Scriptures
Ac Hefyd Tystiolaeth Wyth o Dystion.


Ac Hefyd Tystiolaeth Wyth o Dystion.

Bydded hysbys i bob cenedl, llwyth, iaith, a phobl, y delo y gwaith hwn atynt, ddarfod i Joseph Smith, ieu., cyfieithydd y gwaith hwn, ddangos i ni y llafnau crybwylledig, y rhai ydynt debyg i aur; a chynnifer o’r llafnau ag a gyfieithodd y Smith dywededig, a deimlasom na â’n dwylaw; ac hefyd ni a welsom y cerfiadau oedd arnynt, yr oll o ba rai a ymddangosent yn waith hen a chywrain. A hyn a dystiolaethwn mewn geiriau sobrwydd, fod y Smith dywededig wedi dangos i ni, oblegid ni a welsom ac a deimlasom, ac yr ydym yn gwybod mewn sicrwydd fod y Smith dywededig yn meddu y llafnau a grybwyllasom. Ac yr ydym ni yn rhoddi ein henwau i’r byd, i dystio wrth y byd yr hyn a welsom; ac nid ydym yn dywedyd celwydd, gan fod Duw yn dwyn tystiolaeth o hono.

Christian Whitmer

Jacob Whitmer

Peter Whitmer, Ieu.

John Whitmer

Hiram Page

Joseph Smith, Hyn.

Hyrum Smith

Samuel H. Smith