efe wedi dangos pob peth, ac y maent hwy wedi eu hysgrifenu; ac y maent wedi eu selio i fyny i ddyfod allan yn eu purdeb, yn ol y gwirionedd yr hwn sydd yn yr Oen, yn amser cyfaddas yr Arglwydd, i dŷ Israel.

A myfi, Nephi, a glywais, ac yr wyf yn dwyn tystiolaeth, mai enw apostol yr Oen yw Ioan, yn ol gair yr angel. Ac, wele, yr wyf fi, Nephi, yn cale fy ngwahardd i ysgrifenu gweddill y pethau a welais ac a giywais; am hyny digon i mi yw y pethau a ysgrifenais; ac ni ysgrifenais ond rhan fechan o’r hyn a welais. Ac yr wyf yn dwyn tystiolaeth, i mi weled y pethau a welodd fy nhad, ac angel yr Arglwydd a’u gwnaeth hwynt yn adnabyddus i mi. Ac yn awr yr wyf yn gwneuthur diwedd ar lefaru ynghylch y pethau a welais, pan y cymmerwyd fi ymaith yn yr ysbryd: ac os nad yw yr holl bethau a welais wedi eu hysgrifenu, y mae y pethau a ysgrifenais yn wirionedd. Ac felly y mae. Amen.