Scriptures
3 Nephi 3


Pennod Ⅲ.

Ac yn awr, dygwyddodd i bobl y Nephiaid ddychwelyd oll i’w tiroedd eu hunain, yn y chwechfed flwyddyn ar hugain, pob dyn, ynghyd â’i deulu, ei dda a’i ddefaid, ei geffylau a’i anifeiliaid, a phob peth bynag a berthynai iddynt. A dygwyddodd nad oeddynt wedi bwyta eu holl luniaeth; am hyny, cymmerasant ganddynt yr oll nad oeddynt wedi ei ddifa, o’u holl ŷd o bob math, a’u haur, a’u harian, a’u holl bethau gwerthfawr, a hwy a ddychwelasant i’w tiroedd a’u hetifeddiaethau eu hunain, ar y gogledd ac ar y deau, ar y tir gogleddol ac ar y tir deheuol. A hwy a ganiatasant i’r yspeilwyr hyny a ymgyfammodasant i gadw yr heddwch, y cyfryw o’r llu ag a ewyllysient aros yn Lamaniaid, diroedd, yn ol eu rhifedi, fel y gallent, trwy eu llafur, gael rhywbeth i fyw arno; ac felly y sefydlasant heddwch trwy yr holl dir. A hwy a ddechreuasant lwyddo drachefn, a chynnyddu; a’r chwechfed a’r seithfed flwyddyn ar hugain a aethant heibio, ac yr oedd trefn dda yn y tir; ac yr oeddynt wedi cyfansoddi eu cyfreithiau yn ol uniondeb a chyfiawnder. Ac yn awr, nid oedd dim yn yr holl dir, i rwystro y bobl rhag llwyddo yn barhaus, oddieithr iddynt syrthio i drosedd. Ac yn awr, Gidgiddoni, a’r barnwr Lachoneus, a’r rhai a benodwyd yn flaenoriaid, ddarfu sefydlu yr heddwch mawr hwn yn y tir.

A bu i amryw ddinasoedd gael eu hadeiladu o’r newydd, a chafodd amryw hen ddinasoedd eu hadgyweirio; a llawer o brif-ffyrdd eu hagor, a llawer o ffyrdd eu gwneuthur, y rhai a arweinient o ddinas i ddinas, ac o dir i dir, ac o le i le. Ac felly yr aeth yr wythfed flwyddyn ar hugain heibio, a’r bobl a gawsant heddwch gwastadol. Eithr dygwyddodd yn y nawfed flwyddyn ar hugain, ddechreu fod ymddadleu yn mhlith y bobl; ac yr oedd rhai wedi ymddyrchafu mewn balchder ac ymffrost, o herwydd eu dirfawr gyfoeth, ïe, hyd at erlidigaethau mawrion; canys yr oedd llawer o farsiandwyr yn y tir, ac hefyd llawer o gyfreithwyr, a llawer o swyddogion. A’r bobl a ddechreuasant gael eu gwahaniaethu wrth raddau, yn ol eu cyfoeth, a’u cyfleusderau i ddysgu; ïe, yr oedd rhai yn anwybodus o herwydd eu tlodi, ac yr oedd ereill yn derbyn mawr ddysg o herwydd eu cyfoeth; yr oedd rhai wedi ymddyrchafu mewn balchder, ac ereill yn dra gostyngedig; yr oedd rhai a ddychwelent sen am sen, tra y derbyniai ereill sen ac erlidigaeth, a phob math o gystuddiau, ac ni ddychwelent sen drachefn, eithr yr oeddynt yn ostyngedig ac edifeiriol gerbron Duw; ac felly y daeth anghydraddoldeb mawr yn yr holl dir, yn gymmaint ag i’r eglwys ddechreu cael ei rhwygo; ïe, yn gymmaint ag yn y ddegfed flwyddyn ar hugain i’r eglwys gael ei rhwygo yn yr holl dir, oddieithr yn mhlith ychydig o’r Lamaniaid, y rhai oeddynt wedi eu dychwelyd i’r wir ffydd; ac ni ymadawsant hwy oddi wrthi, canys yr oeddynt yn gadarn, a diysgog, a diymmod, yn ewyllysgar gyda phob diwydrwydd i gadw gorchymynion yr Arglwydd. Yn awr, yr achos o’r anwiredd hwn o eiddo y bobl, oedd hyn: yr oedd gan satan allu mawr, er cyffroi y bobl i weithredu pob math o anwiredd, a pheri iddynt ymchwyddo mewn balchder, gan eu temtio i geisio am allu, ac awdurdod, a chyfoeth, a gwag-bethau y byd. Ac felly, satan a arweiniodd ymaith galonau y bobl, i weithredu pob math o anwiredd; am hyny ni chawsant fwynhau heddwch ond ychydig o flynyddau. Ac felly yn nechreu y ddegfed flwyddyn ar hugain, yr oedd y bobl, gan fod wedi eu rhoddi i fyny am yspaid hir amser i’w harwain oddiamgylch gan demtasiynau y diafol i ba le bynag y chwennychai efe eu harwain hwynt, ac i weithredu pa anwiredd bynag a ewyllysiai efe iddynt; ac felly yn nechreu y flwyddyn hon, y ddegfed ar hugain, yr oeddynt mewn sefyllfa o ddrygioni enbyd. Yn awr, nid oeddynt yn pechu yn anwybodus, canys hwy a wyddent ewyllys Duw yn eu cylch, oblegid yr oedd wedi eu dysgu iddynt; am hyny, hwy a wrthryfelent yn wirfoddol yn erbyn Duw. Ac yn awr, yr oedd hyn yn nyddiau Lachoneus, mab Lachoneus, canys Lachoneus oedd yn llanw gorsedd ei dad ac yn llywodraethu y bobl y flwyddyn hono. A dechreuodd fod dynion wedi eu hysbrydoli o’r nef, a’u danfon allan i sefyll yn mhlith y bobl yn yr holl dir, gan bregethu a thystiolaethu yn eofn am bechodau ac anwireddau y bobl, a thystiolaethu wrthynt ynghylch y brynedigaeth a wnai yr Arglwydd dros ei bobl; neu, mewn geiriau ereill, adgyfodiad Crist; a hwy a dystiolaethasant yn eofn am ei farwolaeth a’i ddyoddefiadau. Yn awr, yr oedd llawer o’r bobl yn dra digllawn, oblegid y rhai a dystiolaethent am y pethau hyn; a’r rhai ag oedd yn ddigllawn, oeddynt yn benaf y prif farnwyr, a’r rhai a fuont yn archoffeiriaid a chyfreithwyr, ïe, yr oedd yr holl rai hyny ag oeddynt gyfreithwyr yn ddigllawn wrth y rhai a dystiolaethent am y pethau hyn. Yn awr, nid oedd un cyfreithiwr, na barnwr, nac archoffeiriad, a allai gael awdurdod i gondemnio neb i farwolaeth, oddieithr i’w condemniad gael ei arwyddo gan lywodraethwr y tir. Yn awr, yr oedd llawer o’r rhai a dystiolaethent am y pethau perthynol i Grist, y rhai a dystiolaethent yn eofn, yn cael eu cymmeryd a’u gosod i farwolaeth yn ddirgelaidd gan y barnwyr, fel na ddeuai gwybodaeth am eu marwolaeth i lywodraethwr y tir, hyd nes ar ol eu marwolaeth. Yn awr, wele, yr oedd hyn yn groes i gyfreithiau y tir, fod un dyn yn cael ei osod i farwolaeth, oddieithr eu bod yn cael awdurdod oddiwrth lywodraethwr tir; am hyny daeth achwyniad i fyny i dir Zarahemla, at lywodraethwr y tir, yn erbyn y barnwyr hyn ag oeddynt wedi condemnio prophwydi yr Arglwydd i farwolaeth, heb fod yn ol y gyfraith.

Yn awr, dygwyddodd iddynt hwy gael eu dal a’u dwyn gerbron y barnwr, i gael eu barnu am y trosedd a gyflawnasant, yn ol y gyfraith a roddwyd gan y bobl. Yn awr, dygwyddodd fod gan y barnwyr hyny lawer o gyfeillion a pherthynasay: a’r gweddill, ïe, sef yn agos yr holl gyfreithwyr a’r archoffeiriaid, a ymgynnullasant ynghyd, ac a ymunasant â pherthynasau y barnwyr hyny ag oeddynt i gael eu profi yn ol y gyfraith; a hwy a wnaethant gyfammod â’u gilydd, ïe, sef y cyfammod hwnw a roddwyd gan y rhai hyny gynt, yr hwn gyfammod a roddwyd ac a weinyddwyd gan y diafol, i gydumo yn erbyn pob cyfiawnder; am hyny hwy a gydunasant yn erbyn pobl yr Arglwydd, ac a wnaethant gyfammod i’w dyfetha hwynt, a gwaredu y rhai ag oeddynt yn euog o lofruddiaeth o grafangau cyfiawnder, yr hyn oedd ar gael ei weinyddu yn ol y gyfraith.A hwy a herient y gyfraith ac iawnderau eu gwlad; ac ymgyfammodasant y naill â’r llall, i ddyfetha y llywodraethwr, a sefydlu brenin dros y tir, fel na fyddai y tir mwyach wrth ryddid, eithr yn ddarostyngedig i freninoedd. Yn awr, wele, mi a ddangosaf i chwi na sefydlasant hwy frenin dros y tir; eithr yn yr un flwyddyn hon, ïe, y ddegfed fiwyddyn ar hugain, darfu iddynt ddyfetha ar yr orsedd farnol, ïe, llofruddio prif farnwr y tir. Ac yr oedd y bobl wedi ymranu, y naill yn erbyn y llall; a darfu iddynt ymwahanu y naill oddiwrth y llall, i lwythau, pob dyn yn ol ei deulu, a’i berthynasau, a’i gyfeillion; ac felly y dystrywiasant lywodraeth y tir. A phob llwyth a benododd benaeth, neu flaenor arnynt; ac felly y daethant yn llwythau ac yn flaenoriaid llwythau. Yn awr, wele, nid oedd un dyn yn eu mysg, heb fod ganddo deulu mawr a llawer o berthynasau a chyfeillion; am hyny, eu llwythau a ddaethant yn fawrion iawn. Yn awr, cafodd hyn oll ei wneuthur, ac ni fu rhyfeloedd etto yn eu plith hwynt; a’r holl anwiredd hwn a ddaeth ar y bobl, oblegid iddynt ymollwng i awdurdod satan; a rheolau y llywodraeth a ddystrywiwyd, oblegid cydfwriad dirgelaidd cyfeillion a pherthynasau y rhai hyny a lofruddiasant y prophwydi. A hwy a achosasant amrafael mawr yn y tir, yn gymmaint ag nad oedd yn y rhan fwyaf cyfiawn o’r bobl, er eu bod agos oll wedi myned yn ddrygionus; ïe, nad oedd ond ychydig o ddynion cyfiawn yn eu mysg hwynt. Ac felly nid aeth chwech mlynedd heibio, cyn bod y rhan fwyaf o’r bobl wedi troi oddiwrth eu cyfiawnder, megys y ci at ei chwydiad, neu megys yr hwch at eu hymdreiglfa yn y dom. Yn awr, y cyfundeb dirgelaidd hwn ag oedd wedi dwyn anwiredd mor fawr ar y bobl, a ymgynnullasant ynghyd, ac a osodasant yn ben arnynt, ddyn yr hwn a alwent Jacob; a hwy a’i galwasant ef eu brenin; o ganlyniad, efe a ddaeth yn frenin ar y llu drygionus hwn; ac yr oedd efe yn un o’r penaf ag oedd wedi rhoddi ei lais yn erbyn y prophwydi a dystiolaethent am Iesu. A bu nad oeddynt mor gryf mewn rhifedi â’r llwythau o’r bobl ag oeddynt wedi ymuno ynghyd, ond fod eu blaenoriaid yn sefydlu eu cyfreithiau, pob un yn ol ei lwyth; etto yr oeddynt yn elynion, er nad oeddynt yn bobl gyfiawn; er hyny, yr oeddynt yn unol yn eu casineb tuag at y rhai oeddynt wedi ymgyfammodi i ddystrywio y llywodraeth; am hyny, Jacob, gan weled fod eu gelynion yn fwy lliosog nâ hwy, gan mai efe oedd brenin y llu, a orchymynodd i’w bobl ffoi i’r rhanau mwyaf gogleddol o’r tir, ac yno adeiladu iddynt eu hunain deyrnas, hyd nes yr ymunai ymneillduwyr â hwynt (canys efe a wenieithodd wrthynt y buasai llawer o ymneillduwyr), ac y deuent yn ddigon cryfion i ymladd â llwythau y bobl. A hwy a wnaethant felly; ac mor gyflym oedd eu cychwyniad, fel nas gellid ei rwystro, hyd nes yr oeddynt wedi myned allan o gyrhaedd y bobl. Ac felly y terfynodd y ddegfed flwyddyn ar hugain: ac felly yr oedd achosion pobl Nephi.

A bu yn yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain, eu bod hwy wedi rhanu yn llwythau, pob dyn yn ol ei deulu, perthynasau, a chyfeillion; er hyny, yr oeddynt wedi dyfod i gytundeb nad elent i ryfel â’r naill y llall; eithr nid oeddynt yn unol o ran eu cyfreithiau, a’u dull o lywodraeth, canys yr oeddynt wedi eu sefydlu yn ol meddyliau y rhai hyny ag oeddynt eu penaethiaid a’u blaenoriaid. Eithr hwy a sefydlasant gyfreithiau caeth iawn, na chai un llwyth droseddu yn erbyn y llall, yn gymmaint ag iddynt i ryw radd gael heddwch yn y tir; er hyny, eu calonau a drowyd oddiwrth yr Arglwydd eu Duw; a hwy a labyddiasant y prophwydi, ac a’u bwriasant hwynt allan o’u mysg.

A bu i Nephi, wedi ymweled ag ef gan angylion, ac hefyd â llais yr Arglwydd, a chan fod wedi gweled angylion, ac yn llygad-dyst, ac wedi derbyn gallu fel y medrai wybod ynghylch gweinidogaeth Crist, a chan fod hefyd yn llygad-dyst o’u dychweliad buan hwy oddiwrth gyfiawnder at eu drygioni a’u ffieidd-dra; o ganlyniad, gan fod yn ofidus oblegid caledwch eu calonau, a dallineb eu meddyliau, efe a aeth allan i’w mysg hwynt yn y flwyddyn hono, ac a ddechreuodd dystiolaethu yn eofn am edifeirwch a maddeuant pechodau trwy ffydd yn yr Arglwydd Iesu Grist. Ac efe a weinyddodd lawer o bethau iddynt; ac nis gall yr oll o honynt gael eu hysgrifenu, ac ni wnelai rhan o honynt y tro, am hyny ni ysgrifenir hwynt yn y llyfr hwn. A Nephi a weinidogaethodd iddynt gyda gallu ac awdurdod mawr.

A bu iddynt fod yn ddigllawn wrtho, ïe, am fod ganddo ef fwy o allu nâ hwy, canys nid oedd yn bosibl y gallent annghredu ei eiriau, oblegid yr oedd ei ffydd mor fawr yn yr Arglwydd Iesu Grist, fel yr oedd angylion yn gweinyddu iddo yn feunyddiol; ac yn enw Iesu y bwriai allan gythreuliaid ac ysbrydion aflan; ac efe a gyfododd ei frawd o farw, ar ol iddo gael ei labyddio a dyoddef marwolaeth gan y bobl; a’r bobl a welsant hyny, ac a dystiolaethasant am dano, ac yr oeddynt yn ddigllawn wrtho, oblegid ei allu; ac efe a wnaeth hefyd lawer o wyrthiau yn ychwanegol, yn ngolwg y bobl, yn enw Iesu.

A bu i’r unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain fyned heibio, ac nid oedd ond ychydig wedi eu dychwelyd at yr Arglwydd; eithr cynnifer ag a ddychwelwyd, a draethasant yn wirioneddol wrth y bobl iddynt dderbyn ymweliad oddiwrth allu ac ysbryd Duw, yr hwn oedd yn Iesu Grist, yn yr hwn y credent. A chynnifer ag y bwriwyd cythreuliaid allan o honynt, ac a iachawyd o’u hafiechyd a’u gwendidau, a wir amlygent i’r bobl yr hyn a weithredwyd arnynt gan ysbryd Duw, a’r iechyd a dderbyniasant; a hwythau a ddangosasant arwyddion hefyd, ac a wnaethant rai gwyrthiau yn mhlith y bobl.

Felly hefyd yr aeth heibio y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain. A Nephi a waeddodd ar y bobl yn nechreu y drydedd flwyddyn ar ddeg; ac efe a bregethodd iddynt edifeirwch a maddeuant pechodau. Yn awr, mi a fynwn i chwi gofio hefyd, nad oedd neb ag a ddygwyd i edifeirwch, na fedyddiwyd â dwfr; gan hyny, yr oedd Nephi wedi ordeinio dynion i’r weinidogaeth hon, fel y gallai pawb a ddeuent atynt hwy, gael eu bedyddio â dwfr, a hyn fel tystiolaeth gerbron Duw, ac o flaen y bobl, eu bod wedi edifarhau a derbyn maddeuant o’u pechodau. Ac yr oedd llawer yn nechreu y flwyddyn hon, y rhai a gawsant eu bedyddio i edifeirwch; ac felly yr aeth heibio y rhan fwyaf o’r flwyddyn.