Pennod Ⅲ.
Yn awr, wele, dygwyddodd i mi, Jacob, fod wedi gweinidog aethu llawer i’m pobl mewn gair (ac nis gallaf ysgrifenu ond ychydig o’m geiriau, o herwydd yr anhawsdra o gerfio ein geiriau ar lafnau), ac ni a wyddom yr erys y pethau a ysgrifenwn ar lafnau; eithr pa bethau bynag a ysgrifenwn ar rywbeth arall, oddieithr ar lafnau, a bylant ac a ddiflanant; ond gallwn ysgrifenu ychydig o eiriau ar lafnau, y rhai a roddant i’n plant, ac hefyd i’n brodyr, radd fychan o wybodaeth am danom ni, neu eu tadau. Yn awr, yr ydym yn gorfoleddu yn y peth hwn; ac yn llafurio yn ddiwyd i gerfio o geiriau hyn ar lafnau, gan obeithio y bydd i’n brodyr anwyl, a’n plant, eu derbyn hwynt gyda chalonau diolchgar, ac edrych arnynt fel y dysgont gyda llawenydd ac nid gyda thristwch, nac ychwaith gyda diystyrwch, ynghylch eu rhieni cyntaf; canys i’r dyben yma yr ysgrifenasom y pethau hyn, fel y gwybyddont yr adwaenem ni Grist, ac y meddem obaith am ei ogoniant lawer o gannoedd o flynyddau cyn ei ddyfodiad; ac nid yn unig ni ein hunain a feddai obaith am ei ogoniant ef, eithr hefyd yr holl brophwydi santaidd a fu o’n blaen.
Wele, yr oeddynt hwy yn credu yn Nghrist, ac yn addoli y Tad yn ei enw ef, ac yr ydym ninnau hefyd yn addoli y Tad yn enw ef. Ac i’r dyben hyn yr ydym ni yn cadw cyfraith Moses, gan ei bod hi yn cyfeirio ein heneidiau ato ef; ac o herwydd hyn y santeiddir hi i ni er cyfiawnder, megys ag y cyfrifid hi i Abraham yn yr anialwch, trwy fod yn ufydd i orchymynion Duw wrth aberthu ei fab Isaac, yr hyn sydd yn gyffelybiaeth o Dduw a’i unig-anedig Fab. Am hyny, yr ydym ni yn chwilio y prophwydi, ac yr ydym yn cael llawer o ddadguddiadau, ac ysbryd y brophwydoliaeth; a thrwy gael yr holl dystion hyn meddiannasom obaith, a’n ffydd a aeth yn ddisigl, hyd nes y gallwn yn ddiau orchymyn yn enw Iesu, ac y mae hyd y nod y coed, neu y mynyddoedd, neu dònau y môr, yn ufyddhau i ni; er hyny, mae yr Arglwydd Dduw yn dangos i ni ein gwendid, fel y gwypom mai trwy ei râs ef a’i hynawsedd mawr at blant dynion, yr ydym yn cael gallu i gyflawni y pethau hyn.
Wele, mawr a rhyfedd yw gweithredoedd yr Arglwydd. Mor anchwiliadwy yw dyfnderau ei ddirgeledigaethau ef; ac anmhosibl yw i ddyn olrhain ei holl ffyrdd ef. Ac ni ŵyr un dyn am ei ffyrdd ef, oddieithr eu dadguddio hwynt iddo; am hyny, frodyr, na ddiystyrwch ddadguddiadau Duw. Canys, wele, trwy nerth ei air y daeth dyn ar wyneb y ddaear! Yr hon ddaear a grewyd trwy nerth ei air ef. Am hyny, os medrai Duw lefaru, ac i’r byd fod, a llefaru drachefn, a chael o ddyn ei greu, O ynte, paham na fedra orchymyn y ddaear, neu waith ei ddwylaw ar ei gwyneb, yn ol ei ewyllys a’i bleser? Am hyny, frodyr, na cheisiwch gynghori yr Arglwydd, eithr cymmerwch gynghor o’i law ef. Canys, wele, chwi a wyddoch eich hunain ei fod ef yn cynghori mewn doethineb, ac mewn cyfiawnder, ac mewn mawr drugaredd, dros ei holl weithredoedd; am hyny, anwyl frodyr, cymmoder chwi ag ef trwy gyfryngdod Crist, ei unig-anedig Fab, fel y caffoch adgyfodiad yn ol gallu yr adgyfodiad sydd yn Nghrist, a’ch cyflwyno megys blaenffrwyth Crist i Dduw, gan feddu ffydd a gobaith da am ogoniant ynddo ef, cyn yr egluro ei hun yn y cnawd.
Ac yn awr, rai anwyl, na ryfeddwch ddywedyd o honof y pethau hyn wrthych; canys paham na lefarir am iawn Crist, ac na chyrhaeddid gwybodaeth berffaith am dano, yn gystal â chyrhaeddyd gwybodaeth am yr adgyfodiad a’r byd a ddaw? Wele, fy mrodyr, yr hwn sydd yn prophwydo, prophwyded er dealltwriaeth dynion; canys y mae yr ysbryd yn llefaru y gwirionedd, ac ni ddywed gelwydd. Am hyny, llefara am bethau megys mewn gwirionedd y maent, ac am bethau megys mewn gwirionedd y byddant; am hyny, eglurir y pethau hyn; canys Duw a’u llefarodd hefyd wrth y prophwydi gynt.
Ond, wele, yr oedd yr Iuddewon yn bobl wargaled; a diystyrent eiriau eglur, a lladdent y prophwydi, a cheisient am bethau nas gallent eu deall. Am hyny, o herwydd eu dallineb, yr hwn ddallineb a ddaeth trwy edrych dros y nod, anghenrhaid yw iddynt syrthio: canys cymmerodd Duw ei eglurder ymaith oddi wrthynt, ac a roddodd iddynt lawer o bethau nas gallent eu deall, o herwydd iddynt ewyllysio hyny. Ac o herwydd iddynt ewyllysio hyny, Duw a’i gwnaeth, fel y tramgwyddent.
Ac yn awr, myfi, Jacob, a arweinir yn mlaen gan yr ysbryd i brophwydo: canys mi a ganfyddaf trwy weithrediadau yr ysbryd sydd ynof, mai trwy dramgwyddiad yr Iuddewon, y gwrthodant y maen ar yr hwn y gallent adeiladu, a chael sylfaen ddiogel. Ond, wele, yn ol yr ysgrythyrau, y maen hwn fydd yr unig sylfaen fawr safadwy ddiweddaf, ar ba un y gall yr Iuddewon adeiladu. Ac yn awr, fy rhai anwyl, pa fodd y mae yn bosibl y gall y rhai hyn byth, ar ol gwrthod y sylfaen safadwy, adeiladu arni, fel y delo yn ben eu congl? Wele, fy anwyl frodyr, mi a egluraf y dirgelwch hwn i chwi; os na fydd i mi, mewn rhyw fodd, siglo oddiwrth fy sefydlogrwydd yn yr ysbryd, a thramgwyddo oblegid fy ngofal ma wr am danoch chwi.
Wele, fy mrodyr, ai nid ydych yn cofio darllen geiriau y prophwyd Zenos, y rhai a lefarodd efe wrth dŷ Israel, gan ddywedyd, Gwrandewch, O dŷ Israel, a chlywch fy ngeiriau i, prophwyd i’r Arglwydd; canys wele, fel hyn y dywed yr Arglwydd, Mi a’th gyffelybaf di, O dŷ Israel, i olewydden ddôf, yr hon a gymmerth dyn ac a feithrinodd yn ei winllau; a hi a dyfodd, ac a heneiddiodd, ac a ddechreuodd grino. A bu i feistr y winllan fyned allan, ac efe a welodd ei olewydden yn dechreu crino; ac efe a ddywedodd. Mi a’i triniaf hi, ac a gloddiaf o’i hamgylch, ac a’i gwrteithiaf, fel, ysgatfydd, y bwrio allan gangenau ieuainc a thyner, fel na chrino. A bu iddo ef ei thrin, a chloddio o’i hamgylch, a’i gwrteithio, yn ol ei air. A bu ar ol llawer o ddyddiau, ddechreu o honi fwrw allan ychydig o gangenau ieuainc a thyner; ond, wele, yr oedd ei brig uchaf yn dechreu crino. A bu i feistr y winllan ei gweled, ac efe a ddywedodd wrth ei was, Mae yn flin genyf i golli y pren hwn; am hyny, dos a thỳn gangenau o olewydden wyllt, a dwg hwynt yma i mi; a nyni a dynwn ymaith y prif gangenau hyny sydd yn dechreu crinc, ac a’u bwriwn i’r tân, i’w llosgi hwynt. Ac wele, medd Arglwydd y winllan, yr wyf yn cymmeryd ymaith amryw o’r cangenau ieuainc a thyner, ac mi a’i himpiaf hwynt i mewn lle bynag yr ewyllysiwyf; ac nid yw wahaniaeth, os crina gwraidd y pren hwn, os gallaf gadw ei ffrwyth ef i mi fy hun; am hyny, mi a gymmeraf y cangenau ieuainc a thyner hyn, ac a’u himpiaf i mewn lle bynag yr ewyllysiwyf. Cymmer dithau gangenau yr olewydden wyllt, ac impia hwynt i mewn, yn eu lle hwynt; a’r rhai a dynais i ymaith, a fwriaf i’r tân i’w llosgi, fel na ddiffrwythont dir fy ngwinllan.
A bu i was Arglwydd y winllan, wneuthur yn ol gair Arglwydd y winllan, ac impio i mewn gangenau yr olewydden wyllt. Ac Arglwydd y winllan a achosodd cloddio o’i hamgylch, a’i thrin, a’i gwrteithio, gan ddywedyd wrth ei was, Mae yn flin genyf i golli y pren hwn; am hyny, fel y gallwn ysgatfydd gadw ei wreiddiau rhag pydru, a’u cadw hwynt i mi fy hun, y gwnaethym y peth hyn. Gan hyny, dos ymaith; gwylia y pren, a gwrteithia ef, yn o fy ngeiriau i. A’r rhai hyn a osodaf fi yn nghwr isaf fy ngwinllan, lle bynag yr ewyllysiwyf, oblegid ni pherthyna hyny i ti; ac yr wyf yn gwneuthur hyn fel y cadwyf i mi fy hun gangenau naturiol y pren; ac hefyd fel y casglwyf ei ffrwythau ef, erbyn y tymmor, i mi fy hun; canys y mae yn flin genyf i golli y pren hwn, ynghyd â’i ffrwyth.
A bu i Arglwydd y winllan fyned i’w ffordd, a chuddio cangenau naturiol ei olewydden ddof yn nghỳrau isaf ei winllan; rhai mewn un cwr, a rhai mewn cwr arall, yn ol ei ewyllys a’i bleser. A bu i amser hir fyned heibio, ac Arglwydd y winllan a ddywedodd wrth ei was, Deuwch, awn i waered i’r winllan, i lafurio ynddi.
A bu i Arglwydd y winllan, a’r gwas hefyd, fyned i waered i’r winllan i lafurio. A bu i’r gwas ddywedyd wrth ei feistr. Wele, edrychwch yma; gwelwch y pren. A bu i arglwydd Wele, edrychwch yma; gwelwch y pren. A bu i Arglwydd y winllan edrych a chanfod y pren, yn mha un yr impiwyd i mewn y cangenau o’r olewydden wyllt: ac yr oedd wedi blaguro, ac yn dechreu dwyn ffrwyth. Ac efe a welodd mai da oedd; a’i ffrwyth oedd yn gyffelyb i’r ffrwyth naturiol. Ac efe a ddywedodd wrth y gwas, Wele, y mae cangenau yr olewydden wyllt wedi ymafaelyd yn ei wraidd ef, ac y mae’r gwraidd wedi rhoi llawer o gryfdwr allan; ac oblegid cryfdwr mawr y gwraidd, y mae’r cangenau gwylltion wedi dwyn ffrwyth dof: yna, pe na impiasem y cangenau hyn i mewn, buasai y pren wedi crino. Ac yn awr, wele, mi a gasglaf ffrwyth lawer, yr hwn a ddygodd y pren; a’i ffrwyth ef a gadwaf erbyn y tymmor, i mi fy hun.
A bu i Arglwydd y winllan ddywedyd wrth y gwas, Deuwch, awn i gwr isaf y winllan, ac edrychwn os yw cangenau naturiol y pren ddim wedi dwyn ffrwyth lawer hefyd, fel y casglwyf eu ffrwyth, erbyn y tymmor, i mi fy hun. A bu iddynt fyned i’r man lle y ducciodd y meistr gangenau naturiol y pren, ac efe a ddywedodd wrth y gwas, Gwel y rhai hyn; ac efe a ganfyddodd fod y cyntaf wedi dwyn ffrwyth lawer; ac efe a ganfyddodd hefyd ei fod yn dda. Ac efe a ddywedodd wrth y gwas, Cymmer o’i ffrwyth, a chasgla ef, erbyn y tymmor, fel y cadwyf ef i mi fy hun; canys wele, yr holl amser hyn y gwrteithiais hi, a hi a ddygodd ffrwyth lawer.
A bu i’r gwas ddywedyd wrth ei feistr, Pa fodd y daethost ti yma i blanu y pren hwn, neu y gangen hon o’r pren? Canys wele, hwn oedd y man diffrwythaf o holl dir dy winllan. Ac Arglwydd y winllan a ddywedodd wrtho, Na chynghora fi: mi a wyddwn mai man diffrwyth o’r tir ydoedd; am hyny, y dywedais wrthyt, i mi ei wrteithio yr holl amser hyn, a thi a ganfyddi ei fod wedi dwyn ffrwyth lawer.
A bu i Arglwydd y winllan ddywedyd wrth ei was, Edrych yma; wele, mi a blenais hefyd gangen arall o’r pren; a thi a wyddit fod y man hwn o’r tir yn ddiffrwythach nâ’r cyntaf. Eithr, gwel y pren: mi a’i gwreithiais ef yr holl amser hyn, ac efe a ddygodd ffrwyth lawer; am hyny, casgla ef, a gosod ef i’w gadw, erbyn y tymmor, fel y cadwyf ef i mi fy hun.
A bu i Arglwydd y winllan ddywedyd drachefn wrth ei was, Edrych yma, a gwel gangen arall hefyd, yr hon a blanais i: wele mi a’i gwrteithiais hithau hefyd, a hi a ddygodd ffrwyth. Ac efe a ddywedodd wrth y gwas, Edrych yma, a gwel y ddiw eddaf: wele, mi a blanais hon mewn tir da; ac mi a’i gwrteithiais yr holl amser hyn, a dim ond rhan o’r pren a ddygodd ffrwyth dôf; a’r rhan arall a ddygodd ffrwyth gwyllt; wele, mi a wrteithiais y pren hwn fel y lleill.
A bu i Arglwydd y winllan ddywedyd wrth y gwas, Tỳn ymaith y cangenau na ddygasant ffrwyth da, a bwrw hwynt i’r tân. Ond, wele, y gwas a ddywedodd wrtho, Gadewch i ni ei drin ef, a chloddio o’i amgylch, a’i wrteithio ychydig yn hwy, fel y dygo ysgatfydd ffrwyth da i ti, fel y gelli ei gasglu erbyn y tymmor. A bu i Arglwydd y winllan, a gwas Arglwydd y winllan, wrteithio holl ffrwyth y winllan.
A bu ar ol i amser mawr fyned heibio, ddywedyd o Arglwydd y winllan wrth ei was, Deuwch, awn i waered i’r winllan, i lafurio etto yn y winllan. Canys wele, mae yr amser yn agoshau, a’r diwedd yn dyfod ar frys; am hyny, rhaid i mi gasglu ffrwyth, erbyn y tymmor, i mi fy hun.
A bu i Arglwydd y winllan, a’r gwas, fyned i waered i’r winllan; a hwy a ddaethant at y pren oedd â’i gangenau naturiol wedi eu tori ymaith, a’r cangenau gwylltion wedi eu himpio i mewn; ac wele yr oedd pob math o ffrwythau yn diffrwytho y pren.
A bu i Arglwydd y winllan brofi y ffrwyth, pob math yn ol ei rifedi. Ac Arglwydd y winllan a ddywedodd, Wele, yr holl amser hyn yr ydym wedi gwrteithio y pren hwn, ac mi a gasglais i mi fy hun, erbyn y tymmor, ffrwyth lawer. Ac wele, y waith hon dygodd ffrwyth lawer, ond ni oes dim o hono yn dda. Ac wele, y mae pob math o ffrwyth drwg; ac nid yw ddim lleshad i mi, er ein holl lafur: ac yn awr y mae yn flin genyf i golli y pren hwn. Ac Arglwydd y winllan a ddywedodd wrth y gwas, Pa beth a wnawn i’r pren, fel y cadwyf etto ffrwyth da i mi fy hun? A’r gwas a ddywedodd wrth ei feistr, Wele, o herwydd i ti impio i mewn gangenau yr olewydden wyllt, hwy a feithriniasant y gwreiddiau fel mai byw ydynt, ac ni phydrasant: am hyny, ti a ganfyddi eu bod hwy etto yn dda.
A bu i Arglwydd y winllan ddywedyd wrth ei was, Nid yw y pren yn un lleshad i mi, ac nid yw ei wreiddiau yn un lleshad i mi, cyhyd ag y dygo ffrwyth drwg. Er hyny mi a wn fod y gwreiddiau yn dda: ac i’m dyben fy hun y cedwais hwynt; ac o herwydd eu cryfdwr mawr, dygasant hyd yma oddiwrth y cangenau gwylltion, ffrwyth da. Ond wele, y cangenau gwylltion a dyfasant, ac a ledasant dros y gwreiddiau; ac o herwydd bod y cangenau gwylltion wedi llethu y gwreiddiau, efe a ddygodd lawer o ffrwyth drwg; ac o herwydd ei fod wedi dwyn cymmaint o ffrwyth drwg, ti a ganfyddi ei fod yn dechreu crino: a daw yn fuan yn addfed, i’w fwrw i’r tân, oddieithr i ni wneuthur rhywbeth er ei gadw.
A bu i Arglwydd y winllan ddywedyd wrth ei was, Awn i waered i ranau isaf y winllan, ac edrychwn os yw y cangenau naturiol hefyd wedi dwyn ffrwyth drwg. A bu iddynt fyned i waered i ranau isaf y winllan. A bu iddynt ganfod fod ffrwyth y cangenau naturiol wedi myned yn llygredig hefyd; ïe, y cyntaf, a’r ail, a’r ddiweddaf hefyd; ac yr oeddynt oll wedi myned yn llygredig. Ac yr oedd ffrwyth gwyllt y ddiweddaf wedi gorchfygu y rhan hono o’r pren a ddygodd ffrwyth da, hyd nes gwywo o’r gangen a marw.
A bu i Arglwydd y winllan wylo, a dywedyd wrth y gwas, Pa beth a allaswn wneuthur yn ychwaneg i’m gwinllan? Wele, mi a wyddwn fod holl ffrwyth y winllan, oddieithr y y rhai hyn, wedi myned yn llygredig. Ac yn awr, mae y rhai hyn a ddygasant ffrwyth da unwaith, wedi myned yn llygredig hefyd; ac yn awr nid yw holl breniau fy ngwinllan yn dda i ddim, ond i’w tori i lawr a’u taflu i’r tân. Ac wele y ddiweddaf hon, syd â’i changen wedi gwywo, a blanais mewn tir da; ïe, yr hwn oedd yn ddewisol genyf, uwchlaw pob rhan arall o dir fy ngwinllan. A thi a welaist i mi dori i lawr yr hyn oedd yn diffrwytho y dernyn tir hwn, fel y planwn y pren hwn yn ei le; a thi a welaist i ran o hono ddwyn ffrwyth da, a rhan o hono ddwyn ffrwyth gwyllt; ac oblegid na thynais ei gangenau ef, a’u taflu i’r tân, wele, y maent wedi gorchfygu y gangen dda, nes y mae wedi gwywo. Ac yn awr, er yr holl ofal a gymmerasom o’m gwinllan, aeth ei phreniau yn llygredig, ac ni ddygant ddim ffrwyth da; a gobeithiais i gael cadw y rhai hyn, er casglu eu ffrwyth erbyn y tymmor, i mi fy hun. Ond, wele, aethant yn gyffelyb i’r olewydden wyllt, ac nid ydynt o ddim gwerth ond i’w tori i lawr a’u taflu i’r tân; ac y mae yn flin genyf i’w colli hwynt. Ond pa beth a allaswn i wneuthur yn ychwaneg yn fy ngwinnlan? A laesais i fy llaw, fel nad wyf wedi ei gwrteithio? Na, yr wyf wedi ei gwrteithio, a chloddio o amgylch, a’i thrin, a bwrw tail; ac mi a estynais fy llaw braidd trwy ystod y dydd, a’r diwedd sydd yn agoshau. Ac y mae yn flin genyf orfod tori i lawr holl breniau fy ngwinllan, a’u taflu i’r tân i’w llosgi. Pwy sydd wedi llygru fy ngwinllan?
A bu i’r gwas ddywedyd wrth ei feistr, Ai nid uchder dy winllan yw yr achos? Ai nid yw ei changenau wedi gorchfygu y gwreiddiau sydd yn dda? Ac oblegid fod y cangenau wedi gorchfygu eu gwreiddiau, wele cynnyddant yn gyflymach nâ nerth y gwreiddiau, gan gymmeryd neerth ynddynt eu hunain. Wele, meddaf, ai nid hyn yw yr achos fod preniau dy winllan wedi llygru?
A bu i Arglwydd y winllan ddywedyd wrth y gwas, Awn, a thorwn i lawr breniau y winllan, a thaflwn hwynt i’r tân, fel na ddiffrwythont dir fy ngwinllan, canys mi a wnaethym bob peth; pa beth a allaswn wneuthur yn ychwaneg i’m gwinllan? Ond, wele, y gwas a ddywedodd wrth Arglwydd y winllan, Arbed hi ychydig yn hwy. A’r Arglwydd a ddywedodd, Ië, mi a’i harbedaf ychydig yn hwy, canys y mae yn flin genyf i golli preniau fy ngwinllan. Am hyny, cymmerwn gangenau y rhai hyn a blenais yn nghỳrau isaf fy ngwinllan, ac impiwn hwynt i mewn yn y pren o ba un y daethant o hono; a thynwn o’r pren y cangenau hyny sydd â’u ffrwyth chwerwaf, ac impiwn hwynt i mewn yn ngangenau naturiol y pren, yn eu lle. A hyn a wnaf fel na chrino y pren, fel ysgatfydd y cadwyf ei wreiddiau ef i mi fy hun, er fy nybenion fy hun. Ac wele, y mae gwreiddiau cangenau naturiol y pren a blenais lle yr ewyllysiwn, yn fyw etto; am hyny, fel y cadwyf hwythau hefyd er fy nybenion fy hun, mi a gymmeraf gangenau y pren hwn, ac a’u himpiaf i mewn ynddynt hwy. Ië, mi a impiaf i mewn ynddynt hwy gangenau eu mam bren, fel y cadwyf y gwreiddiau hefyd i mi fy hun, fel pan ddelont yn ddigon nerthol, y dygont ysgatfydd ffrwyth da i mi, ac y gallwyf etto gael gogoniant yn ffrwyth fy ngwinllan.
A bu iddynt gymmeryd o’r pren naturiol a aeth yn wyllt, ac impio i mewn yn y cangenau naturiol a aethant yn wylltion hefyd; a hwy a gymmerasant hefyd o’r preniau naturiol, a aethant yn wylltion, ac a impiasant i mewn yn eu mam bren. Ac y cangenau gwylltion o’r preniau, oddieithr y rhai chwerwaf; ac ynddynt hwy yr impiwch i mewn yn ol yr hyn a ddywedais. Ac, ni a wrteithiwn etto breniau y winllan, ac a driniwn eu cangenau hwynt; a thynwn o’r preniau y cangenau hyny sydd wedi addfedu, y rhai sydd raid iddynt grino, a thaflwn hwynt i’r tân. A hyn wyf yn wneuthur, fel ysgatfydd y cymmeero eu gwreiddiau nerth o herwydd eu daioni; ac o herwydd cyfnewid y cangenau, y byddo i’r da orchfygu y drwg; ac o herwydd i mi gadw y cangenau naturiol a’u gwreiddiau, ac i mi impio y cangenau naturiol i mewn drachefn i’w mam bren, a chadw gwreiddiau eu mam bren, fel ysgatfydd y dygo preniau fy ngwinllan drachefn ffrwyth da; ac fel y caffwyf lawenydd etto yn ffrwyth fy ngwinllan, ac fel ysgatfydd y gorfoleddwyf yn fawr i mi gadw gwreiddiau a changenau y ffrwyth cyntaf. Am hyny, dos ymaith, a galw weision, fel y dyfal lafuriom â’n holl allu yn y winllan, fel y parotoïom y ffordd, i mi gynnyrchu drachefn ffrwyth naturiol, yr hwn ffrwyth naturiol sydd dda, ac yn dra gwerthfawr uwchlaw pob ffrwyth arall. Am hyny, awn ymaith a llafuriwn â’n holl alu y waith ddiweddaf hon, canys wele y mae y diwedd yn agoshau, a dyma y waith ddiweddaf y triniaf fy ngwinllan. Impiwch i mewn y cangenau, gan ddechreu ar yr olaf, fel y byddont gyntaf, ac y byddo y cyntaf yn olaf, a chloddiwch o amgylch y preniau, hen ac ieuainc, y cyntaf a’r olaf, a’r olaf a’r cyntaf, fel y gwrteithier hwynt unwaith yn rhagor am y waith ddiweddaf. Am hyny, cloddiwch oddiamgylch iddynt, a thriniwch hwynt, a bwriwch dail unwaith yn rhagor, am y waith ddiweddaf, canys y mae’r diwedd yn agoshau. Ac os mai yr impiadau olaf hyn a dyfant, ac a ddygant y ffrwyth naturiol, yna y parotowch y ffordd iddynt hwy, fel y tyfont; a phan ddechreuant dyfu, chwi a symudwch ymaith y cangenau a ddygant ffrwyth chwerw, yn ol nerth y rhai da a’u maintioli: ac na symudwch eu rhai drwg hwynt ymaith oll ar unwaith, rhag i’w gwreiddiau fod yn rhy nerthol i’r impiad, ac i’r impiad fethu, ac i mi golli preniau fy ngwinllan. Canys y mae yn ofidus genyf orfod colli preniau fy ngwinllan; am hyny y symudwch ymaith y rhai drwg, yn ol fel y tyfo y rhai da, fel y byddo y gwraidd a’r brig yn gyfartal mewn nerth, hyd nes y gorchfygo y da y drwg, ac i’r drwg gael ei dori i lawr, a’i daflu i’r tân, fel na ddiffrwytho dir fy ngwinllan; ac felly yr ysgubaf y drwg ymaith o’m gwinllan; a changenau y pren naturiol a impiaf i mewn drachefn i gangenau y pren naturiol; ac felly y dygaf hwynt ynghyd drachefn, fel y dygont y ffrwyth naturiol, ac y byddont un. A’r drwg a fwrir ymaith, ïe, sef allan o holl dir fy ngwinllan: canys wele, ddim ond yr unwaith hon y triniaf fy ngwinllan.
A bu i Arglwydd y winllan ddanfon ei was; a’r gwas a aeth ac a wnaeth megys y gorchymynodd yr Arglwydd iddo, ac a ddygodd weision ereill; ac ychydig oeddynt. Ac Arglwydd y winllan a ddywedodd wrthynt, Ewch ymaith, a llafuriwch yn y winllan, â’ch holl allu. Canys wele, dyma y waith olaf i mi wrteithio fy ngwinllan; canys y diwedd sydd yn agos wrth law, a’r tymmor sydd yn dyfod ar frys; ac os llafuriwch chwi â’ch holl allu gyda mi, chwi a gewch lawenydd yn y ffrwyth a gadwaf i mi fy hun, erbyn yr amser yr hwn a ddaw yn fuan.
A bu i’r gweision fyned, a llafurio â’u holl allu; ac Arglwydd y winllan a lafuriodd hefyd gyda hwynt; a hwy a ufyddhasant i orchymynion Arglwydd y winllan yn mhob peth. A dechreuodd fod cangenau naturiol yn y winllan drachefn; a’r cangenau naturiol a ddechreuasant dyfu a ffynu yn rhyfeddol; a’r cangenau gwylltion a ddechreuasant gael eu tynu a’u taflu ymaith; a hwy a gadwasant y gwraidd a’i frig yn gyfartal, yn ol eu nerth. Ac felly y llafuriasant, gyda phob dyfalwch, yn ol gorchymynion Arglwydd y winllan, hyd nes i’r drwg gael ei fwrw allan o’r winllan, ac i’r Arglwydd gadw iddo ef ei hun, nes dyfod o’r preniau drachefn yn ffrwyth naturiol; a hwy a ddaethant megys un corff: a’r ffrwyth oedd yn gyfartal; ac yr oedd Arglwydd y winllan wedi cadw iddo ef ei hun y ffrwyth naturiol, yr hwn oedd yn dra gwerthfawr iddo ef, o’r dechreuad.
A bu pan welodd Arglwydd y winllan fod ei ffrwyth yn dda, ac nad oedd ei winllan mwyach yn llygredig, efe a alwodd i fyny ei weision, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, am y waith ddiweddaf hon y gwrteithiasom fy ngwinllan; a chwi a welwch i mi wneuthur yn ol fy ewyllys; ac mi a gedwais y ffrwyth naturiol, sydd yn dda, ïe, megys yr oedd yn y dechreuad; a gwyn eich byd chwi. Canys o herwydd i chwi ddyfal lafurio gyda mi yn fy ngwinllan, a chadw fy ngorchymynion, a dwyn i mi drachefn y ffrwyth naturiol, fel nad yw fy ngwinllan mwyach yn llygredig, a’r drwg wedi ei daflu ymaith, wele, chwi a gewch lawenydd gyda mi, o herwydd ffrwyth fy ngwinllan. Canys wele, am hir amser y casglaf ffrwyth fy ngwinllan i mi fy hun, erbyn y tymmor, yr hwn sydd yn dyfod ar frys; ac am y waith ddiweddaf mi a wrthteithiais fy ngwinllan, ac a’i triniais, ac a gloddiais oddiamgylch, ac a fwriais dail; am hyny, mi a gasglaf i mi fy hun o’r ffrwyth, am hir amser, yn ol yr hyn a lefarais. A phan ddelo yr amser i ffrwyth drwg ddyfod drachefn i’m gwinllan, yna y perafi’r da a’r drwg gael eu casglu; a’r da a gadwaf i mi fy hun; a’r drwg a fwriaf ymaith i’w le ei hun. Ac yna y daw y tymmor a’r diwedd; a pheraf i’m gwinllan gael ei llosgi â thân.