Pennod ⅩⅡ.
Ac yn awr, nis gellir ysgrifenu yn y llyfr hwn, ddim o’r ganfed ran o’r pethau a ddysgodd yr Iesu wrth y bobl; eithr wele, y mae llafnau Nephi yn cynnwys y rhan gwyaf o’r pethau a ddysgodd efe i’r bobl; a’r pethau hyn a ysgrifenais i, y rhai ydynt y rhan leiaf o’r pethau a ddysgodd efe i’r bobl; ac mi a’u hysgrifenais hwynt i’r dyben iddynt gael eu dwyn drachefn i’r bobl hyn, oddiwrth y Cenedloedd, yn ol y geiriau a lefarodd yr Iesu. Ac wedi iddynt hwy dderbyn hyn, ag sydd yn anghenrheidiol iddynt gael yn gyntaf, i brofi eu ffydd; ac os dygwydda y credant y pethau hyn, yna yr eglurir pethau mwy iddynt. Ac os dygwydda na chredant y pethau hyn, yna y cedwir y pethau mwyaf rhagddynt, er eu condemniad. Wele, yr oeddwn i ar fedr ysgrifenu yr oll ag oedd wedi ei gerfio ar lafnau Nephi, eithr yr Arglwydd a’i gwaharddodd, gan ddywedyd, Mi a brofaf ffydd fy mhobl; am hyny, yr wyf fi, Mormon, yn ysgrifenu y pethau a orchymynwyd i mi gan yr Arglwydd. Ac yn awr, yr wyf fi, Mormon, yn gorphen fy ngeiriau, ac yn myned rhagof i ysgrifenu y pethau a orchymynwyd i mi; am hyny, mi a fynwn i chwi weled ddarfod i’r Arglwydd yn ddiau ddysgu y bobl, am yspaid tri diwrnod; ac ar ol hyny, efe a ddangosodd ei hun iddynt yn fynych, ac a dorodd fara yn fynych, ac a’i bendithiodd, ac a’i rhoddodd iddynt.
A bu iddo ef ddysgu a gweinidogaethu i blant y dyrfa, am y rhai y llefarwyd, a rhyddhaodd eu tafodau, a hwy a lefarasant wrth eu tadau bethau mawrion a rhyfedd, ïe, mwy nag a ddadguddiodd efe i’r bobl, a rhyddhaodd eu tafodau fel y traethent. A dygwyddodd ar ol iddo esgyn i’r nef yr ail waith y dangosodd ei hun iddynt, ac ar ol iddo fyned at y Tad, wedi gwellhau eu holl gleifion, a’u cloffion, ac agor llygad eu deillion, a chlustiau eu byddariaid, ac wedi gwneuthur pob math o welliadau yn eu mysg hwynt, ac wedi cyfodi dyn oddiwrth y meirw, ac wedi dangos ei allu iddynt, ac wedi esgyn at y Tad, wele, dygwyddodd ddranoeth, fod y dyrfa wedi ymgasglu ynghyd, a hwy a selsant ac a glywsant y plant bychain hyn; ïe, hyd y nod babanod a agorasent eu geneuau, ac a draethent bethau rhyfedd; ac yr oedd y pethau a draethent yn waharddedig, fel na chai neb eu hysgrifenu. A bu i’r dyscyblion a ddewisodd yr Iesu, ddechreu o’r pryd hwnw fedyddio a dysgu cynnifer ag a ddeuent atynt; a chynnifer ag a fedyddid yn enw yr Iesu, a lenwid a’r Ysbryd Glan. A llawer o honynt a welsant ac a glywsant bethau annhraethadwy, y rhai nid yw gyfreithlawn eu hysgrifenu; a hwy a ddysgasant, ac a weiniasant i’w gilydd; ac yr oedd pob peth ganddynt yn gyffredin, pob dyn yn ymddwyn yn gyfiawn, y naill at y llall. A bu iddynt wneuthur pob peth, megys y gorchymynodd yr Iesu iddynt. A’r rhai a fedyddiwyd yn enw yr Iesu, a alwyd yn Eglwys Crist.
A dygwyddodd fel yr oedd dyscyblion yr Iesu yn teithio ac yn pregethu y pethau a glywsant ac a welsant, ac yn bedyddio yn enw yr Iesu, iddynt fod wedi ymgasglu ynghyd, ac yn un mewn gweddi alluog ac ympryd. A’r Iesu a ymddangosodd iddynt drachefn, canys yr oeddynt yn gweddio ar y Tad, yn ei enw; a’r Iesu a ddaeth ac a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Pa beth a ewyllysiwch i mi ei roddi i chwi? a hwythau a ddywedasant, Arglwydd, ewyllysiwn i ti fynegi yr enw wrth ba un y galwn yr eglwys hon; canys y mae dadleuon yn mhlith y bobl ynghylch y mater hwn. A’r Arglwydd a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, paham y mae’r bobl yn grwgnach ac ymddadleu o herwydd y peth hwn? Ai nid ydynt wedi darllen yr ysgrythyrau, y rhai a ddywedant y rhaid i chwi gymmeryd arnoch enw Crist, yr hwn yw fy enw i? Canys wrth yr enw hwn y gelwir chwi yn y dydd diweddaf; a phwy bynag sydd yn cymmeryd arno fy enw i, ac yn parhau hyd y diwedd, a fydd cadwedig yn y dydd diweddaf; am hyny, pa beth bynag a wnewch, gwnewch ef yn fy enw i; am hyny, chwi a gewch alw yr eglwys ar fy enw i; a chwi a gewch alw ar y Tad yn fy enw i, am iddo fendithio yr eglwys er fy mwyn; a pha fodd y mae yn eglwys i mi, oni elwir hi ar fy enw? Canys os gelwir eglwys ar enw Moses, yna eglwys Moses fydd; neu os gelwir hi ar enw dyn, yna eglwys dyn fydd; eithr os gelwir hi ar fy enw i, yna fy eglwys i ydyw, os ydynt wedi adeiladu ar fy efengyl. Yn wir, meddaf i chwi, yr ydych chwi wedi eich adeiladu ar fy efengyl; am hyny, chwi a gewch alw pa bethau bynag a alwch, yn fy enw i; am hyny, os galwch ar y Tad, dros yr eglwys, os bydd yn fy enw i, y Tad a’ch clyw chwi; ac os bydd yr eglwys wedi ei hadeiladu ar fy efengyl, yna y Tad a ddengys ei weithredoedd ei hun ynddi; eithr os na fydd wedi ei hadeiladu ar fy efengyl, ac wedi ei hadeiladu ar weithredoedd dyn, neu ar weithredoedd y diafol, yn wir, meddaf i chwi, y maent yn cael llawenydd yn eu gweithredoedd dros dymmor, a maes o law mae y diwedd yn dyfod, a hwy a dorir i lawr ac a fwrir i’r tân, o ba le nid oes dychweliad; canys y mae eu gweithredoedd yn eu canlyn hwynt, canys oblegid eu gweithredoedd y torir hwynt i lawr; am hyny, cofiwch y pethau a fynegais i chwi. Wele, mi a roddais i chwi fy efengyl, a hyn yw yr efengyi a roddais i chwi, i mi ddyfod i’r byd i wneuthur ewyllys fy Nhad, o herwydd i’m Tad fy nanfon; a’m Tad a’m danfonodd fel y cawn fy nyrchafu ar y groes; ac ar ol i mi gael fy nyrchafu ar y groes, y gallwn dynu pawb ataf; ac megys ag y dyrchafwyd fi gan ddynion, felly hefyd y dyrchefir dynion gan y Tad, i sefyll ger fy mron i, i gael eu barnu am eu gweithredoedd, pa un bynag a fyddont ai da neu ddrwg; ac i’r dyben yma y dyrchafwyd fi; am hyny, yn ol gallu y Tad, mi a dynaf bawb ataf, fel y barner hwynt yn ol eu gweithredoedd. A bydd, pwy bynag a edifarhao ac a fedyddier yn fy enw i, a lenwir; ac os parha hyd y diwedd, wele, efe a fydd ddieuog gerbron fy Nhad, yn y dydd y safaf i farnu y byd. A’r hwn ni pharhao hyd y diwedd, efe yw yr hwn a dorir i lawr ac a fwrir i’r tân, o ba le ni fydd dychweliad mwyach, o herwydd cyfiawnder y Tad; ac hwn yw y gair a roddodd efe i blant dynion. Ac i’r dyben yma y cyflawnodd efe y geiriau a roddodd, ac nid yw yn dywedyd celwydd, eithr yn cyflawni ei holl eiriau; ac nis gall dim aflan fyned i mewn i’w deyrnas; am hyny, nid oes dim yn myned i mewn i’w orphwysfa ef, ond y rhai a olchasant eu dillad yn fy ngwaed, oblegid eu ffydd, a’u hedifeirwch am eu holl bechodau, a’u ffyddlondeb hyd y diwedd. Yn awr, hwn yw y gorchymyn, Edifarhewch, chwi holl derfynau y ddaear, a deuwch ataf fi, a chymmerwch eich bedyddio yn fy enw, fel y santeiddier chwi trwy dderbyniad yr Ysbryd Glân, fel y safoch yn ddifrycheulyd ger fy mron yn y dydd diweddaf. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, hon yw fy efengyl; a chwi a wyddoch y pethau sydd raid i chwi eu gwneuthur yn fy eglwys; canys y gweithredoedd a welsoch fi yn eu gwneuthur, a gewch chwithau eu gwneuthur hefyd; canys yr hyn a welsoch fi yn ei wneuthur, hyny a gewch chwithau ei wneuthur; am hyny, os gwnewch y pethau hyn, gwyn eich byd, canys chwi a ddyrchefir yn y dydd diweddaf.