Pennod ⅩⅣ.
Clywch, O chwi Genedloedd, a gwrandewch eiriau Iesu Grist, Mab y Duw byw, y rhai y gorchymynodd efe i mi lefaru mewn perthynas i chwi; canys, wele, gorchymynodd i mi ysgrifenu, gan ddywedyd, Trowch, chwi yr holl Genedloedd, oddiwrth eich ffyrdd drygionus, ac edifarhewch am eich gweithredoedd drwg, am eich celwydd a’ch twyll, ac am eich puteindra, ac am eich dirgel ffieidd-dra, a’ch eilun-addoliaeth, a’ch llofruddiaethau, a’ch crefydd-dwyll, a’ch cenfigen, a’ch amrysonau, ac oddiwrth eich holl ddrygioni a’ch ffieidd-dra, a deuwch ataf fi, a chymmerwch eich bedyddio yn fy enw, fel y derbynioch faddeuant o’ch pechodau, ac y llanwer chwi â’r Ysbryd Glân, fel y cyfrifer chwi gyda fy mhobl, y rhai ydynt o dy Israel.