Pennod Ⅷ.
Wele, yn awr, dygwyddodd pan lefarodd yr Iesu y geiriau hyn, iddo edrych oddiamgylch drachefn ar y dyrfa, a dywedyd wrthynt, Wele, mae fy amser wrth law. Canfyddaf eich bod yn weiniaid, fel nas gellwch ddeall fy holl eiriau y rhai a orchymynir i mi gan y Tad i lefaru wrthych yr amser hwn; am hyny, ewch i’ch cartrefleoedd, a myfyriwch ar y pethau a ddywedais, a gofynwch gan y Tad, yn fy enw i, fel y dealloch ac y parotôch eich meddyliau erbyn y fory, ac yr wyf yn dyfod atoch etto. Eithr yn awr yr wyf yn myned at y Tad, ac hefyd i ddangos fy hun i lwythau colledig Israel, canys nid ydynt golledig gan y Tad, canys efe a ŵyr i ba le y dygodd hwynt.
A bu ar ol i’r Iesu lefaru felly, iddo daflu ei olygon oddiamgylch drachefn ar y dyrfa, a chanfod eu bod mewn dagrau, ac yn edrych yn ddyfal arno ef, fel pe ewyllysient ofyn ganddo i aros ychydig yn hwy gyda hwynt. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Wele, y mae fy ymysgaroedd yn llawn tosturi tuag atoch:a oes neb yn glaf yn eich plith, dygwch hwynt yma. A oes neb genych yn gloff, neu ddall, neu anafus, neu wahanglwyfus, neu wywedig, neu yn fyddar, neu yn gystuddiedig mewn rhyw ddull? Dygwch hwynt yma, ac mi a’u hiachâf hwynt, canys yr wyf yn tosturio wrthych; mae fy ymysgaroedd yn llawn trugaredd; canys canfyddaf eich bod yn chwennych i mi ddangos i chwi yr hyn a wnaethym i’ch brodyr yn Jerusalem, canys mi a welaf fod eich ffydd yn ddigonol fel y dylwn eich iachâu.
A bu ar ol iddo lefaru felly, i’r holl dyrfa, yn un fryd, fyned allan â’u cleifion, a’u rhai cystuddiedig, a’u cloffion, a’u deillion, a’u byddariaid, a’u holl rai afiachus; ac efe a’u hiachâodd hwynt bob un fel y dygwyd hwynt ato, a hwynt-hwy oll, y rhai a wellhâwyd a’r rhai oeddynt iach, a blygasant i lawr wrth ei draed, ac a’i haddolasant; a chynnifer ag a allent ddyfod o’r dyrfa, a gusanasant ei draed, yn gymmaint ag iddynt olchi ei draed â’u dagrau.
A bu iddo orchymyn iddynt ddwyn eu plant bychain ato. Felly hwy a ddygasant eu plant bychain, ac a’u gosodasant i eistedd i lawr o amgylch iddo, a’r Iesu a safodd yn y canol; a’r dyrfa a roddasant ffordd hyd nes iddynt oll gael eu dwyn ato. A bu wedi iddynt gael eu dwyn oll, a’r Iesu yn sefyll yn y canol, iddo orchymyn i’r dyrfa benlinio i lawr ar y ddaear. A bu ar ol iddynt benlinio ar y ddaear, i’r Iesu ocheneidio ynddo ei hun, a dywedyd, O Dad, blinir fi oblegid drygioni pobl tŷ Israel. Ac ar ol iddo ddywedyd y geiriau hyn, yntau hefyd a benliniodd ar y ddaear; ac wele, efe a weddiodd ar y Tad, a’r pethau a weddiodd nis gellir eu hysgrifenu, a’r dyrfa a’i clywodd a ddygasant dystiolaeth. Ac yn y modd hyn y dygasantdystiolaeth: ni welodd y llygad erioed, ac ni chlywodd y clust o’r blaen, y fath bethau mawr a rhyfedd ag a welsom ac a glywsom ni yr Iesu yn llefaru wrth y Tad; ac ni all tafod draethu, ac ni all gael ei ysgrifenu gan neb, ac nis gall calonau dynion amgyffred pethau mor fawr a rhyfedd ag a welsom ac a glywsom yr Iesu yn llefaru; ac nis gall neb amgyffred y llawenydd a lanwodd ein calonau yn yr amser y clywsom ef yn gweddio drosom ar y Tad.
A bu ar ol i’r Iesu ddarfod gweddio ar y Tad, iddo gyfodi; eithr yr oedd llawenydd y dyrfa mor fawr, nes y gorchfygodd hwynt. A bu i’r Iesu lefaru wrthynt, ac erchi iddynt gyfodi. A hwythau a gyfodasant oddiar y ddaear, ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwyn eich byd chwi oblegid eich ffydd. Ac yn awr, wele, fy llawenydd sydd gyflawn. Ac wedi iddo ddywedyd y geiriau hyn, efe a wylodd, ac yr oedd y dyrfa yn dystion; ac efe a gymmerodd eu plant bychain, un ac un, ac a’u bendithiodd, ac a weddiodd ar y Tad drostynt. Ac wedi iddo wneuthur hyn efe a wylodd drachefn, ac a lefarodd wrth y dyrfa, gan ddywedyd wrthynt, Wele eich rhai bychain. Ac fel yr oeddynt yn edrych i weled, hwy a daflasant eu golwg tua’r nef, ac a welsant y nefoedd yn agored, ac a welsant angylion yn disgyn o’r nef, fel pe byddai yn nghanol tân; a hwy a ddaethant i waered ac a amgylchynasant y rhai bychain hyny, ac amgylchynwyd hwynt gan dân; a’r angylion a weiniasant iddynt, a’r dyrfa a welsant ac a glywsant, ac a ddygasant dystiolaeth; a hwy a wyddant fod eu tystiolaeth yn wir, canys yr oll o honynt a welsant ac a glywsant, pob dyn drosto ei hun; ac yr oeddynt mewn rhifedi oddeutu dwy fil a phum cant o eneidiau, ac yn gynnwysedig o wŷr, gwragedd, a phlant.
A bu i’r Iesu orchymyn i’w ddyscyblion am ddwyn iddo fara a gwin. A thra yr aethant am fara a gwin, efe a orchymynodd i’r dyrfa eistedd i lawr ar y ddaear. A phan ddaeth y dyscyblion â’r bara a’r gwin, efe a gymmerodd o’r bara, ac a’i torodd ac a’i bendithiodd; ac efe a’i rhoddodd i’r dyscyblion, ac a orchymynodd iddynt fwyta. Ac wedi iddynt hwy fwyta, a chael eu digoni, efe a orchymynodd iddynt ei gyfranu i’r dyrfa. Ac wedi i’r dyrfa fwyta a chael eu digoni, efe a ddywedodd wrth y dyscyblion, Wele, caiff un ei ordeinio yn eich plith, ac iddo ef y rhoddaf awdurdod i dori bara, a’i fendithio, a’i roddi i bobl fy eglwys, i’r holl rai hyny a gredant ac a gânt eu bedyddio yn fy enw i. A hyn a gewch ofalu ei wneuthur yn wastadol, megys ag y gwnaethym i, ïe, megys y torais i fara, ac a’i bendithiais, ac a’i rhoddais i chwi. A hyn a wnewch er cof am fy nghorff, yr hwn a ddangosais i chwi. A chaiff hyn fod yn dystiolaeth i’r Tad, eich bod yn fy nghofio i yn wastadol. Ac os ydych yn fy ngofio i yn wastadol, chwi a gewch fy ysbryd i fod gyda chwi.
A bu wedi iddo ef ddywedyd y geiriau hyn, orchymyn o hono ei ddyscyblion i gymmeryd o win y cwpan, ac yfed o hono, ac am iddynt hefyd ei roddi i’r dyrfa, fel yr yfent hwythau o hono. A bu iddynt wneuthur felly, ac yfed o hono, a chael eu digoni; a hwy a’i rhoddasant i’r dyrfa, a hwythau a yfasant, ac a ddigonwyd. Ac ar ol i’r dyscyblion wneuthur hyn, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gwyn eich byd oblegid y peth hyn a wnaethoch, canys hyn ydyw cyflwni fy nghorchymynion, ac y mae hyn yn tystiolaethu i’r Tad eich bod yn foddlawn gwneuthur yr hyn a orchymynais i chwi. A hyn a wnewch yn wastadol i’r rhai a edifarhant ac a fedyddir yn fy enw; a chewch ei wneuthur er cof am fy ngwaed, yr hwn a dywalltais drosoch, fel y tystiolaethoch i’r Tad eich bod yn fy nghofio i yn wastadol. Ac os ydych yn fy nghofio i yn wastadol, chwi a gewch fy ysbryd i fod gyda chwi. Ac yr wyf yn rhoddi gorchymyn i chwi y cewch wneuthur y pethau hyn. Ac os gwnewch y pethau hyn yn wastadol, gwyn eich byd chwi, canys yr ydych wedi eich adeiladu ar fy nghraid i. Eithr pwy bynag yn eich plith chwi a wnelo fwy neu lai nâ’r pethau hyn, nid ydynt wedi eu hadeiladu ar fy nghraig i, eithr wedi eu hadeiladu ar sylfaen dywodlyd; a phan ddisgyno y gwlaw, a dyfod llif-ddyfroedd, a chwythu o’r gwyntoedd, a rhuthro arnynt, hwy a syrthiant, ac y mae pyrth uffern yn agored yn barod i’w derbyn; am hyny, gwyn eich byd chwi os cedwch fy ngorchymynion, y rhai a orchymynodd y Tad i mi eu rhoddi i chwi. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, mae yn rhaid i chwi wylio a gweddio yn wastadol, rhag i chwi gael eich temtio gan y diafol, a’ch arwain ymaith yn gaeth ganddo. Ac megys y gweddiais i yn eich plith chwi, felly y gweddiwch chwithau yn fy eglwys, yn mhlith fy mhobl y rhai a edifarhant ac a fedyddir yn fy enw. Wele, myfi yw y goleuni; ac mi a roddais esiampl i chwithau.
A bu ar ol i’r Iesu lefaru y geiriau hyn wrth ei ddyscyblion, iddo droi drachefn at y dyrfa, a dywedyd wrthynt, Wele, yn wir, yn wir, meddaf i chwi, mae yn rhaid i chwi wylio a gweddio yn wasadol, rhag i chwi fyned i brofedigaeth; canys y mae satan yn ewyllysio eich cael chwi, fel y nithio chwi fel gwenith; am hyny, mae yn rhaid i chwi weddio yn wastadol ar y Tad yn fy enw i; a pha beth bynag a ofynoch i’r Tad yn fy enw i, yr hyn sydd yn iawn, gan gredu y derbyniwch, wele, efe a roddir i chwi. Gweddiwch yn eich teuluoedd ar y Tad, yn wastadol yn fy enw i, fel y bendithier eich gwragedd a’ch plant. Ac wele, chwi a gewch ymgyfarfod yn fynych, ac ni chewch wahardd neb i ddyfod atoch pan wedi ymgyfarfod yn nghyd, eithr gadael iddynt ddyfod atoch, a pheidio eu gwahardd hwynt; eithr chwi a gewch weddio drostynt, a pheidio eu bwrw allan; ac os bydd iddynt ddyfod atoch yn fynych, chwi a gewch weddio drostynt ar y Tad, yn fy enw i; am hyny, daliwch eich goleuni i fyny, fel y llewyrcho i’r byd. Wele, myfi yw y goleuni yr hwn a gewch ddal i fyny—yr hyn a welsoch fi yn ei wneuthur. Wele, yr ydych yn gweled i mi weddio ar y Tad, ac yr ydych yn dystion oll; a gwelsoch i mi orchymyn nad elai ueb o honoch ymaith, eithr yn hytrach orchymyn i chwi ddyfod ataf, fel y teimlech ac y gwelech; felly hefyd y gwnewch chwithau i’r byd; a phwy bynag a doro y gorchymyn hwn, sydd yn goddef ei hun i gael ei arwain i brofedigaeth.
Ac yn awr, dygwyddodd ar ol i’r Iesu lefaru y geiriau hyn, iddo droi ei olygon drachefn ar y dyscyblion a ddewisodd, a dywedyd wrthynt, Wele, yn wir, yn wir, meddaf i chwi, yr wyf yn rhoddi i chwi orchymyn arall, ac yna rhaid i mi fyned at fy Nhad, fel y cyflawnwyf orchymynion ereill a roddodd efe i mi. Ac yn awr, wele, hwn yw y gorchymyn wyf yn ei roddi i chwi, na adawoch i neb yn wybodus, gyfranogi o’m cnawd a’m gwaed, pan fyddoch yn ei weinyddu, canys yr hwn sydd yn bwyta ac yn yfed fy nghnawd a’m gwaed yn annheilwng, sydd yn bwyta ac yn yfed damnedigaeth i’w enaid; am hyny, os gwybyddwch fod dyn yn annheilwng i fwyta ac yfed o’m cnawd a’m gwaed, chwi a’i gwaherddwch; er hyny, na fwriwch ef allan o’ch plith, eithr gweinyddwch iddo, a gweddiwch drosto ar y Tad, yn fy enw i; ac os edifarha, a chael ei fedyddio yn fy enw i, yna derbyniwch ef, a gweinyddwch iddo o’m cnawd a’m gwaed i; eithr os na edifarha, ni chyfrifir ef yn mhlith fy mhobl, fel na ddinystrio fy mhobl, canys wele, mi a adwaen fy nefaid, ac y maent wedi eu cyfrif; er hyny, ni chewch ei fwrw allan o’ch synagogau, neu eich lleoedd o addoliad, canys i’r cyfryw y parhewch i weinyddu; canys ni wyddoch na ddychwelant ac edifarhau, a dyfod ataf gyda llawn fwriad calon, ac mi a’u hiachâf hwynt, a chwi a gewch fod yn foddion i ddwyn iachawdwriaeth iddynt. Am hyny, ddeloch dan farnedigaeth, canys gwae yr hwn y mae’r Tad yn ei gondemnio. Ac yr wyf yn rhoddi i chwi y gorchymynion hyn, oblegid y dadleuon sydd wedi bod yn eich mysg. A gwyn eich byd os na fydd dim dadleuon yn eich mysg. Ac yn awr, yr wyf fi yn myned at y Tad, o herwydd y mae yn fuddiol i mi fyned at y Tad, er eich mwyn chwi.
A bu ar ol i’r Iesu orphen yr ymadroddion hyn, iddo gyffwrdd y dyscyblion a ddewisodd â’i law, un ac un, hyd nes iddo eu cyffwrdd hwynt oll, a llefaru wrthynt tra yn eu cyffwrdd: ac ni chlywodd y dyrfa y geiriau a lefarodd, am hyny ni thystiolaethasant; eithr y dyscyblion a dystiolaethasant iddo roddi awdurdod iddynt i roddi yr Ysbryd Glân. Ac mi a ddangosaf i chwi yn ol llaw, fod y dystiolaeth hon yn wir.
A bu ar ol i’r Iesu gyffwrdd â hwynt oll, i gwmwl ddyfod a gorchuddio y dyrfa fel nas gallent weled yr Iesu. A thra yr oeddynt yn orchuddiedig, efe a ymadawodd oddi wrthynt, ac a esgynodd i’r nef. A’r dyscyblion a welsant ac a ddygasant dystiolaeth iddo ef esgyn drachefn i’r nef.