Pennod Ⅳ.
A bu ar ol i mi, Nephi, gael fy nghymmeryd ymaith yn yr ysbryd, a gweled yr holl bethau hyn, i mi ddychwelyd i babell fy nhad. A bu i mi weled fy mrodyr, ac yr oeddynt yn ymddadleu â’u gilydd ynghylch y pethau a lefarodd fy nhad wrthynt; canys yn ddiau efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau mawrion, y rhai oeddynt yn anhawdd i’w deall, oddieithr fod dyn yn ymofyn â’r Arglwydd; a chan eu bod hwy wedi ymgaledu yn eu calonau ni edrychasant tuag at yr Arglwydd, megys y dylasent. Ac yn awr, yr oeddwn i, Nephi, yn ymofidio o herwydd caledrwydd eu calonau, ac hefyd o herwydd y pethau a welais, ac y gŵyddwn fod yn rhaid iddynt gael eu cyflawni, o herwydd mawr ddrygioni plant dynion. A bu i ma gael fy llethu o herwydd fy ngofidiau, canys yr oeddwn yn ystyried fod fy ngofidiau i yn fawr uwchlaw dim, o herwydd dinystriadau fy mhobl, canys mi a welais eu cwymp hwynt.
A bu ar ol i mi dderbyn nerth, i mi lefaru wrth fy mrodyr, gan ddymuno cael gwybod ganddynt yr achos o’u hymddadleu. A hwy a ddywedasant, Wele, nis gallwn ddeall y geiriau a lefarodd ein tad ynghylch cangenau naturiol yr olewydden, ac hefyd ynghylch y Cenedloedd. Ac mi a ddywedais wrthynt, A ymofynasoch chwi â’r Arglwydd? A hwy a ddywedasant wrthyf, Naddo; canys nid yw yr Arglwydd yn gwneyd y fath beth yn hysbys i ni. Wele, mi a ddywedais wrthynt, Pa fodd y mae nad ydych yn cadw gorchymynion yr Arglwydd? Paham y gwnewch drengu, o herwydd caledrwydd eich calonau? Ai nid ydych yn cofio y pethau a ddywedodd yr Arglwydd, Os na fydd i chwi galedu eich calonau, ond gofyn i mi mewn ffydd, gan gredu y derbyniwch, a bod yn ddiwyd i gadw fy ngorchymynion, y pethau hyn yn ddiau a wneir yn adnabyddus i chwi.
Wele, yr wyf yn dywedyd wrthych, fod tŷ Israel yn cael ei gymharu i olewydden, gan Ysbryd yr Arglwydd yr hwn oedd yn ein tadau; ac wele, ai nid ydym wedi ein tori ymaith oddiwrth dŷ Israel; ac ai nid ydym yn gangen o dŷ Israel? Ac yn awr, y peth a feddylia ein tad ynghylch impiad y cangenau naturiol i mewn trwy gyflawnder y Cenedloedd, yw, y bydd, yn y dyddiau diweddaf, pan fyddo ein hâd ni wedi methu mewn anghrediniaeth, ïe, am yspaid llawer o flynyddoedd, a llawer o genedlaethau ar ol i’r Messiah gael ei amlygu mewn corff i blant dynion, i gyflawnder efengyl y Messiah ddyfod at y Cenedloedd, ac oddiwrth y Cenedloedd at weddill ein hâd ni: ac yn y dydd hwnw y caiff gweddill ein hâd ni wybod eu bod o dŷ Israel, a’u bod yn bobl gyfammodol yr Arglwydd; ac yna y cânt wybod a dyfod i wybodaeth o’u cyndadau, ac hefyd i wybodaeth o efengyl eu Gwaredwr, yr hon a weinyddwyd i’w tadau ganddo ef; am hyny hwy a gânt ddyfod i wybodaeth o’u Gwaredwr, ac o bynciau ei athrawiaeth, fel y gallont wybod pa fodd i ddyfod atto ef ac i gael eu hachub. Ac yna yn y dydd hwnw, ai ni orfoleddant a chlodfori eu Duw tragywyddol, eu craig, a’u hiachawdwriaeth? Ië, yn y dydd hwnw, ai ni dderbyniant nerth a meithriniaeth oddiwrth y wir winwydden? Ië, ai ni ddeuant i wir gorlan Duw? Wele, yr wyf yn dywedyd wrthych, Ië, hwy a gofir etto yn mhlith tŷ Israel; hwy a impir i mewn, gan eu bod yn gangen naturiol o’r olewydden, i’r wir olewydden; a dyma y peth a feddylia ein tad; ac y mae efe yn meddwl na ddaw oddiamgylch hyd nes ar ol iddynt gael eu gwasgaru gan y Cenedloedd; ac y mae efe yn meddwl y daw trwy ddwylaw y Cenedloedd, fel y gallo yr Arglwydd ddangos ei allu i’r Cenedloedd, i’r unig ddyben o gael ei wrthod gan yr Iuddewon, neu dŷ Israel; am hyny nid yw ein tad wedi llefaru am ein had ni yn unig, ond hefyd am holl dŷ Israel, gan gyfeirio at y cyfammod a gawsai ei gyflawni yn y dyddiau diweddaf; yr hwn gyfammod a wnaeth yr Arglwydd â’n tad Abraham, gan ddywedyd, Yn dy hâd di y bendithir holl lwythau y ddaear.
A bu i mi, Nephi, lefaru llawer wrthynt ynghylch y pethau hyn; ïe, mi a lefarais wrthynt ynghylch adferiad yr Iuddewon, yn y dyddiau diweddaf; ac mi a adroddais iddynt eiriau Isaiah, yr hwn a lefarodd ynghylch adferiad yr Iuddewon, neu dŷ Israel; ac ar ol iddynt gael eu hadferyd, na chawsent mwyach eu cywilyddio, nac ychwaith eu gwasgaru drachefn. A bu i mi lefaru llawer o eiriau wrth fy mrodyr, nes iddynt gael eu heddychu, a hwy a ymddarostyngasant gerbron yr Arglwydd.
A bu iddynt lefaru wrthyf drachefn, gan ddywedyd. Beth yw ystyr y peth a welodd ein tad mewn breuddwyd? Beth yw ystyr y pren a welodd? Ac mi a ddywedais wrthynt, Yr oedd yn arddangosiad o bren y bywyd? A hwy a ddywedasant wrthyf, Beth yw ystyr y wialen haiarn a welodd ein tad, yr hon a arwiniai at y pren? Ac mi a ddywedais wrthynt, mai gair Duw oedd; a’r sawl a wrandawo ar air Duw, ac a ddalio afael ynddo ni chyfrgollir byth; ac ni all temtasiynau a phicellau tanllyd y gelyn eu gyru hwy i dywyllwch, er eu harwain ymaith i ddystryw. Am hyny myfi, Nephi, a’u hannogais hwynt i wrandaw ar air yr Arglwydd; ïe, mi a’u hannogais hwynt â holl alluoedd fy enaid, ac â’r holl gynneddfau sydd yn fy meddiant, i wrandaw ar air yr Arglwydd, a chofio cadw ei orchymynion yn mhob peth yn wastadol. A hwy a ddywedasant wrthyf, Beth yw ystyr yr afon o ddwfr a welodd ein tad? Ac mi a ddywedais wrthynt, mai y dwfr a welodd fy nhad oedd brynti; ac yr oedd ei, feddwi ef wedi ei lyncu i fyny gmmaint gan bethau ereill, fel na welodd frynti y dwfr; ac mi a ddywedais wrthynt, mai gagendor ofnadwy oedd, yr hwn sydd yn gwahanu y drygionus oddiwrth bren y bywyd, ac hefyd oddiwrth saint Duw. Ac mi a ddywedais wrthynt, ei fod yn arddangosiad o’r ufern ddychrynllyd hono, ag a ddywedodd yr angel wrthyf oedd wedi ei pharotoi i’r drygionus. Ac mi a ddywedais wrthynt, i’n tad hefyd weled fod cyfiawnder Duw hefyd yn gwahanu y drygionus oddiwrth y cyfiawn; ac yr oedd ei ddyscleirdeb yn debyg i ddyscleirdeb tân fflamllyd, yr hwn sydd yn esgyn i fyny at Dduw yn oes oesoedd, ac heb ddiwedd iddo.
A hwy a ddywedasant wrthyf, A yw y peth hwn yn meddwi poenedigaeth y corff yn nyddiau prawf, neu a yw yn meddwi sefyllfa olaf yr enaid ar ol marwolaeth y corff tymmorol? Neu a ydyw yn llefaru am bethau sydd yn dymmorol? A bu i mi ddywedyd wrthynt, ei fod yn arddangosiad o bethau tymmorol ac ysbrydol; canys fe ddaw y dydd pan y bydd yn rhaid iddynt gael eu barnu wrth eu gweithredoedd, ïe, sef y gweithredoedd a gyflawnwyd gan y corff tymmorol yn nyddiau eu prawf; am hyny, os byddant farw yn eu drygioni, rhaid iddynt gael eu bwrw ymaith hefyd gyda golwg ar y pethau ag ydynt yn ysbrydol, y rhai ydynt yn berthynol i iachawdwriaeth; am hyny, rhaid iddynt gael eu dwyn i sefyll gerbron Duw, i gael eu barnu am eu gweithredoedd; ac os bu eu gweithredoedd yn ffiaidd, y maent hwythau yn ffiaidd o anghenrhaid; ac os ydynt hwy yn ffiaidd, nis gallant drigo yn nheyrnas Dduw; pe gallent, byddai raid fod teyrnas Dduw yn ffiaidd hefyd. Ond, wele, yr wyf yn dywedyd wrthych, Nid yw teyrnas Dduw yn ffiaidd; ac ni all dim aflan fyned i mewn i deyrnas Dduw: am hyny anghenrhaid yw fod lle ffiaidd wedi ei barotoi i’r hyn sydd ffiaidd. Ac y mae lle wedi ei barotoi, ïe, sef yr ufern ddychrynllyd hono am ba un yr wyf wedi llefaru, a’r diafol yw y sylfaen o honi; am hyny sefyllfa olaf eneidiau dynion yw trigo yn nheyrnas Dduw, neu gael eu taflu allan oblegid y cyflawnder hwnw am ba un yr wyf wedi llefaru; am hyny, y drygionus a wahanir oddiwrth y cyfiawn, ac hefyd oddiwrth bren y bywyd hwnw, ffrwyth yr hwn sydd yn dra gwerthfawr a thra dymunol uwchlaw pob ffrwythau ereill; ïe, ac efe yw y fwyaf o holl roddion Duw. Ac felly y llefarais wrth fy mrodyr. Amen.