Scriptures
3 Nephi 9


Pennod Ⅸ.

Ac yn awr, dygwyddodd ar ol i’r Iesu esgyn i’r nef, i’r dyrfa wasgaru, ac i bob dyn gymmeryd ei wraig a’i blant, a dychwelyd i’w gartref ei hun. Ac aeth y swn ar led yn mhlith y bobl yn union, cyn ei bod etto yn dywyll, fod y dyrfa wedi gweled yr Iesu, a’i fod wedi gweinidogaethu iddynt, ac y byddai iddo hefyd ddangos ei hun dranoeth i’r dyrfa; ïe, a thrwy yr holl nos yr aeth y swn ar led ynghylch yr Iesu; ac yn gymmaint â’u bod yn danfon at y bobl, darfu i laweroedd, ïe, nifer fawr iawn, lafurio llawer yr holl noson hono, fel y byddent dranoeth yn y lle y dangosai yr Iesu ei hun i’r dyrfa.

A bu dranoeth, ar ol i’r dyrfa ymgasglu ynghyd, i Nephi a’i frawd yr hwn a gyfododd efe o feirw, enw yr hwn oedd Timothy, ac hefyd ei fab, enw yr hwn oedd Jonas, ac hefyd Mathoni, a Mathonihah, ei frawd, a Kumen, a Kumenonhi, a Jeremiah, a Shemnon, a Jonas, a Zedekiah, ac Isaiah (yn awr, dyma oedd enwau y dyscyblion a ddewisodd yr Iesu); ïe, bu iddynt hwy fyned allan a sefyll yn nghanol y dyrfa. Ac wele, yr oedd y dyrfa mor fawr, fel yr achosasant iddynt ranu yn ddeuddeg rhan. A’r deuddeg a ddysgasant y dyrfa; ac wele, hwy a barasant i’r dyrfa benlinio i lawr ar wyneb y ddaear, a gweddio ar y Tad, yn enw yr Iesu. A’r dyscyblion hefyd a weddiasant ar y Tad, yn enw yr Iesu. A bu iddynt gyfodi a gweinidogaethu i’r bobl. Ac wedi iddynt weinidogaethu yr unrhyw eiriau ag a lefarodd yr Iesu—heb ŵyro dim oddiwrth y geiriau ag a lefarodd yr Iesu—wele, hwy a benliniasant drachefn, ac a weddiasant ar y Tad yn enw yr Iesu; a hwy a weddiasant am yr hyn a chwennychent fwyaf; a hwy a ddymunasant ar i’r Ysbryd Glân gael ei roddi iddynt. Ac wedi iddynt weddio felly, hwy a aethant i waered i ymyl y dwfr, a’r dyrfa a’u canlynasant. A bu i nephi fyned i waered i’r dwfr, a chael ei fedyddio. Ac efe a ddaeth i fyny o’r dwfr, ac a ddechreuodd fedyddio. Ac efe a fedyddiodd yr holl rai a ddewisodd yr Iesu. A bu wedi iddynt gael eu bedyddio oll, a dyfod i fyny o’r dwfr, i’r Ysbryd Glân syrthio arnynt, a hwy a lanwyd â’r Ysbryd Glân ac â thân. Ac wele, amgylchynwyd hwynt megys pe byddai gan dân; a daeth i waered o’r nef, a’r dyrfa a’i gwelodd ef, ac a weiniasant iddynt. A dygwyddodd tra yr oedd yr angylion yn gweini i’r dyscyblion, i’r Iesu ddyfod a sefyll yn y canol, a gweini iddynt. A bu iddo lefaru wrth y dyrfa, a gorchymyn iddynt benlinio i lawr drachefn ar y ddaear, ac am i’w ddyscyblion hefyd benlinio i lawr ar y ddaear. A bu ar ol iddynt oll benlinio i lawr ar y ddaear, iddo orchymyn i’w ddyscyblion weddio. Ac wele, hwy a ddechreuasant weddio; a hwy a weddiasant ar yr Iesu, gan ei alw ef eu Harglwydd a’u Duw.

A bu i’r Iesu ymadael allan o’u canol hwynt, a myned ychydig ymaith oddi wrthynt, ac ymgrymu i’r llawr, a dywedyd, O Dad, yr wyf yn diolch i ti dy fod wedi rhoddi yr Ysbryd Glân i’r rhai hyn a ddewisais; ac o herwydd eu crediniaeth ynof, y dewisais hwynt allan o’r byd. O Dad, yr wyf yn gweddio arnat am i ti roddi yr Ysbryd Glân i’r holl rai a gredant yn eu geiriau hwynt. O Dad, ti a roddaist iddynt yr Ysbryd Glân, o herwydd eu bod yn credu ynof fi, a thi a weli eu bod yn credu ynof, oblegid y clywi hwynt, ac y maent yn gweddio arnaf fi; ac y maent yn gweddio arnaf fi, oblegid fy mod gyda hwynt. Ac yn awr, O Dad, yr wyf fi yn gweddio arnat ti drostynt hwy, ac hefyd dros yr holl rai a gredant eu geiriau, fel y credont ynof fi, fel y byddwyf fi ynddynt hwy, megys yr wyt tithau, O Dad, ynof fi, fel y byddom un.

A bu ar ol i’r Iesu weddio ar y Tad, iddo ddyfod at ei ddyscyblion, ac wele, yr oeddynt yn parhau, yn ddibaid, i weddio arno; ac ni ychwanegent hwy lawer o eiriau, canys yr oedd wedi ei roddi iddynt pa peth a weddient, ac yr oeddynt yn llawn dymuniad. A bu i’r Iesu eu bendithio hwynt, fel yr oeddynt yn gweddio arno, a’i wynebpryd a wenodd arnynt, a goleuni ei wynebpryd a ddysclaeriodd arnynt, ac wele, yr oeddynt hwythau mor wynion â gwynebpryd, ac hefyd â gwisgoedd yr Iesu; ac wele, yr oedd y gwyndra hwn yn rhagori ar bob gwyndra, ïe, nis gallai fod dim ar y ddaear mor wỳn â’r gwyndra hwn. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Parhewch i weddio, er nad oeddynt wedi peidio gweddio. Ac efe a drodd oddiwrthynt drachefn, ac a aeth ychydig ymaith, ac a ymgrymodd i’r llawr; ac efe a weddiodd drdachefn ar y Tad, gan ddywedyd, O Dad, yr wyf yn diolch i ti dy fod wedi puro y rhai hyny a ddewisais, o herwydd eu ffydd, ac yr wyf fi yn gweddio drostynt, ac hefyd dros y rhai a gredant eu geiriau, fel y purer hwythau ynof fi, trwy ffydd yn eu geiriau hwy, megys y purwyd hwynt ynof fi. O Dad, nid wyf yn gweddio dros y byd, eithr dros y rhai a roddaist i mi allan o’r byd, o herwydd eu ffydd, fel y purer hwynt ynof fi, fel y byddwyf fi ynddynt hwy, megys yr wyt tithau, O Dad, ynof fi, fel y byddom un, fel y gogonedder fi ynddynt.

Ac wedi i’r Iesu lefaru y geiriau hyn, efe a ddaeth drachefn at ei ddyscyblion, ac wele, yr oeddynt yn gweddio yn gysson a dibaid arno ef; ac efe a wenodd arnynt drachefn; ac wele, yr oeddynt hwy yn wynion fel yr Iesu.

A bu iddo fyned drachefn ychydig ymaith, a gweddio ar y Tad; a thafod nis gall lefaru y geiriau a weddiodd efe, ac nis gellir ysgrifenu gan ddyn y geiriau a weddiodd efe. A’r dyrfa a glywsant, ac a ddygasant dystiolaeth, a’u calonau a agorwyd, a hwy a ddeallasant yn eu calonau y geiriau a weddiodd efe Er hyny, yr oedd y geiriau a weddiodd efe mor fawr a rhyfedd, fel nas gellir eu hysgrifenu, na’u traethu gan ddyn.

A bu ar ol i’r Iesu orphen gweddio, iddo ddyfod drachefn at y dyscyblion, a dywedyd wrthynt, Ffydd mor fawr ni welais yn mhlith yr holl Iuddewon; am hyny, nis gallwn ddangos iddynt hwy wyrthiau mor fawrion, o herwydd eu hanghrediniaeth. Yn wir, meddaf i chwi, nid oes neb o honynt hwy wedi gweled pethau mor fawrion ag a welsoch chwi; ac ni chlywsant bethau mor fawrion ag a glywsoch chwi.

A bu iddo orchymyn i’r dyrfa ddarfod gweddio, a’i ddyscyblion hefyd. Ac efe a orchymynodd iddynt na ddarfyddent weddio yn eu calonau. Ac efe a orchymynodd iddynt gyfodi a sefyll ar eu tared. A hwy a gyfodasant ac a safasant ar eu traed. A bu iddo ef dori bara drachefn, a’i fendithio, a’i roddi i’w ddyscyblion i’w fwyta. Ac wedi iddynt hwy fwyta, efe a orchymynodd iddynt dori bara, a’i roddi i’r dyrfa. Ac wedi iddynt ei roddi i’r dyrfa, efe a roddodd hefyd iddynt win i’w yfed, ac a’u gorchymynodd hwythau i’w roddi i’r dyrfa. Yn awr, nid oedd bara, na gwin, wedi ei ddwyn gan y dyscyblion, nac ychwaith gan y dyrfa; eithr yn ddiau efe a roddodd iddynt fara i’w fwyta, ac hefyd win i’w yfed; ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd yn bwyta y bara hwn, sydd yn bwyta o’m corff i’w enaid, a’r hwn sydd yn yfed o’r gwin hwn, sydd yn yfed o’m gwaed i’w enaid; a’i enaid ni newyna ac ni sycheda byth, eithr a ddigonir. Yn awr, wedi i’r dyrfa oll fwyta ac yfed, wele, hwy a lanwyd â’r ysbryd, a hwy a waeddasant ag un llef, ac a roddasant ogoniant i’r Iesu, yr hwn a welsant ac a glywsant. A bu ar ol iddynt oll roddi gogoniant i’r Iesu, iddo ddywedyd wrthynt, Wele, yn awr yr wyf yn cwblhau y gorchymyn yr hwn a orchymynodd y Tad i mi ynghylch y bobl yma, y rhai ydynt weddill o dŷ Israel. Yr ydych yn cofio i mi lefaru wrthych, a dywedyd pan gyflawnid geiriau Isaiah; wele, y maent yn ysgrifenedig, ac y maent genych o’ch blaen, am hyny, chwiliwch hwynt. Ac yn wir, yn wir, meddaf i chwi, pan gyflawnir hwy, y pryd hyny y mae cyflawniad y cyfammod a wnaeth y Tad â’i bobl, O dŷ Israel. Ac yna y caiff y gweddillion y rhai a wasgerir ar led ar wyneb y ddaear, eu casglu i mewn o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, ac o’r deau, ac o’r gogledd; a hwy a ddygir i wybodaeth o’r Arglwydd eu Duw, yr hwn a’u gwaredodd hwynt. A’r Tad a orchymynodd i mi ar orddi o honof y tir hwn yn etifeddiaeth iddynt. Ac yr wyf yn dywedyd wrthych, os na edifarha y Cenedloedd, ar ol y fendith a dderbyniant, wedi iddynt wasgaru fy mhobl, yna y cewch chwi y rhai ydych weddill o dŷ Jacob, fyned allan yn eu plith hwynt; a chwi a fyddwch yn eu canol hwynt, y rhai a fyddant lawer; a chwi a fyddwch yn eu plith hwynt, fel llew yn mhlith bwystfilod y goedwig, ac fel cenaw llew yn mhlith y deadelloedd defaid, yr hwn, pan êl trwodd, a sathra ac a ysglyfaetha, ac ni bydd achubydd. Dy law a gyfodir yn erbyn dy wrthwynebwyr, a’th holl elynion a dorir ymaith. Ac mi a gasglaf fy mhobl ynghyd, fel y casgla dyn ei ysgubau i’r llawr-dyrnu, canys mi a wnaf fy mhobl â’r rhai yr ymgyfammododd y Tad, ïe, mi a wnaf dy gorn yn haiarn, a’th garnau yn bres. A thi a ddrylli bobloedd lawer; a chyssegraf i’r Arglwydd eu helw hwynt, a’u golud i Arglwydd yr holl ddaear. Ac wele, myfi yw yr hwn sydd yn ei wneuthur. A bydd, medd y Tad, i gleddyf fy nghyfiawnder hongian uwch eu penau yn y dydd hwnw; ac oni edifarhant, efe a syrth arnynt, medd y Tad, ïe, sef ar holl genedloedd y Cenedloedd. A daw oddiamgylch y bydd i mi gadarnhau fy mhobl, O dŷ Israel. Ac wele, y bobl hyn a gadarnhaf yn y tir hwn, hyd at gyflawni y cyfammod a wnaethym â’ch tad Jacob; ac efe a fydd yn Jerusalem newydd. A galluoedd y nef a fyddant yn nghanol y bobl hyn; ïe, hyd y nod myfi a fyddaf yn eich canol chwi. Wele, myfi yw yr hwn am ba un y llefarodd Moses, gan ddywedyd, Yr Arglwydd eich Duw a gyfyd i chwi Brophwyd o’ch brodyr, megys myfi; arno ef y gwrandewch yn mhob peth a ddywedo wrthych. A bydd, pob enaid ni wrandawo ar y Prophwyd hwnw, a lwyr-ddyfethir o blith y bobl. Yn wir, meddaf i chwi, Felly y mae; ac y mae yr holl brophwydi o Samuel, a’r rhai hyny ag ydynt yn ei ddilyn, cynnifer ag a lefarasant, wedi tystiolaethu am danaf fi. Ac wele, chwi ydych blant y prophwydi; ac yr ydych o dŷ Israel: ac yr ydych yn y cyfammod a wnaeth y Tad â’ch tadau chwi, gan ddywedyd wrth Abraham, Ac yn dy had di y bendithir holl lwythau y ddaear; gan fod y Tad wedi fy nghyfodi i chwi yn gyntaf, a’m danfon i’ch bendithio, trwy droi pob un o honoch oddiwrth ei anwireddau; a hyn o herwydd eich bod chwi yn blant y cyfammod. Ac yna pan eich bendithiwyd, y cyflawnodd y Tad y cyfammod a wnaeth ag Abraham, gan ddywedyd, Yn dy had di y bendithir holl lwythau y ddaear, hyd at dywallt allan yr Ysbryd Glân trwof fi ar y Cenedloedd, yr hon fendith ar y Cenedloedd a’i gwna hwynt yn alluog nwchlaw pawb, hyd at wasgaru fy mhobl, O dŷ Israel; a hwy a fyddant yn fflangell i bobl y tir hwn. Er hyny, pan fyddant wedi derbyn cyflawnder fy efengyl, yna os na chaledant eu calenau yn fy erbyn, mi a ddychwelaf eu hanwireddau ar eu penau eu hunain, medd y Tad. Ac mi a gofiaf y cyfammod a wnaethym â’m pobl, ac mi a ymgyfammodais â hwynt, y casglwn hwynt ynghyd yn fy amser cyfaddas fy hun; y rhoddwn iddynt drachefn wlad eu tadau yn etifeddiaeth, yr hon yw gwlad Jerusalem, yr hon yw y wlad addawedig iddynt hwy yn dragywydd, medd y Tad.

A bydd i’r amser ddyfod, pan y caiff cyflawnder fy efengyl ei phregethu iddynt, a hwy a gredant ynof, mai myfi yw Iesu Grist, Mab Duw, ac a weddiant ar y Tad yn fy enw. Yna eu gwylwyr a ddyrchafant eu llef, a chyda’r llef y cyd-ganant; canys gwelant lygad yn llygad. Yna y casgla y Tad hwynt ynghyd drachefn, ac y rhodda iddynt Jerusalem yn wlad eu hetifeddiaeth. Yna y bloeddiant allan—cyd-genwch, anialwch Jerusalem; canys yr Arglwydd a gysurodd ei bobl, efe a waredodd Jerusalem. Diosgodd y Tad fraich ei santeiddrwydd yn ngolwg yr holl genedloedd; a holl derfynau y ddaear a welant iachawdwriaeth y Tad; a’r Tad a minnau un ydym. Ac yna y dygir oddiamgylch yr hyn a ysgrifemwud. Deffro, deffro drachefn, gwisg dy nerth, Seion; gwisg wisgoedd dy ogoniant, santaidd ddinas Jerusalem, canys ni ddaw o’th fewn mwy ddienwaededig ac aflan. Ymysgwyd o’r llwch, cyfod, eistedd, Jerusalem; ymddattod oddiwrth rwymau dy wddf, ti gaethferch Seion. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Yn rhad yr ymwerthasoch; ac nid ag arian y’ch gwaredir. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, fy mhobl a gânt adnabod fy enw; ïe, yn y dydd hwnw y cânt adnabod fy enw; ïe, yn y dydd hwnw y cânt wybod mai myfi yw yr hwn sydd yn dywedyd. Ac yna y y dywedant, Mor hyfryd ar y mynyddoedd yw traed yr hwn sydd yn efengylu iddynt, yn cyhoeddi heddwch: a’r hwn sydd yn mynegi daioni iddynt, yn cyhoeddi iachawdwriaeth; yn dywedyd wrth Seion, Dy Dduw di sydd yn teyrnasu! Ac yna yr â gwaedd allan, Ciliwch, ciliwch, ewch allan oddi yno, na chyffyrddwch â dim halogedig; ewch allan o’i chanol; ymlanhewch, y rhai a ddygwch lestri yr Arglwydd. Canys nid ar frys yr ewch allan, ac nid ar ffo y cerddwch; canys yr Arglwydd a â o’ch blaen chwi, a Duw Israel a’ch casgl chwi. Wele, fy ngwas a lwydda; efe a godir, ac a ddyrchefir, ac a fydd yn uchel iawn. Megys y rhyfeddodd llawer wrthyt (mor llygredig oedd ei wedd yn anad neb, a’i bryd yn anad meibion dynion); felly y taenella efe genedloedd lawer; breninoedd a gauant eu genau wrtho ef; canys gwelant yr hyn ni fynegasid iddynt, a deallant yr hyn ni chlywsent. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, yr holl bethau hyn a ddeuant yn ddiau, megys y gorchymynodd y Tad i mi. Yna y caiff y cyfammod hwn ag a gyfammododd y Tad â’i bobl, ei gyflawni; ac yna y preswylir Jerusalem drachefn â’m pobl i, a chaiff fod iddynt yn wlad eu hetifeddiaeth. Ac yn wir, meddaf i chwi, yr wyf yn rhoddi i chwi arwydd, fel y gwypoch yr amser pan fydd y pethau hyn ynghylch cymmeryd lle, y bydd i mi gasglu i mewn o’u hir wasgariad, fy mhobl, O dŷ Israel, a sefydlu yn eu plith hwynt drachefn fy Seion. Ac wele, hyn yw y peth a roddaf i chwi yn arwydd, canys yn wir, meddaf i chwi, pan fydd i’r pethau hyn ag wyf yn draethu i chwi, a’r hyn a draethaf i chwi ar ol hyn fy hun, a thrwy allu yr Ysbryd Glân, yr hwn a roddir i chwi gan y Tad, gael eu gwneuthur yn adnabyddus i’r Cenedloedd, fel y gwypont ynghylch y bobl hyn y rhai ydynt weddill o dŷ Jacob, ac ynghylch fy mhobl hyn y rhai a wasgerir ganddynt hwy; yn wir, yn wir, meddaf i chwi, pan wneir y pethau hyn yn adnabyddus iddynt hwy gan y Tad, ac y deilliant o’r Tad, oddi wrthynt hwy, atoch chwi, canys y mae yn ddoethineb yn y Tad iddynt gael eu sefydlu yn y tir hwn, a chael eu gosod i fyny fel pobl ryddion trwy allu y Tad, fel y delo y pethau hyn allan oddi wrthynt hwy at weddill o’ch had chwi, fel y cyflawner cyfammod y Tad yr hwn a ymgyfammododd efe â’i bobl, O dŷ Israel; am hyny, pan ddelo y gweithredoedd hyn, a’r gweithredoedd a gyflawnir yn eich plith chwi yn ol llaw, allan oddiwrth y Cenedloedd, at eich had chwi, y rhai a fethant mewn anghrediniaeth o herwydd anwiredd; canys felly y mae yn gweddu i’r Tad iddo ddyfod allan oddiwrth y Cenedloedd, fel y dangoso efe ei allu i’r Cenedloedd, i’r dyben hyn, fel y gallo y Cenedloedd, os na chaledant eu calonau, edifarhau a dyfod ataf fi, a chael eu bedyddio yn fy enw, a gwybod am wir bynciau fy athrawiaeth, fel y cyfrifer hwynt yn mhlith fy mhobl, O dŷ Israel; a phan ddêl y pethau hyn oddi amgylch, y dechreuo dy had di wybod y pethau hyn, bydd iddynt yn arwydd, fel y gwypont fod gwaith y Tad eisoes wedi dechreu hyd at gyflawniad y cyfammed a wnaeth efe â’r bobl y rhai ydynt o dŷ Israel. A phan ddelo y dydd hwnw, y bydd i freninoedd gau eu genau; canys gwelant yr hyn ni fynegasid iddynt, a deallant yr hyn ni chlywsant. Canys yn y dydd hwnw, er fy mwyn i, y Tad a wna waith, yr hwn a fydd yn waith mawr a rhyfedd yn eu mysg hwynt; a bydd yn eu mysg hwynt y cyfryw nas credant ef, er i ddyn ei draethu iddynt. Eithr, wele, bywyd fy ngwas a fydd yn fyllaw; am hyny, nis niweidiant ef, er yr anafir ef o’u hachos hwynt. Etto mi a’i hiachâf ef, canys mi a ddangosaf iddynt fod fy noethineb i yn fwy nâ chyfrwysdra y diafol. A bydd, gan hyny, pwy bynag ni chredant yn fy ngeiriau i, yr hwn wyf IesuGrist, y rhai a achosa y Tad iddo ef ddwyn allan i’r Cenedloedd, ac a rydd allu iddo ef eu dwyn hwynt allan i’r Cenedloedd (caiff ei wneuthur fel y dywedodd Moses), hwy a dorir ymaith o blith fy mhobl y rhai ydynt yn y cyfammod; a’m pobl y rhai ydynt weddill o Jacob, a fyddant yn mhlith y Cenedloedd, ïe, yn eu canol hwynt fel llew yn mhlith bwystfilod y goedwig, ac fel cenaw llew yn mhlith y deadelloedd defaid, yr hwn, pa êl trwodd, a sathra ac a ysglyfaetha, ac ni bydd achubydd. Eu llaw a ddyrchefir yn erbyn eu gwrthwynebwyr, a’u holl elynion a dorir ymaith. Ië, gwae y Cenedloedd, os na edifarhant, canys bydd yn y dydd hwnw, medd y Tad, i mi dori ymaith dy feirch o’th ganol di, a dinystrio dy gerbydau, a thoraf i lawr ddinasoedd dy wlad, a dymchwelaf dy holl amddiffynfeydd: a thoraf ymaith o’th law y swynion, ac ni bydd i ti ddewiniaid. Toraf hefyd i lawr dy luniau cerfiedig, a’th ddelwau o’th blith; ac ni chei ymgrymu mwyach i weithredoedd dy ddwylaw dy hun; a diwreiddiaf dy lwyni o’th ganol, a dinystriaf dy ddinasoedd. A bydd i bob celwydd, a thwyll, a chenfigen, ac amryson, a chrefydd-dwyll, a phuteindra, gael eu bwrw heibio. Canys bydd, medd y Tad, yn y dydd hwnw, pwy bynag ni edifarhant ac ni ddeuant at fy anwyl Fab, mi a’u toraf hwynt ymaith o blith fy mhobl, O dŷ Israel; ac a wnaf i ddialedd a llid ddyfod arnynt hwy, megys ag ar y cenedloedd, y fath ag na chlywsant.