Scriptures
Tystiolaeth Tri o Dystion.


Tystiolaeth Tri o Dystion.

Brdded hysbys i bob cenedl, llwyth, iaith, a phobl, y delo y gwaith hwn atynt, ein bod ni, trwy râs Duw Dad, a’n Harglwydd Iesu Grist, wedi gweled y llafnau a gynnwysant y cof-lyfr hwn, pa un sydd gof-lyfr o bobl Nephi, ac hefyd o’u brodyr y Lamaniaid, ac hefyd o bobl Jared, y rhai a ddaethant oddiwrth y tŵr am ba un y llefarwyd; ac hefyd ni a wyddom eu bod wedi eu cyfieithu trwy ddawn a gallu Duw, canys ei leferydd ef a draethodd hyn i ni; am hyny, ni a wyddom mewn sicrwydd fod y pethau hyn yn wir. Ac yr ydym hefyd yn tystio i ni weled y cerfiadau ag ydynt ar y llafnau; a dangoswyd hwynt i ni trwy allu Duw, ac nid dyn. Ac yr ydym yn traethu mewn geiriau sobrwydd, i angel ddyfod i waered o’r nefoedd, a dangos y llafnau o flaen ein llygaid, fel y gwelsom hwynt, ynghyd â’r cerfiadau arnynt; ac ni a wyddom mai trwy râs Duw Dad, a’n Harglwydd Iesu Grist, y gwelsom hwynt, ac y dygwn dystiolaeth eu bod yn wir; ac y maent yn rhyfedd yn ein golwg: er hyny, llef yr Arglwydd a orchymynodd i ni ddwyn tystiolaeth o honynt; am hyny, er bod yn ufydd i orchymynion Duw, yr ydym yn dwyn tystiolaeth o’r pethau hyn. A gwyddom, os byddwn ffyddlawn yn Nghrist, y glanheir ein gwisgoedd oddiwrth waed pob dyn, ac y ceir ni yn ddifrycheulyd gerbron gorseddfainc Crist, i drigo yn dragywyddol gydag ef yn y nefoedd. A’r anrhydedd fo i’r Tad, ac i’r Mab, ac i’r Ysbryd Glân, y rhai ydynt un Duw. Amen.

Oliver Cowdery

David Whitmer

Martin Harris