Pennod Ⅷ.
Ac yn awr, Jacob a lefarodd lawer o bethau yn ychwaneg wrth fy mhobl yr amser hwnw; er hyny, dim ond y pethau hyn a orchymynais i eu hysgrifenu, canys y mae’r pethau a ysgrifenais i yn ddigon genyf.
Ac yn awr, myfi, Nephi wyf yn ysgrifenu ychwaneg o eiriau Isaiah, canys y mae fy enaid yn ymhyfrydu yn ei eiriau ef. Canys mi a gymhwysaf ei eiriau ef at fy mhobl i, ac a’u danfonaf allan at fy holl blant, oblegid yn wir efe a welodd fy Ngwaredwr, megys yr wyf finnau wedi ei weled ef. Ac y mae fy mrawd Jacob hefyd wedi ei weled ef megys finnau: am hyny danfonaf allan eu geiriau hwynt at fy mhlant, er profi iddynt fod fy ngeiriau i yn wirioneddol. Am hyny, trwy eiriau tri, medd Duw, y gwneir fy ngair yn safadwy. Er hyny, y mae Duw yn danfon rhagor o dystion, ac yn profi ei holl eiriau. Wele, fy enaid a ymhyfryda wrth brofi i’m pobl wirionedd dyfodiad Crist; canys i’r dyben hyn y rhoddwyd cyfraith Moses; a phob peth a roddodd Duw i ddyn er dechreuad y byd, a fu yn gysgod o hono ef. Fy enaid hefyd a ymhyfryda yn nghyfammodau yr Arglwydd, y rhai a wnaeth â’n tadau: ïe, fy enaid a ymhyfryda yn ei râs ac yn ei gyfiawnder, a’i allu, a’i drugaredd yn y drefn fawr a thragywyddol o waredigaeth oddiwrth angeu. A’m henaid a ymhyfryda wrth brofi i’m pobl, pe na ddeuai Crist, y cyfrgollid pob dyn. Canys os nad oes Grist, nid oes Dduw; ac os nad oes Dduw, nid ydym ninnau, oblegid ni allai fod creadigaeth. Eithr y mae Duw, ac efe yw Crist, ac y mae yn dyfod yn nghyflawnder amser ei hun.
Ac yn awr ysgrifenaf rai o eiriau Isaiah, fel y gallo pwy bynag o’m pobl a welont y geiriau hyn, ddyrchafu eu calonau a gorfoleddu dros bob dyn. Yn awr, y rhai hyn yw y geiriau, a gellwch eu cymhwyso atoch eich hunain ac at bawb.
Y gair a welodd Isaiah, fab Amos, am Judah a Jerusalem. A bydd yn y dyddiau diweddaf, pan fydd mynydd tŷ yr Arglwydd wedi ei barotoi yn mhen y mynyddoedd, ac yn ddyrchafedig goruwch y bryniau; a’r holl genedloedd a ddylifant ato; a phobloedd lawer a ânt ac a ddywedant, Deuwch ac esgynwn i fynydd yr Arglwydd, i dŷ Duw Jacob; ac efe a’n dysg ni yn ei ffyrdd, ac ni a rodiwn yn ei lwybrau ef: canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr Arglwydd o Jerusalem. Ac efe a farna rhwng y cenedloedd, ac a gerydda bobloedd lawer: a hwy a gurant eu cleddyfau yn sychau, a’u gwaywffyn yn bladuriau: ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach. Tŷ Jacob, deuwch, a rhodiwn yn ngoleuni yr Arglwydd; ïe, deuwch, oblegid aethoch oll ar gyfeiliorn, pob un i’w ffyrdd drygionus ei hun.
Am hyny, O Arglwydd, y gwrthodaist dy bobl, tŷ Jacob, am eu bod wedi eu llenwi allan o’r dwyrain, a’u bod wedi gwrandaw ar swynwyr megys y Philistiaid, ac mewn plant dyeithriaid yr ymfoddlonant. A’u tir sydd gyflawn o arian ac aur, ac nid oes diwedd ar eu trysorau; a’u tir sydd lawn o feirch, ac nid oes diwedd ar eu cerbydau. Eu tir hefyd sydd lawn o eilunod; i waith eu dwylaw eu hun yr ymgrymant, i’r hyn a wnaeth eu bysedd eu hun: a’r gwreng ni ymgryma, a’r boneddig ni ymostwng; am hyny na faddeu iddynt.
O chwi rai drygionus, ewch i’r graig, ac ymguddiwch yn y llwch, canys ofn yr Arglwydd, a gogoniant ei fawredd a’ch tery chwi. A bydd i uchel-drem dyn gael ei hiselu, ac uchder dynion gael ei ostwng; a’r Arglwydd yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnw. Canys dydd Arglwydd y lluoedd a ddaw ar fyrder ar yr holl genedloedd; ïe, ar bob dyn; ïe, ar y balch a’r uchel, ac ar bob un dyrchafedig; ac efe a ostyngir; ïe, dydd yr Arglwydd a ddaw hefyd ar holl gedrwydd Libanus, canys y maent yn uchel a dyrchafedig; ac ar holl dderw Basan, ac ar yr holl fynyddoedd uchel, ac ar yr holl fryniau, ac ar yr holl genedloedd dyrchafedig, ac ar bob pobl, ac ar bob twr uchel, ac ar bob mur cadarn, ac ar holl longau y môr, ac ar holl longau Tarsis, ac ar yr holl luniau dymunol. Yna yr iseler uchelder dyn, ac y gostyngir uchder dynion; a’r Arglwydd yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnw. A’r eilunod a fwrw efe ymaith yn hollol. A hwy a ânt i dyllau y creigiau, ac i ogofau y ddaear, canys ofn yr Arglwydd a ddaw arnynt; a gogoniant ei fawredd a’u tery hwynt, pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear. Yn y dydd hwnw y teifl dyn ei eilunod arian, a’i eilunod aur, y rhai a wnaeth efe iddo ei hun i’w haddoli, i’r wadd ac i’r ystlymod; i fyned i agenau y creigiau, ac i gopäau y clogwyni; canys ofn yr Arglwydd a ddaw arnynt, a gogoniant ei fawredd a’u tery hwynt, pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear. Peidiwch chwithau â’r dyn yr hwn sydd â’i anadl yn ei ffroenau; canys yn mha beth y gwneir cyfrif o hono?
Canys wele, yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, a dỳn ymaith o Jerusalem, ac o Judah, y cynnaliaeth a’r ffon, holl gynnaliaeth bara, a holl gynnaliaeth dwfr, y cadarn, a’r rhyfelwr, y barnwr, a’r prophwyd, y synwyrol a’r henwr, y tywysog deg a deugain, a’r anrhydeddus a’r cynghorwr, a’r crefftwr celfydd, a’r areithiwr hyawdl. A rhoddaf blant yn dywysogion iddynt, a bechgyn a arglwyddiaetha arnynt. A’r bobl a orthrymir y naill gan y llall, a phob un gan ei gymmydog; y bachgen yn erbyn yr henwr, a’r gwael yn erbyn yr anrhydeddus, a ymfalchïa. Pan ymaflo gwr yn ei frawd o dŷ ei dad, gan ddywedyd. Y mae dillad genyt, bydd dywysog i ni; ac na ddeued y cwymp hwn dan dy law di: yntau a dwng yn y dydd hwnw, gan ddywedyd, Ni fyddaf iachâwr; canys yn fy nhŷ nid oes fwyd na dillad: na osodwch fi yn dywysog i’r bobl. Canys cwympodd Jerusalem, a syrthiodd Judah; o herwydd eu tafod hwynt a’u gweithredoedd sydd yn erbyn yr Arglwydd, i gyffroi llygaid ei ogoniant ef.
Dull eu hwynebau hwynt a dystiolnetha yn eu herbyn, ac a fynega fod eu pechod megys Sodom, ac nas gallant ei guddio. Gwae eu heneidiau! Canys talasant ddrwg iddynt eu hunain. Dywedwch mai da fydd i’r cyfiawn; canys ffrwyth eu gweithredoedd a fwytânt. Gwae yr anwir! Canys hwy a ddyfethir; o herwydd gwobr eu dwylaw eu hunain a fydd iddynt.
A’m pobl sydd â’u treiswyr yn fechgyn, a gwragedd a arglwyddiaetha arnynt. O fy mhobl, y rhai a’th dywysant sydd yn peri i ti gyfeiliorni, a ffordd dy lwybrau addystrywiant. Yr Arglwydd sydd yn sefyll i fyny i ymddadleu, ac yn sefyll i farnu y bobloedd. Yr Arglwydd a ddaw i farn ag henuriaid ei bobl, a’u tywysogion; canys chwi a fwytasoch y winllan, ac anrhaith y tlawd yn eich tai. Beth a feddyliwch chwi? Yr ydych yn curo ar fy mhobl, ac yn malu gwynebau y tylodion, medd Arglwydd Dduw y lluoedd.
Yn mhellach, yr Arglwydd a ddywedodd, O herwydd balchïo o ferched Seion, a rhodio â gwddf estynedig, ac â llygaid gwammal, gan rodio a rhygyngu wrth gerdded, a thrystio â’u traed: am hyny y clafra yr Arglwydd gorynau merched Seion; a’r Arglwydd a ddynoetha ei gwarthle hwynt. Yn y dydd hwnw y tỳn yr Arglwydd ymaith eu tinc-addurniadau, eu rhwydwaith, a’u lloerawg wisgoedd, eu cadwynau, a’u breichledau, a’u moledau, eu pen-guwch, ac addurn eu coesau, a’u hysnodenau, a’u dwyfronegau, a’u clust-dlysau, eu modrwyau, ac addurn eu trwyn, eu gwisgoedd symudliw, a’u mentyll, a’u misyrnau, a’u crych-nodwyddau, eu drychau hefyd, a’u llïain meinwych, a’u cocyllau, a’u gynau.
A bydd yn lle perarogl, ddrewi; bydd hefyd yn lle gwregys, rwygiad; ac yn lle iawn drefn gwallt, foelni; ac yn lle dwyfroneg, gwregys o sach-lïan; a llosgfa yn lle prydferthwch. Dy wyr a syrthiant gan y cleddyf, a’th gadernid trwy ryfel. A’i phyrth hi a ofidiant ac a alarant: a hithau yn anrheithiedig a eistedd ar y ddaear.
Ac yn y dydd hwnw saith o wragedd a ymafiant mewn un gwr, gan ddywedyd, Ein bara ein hun a fwytâwn, a’n dillad ein hun a wisgwn: yn unig galwer dy enw di arnom ni, er cymmeryd ymaith ein gwarth ni. Yn y dydd hwnw y bydd blaguryn yr Arglwydd yn brydferthwch ac yn ogoniant; a ffrwyth y ddaear yn rhagorol ac yn hardd i’r rhai a ddiangasant o Israel.
A bydd y gelwir y rhai a adewir yn Seion, ac a weddillir yn Jerusalem, yn santaidd, pob un a’r a ysgrifenwyd yn mhlith y rhai byw yn Jerusalem; pan ddarffo i’r Arglwydd olchi budreddi merched Seion, a charthu gwaed Jerusalem o’i chanol, mewn ysbryd barn, ac mewn ysbryd llosgfa. A’r Arglwydd a grea ar bob trigfa o fynydd Seion, ac ar ei gymmanfaoedd, gwmwl a mwg y dydd, a llewyrch tân fflamllyd y nos; canys ar yr holl ogoniant y bydd amddiffyn. A phabell fydd yn gysgod y dydd rhag gwres, ac yn noddfa ac yn ddiddosfa rhag tymhestl a rhag gwlaw.
Ac yna y canaf i’m hanwylyd, ganiad fy anwylyd am ei winllan. Gwinllan sydd i’m hanwylyd mewn bryn tra ffrwythlon; ac efe a’i cloddiodd hi, ac a’i digaregodd, ac a’i planodd o’r winwydden oreu, ac a adeiladodd dwr yn ei chanol, ac a wnaeth winwryf ynddi; ac efe a ddysgwyliodd iddi ddwyn grawnwin, hithau a ddyg rawn gwylltion. Ac yr awr hon, preswylwyr Jerusalem, a gwyr Judah, bernwch, attolwg, rhyngof fi a’m gwinllan. Beth oedd i’w wneuthur ychwaneg i’m gwinllan, nag a wnaethym ynddi? Paham, a mi yn dysgwyl iddi ddwyn grawnwin, y dyg hi rawn gwylltion? Ac yr awr hon mi a hysbysaf i chwi yr hyn a wnaf i’m gwinllan: tynaf ymaith ei chae, fel y porer hi; toraf ei muriau fel y byddo hi yn sathrfa. Ac mi a’i gosodaf hi yn ddifrod; nid ysgythrir hi, ac ni chloddir hi, ond mïeri a drain a gyfyd; ac i’r cymmylau y gorchymynaf na wlawiont wlaw arni. Diau, gwinllan Arglwydd y lluoedd yw tŷ Israel, a gwyr Judah yw ei blanigyn hyfryd ef; ac efe a ddysgwyliodd am farn, ac wele drais; am gyflawnder, ac wele lef.
Gwae y rhai sydd yn cyssylltu tŷ at dŷ, fel na fyddo lle, fel y trigont yn unig yn nghanol y tir! Lle y clywais y dywedodd Arglwydd y lluoedd, Yn ddiau bydd tai lawer yn anghyfannedd, a dinasoedd mawrion a theg heb drygianydd. Ië, deg cyfair o winllan a ddygant un bath, a lle homer a ddwg ephah.
Gwae y rhai a gyfodant yn foreu i ddilyn diod gadarn, ac a arosant hyd yr hwyr, hyd nes yr ennyno y gwin hwynt! Ac yn eu gwleddoedd hwynt y mae y delyn, a’r nabl, y dympan, a’r bibell, a’r gwin; ond am waith yr Arglwydd ni edrychant, a gweithred ei ddwylaw ef nid ystyriant.
Am hyny y caethgludwyd fy mhobl, am nad oes ganddynt wybodaeth; a’u gwyr anrhydeddus sydd newynog, a’u lliaws a wywodd gan syched. Herwydd hyny yr ymehangodd uffern, ac yr agorodd ei safn yn anferth; ac yno y disgyn eu gogoniant, a’u lliaws, a’u rhwysg, a’r hwn a lawenycha ynddi. A’r gwreng a grymir, a’r galluog a ddarostyngir, a llygaid y rhai uchel a iselir. Ond Arglwydd y lluoedd a ddyrchefir mewn barn, a’r Duw santaidd a santeiddir mewn cyfiawnder. Yr ŵyn hefyd a borant yn ol eu harfer, a dyeithriaid a fwytânt ddiffeithfaoedd y breision. Gwae y rhai a dynant anwiredd â rheffynau oferedd, a phechod megys â rheffynau mèn; y rhai a ddywedant, Brysied a phrysured ei orchwyl, fel y gwelom; neshaed hefyd, a deued cynghor Sanct Israel, fel y gwypom.
Gwae y rhai a ddywedant am y drwg, Da yw; ac am y da, Drwg yw; gan osod tywyllwch am oleuni, a goleuni am dywyllwch; y rhai a osodaut chwerw am felys, a melys am chwerw! Gwae y doethion yn eu golweg eu hun, a’r rhai deallgar yn eu golwg eu hun! Gwae y rhai cryfion i yfed gwin, a’r dynion nerthol i gymmysgu diod gadarn; y rhai a gyfiawnhant yr anwir er gwobr, ac a gymmerant ymaith gyfiawnder y cyfiawn oddiwrtho! Am hyny, megys ag yr ysa ffagl dân y sofl, ac y difa y fflam y man-us, y bydd eu gwreiddyn hwynt yn budredd, a’u blodeuyn a gyfyd i fyny fel llwch; am iddynt ddiystryru cyfraith Arglwydd y lluoedd, a dirmygu gair Sanct Israel. Am hyny yr ennynodd llid yr Arglwydd yn erbyn ei bobl, ac yr estynodd efe ei law arnynt, ac a’u tarawodd hwynt; a chrynodd y mynyddoedd, a bu eu celanedd hwynt yn rhwygedig yn nghanol yr heolydd. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond etto y mae ei law ef yn estynedig.
Ac efe a gyfyd faner i’r cenedloedd o bell, ac a chwibana arnynt hwy o eithaf y ddaear; ac wele, ar frys yn fuan y deuant: ni bydd un blin na thramgwyddedig yn eu plith; ni huna yr un, ac ni chwsg; ac ni ddattodir gwregys ei lwynau, ac ni ddryllir carai ei esgidiau. Yr hwn sydd â’i saethau yn llymion, a’i holl fwäau yn annelog; carnau ei feirch ef a gyfrifir fel callestr, a’i olwynion fel corwynt, a’i ruad fel llew. Efe a rua fel cenawon llew; ïe, efe a chwyrna hefyd, ac a ymeifl yn yr ysglyfaeth, ac a’i dwg ymaith yn ddiogel, ac ni bydd achubydd. Ac efe a rua arnynt y dydd hwnw, fel rhuad y môr; os edrychir ar y tir, wele dywyllwch a chyfyngder, a’r goleuni a dywyllir yn ei nefoedd.