Pennod ⅩⅦ.
Gorchymynion Alma, i’w fab Helaman.
Fy mab, rho glust i’m geiriau; canys yr wyf yn tyngu wrthyt, yn gymmaint ag y cedwi orchymynion Duw, ti a lwyddi yn y tir. Mi a ewyllysiwn i ti wneuthur megys y gwnaethum i, wrth gofio am gaethiwed ein tadau; canys yr oeddynt hwy mewn caethiwed, ac nis gallai neb eu gwared oddieithr Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob; ac yn ddiau efe a’u gwaredodd hwynt yn eu cystuddiau. Ac yn awr, O fy mab Helaman, wele, yr wyt ti yn dy ieuenctyd, ac am hyny, mi a ddeisyfaf arnat i wrandaw fy ngeiriau, a dysgu genyf; canys mi a wn, mai pwy bynag a osodo eu hymddiried yn Nuw, a gynnelir yn eu treialon, a’u traferthion, a’u cystuddiau, ac a ddyrchafir yn y dydd diweddaf; ac ni fynwn i ti feddwl fy mod yn gwybod o honof fy hun—nid trwy y tymmorol, eithr trwy yr ysbrydol; nid trwy y meddwl cnawdol, eithr trwy Dduw. Yn awr, wele, meddaf wrthych, pe na buaswn wedi fy ngeni o Dduw, nis gwybyddwn y pethau hyn; eithr Duw, trwy enau ei angel santaidd, a wnaeth y pethau hyn yn hysbys i mi, nid o herwydd un teilyngdod ynof fi, canys myned o amgylch oeddwn i gyda meibion Mosiah, i geisio dinystrio eglwys Dduw; eithr, wele, Duw a ddanfonodd ei angel santaidd i’m rhwystro ar y ffordd. Ac wele, efe a lefarodd wrthym, megys pe bai â llais taran, a’r holl ddaear a grynodd dan ein traed, ac ni a syrthiasom oll ar y ddaear, canys ofn yr Arglwydd a ddaeth arnom. Eithr, wele, y llais a ddywedodd wrthyf, Cyfod. Ac mi a gyfodais ac a safais i fyny, ac a welais yr angel. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Os myni gael dy ddinystrio o honot dy hun, na cheisia mwyach i ddinystrio eglwys Dduw.
A dygwyddodd i mi syrthio ar y ddaear; ac am yspaid tri diwrnod a thair noson, nis gallwn agor fy ngenau, nac ychwaith ddefnyddio fy aelodau. A llefarodd yr angel ragor o bethau wrthyf, y rhai a glywyd gan fy mrodyr, eithr nis clywais i hwynt; canys pan glywais i y geiriau, Os dinystrir di o honot dy hun, na cheisia mwyach i ddinystrio eglwys Dduw, tarawwyd fi â’r fath ofn mawr a syndod, rhag ysgatfydd i mi gael fy ninystrio, fel y syrthiais i’r ddaear, ac ni chlywais ragor; eithr mi a ddirboenwyd â phoenau tragywyddol, canys yr oedd fy enaid wedi ei rwygo i’r graddau mwyaf, a’i ddirboeni gyda’m holl bechodau. Ië, mi a gofiais fy holl bechodau a’m hanwireddau, o herwydd y rhai y poenydiwyd fi â phoenau uffern; ïe, gwelais i mi ryfela yn erbyn fy Nuw, ac na chadwais ei orchymynion santaidd; ïe, ac yr oeddwn wedi lladd llawer o’i blant, neu yn hytrach wedi eu harwain ymaith i ddystryw; ïe, ac yn fyr, yr oedd fy anwireddau mor fawr, nes yr oedd hyd y nod y meddwl o ddyfod i bresennoldeb fy Nuw, yn poenydio fy enaid ag arswyd annesgrifiadwy. Meddyliwn, O na allwn gael fy alltudio a’m difodi, gorff ac enaid, fel na’m dygid i sefyll yn mhresennoldeb fy Nuw, i gael fy marnu am fy ngweithredoedd. Ac yn awr, am dri diwrnod a thair noson y dirboenwyd fi, ïe, â phoenau enaid condemniedig.
A dygwyddodd tra y dirboenid fi felly gan arteithiau, a thra y rhwygid fi gan y cof o’m haml bechodau, wele, mi a gofiais hefyd glywed fy nhad yn prophwydo wrth y bobl, ynghylch dyfodiad un Iesu Grist, Mab Duw, i roddi iawn dros bechodau y byd. Yn awr, tra y gafaelai fy meddwl yn y drychfeddwl hwn, mi a waeddais yn fy nghalon, O Iesu, tydi Fab Duw, trugarha wrthyf, yr hwn wyf mewn bustl chwerwder, ac wedi fy amgylchynu gan dragywyddol gadwynau marwolaeth. Ac yn awr, wele, pan feddyliais hyn, ni fedrwn gofio fy mhoenau mwyach; ïe, ni’m rhwygwyd gan y cof o’m pechodau mwyach. Ac O, y fath lawenydd, a’r fath oleuni rhyfeddol a ganfyddais; ïe, fy enaid a lanwyd gan lawenydd mor fawr ag oedd fy mhoen; ïe, meddaf wrthyt, fy mab, ni allai dim fod mor ddygn a chwerw, ag oedd fy mhoenau. Ië, a thrachefn meddaf wrthyt, fy mab, nas gallai, ar y llaw arall, fod dim mor rhagorol a melys, y gwelodd ein tad Lehi, Duw yn eistedd ar ei orsedd, wedi ei amgylchynu gan dorfeydd dirif o angylion, yn yr agwedd o ganu a moli eu Duw; ïe, a’m henaid a hiraethai i fod yno. Eithr wele, derbyniodd fy aelodau eu nerth drachefn, ac mi a safais ar fy nhraed, ac a amlygais i’r bobl fy mod wedi fy ngeni o Dduw; ïe, ac o’r amser hwnw, hyd yn bresennol, mi a lafuriais yn ddibaid, fel y dygwn eneidiau i edifeirwch; fel y dygwn hwynt i brofi y llawenydd mawr a brofais i, fel y gallent hwythau hefyd gael eu geni o Dduw, a’u llanw â’r Ysbryd Glân. Ië, ac yn awr, wele, O fy mab, yr Arglwydd a rydd i mi lawenydd mawr iawn yn ffrwyth fy llafur; canys trwy y gair a gyfranodd efe i mi, y mae llawer wedi eu geni o Dduw, ac wedi profi megys y profais innau, ac wedi gweled lygad yn llygad, megys y gwelais innau; am hyny, hwy a wyddant am y pethau hyn, am ba rai y llefarais, megys y gwn innau; ac y mae’r wybodaeth sydd genyf fi, o Dduw. Ac mi a gynnaliwyd mewn treialon a thrafferthion o bob math, ïe, ac mewn pob math o gystuddiau; ïe, Duw a’m gwaredodd o garchar, ac o rwymau, ac o farwolaeth; ïe, ac yr wyf yn gosod fy ymddiried ynddo, ac efe a’m gwareda etto; ac mi a wn yr adgyfoda fi yn y dydd diweddaf, i breswylio gydag ef mewn gogoniant; ïe, ac mi a’i molaf yn dragywydd, canys efe a ddygodd ein tadau allan o’r Aifft, ac a lyncodd yr Aifftiaid yn y môr coch; ac efe a’u harweiniodd hwynt trwy ei allu i wlad yr addewid; ïe, ac mi a’i molaf yn dragywydd, canys efe a ddygodd ein tadau allan o’r Aifft, ac a lyncodd yr Aifftiaid yn y môr coch; ac efe a’u harweiniodd hwynt trwy ei allu i wlad yr addewid; ïe, a gwaredodd hwynt o gaethiwed, o amser i amser; ïe, a dygodd hefyd ein tadau ninnau allan o Jerusalem; ac hefyd, trwy ei allu tragywyddol, gwaredodd hwynt o gaethiwed, o amser i amser, hyd y dydd presennol; ac mi a gedwais eu caethiwed o hyd mewn cof: ïe, a dylit tithau hefyd gadw eu caethiwed mewn cof, megys y gwnaethym innau. Eithr, wele, fy mab, nid hyn yw’r cyfan; canys ti a ddylit wybod, megys y gwn innau, os cedwi orchymynion Duw, y llwyddi yn y tir; a dylit wybod hefyd, os na chedwi orchymynion Duw, y torir di ymaith o’i bresennoldeb. Yn awr, y mae hyn yn ol ei air ef.
Ac yn awr, fy mab Helaman, yr wyf yn gorchymyn i ti gymmeryd y cof-lyfrau a ymddiriedwyd i mi; ac yr wyf yn gorchymyn i ti hefyd gadw hanes am y bobl hyn, megys ag y gwnaethym innau, ar lafnau Nephi, a chadw yr holl bethau hyn yn gyssegredig, megys y cedwais innau hwynt: canys i ddyben doeth y cedwir hwynt; a’r llafnau pres hyn y rhai a gynnwysant y cerfiadau hyn, ag sydd â chof-ysgrifau yr ysgrythyrau santaidd arnynt, lle y mae achyddiaeth ein cyndadau, hyd y nod o’r dechreuad. Ac wele, prophwydwyd gan ein tadau y cawsent eu cadw a’u trosglwyddo i waered o un genedlaeth i’r llall, a’u cadw a’u diogelu gan law yr Arglwydd, hyd nes y caent fyned at bob cenedl, llwyth, iaith, a phobl, fel y caffent wybod am y dirgelion a gynnwysir ynddynt. Ac yn awr, wele, os cedwir hwynt, mae yn rhaid iddynt ddal yn eu dysclaerdeb; ïe, a hwy a ddaliant yn eu dysclaerdeb; ïe, ac hefyd yr holl lafnau a gynnwysant ysgrifen santaidd. Yn awr, gelli di dybied mai ffolineb yw hyn ynof fi; eithr, wele meddaf wrthyt, trwy bethau bychain a syml, y dygir pethau mawrion oddiamgylch; ac y mae offerynau bychain mewn llawer o enghreifftiau, yn dyrysu y doethion. Ac y mae yr Arglwydd Dduw yn gweithio trwy offerynau er dwyn oddiamgylch ei ddybenion mawrion a thragywyddol; a thrwy offerynau bychaihn iawn y mae yr Arglwydd yn dyrysu y doethion, ac yn dwyn oddiamgylch iachawdwriaeth llawer o eneidiau. Ac yn awr, bu hyd yma yn ddoethineb yn Nuw, fod y pethau hyn yn cael eu cadw: canys wele, y maent wedi ychwanegu cof y bobl hyn, ïe, ac argyhoeddi llawer o gyfeilorni eu ffyrdd, a’u dwyn i wybodaeth o’u Duw, er iachawdwriaeth eu heneidiau. Ië, meddaf wrthyt, oni buasai y pethau hyn a gynnwysa y cofysgrifau yma, y rhai ydynt ar y llafnau hyn, ni allai Ammon a’i frodyr argyhoeddi cynnifer o filoedd o’r Lamaniaid, o draddodiad anghywir eu tadau; ïe, y cof-ysgrifau hyn a’u geiriau hwy, a’u dygodd i edifeirwch; hyny yw, dygasant hwynt i wybodaeth o’r Arglwydd eu Duw, ac i orfoleddu yn Iesu Grist, eu Gwaredwr. A phwy a ŵyr na fyddant yn foddion i ddwyn miloedd lawer o honynt hwy, ïe, ac hefyd filoedd lawer o’n brodyr gwargaled, y Nephiaid, y rhai yn awr a ymgaledant eu calonau mewn pechod ac anwiredd, yn erbyn gwybodaeth o’u Gwaredwr? Yn awr, nid yw y dirgelion hyn etto wedi eu hysbysu i mi yn gyflawn; am hyny, ymattaliaf. A gall fod yn ddigon, os dywedaf yn unig, eu bod wedi eu cadw er dyben doeth, yr hwn ddyben sydd hysbys i Dduw; canys efe a gynghora mewn doethineb dros ei holl weithredoedd, a’i lwybrau ef ydynt uniawn, a’i yrfa yn un cylchdro tragywyddol. O cofia, cofia, fy mab Helaman, pa mor gaeth yw gorchymynion Duw. Ac efe a ddywedodd, Os cedwi fy ngorchymynion i, ti a lwyddi yn y tir; eithr os na chedwi ei orchymynion, ti a dorir ymaith o’i bresennoldeb. Ac yn awr, cofia, fy mab, fod Duw wedi ymddiried y pethau hyn i ti, y rhai ydynt gyssegredig, y rhai a gadwodd efe yn gyssegredig, a’r rhai hefyd a gadwa ac a ddiogela efe i ddyben doeth ynddo ef, fel y dangoso ei allu i genedlaethau dyfodol.
Ac yn awr, wele yr wyf yn mynegi wrthyt trwy ysbryd y brophwydoliaeth, os troseddi di orchymynion Duw, wele, y pethau hyn ag ydynt santaidd, a gymmerir ymaith oddiwrthyt trwy allu Duw, a thithau a draddodir i satan, fel y nithio di fel us o flaen y gwynt; eithr os cedwi orchymynion Duw, a gwneuthur y pethau hyn ag ydynt yn santaidd, yn ol yr hyn a orchymyno yr Arglwydd i ti (canys rhaid i ti apelio at yr Arglwydd ynghylch pob peth pa bynag a raid i ti wneuthur o honynt), wele, nis gall gallu daear nac uffern eu cymmeryd oddiwrthyt, canys y mae Duw yn abl cyflawni ei holl eiriau; canys efe a gyflawna ei holl addewidion, y rhai a wna i ti, oblegid cyflawnodd ei addewidion y rhai a wnaeth i’n tadau. Canys efe a addawodd iddynt hwy y cadwai y pethau hyn i ddyben doeth ynddo ef, fel y dangosai ei allu i genedlaethau dyfodol.
Ac yn awr, wele, y mae wedi cyflawni un dyben, sef adferiad miloedd lawer o’r Lamaniaid i wybodaeth o’r gwirionedd; ac y mae wedi dangos ei allu ynddynt, ac hefyd dangosa etto ei allu ynddynt, i genedlaethau dyfodol; am hyny, hwy a gedwir; o ganlyniad, yr wyf yn gorchymyn i ti, fy mab Helaman, i fod yn ddiwyd i gyflawni fy holl eiriau, a bod yn ddiwyd i gadw gorchymynion Duw, fel y maent yn ysgrifenedig.
Ac yn awr, mi a lefaraf wrthyt ynghylch y pedwar llafn ar hugain hyny, am i ti eu cadw, fel y byddo i ddirgelion a gweithredoedd y tywyllwch, a’u gweithredoedd dirgel, neu weithredoedd dirgel y bobl hyny a ddinystriwyd, gael eu hamlygu i’r bobl hyn; ïe, fel y byddo i’w holl lofruddiaethau, a’u lladrad, a’u hyspeiliadau, a’u holl ddrygioni a’u ffeidd-dra, gael eu hamlygu i’r bobl hyn; ïe, a chadw y cyfarwyddwyr hyn. Canys wele, yr Arglwydd a ganfyddodd fod ei bobl yn dechreu gweithio mewn tywyllwch, ïe, yn cyflawni llofruddiaethau dirgel a ffieidd-dra; am hyny, yr Arglwydd a ddywedodd, os na edifarhaent, y caent eu dinystrio oddiar wyneb y ddaear. A’r Arglwydd a ddywedodd, Mi a barotoaf i’m gwas Gazelem, gareg, yr hon a lewyrcha mewn tywyllwch i oleuni, fel yr amlygwyf i’m pobl pwy a’m gwasanaetha i, fel yr amlygwyf iddynt weithredoedd eu brodyr; ïe, eu gweithredoedd dirgel, eu gweithredoedd o dywyllwch, a’u drygioni, a’u ffieidd-dra. Ac yn awr, fy mab, parotowyd y cyfarwyddwyr hyn, fel y cyflawnid gair Duw, yr hwn a lefarodd, gan ddywedyd, Mi a ddygaf allan o dywyllwch i oleuni, eu holl weithredoedd dirgel a’u ffieidd-dra; ac oddieithr iddynt edifarhau, mi a’u dinystriaf oddiar wyneb y ddaear; a dygaf i oleuni, eu holl weithredoedd dirgel a’u ffieidd-dra; ac oddieithr iddynt edifarhau, mi a’u dinystriaf oddiar wyneb y ddaear; a dygaf i oleuni eu holl ddirgelion a’u ffieidd-dra, i bob cenedl ar ol hyn a etifeddant y tir. Ac yn awr, fy mab, gwelwn na edifarasant; am hyny, dinystriwyd hwynt, a chan belled â hyny cyflawnwyd gair Duw; ïe, eu dirgel ffieidd-dra a ddygwyd allan o dywyllwch, ac a amlygwyd i ni.
Ac yn awr, fy mab, yr wyf yn gorchymyn i ti gadw eu holl lwon, a’u cyfammodau, a’u cytundebau yn eu dirgel ffieidd-dra; ïe, eu holl arwyddion a’u rhyfeddodau a gedwi oddiwrth y bobl hyn, fel na wybyddont hwynt, rhag iddynt hwythau, ysgatfydd, syrthio i dywyllwch hefyd, a chael eu dinystrio. Canys wele, y mae melldith ar yr holl dir hwn, a daw dinystr ar yr holl rai hyny a weithredant dywyllwch, yn ol gallu Duw, pan y maent yn llwyr addfed; am hyny, yr wyf yn dymuno na chaffo y bobl hyn eu dinystrio. Am hyny, cadwa y cynlluniau dirgel hyn o’u llwon a’u cyfammodau oddiwrth y bobl hyn, a dim ond eu drygioni, a’u llofruddiaethau, a’u ffieidd-dra, a amlygi iddynt; a dysg hwynt i ffieiddio y fath ddrygioni, a ffieidd-dra, a llofruddiaethau; a dysg hwynt hefyd i’r bobl hyn gael eu dinystrio o herwydd eu drygioni a’u ffieidd-dra, a’u llofruddiaethau. Canys wele, lladdasant holl weision yr Arglwydd, y rhai a ddaethant i’w plith i fynegi wrthynt am eu hanwireddau; a gwaed y rhai a laddasant, a waeddodd ar yr Arglwydd eu Duw, am ymddial ar y rhai ag oedd wedi eu lladd hwynt: ac felly y daeth barnedigaethau Duw ar y rhai hyn a weithredant dywyllwch a dirgel gydfwriadau; ïe, a melldigedig fyddo y tir yn dragywydd i’r rhai hyny a weithredant dywyllwch a dirgel gydfwriadau, hyd at eu dinystrio, os na edifarhant cyn y byddont yn llwyr addfed.
Ac yn awr, fy mab, cofia y geiriau a lefarais wrthyt: nac ymddiried y dirgel gynlluniau hyny i’r bobl hyn, eithr dysg iddynt gasineb bythol yn erbyn pechod ac anwiredd; pregetha iddynt edifeirwch, a ffydd yn yr Arglwydd Iesu Grist; dysg hwynt i ymostwng, a bod yn addfwyn a gostyngedig o galon; dysg hwynt i wrthsefyll pob temtasiwn o eiddo y diafol, â’u ffydd yn yr Arglwydd Iesu Grist; dysg hwynt i beidio diogi byth mewn gweithredoedd da, eithr bod yn addfwyn a gostyngedig o galon: canys y cyfryw a gant orphwysdra i’w heneidiau. O cofia, fy mab, a dysg ddoethineb yn dy ieuenctyd: ïe, dysg yn dy ieuenctyd i gadw gorchymynion Duw; ïe, a galw ar Dduw am dy holl gymhorth; ïe, bydded dy holl weithredoedd i’r Arglwydd, a pha le bynag yr elych, bydded yn yr Arglwydd; ïe, bydded i’th feddyliau gael eu cyfeirio at yr Arglwydd; ïe, bydded i serchiadau dy galon gael eu rhoi ar yr Arglwydd, yn dragywydd; ymgynghora â’r Arglwydd, yn dy holl gyflawniadau, ac efe a’th gyfarwydda er daioni; ïe, pan orweddi i lawr yn y nos, gorwedd i’r Arglwydd, fel y gwylio drosot yn dy gwsg; a phan gyfodi yn y boreu, bydded dy galon yn llawn o ddiolchgarwch i Dduw: ac os gwnai y pethau hyn, ti a ddyrchafir yn y dydd diweddaf. Ac yn awr, fy mab, y mae genyf rywfaint i ddywedyd ynghylch y peth a alwai ein tadau yn belen, neu gyfarwyddydd; canys ein tadau a’i galwai yn liahona, yr hyn o’i gyfieithu yw cwmpas; a’r Arglwydd a’i parotodd. Ac wele, nis gall un dyn weithio yr un modd waith mor gywrain. Ac wele, yr oedd wedi ei barotoi er dangos i’n tadau pa ffordd y teithient yn yr anialwch; ac yr oedd yn gweithio iddynt yn ol eu ffydd yn Nuw; am hyny, os buasai ganddynt ffydd i gredu yr achosai Duw i’r gwerthydon hyny gyfeirio y ffordd y dylent fyned, wele, cawsai ei wneuthur; am hyny hwy a gawsant y wyrth hon, ac hefyd lawer o wyrthiau ereill wedi eu cyflawni trwy allu Duw, ddydd ar ol dydd; ac er fod y gwyrthiau hyn yn cael eu gwneuthur trwy offerynau bychain, etto yr oedd yn dangos iddynt hwy weithredoedd rhyfeddol. Yr oeddynt hwy yn ddiog, ac anghofiasant ymarferyd eu ffydd a’u diwydrwydd, yna pallodd y gweithredoedd rhyfeddol hyny, ac nis gallent hwy fyned rhagddynt ar eu taith; am hyny, hwy a arosasant yn yr anialwch, neu ni theithiasant mewn cyfeiriad cywir, ac a gystuddiwyd gan newyn a syched, o herwydd eu troseddiadau.
Ac yn awr, fy mab, mi a ewyllysiwn i ti ddeall, nad yw y pethau hyn heb gysgod iddynt; canys o herwydd fod ein tadau yn ddiog i sylwi ar y cwmpas hwn (yn awr, yr oedd y pethau hyn yn dymmorol), ni lwyddasant; felly hefyd y mae gyda phethau ysbrydol. Canys, wele, y mae mor hawdd i dalu sylw i air Crist, yr hwn a gyfeiria i ti ffordd uniawn i ddedwyddwch tragywyddol, ag oedd i’n tadau dalu sylw i’r cwmpas yma, yr hwn a gyfeiriai iddynt hwy ffordd uniawn i wlad yr addewid. Ac yn awr, meddaf, ai nid oes cysgod yn y peth hwn? Canys mor sicr ag i’r cyfarwyddydd hyn ddwyn ein tadau, trwy ddilyn ei gyfeiriad, i wlad yr addewid, y bydd i eiriau Crist, os dilynwn eu cyfeiriad, ein dwyn ninnau tu draw i’r dyffryn tristwch hwn, i wlad addawedig lawer gwell.
O, fy mab, na fydded ein bod yn ddiog, o herwydd rhwyddineb y ffordd; canys felly yr oedd gyda’n tadau; canys felly y parotowyd iddynt hwy, fel os edrychent, y gallent fyw; felly hefyd y mae gyda ninnau. Mae y ffordd wedi ei pharotoi, ac os bydd i ni edrych, gallwn fyw yn dragywydd. Ac yn awr, fy mab, edrych dy fod yn cymmeryd gofal o’r pethau santaidd hyn; ïe, gwel dy fod yn edrych at Dduw, a byw. Dos at y bobl hyn, a thraetha y gair, a bydd sobr. Fy mab, ffarwel.