Pennod Ⅳ.
Ac yn awr, dygwyddodd yn ol ein cof-lyfr ni, a gwyddom fod ein cof-lyfr yn wir, canys wele, dyn cyfiawn oedd yn cadw y cof-lyfrau; canys yn ddiau efe a wnaeth wyrthiau lawer yn enw Iesu; ac nid oedd un dyn a allai wneuthur gwyrth yn enw yr Iesu, oddieithr ei fod wedi ei gwbl lanhau oddiwrth ei anwiredd. Ac yn awr, dygwyddodd, os na wnaed camsynied gan y dyn hwn yn nghyfrif ein hamser, fod y drydedd flwyddyn ar ddeg ar hugain wedi myned heibio, a dechreuodd y bobl edrych gyda phrysurdeb mawr am yr arwydd a roddwyd gan y prophwyd Samuel, y Lamaniad; ïe, am yr amser y byddai tywyllwch am yspaid tri diwrnod dros wyneb y tir. A dechreuodd fod ammheuaeth ac ymddadleu mawr yn mhlith y bobl, er fod cynnifer o arwyddion wedi eu rhoddi.
A bu yn y drydedd a’r bedwaredd flwyddyn, yn y mis cyntaf ac ar y pedwerydd dydd o’r mis, i ystorom fawr gyfodi, y cyfryw na wypwyd am ei bath o’r blaen yn yr holl dir; ac yr oedd tymhestl fawr ac ofnadwy hefyd: ac yr oedd taranau dychrynllyd, yn gymmaint ag iddynt grynu yr holl ddaear, megys pe buasai ar ymagor odditanodd; ac yr oedd mellt tra llymion, y fath na welwyd erioed yn yr holl dir. A dinas Zarahemla a gymmerodd dân; a dinas Moroni a soddodd i eigion y môr, a’i phreswylwyr a foddasant; a’r ddaear a gariwyd i fyny ar ddinas Moronihah, fel yr aeth safle y ddinas yn fynydd mawr; ac yr oedd dinystr mawr ac enbyd yn y tir yn ddeheuol. Eithr yr oedd dinystr mwy mawr ac enbyd yn y tir yn ogleddol: canys wele, yr oedd holl wyneb y tir wedi ei gyfnewid, o herwydd y dymhestl, a’r corwyntoedd, a’r taranau, a’r mellt, a dirfawr ysgydwad yr holl ddaear; a’r prif-ffyrdd a ddrylliwyd, a’r ffyrdd gwastad a ddystrywiwyd, a llawer o fanau llyfnion a aethant yn eirwon, a llawer o ddinasoedd mawrion a nodedig a soddasant, a llawer a losgwyd, ac ysgydwyd llawer nes i’r adeiladau syrthio i’r llawr, a’u trigolion a laddwyd; a’r lleoedd hyny a adawyd yn anrheithiedig; ac yr oedd rhai dinasoedd yn aros, eithr niweidiwyd hwynt yn fawr iawn, a chafodd llawer eu lladd ynddynt; a chariwyd rhai ymaith gan gorwynt; ac i ba le yr aethant, nis gŵyr neb, oddieithr eu bod wedi eu cario ymaith; ac felly gwyneb yr holl ddaear a anffurfiwyd, oblegid y tymhestloedd, a’r taranau, a’r mellt, ac ysgydwad y ddaear. Ac wele, y creigiau a rwygwyd yn eu canol; drylliwyd hwynt ar wyneb yr holl ddaear, yn gymmaint ag y ceid hwynt yn ddarnau drylliedig, ac yn wrymiau, ac yn holltau, ar wyneb yr holl dir.
A bu ar ol i’r taranau, a’r mellt, a’r ystorom, a’r dymhestl, a’r daeargrynfäau beidio—canys, wele, parasant am oddeutu yspaid tair awr; a dywedir gan rai fod yr amser yn fwy; er hyny, yr holl bethau mawrion ac ofnadwy hyn a gyflawnwyd ynghylch yspaid tair awr; ac yna, wele, bu tywyllwch ar wyneb y tir.
A dygwyddodd fod tywyllwch dudew ar holl wyneb y tir, yn gymmaint ag y gailai y trigolion nad oeddynt wedi syrthio, deimlo y niwl o dywyllwch; ac nis gallai fod goleuni, o herwydd y tywyllwch, na chanwyllau, na ffaglau ychwaith; ac ni ellid cynneu tân â’u coed teg a sychion, fel nas gallai fod dim goleuni oll; ac nid oedd unrhyw oleuni i’w weled, na thân, na golewyrch, nac ychwaith yr haul, na’r lleuad, na’r sêr, gan gymmaint oedd y niwl o dywyllwch ar wyneb y tir.
A bu iddo barhau am yspaid tri diwrnod, fel na welid dim goleuni; ac yr oedd mawr alar, a chwynfan, ac wylofain, yn mhlith yr holl bobl yn barhaus; ïe, mawr oedd griddfanau y bobl, o herwydd y tywyllwch a’r mawr ddinystr ag oedd wedi dyfod arnynt. Ac mewn un man clywyd hwynt yn gwaeddi, gan ddywedyd, O na fuasem wedi edifarhau cyn y dydd mawr ac ofnadwy hwn, ac yna ein brodyr a gawsent eu harbed, ac ni chawsent eu llosgi yn y ddinas fawr Zarahemla. Ac mewn man arall clywyd hwynt yn gwaeddi a galaru, gan ddywedyd, O na fuasem wedi edifarhau cyn y dydd mawr ac ofnadwy hwn, ac heb ladd a llabyddio y prophwydi, a’u bwrw allan: yna ein mamau a’n merched glandeg, a’n plant, a gawsent eu harbed, ac nid cael eu claddu yn y ddinas fawr Moronihah; ac felly yr oedd ochain y bobl yn fawr ac enbyd.
A bu i lef gael ei chlywed yn mhlith holl drigolion y ddaear, ar holl wyneb y tir hwn, yn gwaeddi. Gwae, gwae, gwae i’r bobl hyn; gwae trigolion yr holl ddaear, os na edifarhant, canys mae y diafol yn chwerthin, a’i angylion yn gorfoleddu, o herwydd lladdedigion meibion a merched glandeg fy mhobl; ac o herwydd eu hanwiredd a’u ffieidd-dra y maent wedi syrthio. Wele, y ddinas fawr Zarahemla a losgais â thân, ynghyd â’i thrigolion. Ac wele, y ddinas fawr Moroni a achosais i gael ei soddi i eigion y môr, a’i phreswylwyr i gael eu boddi. Ac wele, y ddinas fawr Moronihah, a orchuddiais â daear, ynghyd â’i phreswylwyr, er cuddio eu hanwireddau a’u ffieidd-dra oddiwrth fy ngwyneb, fel na ddeuai gwaed y prophwydi a’r saint i fyny ataf mwyach yn eu herbyn hwynt. Ac wele, dinas Gilgal a achosais i gael ei soddi, a’i phreswylwyr gael eu claddu yn nyfnderau y ddaear: ïe, a dinas Onihah, a’i phreswylwyr, a dinas Mocum, a’i phreswylwyr, a dinas Jerusalem, a’i phreswylwyr, ac achosais i’r dyfroedd ddyfod i fyny i’w lle hwynt, i guddio eu drygioni a’u ffieidd-dra oddiwrth fy wyneb, fel na ddelo gwaed y prophwydi a’r saint i fyny ataf mwyach yn eu herbyn hwynt. Ac wele, dinas Gadiandi, a dinas Gadiomnah, a dinas Jacob, a dinas Gimgimno, y rhai hyn oll a achosais i gael eu suddo, ac i fryniau a dyffrynoedd gael eu gwneuthur yn eu lle, a’u preswylwyr a gleddais yn nyfnderoedd y ddaear, i guddio eu drygioni a’u ffieidd-dra oddiwrth fy wyneb, fel na ddeuai gwaed y prophwydi a’r saint i fyny ataf mwyach yn eu herbyn hwynt. Ac wele, y ddinas fawr Jacobugath, yr hon a breswylid gan bobl y brenin Jacob, a achosais gael ei llosgi â thân, o herwydd eu pechodau a’u drygioni, yr hwn oedd yn fwy nâ holl ddrygioni y ddaear i gyd, oblegid eu dirgel lofruddiaethau a’u cydfwriadau; canys hwynt-hwy ddarfu ddystrywio heddwch fy mhobl a llywodraeth y tir: am hyny, mi a achosais iddynt gael eu llosgi, i’w dyfetha hwynt o flaen fy wyneb, fel na ddeuai gwaed y prophwydi a’r saint i fyny ataf mwyach yn eu herbyn hwynt. Ac wele, dinas Laman, a dinas Josh, a dinas Gad, a dinas Kishkumen, a achosais i gael eu llosgi â thân, ynghyd â’u preswylwyr, o herwydd eu drygioni yn bwrw allan y prophwydi, a llabyddio y rhai a ddanfonais i draethu wrthynt am eu drygioni a’u ffieidd-dra; ac o herwydd iddynt eu bwrw allan i gyd, fel nad oedd neb cyfiawn yn eu mysg, mi a ddanfonais dân i waered i’w dinystrio, fel y cuddid eu drygioni a’u ffieidd-dra oddiwrth fy wyneb, fel na fyddo i waed y prophwydi a’r saint, a ddanfonais i’w mysg, waeddi arnaf o’r ddaear yn eu herbyn hwynt; a llawer o ddinystriadau mawrion a achosais i ddyfod ar y tir hwn, ac ar y bobl hyn, o herwydd eu drygioni a’u ffieidd-dra.
O chwychwi oll y rhai a arbedwyd, oblegid eich bod yn gyfiawnach nâ hwy, ai ni ddychwelwch yn awr ataf fi, ac edifarhau am eich pechodau, a chymmeryd eich argyhoeddi, fel yr iachâwyf chwi? Ië, yn wir meddaf wrthych, os deuwch ataf fi, chwi a gewch fywyd tragywyddol. Wele, mae fy mraich o drugaredd yn estynedig tuag atoch, a phwy bynag a ddaw, myfi a’i derbyniaf; a gwynfyd y rhai a ddeuant ataf fi. Wele, myfi yw Iesu Grist, Mab Duw. Mi a greais y nefoedd a’r ddaear, a phob peth ag sydd ynddynt. Yr oeddwn i gyda’r Tad o’r dechreuad. Myfi wyf yn y Tad, a’r Tad ynof finnau; ac ynof fi y gogoneddodd y Tad ei enw. Mi a ddaethym at eiddo fy hun, a’m heiddo fy hun ni’m derbyniasant. Ac y mae’r ysgrythyrau ynghylch fy nyfodiad wedi eu cyflawni. A chynnifer a’m derbyniasant, iddynt hwy y rhoddais allu i ddyfod yn feibion i Dduw; ac felly y gwnaf i gynnifer a gredant yn fy enw, canys wele, trwyddof fi y mae prynedigaeth yn dyfod, ac ynof fi y cyflawnir cyfraith Moses. Myfi yw goleuni a bywyd y byd. Myfi yw Alpha ac Omega, y dechreu a’r diwedd. A mwyach ni chewch offrymu i mi dywalltiad gwaed; ïe, eich aberthau a’ch poeth-offrymau a ddarfyddant, canys nis derbyniaf fi eich aberthau a’ch poeth-offryman; a chwi a gewch offrymu i mi yn aberth galon ddrylliog ac ysbryd edifeiriol. A’r hwn a ddel ataf fi â chalon ddrylliog ac ysbryd edifeiriol, mi a’i bedyddiaf ef â thân ac â’r Ysbryd Glân, ïe, megys cafodd y Lamaniaid, o herwydd eu ffydd ynof yn amser eu troedigaeth, eu bedyddio â thân ac â’r Ysbryd Glân, ac ni wyddent hyny. Wele, mi a ddaethym i’r byd i ddwyn prynedigaeth i’r byd, er achub y byd obechod; am hyny, yr hwn a edifarhao ac a ddel ataf fi megys plentyn bychan, hwnw a dderbyniaf; canys eiddo y cyfryw yw teyrnas Dduw. Wele, er mwyn y cyfryw y rhoddais fy mywyd i lawr, ac y cymmerais ef i fyny drachefn; gan hyny, edifarhewch, a deuwch ataf fi, chwi derfynau y ddaear, fel eich achuber.
Ac yn awr, wele, dygwyddodd i holl bobl y tir glywed y geiriau hyn, a bod yn dystion o honynt. Ac ar ol y geiriau hyn, bu dystawrwydd yn y tir am yspaid amryw oriau; canys mor fawr oedd rhyfeddod y bobl, fel y peidiasant wylofain ac ocheneidio o herwydd colli eu perthynasau y rhai a laddwyd; am hyny, bu dystawrwydd yn yr holl dir am yspaid llawer o oriau.
A bu i lef drachefn ddyfod at y bobl, a’r holl bobl a’i clywodd, ac a fuont dystion o honi, gan ddywedyd, O chwi bobl y dinasoedd mawr hyn ag ydynt wedi syrthio, y rhai ydych ddisgynyddion Jacob, ïe, y rhai ydych o dŷ Israel, pa mor fynych y casglais chwi megys y casgla iar ei chywion dan ei hadenydd, ac yr amgeleddais chwi. A thrachefn, pa mor fynych y mynwn eich casglu chwi megys y casgla iâr ei chywion dan ei hadenydd; ïe, O chwi bobl yŷ Israel, y rhai a syrthiasoch; ïe, O chwi bobl yŷ Israel, y rhai a breswyliwch yn Jerusalem, megys chwi y rhai a syrthiasoch; ïe, pa mor fynych y mynwn eich casglu chwi megys y casgla iâr ei chywion, ac ni fynech. O chwi, dŷ Israel, y rhai a arbedais, pa mor fynych y casglaf chwi megys y casgla iâr ei chywion o dan ei hadenydd, os edifarhewch a dychwelyd ataf gyda llawn fwriad calon. Eithr os na wnewch, O dŷ Israel, eich preswyl-fanau a ânt yn anghyfannedd, hyd amser cyflawniad y cyfammod a wnaed i’ch tadau.
Ac yn awr, dygwyddodd ar ol i’r bobl glywed y geiriau hyn, iddynt ddechreu wylofain ac uban drachefn, o herwydd colli eu perthynasau a’u cyfeillion. A bu mai felly yr aeth heibio y tri diwrnod. Ac yr oedd yn y boreu, a’r tywyllwch a wasgarodd oddiar wyneb y tir, a’r ddaear a beidiodd grynu, a’r creigiau a beidiasant rwygo, a’r cwynfan erchyll a ddarfyddodd, a’r holl awn terfysglyd a aeth heibio, a’r ddaear a lynodd ynghyd drachefn, fel y safodd, a galar, a griddfan, a wylofain y bobl ag a adawyd yn fyw, a beidiasant; a’u galar a drowyd yn llawenydd, a’u wylofain yn fawl a diolchgarwch i’r Arglwydd Iesu Grist, eu Gwaredwr. Ac hyd yma y cyflawnwyd yr ysgrythyrau a lefarwyd gan y prophwydi. A’r rhan fwyaf cyfiawn o’r bobl oedd y rhai a achubwyd, a hwy oedd y rhai a dderbyniasant y prophwydi, ac nis llabyddiasant hwynt; a’r rhai ni thywalltasant waed y saint, oedd y rhai a arbedwyd; a hwy a arbedwyd, ac ni soddwyd, ac ni chladdwyd hwynt yn y ddaear; ac ni foddwyd hwynt yn eigion y môr; ac ni losgwyd hwynt gan dân, ac ni chwympodd dim arnynt a’u gwasgu i farwolaeth; ac ni chariwyd hwynt ymaith yn y corwynt; ac ni orchfygwyd hwynt gan darth mwg a thywyllwch. Ac yn awr, yr hwn sydd yn darllen, dealled; yr hwn sydd ganddo yr ysgrythyrau, chwilied hwynt, ac edrych a gweled os nad yw yr holl farwolaethau a dinystriadau hyn gan dân, a chan fwg, a chan dymhestloedd, a chan gorwyntoedd, a chan y ddaear yn ymagor i’w derbyn hwynt, a’r holl bethau hyn, yn gyflawniad o brophwydoliaethau llawer o brophwydi santaidd. Wele, meddaf wrthych, ïe, y mae llawer wedi tystiolaethu am y pethau hyn ar ddyfodiad Crist, ac wedi eu lladd oblegid eu bod yn tystiolaethu am y pethau hyn; ïe, y prophwyd Zenos a dystiolaethodd am y pethau hyn, a Zenock hefyd a lefarodd am y pethau hyn, o herwydd eu bod yn tystolaethu yn benodol am danom ni, y rhai ydym y gweddill o’u had. Wele, ein tad Jacob hefyd a dystiolaethodd am weddill had Joseph. Ac wele, ai nid ydym ni yn weddill o had Joseph? Ac ai nid yw y pethau hyn a dystiolaethant am danom ni, yn ysgrifenedig ar y llafnau pres a ddygodd ein tad Lehi allan o Jerusalem? Ac yn niwedd y bedwaredd flwyddyn ar ddeg ar hugain, wele, mi a ddangosaf i chwi, i bobl Nephi, y cyfryw ag a arbedwyd, ac hefyd y rhai a elwid Lamaniaid, y cyfryw ag a arbedwyd, gael ffafr fawr wedi ei dangos tuag atynt, a bendithion mawrion wedi eu tywallt ar eu penau, yn gymmaint ag yn fuan ar ol esgyniad Crist i’r nef, iddo wir amlygu ei hun iddynt hwy; gan ddangos ei gorff iddynt, a gweinyddu iddynt; a hanes ei weinidogaeth a roddir yn ol llaw. Gan hyny, am y waith hon yr wyf yn terfynu fy ngeiriau.