Scriptures
At y Cymry.


At y Cymry.

Anwyl Gydgenedl,—Nid heb deimladau diolehgar i Dduw, y meddwn yr anrhydedd o gyflwyno y llyfr gwerthfawr hwn i ddwylaw ein cydwladwyr yn yr iaith Gymraeg. Mae llawer o’n cydgenedl wedi bod yn rhoddi eu barn am y llyfr hwn cyn erioed ei weled, ac wedi ei gondemnio; ond yn awr, wedi bod yn hir dan anfanteision, gallant ei ddarllen drostynt eu hunain, a gweled os yw eu barn flaenorol yn gywir. Ni wnaethom y gorchwyl o gyfieithu a chyhoeddi y llyfr hwn o honom ein hunain, eithr trwy orchymyn ein Llywydd F. D. Richards, yr hwn sydd drosom yn yr Arglwydd. Nid oes achos i ni ganmawl y llyfr yma, yn fwy nâ chanmawl y Beibl, o herwydd y mae’r ddau yn llefaru drostynt eu hunain, i’r sawl ag ydynt yn caru goleuni a gwirionedd. Digon yw i ni ddywedyd y gwyddom ei fod yn lyfr da, ac yn rodd Duw, ac y caiff pwy bynag a’i credo ac a wnel yn ol ei eiriau, fywyd tragywyddol: ond ofer yw dysgwyl y dywda pawb felly am dano, canys ychydig yw y rhai sydd yn rhodio y ffordd gul.

Gyda golwg ar y cfieithad, gallwn ddweyd ei fod y goreu a allesid ei wneuthur, yn ngwyneb yr anfanteision, y rhai nad yw y cyffredin o gyfieithwyr yn llafurio o danynt. Yr ydys wedi amcanu at eglurdeb ac iaith syml, yn fwy nag am un math o addurn; ac hyderwn fod meddwl yr argraffiad Seisnig o eiddo y Prophwyd Joseph Smith, wedi ei roddi mor gywir ag y gallesid. Gellir gweled, trwy ddarllen Llyfr Mormon, na phroffesid anffaeledigrwydd hyd y nod gan yagrifenwyr y llafnau ar y cyntaf; ac y mae yn afresymol i neb ddysgwyl anffaeledigrwydd yn yr ail gyfieithad o hono. Ni honwyd anffaeledigrwydd ychwaith gan y rhai a fuont yn cyfieithu y Beibl, canys o bryd i bryd y mae amryw ddiwygiadau wedi eu gwneuthur ynddo; ac wedi i Lyfr Mormon, yn y Gymraeg, gael ei wella gymmaint ag a gafodd y Beibl, gellir barnu y daw yn berffeithiach, o ran ei iaith, beth bynag. Wrth gwrs, y mae yn rhwyddach i ereill weled beiau, nag yw i gyfieithydd eu gochelyd.

Bellach, cyflwynwn y gwaith hwn i sylw ein cydwladwyr, gan ddymuno y gwna llaweroedd o honynt ei gredu, ac y dwg hwynt i adnabyddiaeth o Dduw, yr hyn yw bywyd tragywyddol. Bendithied Duw yr holl rai gonest eu calon, fel y delont trwy y gwaith hwn, ynghyd â moddion ereill, i gofleidio yr Efengyl; a chaffed y Saint eu goleuo a’u hadeiladu yn y darlleniad o hono, fel y byddo i enw Duw gael ei ogoneddu, ac i’w amcanion gael eu cwblhau, yn enw Iesu Grist. Amen.

Eich gostyngedig weision yn y gwirionedd,

W. S. Phillips,

John Davis,

Thomas Pugh.

Merthyr-Tydfil, Ebrill 6, 1852.