Scriptures
3 Nephi 11


Pennod ⅩⅠ.

Ac yn awr, dygwyddodd ar ol i’r Iesu esbonio yr holl ysgrythyrau yn un, y rhai oeddynt wedi eu hysgrifenu, iddo orchymyn iddynt ddysgu y pethau a esboniodd efe iddynt. A bu iddo orchymyn iddynt ysgrifenu y geiriau a roddodd y Tad i Malachi, y rhai a draethai efe iddynt. A bu ar ol iddynt gael eu hysgrifenu, iddo eu hesbonio hwynt. A’r rhai hyn yw y geiriau a draethodd efe wrthynt, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed y Tad wrth Malachi, Wele fi yn anfon fy nghenad, ac efe a arloesa y ffordd o’m blaen i: ac yn ddisymmwth y daw yr Arglwydd, yr hwn yr ydych yn ei geisio, i’w deml; sef angel y cyfammod yr hwn yr ydych yn ei chwennych: wele efe yn dyfod, medd Arglwydd y lluoedd. Ond pwy a oddef ddydd ei ddyfodiad ef? A phwy a saif pan ymddangoso efe? Canys y mae efe fel tân y toddydd, ac fel sebon y golchyddion. Ac efe a eistedd fel purwr a glanhawr arian; ac efe a bura feibion Lefi, ac a’u coetha hwynt fel aur ac fel arian, fel y byddont yn offrymu i’r Arglwydd offrwm mewn cyfiawnder. Yna y bydd melys gan yr Arglwydd offrwm Judah a Jerusalem, megys yn y dyddiau gynt, ac fel y blynyddoedd gynt. A mi a nesâf atoch chwi i farn; a byddaf dyst cyflym yn erbyn yr hudolion, ac yn erbyn y godinebwyr, ac yn erbyn yr anudonwyr, ac yn erbyn cam-attalwyr cyflog y cyflogedig, a’r rhai sydd yn gorthrymu y weddw, a’r amddifad, a’r dyeithr, ac heb fy ofni i, medd Arglwydd y lluoedd. Canys myfi yr Arglwydd ni’m newidir; am hyny ni ddyfethwyd chwi, meibion Jacob.

Er dyddiau eich tadau y ciliasoch oddiwrth fy neddfau, ac ni chadwasoch hwynt; dychwelwch ataf fi, a mi a ddychwelaf atoch chwithau, medd Arglwydd y lluoedd: ond chwi a ddywedwch, Yn mha beth y dychwelwn?

A yspeilia dyn Dduw? Etto chwi a’m hyspeiliasoch i: ond chwi a ddywedwch, Yn mha beth y’th yspeiliasom? Yn y degwm a’r offrwm. Melldigedig ydych trwy felldith; canys chwi a’m hyspeiliasoch i, sef yr holl genedl hon. Dygwch yr holl ddegwm i’r trysordy, fel y byddo bwyd yn fy nbŷ; a phrofwch fi yr awr hon yn hyn, medd Arglwydd y luoedd, onid agoraf i ffenestri y nefoedd, a thywallt i chwi fendith fel na bo digon o le i’w derbyn. Myfi hefyd a argyhoeddaf er eich mwyn chwi yr ormes, ac ni ddifwyna i chwi ffrwyth y ddaear: a’r winwydden yn y maes ni fwrw ei ffrwyth cyn yr amser i chwi, medd Arglwydd y lluoedd. A’r holl genedloedd a’ch galwant chwi yn wynfydedig; canys byddwch yn wlad hyfryd, medd Arglwydd y lluoedd.

Eich geiriau chwi a ymgryfâodd i’m herbyn, medd yr Arglwydd: etto chwi a ddywedwch, Pa beth a ddywedasom ni yn dy erbyn di? Dywedasoch, Oferedd yw gwasanaethu Duw; a pha lesiant sydd er i ni gadw ei orchymynion ef, ac er i ni rodio yn alarus ger bron Arglwydd y lluoedd. Ac yr awr hon yr ydym yn galw y beilchion yn wynfydedig: ïe, gweithredwyr drygioni a adeiladwyd; ïe, y rhai a demtiant Dduw a waredwyd.

Yna y rhai oedd yn ofni yr Arglwydd a lefarasant bob un wrth ei gymmydog: a’r Arglwydd a wrandawodd, ac a glybu: ac ysgrifenwyd llyfr coffadwriaeth ger ei fron ef i’r rhai oedd yn ofni yr Arglwydd, ac i’r rhai oedd yn meddwl am ei enw ef. A byddant eiddof fi, medd Arglwydd y lluoedd, y dydd y gwnelwyf brïodoledd; arbedaf hwynt hefyd fel yr arbed gwr ei fab sydd yn ei wasanaethu. Yna y dychwelwch ac y gwelwch ragor rhwng y cyfiawn a’r drygionus, rhwng yr hwn a wasanaetho Dduw a’r hwn nis gwasanaetho ef. Canys wele y dydd yn dyfod yn llosgi megys ffwrn; a’r holl feilchion, a holl weithredwyr anwired, a fyddant sofi: a’r dydd sydd yn dyfod a’u llysg hwynt, medd Arglwydd y lluoedd, fel na’s gadawo iddynt na gwreiddyn na changen.

Ond Haul y Cyfiawnder a gyfyd i chwi, y rhai ydych yn ofni fy enw, a meddyginiaeth yn ei hesgyll; a chwi a ewch allan ac a gynnyddwch megys lloi pesgedig. A chwi a fethrwch yr annuwiolion; canys byddant yn lludw dan wadnau eich traed chwi, yn y dydd y gwnelwyf hyn medd Arglwydd y lluoedd. Cofiwch gyfraith Moses fy ngwas, yr hon a orchymynais iddo ef yn Horeb i holl Israel, y deddfau, a’r barnedigaethau. Wele, mi a anfonaf i chwi Elias y prophwyd, cyn dyfod dydd mawr ac ofnadwy yr Arglwydd: ac efe a dry galon y tadau at y plant, a chalon y plant at eu tadau, rhag i mi ddyfod a tharo y ddaear â melldith.

Ac yn awr, dygwyddodd ar ol i’r Iesu draethu y pethau hyn, efe a’u hesboniodd i’r dyrfa, ac efe a esboniodd bob peth iddynt, yn fawrion a bychain. Ac efe a ddywedodd, Yr ysgrythyrau hyn ag nad oeddynt genych, a orchymynodd y Tad i mi eu rhoddi i chwi, canys yr oedd yn ddoethineb ynddo ef iddynt gael eu rhoddi i genedlaethau dyfodol. Ac efe a esboniodd bob peth, o’r dechreuad hyd yr amser y deuai efe yn ei ogoniant; ïe, sef pob peth ag a ddeuai ar wyneb y ddaear, hyd nes y buasai yr elfenau gan wir wrês yn toddi, a’r ddaear yn cael ei phlygu ynghyd fel rhol, a’r nefoedd a’r ddaear yn myned heibio; ac hyd y dydd mawr a diweddaf, pan y caiff pob pobl, a phob llwyth, a phob cenedl ac iaith, sefyll gerbron Duw, i gael eu barnu am eu gweithredoedd, pa un a fyddont ai da neu ddrwg; os byddant dda, i adgyfodiad bywyd tragywyddol; ac os byddant ddrwg, i adgyfodiad damnedigaeth, gan fod yn gyfatebol, y naill ar un llaw, a’r llall ar y llaw arall, yn ol y turgaredd, a’r cyfiawnder, a’r santeiddrwydd ag sydd yn Nghrist, yr hwn oedd cyn dechreuad y byd.