Pennod Ⅱ.
Ac yn awr, dygwyddodd yn yr unfed flwyddyn ar bymtheg oddiar ddyfodiad Crist, i Lachoneus, llywodraethwr y tir, dderbyn epistol oddiwrth flaenor a llywodraethwr y llu hwn o yspeilwyr; a’r rhai hyn oedd y geiriau a ysgrifenwyd, gan ddywedyd, Ardderchocaf Lachoneus, a phrif-lywodraethwr y tir, wele, yr wyf yn ysgrifenu yr epistol hwn atat, ac yn rhoddi i ti ganmoliaeth fawr iawn oblegid dy ddiysgogrwydd, ac hefyd diysgogrwydd dy bobl, yn amddiffyn yr hyn a dybiwch yw eich iawnderau a’ch rhyddid; ïe, yr ydych chwi yn sefyll yn dda, megys pe byddech yn cael eich cynnal gan law Duw, wrth amddiffyn eich rhyddid, a’ch eiddo, a’ch gwlad, neu yr hyn a alwch felly. Ac ymddengys yn drueni i mi, ardderchocaf Lachoneus, dy fod mor ffol ac annoeth â thybied y gelli sefyll yn erbyn cynnifer o wyr dewr, ag ydynt wrth fy ngorchymyn i, y rhai ydynt y pryd hwn yn sefyll yn arfog, ac yn dysgwyl yn awyddus iawn am y gair, Ewch i waered ar y Nephiaid, a dinystriwch hwynt. A minnau, gan wybod am eu hysbryd anorchfygol, ac wedi eu profi ar faes y frwydr, ac yn gwybod am eu casineb bythol tuag atoch chwi, o herwydd eich aml gamdriniaethau tuag atynt, am hyny pe deuent i waered yn eich erbyn, hwy a ymwelent â chwi â llwyr ddinystr; am hyny, mi a ysgrifenais yr epistol hwn, gan ei selio â’m llaw fy hun, gan deimlo dros eich lleshad, o herwydd eich diysgogrwydd yn yr hyn a gredwch sydd yn iawn, a’ch ysbryd godidog ar faes y frwydr; am hyny yr wyf yn ysgrifenu atoch, i ddymuno arnoch roddi i fyny i’m pobl hyn, eich dinasoedd, eich tiroedd, a’ch etifeddiaethau, yn hytrach nag iddynt hwy ymweled â chwi â’r cleddyf, ac i ddinystr ddyfod arnoch; neu, mewn geiriau ereill, rhoddwch eich hunain i fyny i ni, ac ymunwch â ni, a deuwch yn adnabyddus â’n gweithredoedd dirgelaidd, gan ddyfod yn frodyr i ni, fel y byddoch megys ninnau; nid ein caethweision, eithr ein brodyr, a chyfranogion o’n holl eiddo. Ac wele, yr wyf yn tyngu wrthych, os gwnewch hyn, gyda llw, na ddyfethir chwi; eithr os na wnewch hyn, yr wyf yn tyngu wrthych, gyda llw, mai mis i fory, y gorchymynaf i’m byddinoedd ddyfod i waered yn eich erbyn, ac ni chant attal en llaw, ac ni chant eich arbed, eithr eich lladd, a gadael i’r cleddyf syrthio arnoch, ïe, hyd nes y difodir chwi. Ac wele myfi yw Giddianhi; a myfi yw llywodraethwr y gymdeithas ddirgelaidd hon o eiddo Gadianton; yr hon gymdeithas, a’i gweithredoedd, a wn sydd yn dda; ac y maent o amseriad cyntefig, ac wedi eu trosglwyddo i waered i ni. Ac yr wyf yn ysgrifenu yr epistol hwn atat ti, Lachoneus, ac yn gobeithio y gwnewch roddi i fyny eich tiroedd, a’ch meddiannau, heb dywallt gwaed, fel y gallo fy mhobl hyn gael yn ol eu hiawnderau a’u llywodraeth, y rhai ydynt wedi ymneillduo oddiwrthych, o herwydd eich drygioni yn cadw oddi wrthynt eu hawl o lywodraethu; ac oni wnewch hyn, mi a ddialaf eu cam. Myfi yw Giddianhi.
Ac yn awr, dygwyddodd pan dderbyniodd Lachoneus yr epistol hwn, iddo ryfeddu yn fawr, oblegid eofndra Giddianhi yn hawlio meddiant o dir y Nephiaid, ac hefyd yn bwgwth y bobl a dïal cam y rhai na dderbyniasant un cam, oddieithr eu bod wedi gwneuthur cam â hwynt eu hunain, trwy ymneillduo ymaith at yr yspeilwyr drygionus a ffiaidd hyny. Yn awr, wele, yr oedd y Lachoneus hwn, y llywodraethwr, yn ddyn cyfiawn, ac nis gallai gael ei ddychrynu gan ofynion a bygythiadau yspeiliwr; am hyny, ni wrandawodd efe ar epistol Giddianhi, llywodraethwr yr yspeilwyr, eithr perodd i’w bobl alw ar yr Arglwydd am nerth erbyn yr amser y deuai yr yspeilwyr i waered yn eu herbyn hwynt; ïe, efe a ddanfonodd gyhoeddiad yn mhlith yr holl bobl, am iddynt gasglu ynghyd eu gwragedd, a’u plant, eu da a’u defaid, a’u holl eiddo, oddieithr eu tir, i’r un lle. Ac efe a achosodd i amddiffynfeydd gael eu hadeiladu oddiamgylch iddynt, ac i’w cadernid fod yn fawr iawn. Ac achosodd fod byddinoedd, o’r Nephiaid ac o’r Lamaniaid, neu o’r holl rai a gyfrifid yn mhlith y Nephiaid, yn cael eu gosod fel gwylwyr oddiamgylch, i’w gwylio hwynt, a’u cadw rhag yr ywpeilwyr, ddydd a nos; ïe, efe a ddywedodd wrthynt, Fel mai byw yr Arglwydd, oni edifarhewch am eich holl anwireddau, a galw ar yr Arglwydd, na waredid hwynt mewn un modd allan o ddwylaw yr yspeilwyr Gadiantonaidd hyny. Ac mor fawr a rhyfeddol oedd geiriau a phrophwydoliaethau Lachoneus, fel yr achosent i ofn ddyfod ar yr holl bobl, a hwy a ymegnïent â’u holl allu i wneuthur yn ol geiriau Lachoneus.
A bu i Lachoneus benodi pen-cadbeniaid ar holl fyddinoedd y Nephiaid, i’w llywyddu ar y pryd y deuai yr yspeilwyr i waered o’r anialwch yn eu herbyn hwynt. Yn awr, y penaf yn mhlith yr holl gadbeniaid, a llywodraethwr mawr holl fyddinoedd y Nephiaid, a benodwyd a’i enw oedd Gidgiddoni. Yn awr, yr oedd yn arferiad yn mhlith yr holl Nephiaid, i benodi yn ben-cadbeniaid iddynt, oddieithr yn eu hamseroedd o ddrygioni, ryw un a feddai ysbryd y dadguddiad, ac hefyd y brophwydoliaeth; gan hyny, yr oedd y Gidgiddoni hwn yn brophwyd mawr yn eu mysg, ac hefyd yn brif farnwr. Yn awr, y bobl a ddywedasant wrth Gidgiddoni, Gweddiwch ar yr Arglwydd, a gadewch i ni fyned i fyny i’r mynyddoedd, ac i’r anialwch, fel y syrthiom ar yr yspeilwyr ac y dyfethom hwynt yn eu tiroedd eu hun. Eithr Gidgiddoni a ddywedodd wrthynt, Na ato Duw; canys ped elem i fyny yn eu herbyn hwynt, yr Arglwydd a’n traddodai ni i’w dwylaw; am hyny, ni a barotown ein hunain yn nghanol ein tiroedd, ac a gasglwn ein holl fyddinoedd ynghyd, ac nid awn ni yn eu herbyn hwynt, eithr aroswn hyd nes y deuant hwy yn ein herbyn ni; am hyny, fel mai byw yr Arglwydd, os gwnawn hyn, efe a’u traddoda hwynt i’n dwylaw ni. A bu yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg, yn niwedd y flwyddyn, fod cyhoeddiad Lachoneus wedi myned allan dros holl wyneb y tir, ac yr oeddynt hwy wedi cymmeryd eu ceffylau, a’u cerbydau, a’u hanifeiliaid, a’u holl dda, a’u defaid, a’u ŷd, a’u holl eiddo, a chychwyn allan wrth y miloedd, ac wrth y degau o filoedd, hyd nes yr oeddynt oll wedi myned allan i’r lle ag oedd wedi ei benodi, er iddynt ymgasglu yn nghyd i amddiffyn eu hunain yn erbyn eu gelynion. A’r tir a benodwyd oedd tir Zarahemla a thir Llawnder; ïe, hyd y ffin ag oedd rhwng tir Llawnder a thirAnghyfannedd-dra; ac yr oedd miloedd lawer o bobl, y rhai a elwid Nephiaid, wedi ymgasglu ynghyd i’r tir hwn. Yn awr, Lachoneus a berodd iddynt ymgasglu ynghyd yn y tir deheuol, o herwydd y felldith fawr ag oedd ar y tir gogleddol; a hwy a amddiffynasant eu hunain yn erbyn eu gelynion, ac a drigent mewn un tir, ac mewn un corff, ac a ofnent y geiriau a lefarwyd gan Lachoneus, yn gymmaint ag iddynt edifarhau am eu holl bechodau; a hwy a ddyrchafent eu gweddiau at yr Arglwydd eu Duw, am iddo eu gwaredu hwynt yn yr amser y deuai eu gelynion i waered yn eu herbyn hwynt i ryfel. Ac yr oeddynt yn drist iawn o herwydd eu gelynion. A Gidgiddoni a berodd iddynt wneuthur arfau rhyfel o bob math, a bod yn gryf ag arfogaeth, ac â tharianau, ac â bwcledau, yn ol dull ei gyfarwyddyd ef.
A bu yn niwedd y ddeunawfed flwyddyn, fod y byddinoedd yspeilwyr hyny wedi parotoi i ryfel, a dechreu dyfod i waered ac ymruthro allan o’r bryniau, ac o’r mynyddoedd, a’r anialwch, a’u hamddiffynfeydd, a’u lleoedd dirgel, a dechreu cymmeryd meddiant o’r tiroedd, y rhai oeddynt yn y tir deheuol a’r rhoi oeddynt yn y tir gogleddol, a dechreu cymmeryd meddiant o’r holl diroedd a adawyd gan y Nephiaid, a’r dinasoedd a adawyd yn anghyfannedd. Eithr wele, nid oedd dim annifeiliaid gwylltion na helwriaeth yn y tiroedd hyny a adawyd gan y Nephiaid, ac nid oedd dim helwriaeth i’r yspeilwyr oddieithr yn yr anialwch; ac nis gallai yr yspeilwyr fyw, oddieithr yn yr anialwch, o eisieu ymborth; canys yr oedd y Nephiaid wedi gadael eu tiroedd yn anghyfannedd, ac wedi casglu eu da, a’u defaid, a’u holl eiddo, ac yr oeddynt mewn un corff; am hyny nid oedd un cyfle gan yr yspeilwyr i yspeilio a chael ymborth, heb ddyfod i fyny i frwydr agored yn erbyn y Nephiaid; ac yr oedd y Nephiaid mewn un corff, ac yn gymmaint o rifedi, ac wedi cadw iddynt eu hunain ymborth, a cheffylau a da, ac anifeiliaid o bob math, fel y gallent fyw am yspaid saith mlynedd, yn mha amser yr oeddynt yn gobeithio i ddyfetha yr yspeilwyr oddiar wyneb y tir. Ac felly yr aeth y ddeunawfed flwyddyn heibio.
A bu yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg, i Giddianhi gael allan fod yn anghenrheidiol iddo fyned i fyny i ryfel yn erbyn y Nephiaid, canys nid oedd un ffordd y gallent fyw, ond trwy yspeilio, a lladrata, a llofruddio. Ac ni feiddient ymledaenu ar wyneb y tir, fel y gallent godi ŷd, rhag i’r Nephiaid ddyfod arnynt a’u lladd hwynt; am hyny, Giddianhi a roddodd orchymyn i’w fyddinoedd, am iddynt yn y flwyddyn hon fyned i fyny i ryfel yn erbyn y Nephiaid.
A bu iddynt ddyfod i fyny i ryfel; ac yr oedd yn y chwechfed mis; ac wele, mawr ac ofnadwy oedd y dydd y daethant i fyny i ryfel; ac yr oeddynt wedi ymwregysu o amgylch yn ol dull yspeilwyr; ac yr oedd ganddynt groen ŵyn o amgylch eu lwynau, ac wedi eu lliwio mewn gwaed, a’u penau wedi eu cneifio, a chanddynt helmau arnynt; a mawr ac ofnadwy oedd ymddangosiad byddinoedd Giddianhi, oblegid eu harfogaeth, ac oblegid eu bod wedi eu lliwio mewn gwaed. A bu i fyddinoedd y Nephiaid, pan welsant ymddangosiad byddin Giddianhi, fod oll wedi syrthio i’r ddaear, a dyrchafu eu llef at yr Arglwydd eu Duw, am iddo eu harbed, a’u gwaredu hwynt allan o ddwylaw eu gelynion. A bu pan welodd byddinoedd Giddinahi hyn, iddynt ddechreu bloeddio â llef uchel, oblegid eu llawenydd, canys yr oeddynt wedi tybied fod y Nephiaid wedi syrthio i ofn, oblegid y dychryn a achosai eu byddinoedd; eithr yn y peth hwn, cawsant eu siomi, canys nid oedd y Nephiaid yn eu hofni hwynt, eithr ofnent eu Duw, ac ymbilient ag ef am eu hamddiffyn; am hyny, pan ruthrodd byddinoedd Giddianhi arnynt, yr oeddynt yn barod i’w cyfarfod; ïe, yn nerth yr Arglwydd y derbyniasant hwynt; a dechreuodd y frwydr yn y chwechfed mis hwn; a mawr ac ofnadwy oedd y frwydr hono, ïe, mawr ac ofnadwy oedd ei lladdfa, yn gymmaint ag na wypwyd am laddfa mor fawr yn mhlith holl bobl Lehi, er pan adawodd Jerusalem. Ac er yr holl fygythion a’r llwon a wnaeth Giddinahi, wele, y Nephiaid a’u trechasant hwynt, yn gymmaint ag iddynt syrthio yn ol o’u blaen hwynt.
A bu i Gidgiddoni orchymyn i’w fyddinoedd eu hymlid hwynt mor bell â chyffiniau yr anialwch, ac am iddynt beidio arbed neb a syrthiai i’w dwylaw ar y ffordd; ac felly yr ymlidiasant ac y lladdasant hwynt, hyd gyffiniau yr anialwch, sef hyd nes y cyflawnasant orchymyn Gidgiddoni.
A bu i Giddianhi, yr hwn a safodd ac a ymladdodd yn galonog, gael ei ymlid wrth ffoi; a chan fod yn flinedig of herwydd ei fawr ymladd, efe a oddiweddwyd ac a laddwyd. Ac felly y bu diwedd Giddianhi yr yspeiliwr.
A bu i fyddinoedd y Nephiaid ddychwelyd drachefn i’w lle o ddiogelwch. A bu i’r bedwaredd flwyddyn ar bymtheg hon fyned heibio, ac ni ddaeth yr yseilwyr draehefn i ryfel; ac ni ddaethant ychwaith yn yr ugeinfed flwyddyn; ac yn yr unfed flwyddyn ar hugain ni ddaethant i fyny i ryfel, eithr daethant i fyny ar bob ochr i warchae oddiamgylch pobl Nephi; canys tybient pe gallent dori pobl Nephi ymaith oddiwrth eu tiroedd, a’u cau i mewn ar bab ochr, ac os torent hwynt ymaith oddiwrth eu holl ragofreintiau allanol, y gallent achosi ymaith oddiwrth eu holl ragorfrientiau allanol, y gallent achosi iddynt roddi eu hunain i fyny yn ol eu hewyllys hwy. Yn awr, yr oeddynt hwy wedi penodi iddunt eu hun flaenor arall, enw yr hwn oedd Zemnarihah; am hyny, Zemnarihah ddarfu achosi i’r gwarchae hwn gymmeryd lle. Eithr wele, yr oedd hyn yn fantais i’r Nephiaid; canys yr oedd yn anmhosibl i’r yspeilwyr warchae yn ddigon hir i wneyd unrhyw effaith ar y Nephiaid, oblegid eu cyflawnder ymborth yr hwn a gadwasant yn ystor, o herwydd y prinder ymborth yn mhlith yr yspeilwyr; canys wele, nid oedd ganddynt ddim ond cig er eu cynnaileth, yr hwn gig a gawsent yn yr anialwch. A bu i helwriaeth fyned yn brin yn yr anialwch, yn gymmaint â bod yr yspelwyr ynghylch trengu o newyn. Ac yr oedd y Nepiad yn myned allan yn barhaus yn y dydd ac yn y nos, ac yn syrthio ar eu byddinoedd, ac yn eu tòri ymaith wrth y miledd a’r degau o filoedd. Ac felly daeth yn ddymunaid pobl Zemnarihah i dynu yn ol eu bwraid, o herwydd y dinystr mawr a ddaeth arnynt yn y dydd ac yn y nos.
A bu i Zemnarihah roddi gorchymyn i’w bobl ymgilio o’r gwarchae, a chychwyn i gyrau eithaf y tir yn ogleddol. Ac yn awr, Gidgiddoni, gan fod yn hysbys o’u bwriad, ac yn gwybod am eu gwendid oblegid eisieu ymborth, a’r lladdfa fawr a wnaethwyd yn eu plith hwynt, am hyny efe a anfonodd allan ei fyddinoedd yn y nos, ac a dorodd ymaith ffordd eu henciliad, ac a osododd fyddinoedd ar ffordd eu henciliad; a hyn a wnaethant yn y nos, ac a ddaethant ar eu taith tuhwnt i’r yspeilwyr, fel pan ddechreuodd yr yspeilwyr eu taith drachefn yn y boreu, hwy a gyfarfuwyd gan fyddinoedd y Nephiaid, ar eu tu blaen ac ar eu tu hol. A’r yspeilwyr ag oedd ar y deau a dorwyd ymaith hefyd yn eu lleoedd o enciliad. A’r holl bethau hyn a wnaethwyd trwy orchymyn Gidgiddoni. Ac yr oedd miloedd lawer a roddasant eu hunain i fyny yn garcharorion i’r Lamaniaid, a’r gweddill o honynt a laddwyd; a’u blaenor, Zemnarihah, a ddaliwyd ac a grogwyd ar bren, ïe, sef ar ei frig, hyd nes yr oedd yn farw. A phan yr oeddynt wedi ei grogi hyd nes yr oedd yn farw, hwy a gwympasant y pren i’r ddaear, ac a waeddasant â llef uchel, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a gadwo ei bobl mewn cyfiawnder a santeiddrwydd calon, fel yr achosont i bawb gael eu cwympo i’r ddaear ag a geisiant eu lladd hwynt o herwydd gallu a dirgel gydfwriadau, megys ag y syrthiwyd y dyn hwn i’r ddaaer. A hwy a orfoleddasant ac a waeddasant drachefn gydag un llef, gan ddywedyd, Boed i Dduw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob, amddiffyn y bobl hyn mewn cyfiawnder, cyhyd ag y galwant ar enw cu Duw am gymhorth. A bu iddynt dori allan, pawb megys un, i ganu, a moli eu Duw am y peth mawr a wnaeth iddynt, wrth eu cadw rhag syrthio i ddwylaw eu gelynion; ïe, hwy a waeddasant, Hosanna i’r Goruchaf Dduw; a gwaeddasant, Bendigedig fo enw yr Arglwydd Dduw Hollalluog, y Goruchaf Dduw. A’u calonau a lanwasant o lawenydd, hyd at ollwng allan ddagrau lawer, o herwydd mawr ddaioni Duw yn eu gwaredu hwynt o ddwylaw eu gelynion; a hwy a wyddent mai o herwydd eu hedifeirwch a’u gostyngeiddrwydd y gwaredwyd hwynt o ddinystr tragywyddol. Ac yn awr, wele, nid oedd un enaid byw yn mhlith holl bobl y Nephiaid, ag oedd yn ammau yn y mesur lleiaf eiriau yr holl brophwydi santaidd a lefarasant; canys hwy a wyddent fod anghenrhaid iddynt gael eu cyflawni; a gwyddent fod yn rhaid fod Crist wedi dyfod, oblegid yr amryw arwyddion a roddwyd, yn ol geiriau y prophwydi; ac oblegid y pethau ag oeddynt wedi dyfod i ben eisoes, hwy a wyddent fod yn rhaid i bob peth ddyfod i ben yn ol yr hyn a lefarwyd; am hyny, hwy a adawsant eu holl bechodau, a’u ffieidd-dra, a’u puteindra, ac a wasanaethasant Dduw gyda phob diwydrwydd ddydd a nos.
Ac yn awr, dygwyddodd ar ol iddynt gymmeryd yr holl yspeilwyr yn garcharorion, yn gymmaint na ddiangodd neb ag na laddwyd, iddynt fwrw eu carcharorion yn ngharchar, ac achosi i air Duw gael ei bregethu iddynt; a chynnifer a edifarhaent am eu pechodau ac a ymgyfammodent na lofruddient mwyach, a ryddhawyd; eithr cynnifer ag oedd na ymgyfammodent, ac a barhaent o hyd i fod â’r llofruddiaethau dirgel hyn yn eu calonau; ïe, cynnifer ag a gafwyd yn chwythu bygythion yn erbyn eu brodyr, a gondemniwyd ac a gospwyd yn ol y gyfraith. Ac felly y gosodasant derfyn ar yr holl gydfwriadau drygionus, a dirgel, a ffieidd hyny, yn y rhai yr oedd cymmaint o ddrygioni, a chynnifer o lofruddiaethau yn cael eu cyflawni. Ac felly yr aeth heibio y ddwyfed flwyddyn ar hugain, a’r drydedd flwyddyn ar hugain hefyd, a’r bedwaredd ar hugain, a’r bummed ar hugain; ac felly yr aeth pum mlynedd ar hugain heibio, ac yr oedd llawer o bethau wedi cymmeryd lle, ag a fyddent yn ngolwg rhai, yn fawrion a rhyfedd; er hyny, nis gallant gael eu hysgrifenu oll yn y llyfr hwn; ïe, nis gall y llyfr hwn gynnwys y ganfed ran o’r hyn a gyflawnwyd yn mhlith cynnifer o bobl, yn yr yspaid o bum mlynedd ar hugain; eithr wele, y mae cof-lyfrau ag ydynt yn cynnwys holl weithrediadau y bobl hyn; a hanes byrach ond cywir a roddwyd gan Nephi; am hyny, mi a wnaethym fy nghofnodiad o’r pethau hyn yn ol cof-lyfr Nephi, yr hwn a gerfiwyd ar y llafnau a elwid llafnau Nephi. Ac wele, yr wyf fi yn gwneuthur coflyfr ar lafnau, y rhai a wnaethym â’m dwylaw fy hun. Ac wele, gelwir fi Mormon, gan gael fy ngalw yn ol tir Mormon, y tir yn mha un y sefydlodd Alma yr eglwys yn mhlith y bobl; ïe, yr eglwys gyntaf ag a sefydlwyd yn eu plith wedi iddynt droseddu. Wele, myfi wyf ddyseybl i Iesu Grist, Mab Duw. Myfi a alwyd ganddo ef i draethu ei air yn mhlith ei bobl, fel y caent fywyd tragywyddol. A daeth yn fuddiol i mi, yn unol ag ewyllys Duw, fel y byddai i weddiau y rhai sydd wedi myned oddi yma, ag oeddynt y rhai santaidd, gael eu cyflawni yn ol cu ffydd, i wneuthur cof-lyfr o’r pethau hyn a wnaethwyd; ïe, cof-lyfr bychan o’r hyn a gymmerodd le o’r amser y gadawodd Lehi Jerusalem, i lawr hyd yr amser presennol; gan hyny, yr wyf fi yn gwneuthur fy nghof-lyfr o’r hanesion a roddwyd gan y rhai oeddynt o’m blaen, hyd ddechreu fy nydd i: ac yna yr wyf yn gwneuthur cofnodiad o’r pethau a welais â’m llygaid fy hun. Ac mi a wn fod y cof-lyfr wyf fi yn ei wneuthur yn gof-lyfr ffyddlawn a chywir; er hyny, y mae llawer o bethau, y rhai, yn ol ein hiaith ni, nad ydym yn alluog i’w hysgrifenu. Ac yn awr, yr wyf yn terfynu fy ngeiriau i, y rhai ydynt o honof fy hun, ac yn myned rhagof i roddi fy hanes am y pethau ag oeddynt o’m blaen; myfi yw Mormon, a disgynydd pur o Lehi. Mae genyf achos i fendithio fy Nuw a’m Hiachawdwr Iesu Grist, am iddo ddwyn ein tadau allan o wlad Jerusalem (ac ni wyddai neb hyny oddieithr ei hunan, a’r rhai a ddygodd efe allan o’r wlad hono), a’i fod wedi rhoddi i mi a’m pobl gymmaint o wybodaeth er iachawdwriaeth ein heneidiau. Yn ddiau efe a fendithiodd dŷ Jacob, ac a fu drugarog wrth hâd Joseph. Ac yn gymmaint â bod plant Lehi wedi cadw ei orchymynion, efe a’u bendithiodd ac a’u llwyddodd hwynt yn ol ei air; ïe, ac yn ddiau efe a ddwg drachefn weddill o had Joseph i wybodaeth o’r Arglwydd eu Duw; a diau fel mai byw yr Arglwydd, efe a gasgla i mewn o bedwar cwr y ddaear, holl weddill had Jacob, y rhai ydynt wasgaredig ar hyd holl wyneb y ddaear; ac megys yr ymgyfammododd efe â holl dŷ Jacob, felly y cyfammod â pha un yr ymgyfammododd efe â thŷ Jacob, a gaiff ei gyflawni yn ei amser cyfaddas ei hun, er adferiad holl dŷ Jacob i wybodaeth o’r o’r cyfammod a ymgyfammododd â hwynt; ac yna yr adnabyddant eu Gwaredwr, yr hwn yw Iesu Grist, Mab Duw; ac yna y cesglir hwynt i mewn o bedwar cwr y ddaear, i’w tiroedd eu hunain, o ba le y gwasgarwyd hwynt; ïe, fel mai byw yr Arglwydd, felly y bydd. Amen.