Pennod Ⅵ.
Yn awr, dygwyddodd i mi, Nephi, ddysgu y pethau hyn i’m brodyr; a bu i mi ddarllen llawer o bethau iddynt ag oedd wedi eu cerfio ar y llafnau pres, fel y gallent wybod ynghylch gweithredoedd Duw mewn gwledydd ereill, yn mhlith pobloedd gynt. Ac mi a ddarllenais lawer o bethau iddynt, ag oeddynt wedi eu hysgrifenu yn llyfr Moses; eithr fel y gallwn eu perswadio hwy yn fwy effeithiol i gredu yn yr Arglwydd eu Gwaredwr, mi a ddarllenais iddynt yr hyn a ysgrifenwyd gan y prophwyd Isaiah; canys mi a gyffelybais bob ysgrythyr i ni, fel y gallai fod er ein budd a’n haddysg. Am hyny, mi a lefarais wrthynt, gan ddywedyd, Gwrandewch chwi eiriau y prophwyd, chwi y rhai ydych weddill tŷ Israel, a changen ag sydd wedi ei thori ymaith; gwrandewch chwi eiriau y prophwyd, y rhai ydynt wedi eu hysgrifenu at holl dŷ Israel, a chyffelybwch hwynt i chwi eich hunain, fel y byddo i chwithau obaith yn gystal ag i’ch brodyr, oddiwrth ba rai yr ydych wedi eich tori ymaith; canys yn ol y dull hyn yr ysgrifenodd y prophwyd—Clywch a gwrandewch hyn, O dŷ Jacob, y rhai a elwir ar enw Israel, ac a ddaethant allan o ddyfroedd Juda, y rhai a dyngant i enw yr Arglwydd, ac a goffânt am Dduw Israel, etto nid ydynt yn tyngu mewn gwirionedd nac mewn cyflawnder; er hyny galwant eu hunain o’r ddinas santaidd, ond ni phwysant ar Dduw Israel, yr hwn yw Arglwydd y lluoedd; ïe, Arglwydd y lluoedd yw ei enw. Wele, mi a fynegais y pethau gynt o’r dechreuad; a daethant allan o’m genau, ac mi a’u traethais hwynt. Mi a’u traethais hwynt yn ddisymmwth, ac mi a’i gwnaethym o herwydd y gwyddwn dy fod di yn ystyfnig, a’th war fel gïeuyn haiarn, a’th dalcen yn bres; ac mi a’i mynegais i ti er y dechreuad, a chyn iddo ddygwydd adroddais hwynt i ti; ac mi a’u dangosais hwynt, rhag ofn i ti ddywedyd, Fy eilun a’u gwnaeth, a’m cerf-ddelw, a’m tawdd-ddelw a’u gorchymynodd hwynt. Ti a welaist ac a glywaist hyn oll; ac oni fynegwch chwithau hwynt? A’m bod i wedi adrodd i ti bethau newyddion o’r pryd hwn, sef pethau cuddiedig, ac ni wyddit oddiwrthynt. Yn awr y crewyd hwynt, ac nid er y dechreuad; ïe cyn y dydd ni chlywaist sôn am danynt, y mynegwyd hwynt i ti, rhag i ti ddywedyd, Wele, mi a’u gwyddwn hwynt. Ië, ac nis clywsit, ac nis gwyddit chwaith; ïe, nid agorasid dy glust er y pryd hyny; canys gwyddwn y byddit lwyr anffyddlawn, a’th alw o’r groth yn droseddwr.
Er hyny, er mwyn fy enw yr oedaf fy llid, ac er fy mawl yr ymattaliaf oddiwrthyt, rhag dy ddyfetha; canys wele, myfi a’th burais, ac a’th ddewisais mewn pair cystudd. Er fy mwyn fy hun, ïe, er mwyn fy hun y gwnaf hyn; canys ni ddyoddefaf i’m henw gael ei halogi, ac ni roddaf fy ngogoniant i arall.
Gwrandewch arnaf fi, O Jacob, ac Israel yr hwn a elwais; canys myfi yw; myfi yw y cyntaf, a myfi hefyd yw y diweddaf. Fy llaw hefyd a sylfaenodd y ddaear, a’m deheulaw a rychwantodd y nefoedd. Mi a alwaf arnynt, a hwy a gyd-safant. Ymgesglwch oll a gwrandewch; pwy o honynt hwy a fynegodd y pethau hyn iddynt? Yr Arglwydd a’i hoffodd ef; ïe, efe a gyflawna ei air yr hwn a fynegodd trwyddynt; ac efe a wna ei ewyllys ar Babilon, a’i fraich a fydd ar y Caldeaid. Hefyd, medd yr Arglwydd; myfi yr Arglwydd, ïe, myfi a lefarais, ac a’i galwais ef i fynegu; dygais ef, ac efe a lwydda yn ei ffordd.
Neshewch ataf; ni lefarais o’r cyntaf yn ddirgel; er yr amser y traethwyd ef y llefarais; a’r Arglwydd Dduw, a’i ysbryd, a’m hanfonodd. Ac fel hyn y dywed yr Arglwydd, dy Waredwr, Sanct Israel; yr wyf wedi ei ddanfon ef, yr Arglwydd dy Dduw yr hwn sydd yn dy ddysgu di i wellhau, yr hwn sydd yn dy arwain yn y ffordd y dylit rodio, a wnaeth hyny. O na wrandawsi ar fy ngorchymyn! Yna y buasai dy heddwch fel afon, a’th gyfiawnder fel tònau y môr; buasai dy had fel y tywod, ac eppil dy gorff fel ei raian ef! Ni thorasid, ac ni ddinystriasid ei enw oddi ger fy mron.
Ewch allan o Babilon, ffowch oddiwrth y Caldeaid, â llef gorfoledd, mynegwch, ac adroddwch hyn, traethwch ef hyd eithafoedd y ddaear; dywedwch, Gwaredodd yr Arglwydd ei was Jacob. Ac ni fu syched arnynt; efe a’u harweiniodd hwynt yn yr anialwch; gwnaeth i ddwfr bistylli iddynt o’r graig; holltodd y graig hefyd, a’r dwfr a ddylifodd. Ac er iddo wneuthur hyn oll, a mwy na hyn hefyd, nid oes dim heddwch, medd yr Arglwydd, i’r rhai drygionus.
A thrachefn: Gwrandewch, O chwi dŷ Israel, y rhai oll a dorwyd ymaith ac a yrwyd allan, o herwydd drygioni bugeiliaid fy mhobl; ïe, y rhai oll a dorwyd ymaith ac a wasgarwyd o’m pobl, O dŷ Israel. Gwrandewch arnaf, O ynysoedd, ac ystyriwch bobl o bell: Yr Arglwydd a’m galwodd o’r groth; o ymysgaroedd fy mam y gwnaeth goffa am fy enw. A gosododd hefyd fy ngenau fel cleddyf llym; yn nghysgod ei law y’m cuddiodd; a gwnaeth fi yn saeth loyw, cuddiodd fi yn ei gawell saethau; ac a ddywedodd wrthyf, Fy ngwas ydwyt, ti, Israel, yr hwn yr ymogoneddaf ynot. Minnau a ddywedais, Yn ofer y llafuriais, yn ofer ac am ddim y treuliais fy nerth; er hyny y mae fy marn gyda’r Arglwydd, a’m gwaith gyda’m Duw.
Ac yn awr, medd yr Arglwydd, yr hwn a’m lluniodd o’r groth yn was iddo, i ddychwelyd Jacob ato ef. Pe ni ymgasglai Israel, etto gogoneddus fyddaf fi yn ngolwg yr Arglwydd, a’m Duw fydd fy nerth. Ac efe a ddywedodd, Gwael yw dy fod yn was i mi, i gyfodi llwythau Jacob, ac i adferu rhai cadwedig Israel. Mi a’th roddaf hefyd yn oleuni i’r Cenedloedd, fel y byddech yn iachawdwriaeth i mi hyd eithafoedd y ddaear. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Gwaredwr Israel, ei Sanct ef, wrth y dirmygedig o enaid, wrth yr hwn sydd ffiaidd gan y genedl, wrth was llywodraethwyr; breninoedd a welant, ac a gyfodant; tywysogion hefyd a ymgrymant, er mwyn yr Arglwydd, yr hwn sydd ffyddlawn. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Mewn amser boddlongar y’th wrandewais, O ynysoedd y môr, ac yn nydd iachawdwriaeth y’th gynnorthwyais; ac mi a’th gadwaf, ac a’th roddaf yn gyfammod y bobl, i sicrhau y ddaear, i beri etifeddu yr etifeddiaethau anghyfanneddol; fel y dywedych wrth y carcharorion, Ewch allan; wrth y rhai sydd mewn tywyllwch, Ymddangoswch. Ar y ffyrdd y porant, ac yn yr holl uchel-fanau y bydd eu porfa hwynt. Ni newynant, ac ni sychedant; ac nis tery gwres na haul hwynt; o herwydd yr hwn a dosturia wrthynt a’u tywys, ac a’u harwain wrth y ffynnonau dyfroedd. Ac mi a wnaf fy holl fynyddoedd yn ffordd, a’m prif-ffyrdd a gyfodir. Ac yna, O dŷ Israel, wele, y rhai hyn a ddeuant o bell; ac wele, y rhai acw o’r gogledd, ac o’r gorllewin; a’r rhai yma o dir Sinim.
Cenwch, nefoedd; a gorfoledda, ddaear, canys traed y rhai hyny ydynt yn y dwyrain a gadarnheir; a bloeddiwch ganu, y mynyddoedd; canys ni tharawir hwynt mwyach; canys yr Arglwydd a gysurodd ei bobl, ac a drugarha wrth ei drueiniaid. Ond, wele, dywedodd Seion, Yr Arglwydd a’m gwrthododd, a’m Harglwydd a’m hangofiodd; ond efe a ddengys na wnaeth. Canys a anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fel na thosturio wrth fab ei chroth? Ië, hwy a allant anghofio, etto myfi nid anghofiaf di, O dŷ Israel. Wele, ar gledr fy llaw y’th argreffais; dy furiau sydd ger fy mron bob amser. Dy blant a frysiant yn erbyn y rhai a’th ddinystriant, a’r rhai a’th ddystrywiant a ânt allan o honot.
Dyrchafa dy lygaid oddiamgylch, ac edrych; yr holl rai hyn a ymgasglant, a hwy a ddeuant atat ti. Ac fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, diau y gwisgi hwynt oll fel hardd-wisg, ac y rhwymi hwynt arnat fel priodferch. Canys dy ddiffaethwch a’th anialwch, a’th dir dinystriol, yn ddiau fydd yn awr yn rhy gyfyng gan breswylwyr; a’r rhai a’th lyncant a ymbellhant. Y plant a gai, ar ol i ti golli y cyntaf, a ddywedant etto yn dy giyw, Cyfyng yw y lle hwn i mi; dod le i mi, fel y preswyliwyf. Yna y dywedi yn dy galon, Pwy a genedlodd y rhai hyn i mi, a mi yn ddieppil, ac yn unig, yn gaeth, ac ar grwydr? A phwy a fagodd y rhai hyn? Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele, cyfodaf fy llaw at y Cenedloedd, a dyrchafaf fy maner at y bobloedd; a dygant dy feibion yn eu mynwes, a dygir dy ferched ar eu hysgwyddau. Breninoedd hefyd fydd dy dadmaethod, a’u breninesau dy fammaethod; crymant i ti â’u hwynebau tua’r llawr, a llyfant lwch dy draed; a chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd; canys ni chywilyddir y rhai a ddysgwyliant wrthyf fi. Canys a ddygir y caffaeliad oddiar y cadarn? Neu a waredir y rhai a garcherir yn gyfiawn? Ond fel hyn y dywed yr Arglwydd, Ië, carcharorion y cadarn a ddygir, ac anrhaith y creulawn a ddianc; canys myfi a ymrysonaf â’th ymrysonydd, a mi a achubaf dy feibion. Gwnaf hefyd i’th orthrymwyr fwyta eu cig eu hunain, ac areu gwaed eu hun y meddwant fel ar win melys; a gwybydd pob cnawd mai myfi, yr Arglwydd, yw dy achubydd, a’th gadarn waredydd di, Jacob.