Scriptures
Jacob 2


Pennod Ⅱ.

Y geiriau a lefarodd Jacob, brawd Nephi, wrth fobl Nephi, ar ol marwolaeth Nephi:—Yn awr, fy anwyl frodyr, myfi, Jacob, yn ol y cyfrifoldeb wyf dano i Dduw, i fawrygu fy swydd gyda sobrwydd, ac fel y glanhaer fy ngwisgoedd oddiwrth eich pechodau chwi, wyf yn dyfod i’r deml y dydd hwn, fel y mynegwyf i chwi air Duw; a chwi a wyddoch eich hunain fy mod i hyd yma yn ddiwyd yn y swydd y’m galwydd iddi; ond yr wyf y dydd hwn yn teimlo llawer mwy o ddymuniad a phryder am leshad eich eneidian nag erioed o’r blaen. Canys wele, hyd yma, buoch yn ufydd i air yr Arglwydd, yr hwn a roddais i chwi. Ond, wele, gwrandewch arnaf, a gwybyddwch mai trwy gynnorthwy Creawdwr hollalluog nefoedd a daear, y medraf ddywedyd wrthych eich meddyliau, pa fodd yr ydych yn dechreu llafurio mewn pechod, yr hwn bechod sydd yn dra ffiaidd genyf fi, ïe, ac yn ffiaidd gan Dduw; ïe, y mae yn gofidio fy enaid ac yn pery i mi wridio gan gywilydd gerbron fy Ngwneuthurwr, fod yn rhaid i mi dystiolaethu wrthych am ddrygioni eich calonau; ac y mae hefyd yn fy ngofidio fod yn rhaid i mi ddefnyddio cymmaint o hyfdra yn fy lleferydd tuag atoch, o flaen eich gwragedd a’ch plant, teimladau llawer o ba rai ydynt yn dynere a dihalog, a dichlynaidd gerbron Duw, yr hyn beth sydd yn rhyngu bodd Duw; a rhoddir ar ddeall i mi eu bod hwy wedi dyfod yma i glywed gair pleserus Duw, ïe, y gair sydd yn iachâu yr enaid clwyfedig.

Am hyny, y mae yn beichio fy enaid, fy mod yn cael fy ngorfodi o herwydd y gorchymyn caeth a dderbyniais oddiwrth Ddwu, i’ch ceryddu chwi yn ol eich troseddiadau, i fwyhau archollion y rhai sydd wedi eu harcholli yn barod, yn lle eu cysuro ac iachâu eu harchollion; a’r rhai nad ydynt wedi eu harcholli, yn lle cael gwledda ar air pleserus Duw, a gant ddagerau wedi eu gosod i drywanu eu heneidiau, ac aracholli eu meddyliau dichlynaidd. Ond etto, er cymmaint y tasg, rhaid i mi wneuthur yn ol gorchymyn caeth Duw, a dywedyd wrthych am eich drygioni a’ch ffieidd-dra, yn mhresennoldeb y pur o galon, a’r drylliedig o galon, a than drem llygaid treiddgar y Duw Hollalluog.

Am hyny, rhaid i mi ddywedyd y gwirionedd wrthych yn ol egiurder gair Duw. Canys wele, pan yr ymofynais i â’r Arglwydd, fel hyn y death ei air ef ataf, gan ddywedyd, Jacob, dos i fyny i’r deml yn y boreu, a thraetha y gair a roddaf i ti wrth y bobl hyn.

Ac yn awr, wele, fy mrodyr, hyn yw y gair wyf yn draethu wrthych, fod llawer o honoch wedi dechreu chwilio am aur, ac am arian, ac am bob math o fŵnau gwerthfawr, y rhai ydynt mewn cyflawnder mawr yn y wlad hon, yr hon sydd yn wlad addawedig i chwi, ac i’ch had. Ac y mae rhagiuniaeth wedi gwenu arnoch yn dra boddhaol, nes yr ydych wedi cael llawer o gyfoeth; ac o herwydd fod rhai o honoch wedi cael yn helaethach nâ’ch brodyr, yr ydych yn ymddyrchafu yn malchder eich calonau, ac yn arfer gwarau syth a phenau uchel, oblegid gwerthfawrogrwydd eich gwisgoedd, ac yn erlid eich brodyr o herwydd y tybiwch eich bod yn well nâ hwynt.

Ac yn awr, fy mrodyr, a ydych yn tybied y cyfiawnha Duw chwi yn y peth hyu? Wele, meddaf i chwi, na wna. Eithr y mae efe yn eich condemnio chwi; ac os parhewch yn y pethau hyn, ei farnedigaethau a ddeuant arnoch ar frys. O, na ddangosai efe y gall eich trywanu, ac ag un gipdrem o’i lygad eich taraw i’r llwch. O, na waredai efe chwi oddiwrth yr anwiredd a’r ffieidd-dra hwn. Ac O, na wrandawech chwithau ar air ei orchymynion ef, ac na attaliech falchcer eich calonau i ddinystrio eich eneidiau. Meddyliwch am eich brodyr, fel am danoch eich hunain, a byddwch gyfeillgar â phawb, a chyfranwch o’ch eiddo, fel y byddont hwythau gyfoethog megys chwithau. Eithr cyn ceisio o honoch gyfoeth, ceisiwch deyrnas Dduw. Ac ar ol i chwi gael gobaith yn Nghrist, yna chwi a gewch gyfoeth, os ceisiwch ef; ac os ceisiwch ef gyda bwriad i wneuthur daioni, i ddilladu y noeth, a phorthi y newynog, a rhyddhau y caeth, a gweinyddu cymhorth i’r claf a’r cystuddiedig.

Ac yn awr, fy mrodyr, mi a lefarais wrthych ynghylch balchder: a’r cyfryw o honoch ag sydd wedi cystuddio eich cymmydog, a’i erlid ef, o herwydd eich bod yn feilchion yn eich calonau am y pethau a roddodd yr Arglwydd i chwi, beth meddwch am hyny? Ai nid ydych yn tybied fod pethau felly yn ffiaidd gan yr Hwn a greodd bob cnawd? Ac y mae un bôd mor werthfawr yn ei olwg ef â’r llall. A phob cnawd sydd o’r llwch; ac i’r un dyben y creodd efe hwynt, fel y cadwent ei orchymynion, a’i foliannu ef yn dragywydd. Ac yn awr yr wyf yn darfod llefaru wrthych o berthynas i’r balchder hwn. Ac oni bai fod raid i mi lefaru wrthych o berthynas i drosedd gwaeth, fy nghalon a orfoleddai yn fawr o’ch plegid. Ond y mae gair yr Arglwydd yn faich arnaf o herwydd eich troseddau gwaeth. Canys wele, fel hyn y dywed yr Arglwydd. Mae y bobl hyn yn dechreu myned i ddrygioni; ni ddeallant yr ysgrythyrau; canys y maent yn ceisio esgusodi eu hunain i buteinio, o herwydd y pethau a ysgrifenwyd mewn perthynas i Ddafydd, a Solomon ei fab. Wele, yr oedd gan Ddafydd a Solomon yn ddiau lawer o wragedd a gordderchwragedd, yr hyn beth oedd yn ffiaidd ger fy mron i, medd yr Arglwydd; am hyny, fel hyn y dywed yr Arglwydd, Mi a arweiniais y bobl hyn allan o wlad Jerusalem, trwy nerth fy mraich, fel y cyfodwn i mi gangen gyfiawn o ffrwyth lwynau Joseph. Am hyny, myfi, yr Arglwydd, ni ddyoddefaf i’r bobl hyn wneuthur yn gyffelyb iddynt hwy gynt. Am hyny, fy mrodyr, gwrandewch arnaf, a chlywch air yr Arglwydd; canys ni chaiff un dyn yn eich plith chwi onid un wraig; a gordderchwragedd ni chewch un; canys yr wyf fi, yr Arglwydd, yn ymhyfrydu mewn diweirdeb benywod. A phuteindra sydd ffiaidd ger fy mron i; felly y dywed Arglwydd y lluoedd. Am hyny, y bobl hyn a gant gadw fy ngorchymynion i, medd Arglwydd y lluoedd, neu ynte, melldigedig fydd y tir er eu mwyn hwynt. Canys os myfi, medd Arglwydd y lluoedd, a gyfodaf i mi had, mi a orchymynaf fy mhobl; onide, hwy a gant wrandaw ar y pethau hyn. Canys wele, myfi, yr Arglwydd, a welais dristwch, ac a glywais alar merched fy mhobl yn ngwlad Jerusalem, ïe, ac yn holl diroedd fy mhobl, o herwydd drygioni a ffieidd-dra eu gwyr. Ac ni ddyoddefaf fi, medd Arglwydd y lluoedd, i waedd ferched prydweddol y bobl hyn, y rhai a arweiniais allan o wlad Jerusalem, ddyrchafu ataf fi yn erbyn meibion fy mhobl, medd Arglwydd y lluoedd; canys ni chant hwy gaethgludo merched fy mhobl, o herwydd eu tynerwch, oddieithr i mi ymweled â hwynt â melldith dost, hyd at ddinystrio; canys ni chant buteinio, yn gyffelyb iddynt hwy gynt, medd Arglwydd y lluoedd.

Ac yn awr, wele, fy mrodyr, chwi a wyddoch i’r gorchymynion hyn gael eu rhoddi i’n tad Lehi; am hyny yr oeddynt yn hysbys i chwi o’r blaen; ac yr ydych wedi myned dan gondemniad mawr; canys gwnaethoch y pethau hyn na ddylech eu gwneuthur. Wele, cyflawnasoch anwiredd mwy na’r Lamaniaid, ein brodyr. Drylliasoch galonau eich gwragedd tyner, a chollasoch ymddiried eich plant, o herwydd eich esiamplau drwg o’u blaen hwynt; ac ocheneidiau en calonau a esgynant at Dduw yn eich erbyn chwi. Ac o herwydd caethder gair Duw, yr hwn sydd yn dyfod i lawr yn eich erbyn, y mae llawer o galonau yn meirw, wedi eu trywanu ag archollion dyfnion.

Ond, wele, myfi, Jacob, a ewyllysiwn lefaru wrthych chwi sydd yn bur o galon. Edrychwch ar Dduw yn ddiysgog eich meddwl, a gweddiwch mewn ffydd gref, ac efe a’ch dyddana chwi yn eich cystuddiau, ac a ddadleua eich achos, ac a ddenfyn gyfiawnder i waered ar y rhai sydd yn ceisio eich dinystrio chwi.

O, chwi y rhai pur o galon, dyrchefwch eich penau, a derbyniwch air pleserus Duw, a gwleddwch ar ei gariad ef; canys hyn a ellwch wneyd yn dragywydd, os yw eich meddyliau yn sefydlog. Ond gwae, gwae y rhai nad ydych bur o galon; y rhai sydd yn aflan y dydd hwn gerbron Duw: canys oddieithr i chwi edifarhau, melldigedig yw y tir er eich mwyn; a’r Lamaniaid, y rhai nid ydynt aflan megys chwi (er hyny, melldithiwyd hwynt â melldith dost), a’ch frewyllant chwi hyd at eich dinystrio. Ac y mae’r amser yn dyfod ar frys, oddieithr i chwi edifarhau, y meddiannant hwy dir eich etifeddiaeth, ac y bydd i’r Arglwydd Dduw arwain y cyfiawn allan o’ch plith chwi. Wele, y mae’r Lamaniaid, eich brodyr, y rhai a gasêwch chwi, o herwydd eu haflendid a’r melldithion a ddaeth ar eu crwyn, yn gyfiawnach nâ chwi; canys nid ydynt hwy wedi anghofio gorchymyn yr Arglwydd, yr hwn a roddwyd i’n tadau, na chaffent onid un wraig; a gordderchwragedd na chaffent un; ac na chyflawnent odineb yn eu mysg. Ac yn awr, y maent hwy yn cadw y gorchymyn hwn; gan hyny, am eu bod yn cadw y gorchymyn hwn, yr Arglwydd Dduw nis dyfetha hwynt, eithr a fydd yn drugarog wrthynt; a hwy a fyddant ryw ddydd yn bobl wynfydedig. Wele, mae eu gwyr yn caru eu gwragedd, a’u gwragedd yn caru eu gwyr; a’u gwyr a’u gwragedd yn caru eu plant; a’r achos o’u hanghrediniaeth a’u gygasedd tuag atoch chwi, yw o herwydd anwiredd eu tadau; am hyny, pa faint gwell ydych chwi na hwy yn ngolwy eich Creawdwr mawr?

O, fy mrodyr, ofnwyf, os na edifarhwech am eich pechodau, y bydd eu crwyn hwy yn wynach nâ’r eiddoch chwi, pan eich dygir gyda hwynt o flaen gorseddfainc Duw. Am hyny, yr wyf yn rhoddi gorchymyn i chwi, yr hwn yw gair Duw, na ddifenwoch hwynt mwyach, o herwydd bod eu crwyn yn ddu; nac ychwaith eu difenwi o herwydd eu haflendid; eithr chwi a gewch gofio am eich aflendid eich hunain, a chofio ddyfod eu haflendid hwy o herwydd eu tadau. Am hyny, chwi a gewch gofio am eich plant, pa fodd y gofidiasoch eu calonau, o herwydd yr esiampl a roddasoch o’u blaen; a chofio hefyd, y gellwch, o herwydd eich aflendid, ddwyn eich plant i ddystryw, ac i’w pechodau bentyru ar eich penau chwi yn y dydd diweddaf.

O, fy mrodyr, gwrandewch ar fy ngair; deffrowch gynneddfau eich enaid; ymysgydwch, fel y dihunoch o gwsg marwolaeth; ac ymryddhewch o boenau uffern, fel nad eloch yn angylion i’r diafol, i gael eich taflu i’r llyn hono o dân a brwmstan, yr hon yw yr ail farwolaeth. Ac yn awr, yr wyf fi. Nephi, gan eu rhybyddio hwynt yn erbyn puteindra a thrythyllwch, a phob math o bechod, gan fynegi iddynt y canlyniadau erchyll o honynt; ac ni all y ddegfed ran o weithrediadau y bobl yma, y rhai yn awr a ddechreuant fod yn lliosog, gael eu hysgrifenu ar y llafnau hyn; eithr y mae llawer o’u gweithrediadau yn ysgrifenedig ar y llafnau mwyaf, ynghyd â’u rhyfeloedd, a’u hamrafaelion, a theyrnasiad eu breninoedd. Y llafnau hyn a elwir llafnau Jacob, a hwy a wnaed gan law Nephi. Ac yr wyf fi yn gorphen llefaru y geiriau hyn.