Pennod ⅩⅢ.
Ysgrifenwch y pethau a welsoch ac a glywsoch, oddieithr y rhai hyny a waharddwyd; ysgrifenwch weithredoedd y bobl hyn, y rhai a fyddant megys ag yr ysgrifenwyd, am yr hyn a fu; canys, wele, allan o’r llyfrau a ysgrifenwyd, ac a ysgrifenir, y bernir y bobl hyn, canys wrthynt hwy y bydd eu gweithredoedd yn adnabyddus i ddynion. Ac wele, y mae pob peth yn cael ei ysgrifenu gan y Tad; am hyny allan o’r llyfrau a ysgrifenir, y bernir y byd. A gwybyddwch y byddwch chwi yn farnwyr ar y bobl hyn, yn ol y farn a roddaf i chwi, yr hon a fydd yn gyfiawn; am hyny, pa fath ddynion a ddylech chwi fod? Yn wir, meddaf i chwi, megys yr wyf fi. Ac yn awr, yr wyf fi yn myned at y Tad. Ac yn wir, meddaf i chwi, pa bethau bynag a ofynoch i’r Tad, yn fy enw i, hwy a roddir i chwi; am hyny, gofynwch, a chwi a dderbyniwch; curwch, ac fe agorir i chwi; canys yr hwn sydd yn gofyn, sydd yn derbyn, ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir. Ac yn awr, wele, fy llawenydd sydd fawr, hyd at fod yn gyflawn, o’ch plegid chwi, ac hefyd y genedlaeth hon; ïe, ac y mae y Tad yn gorfoleddu, ac hefyd yr holl angylion santaidd, o’ch plegid chwi a’r genedlaeth hon; canys nid oes neb o honynt yn golledig. Wele, mi a fynwn i chwi ddeall; canys meddyliwyf y rhai hyny ag ydynt yn fyw yn awr, o’r genedlaeth hon; ac nid oes neb o honynt yn golledig; ac ynddynt yr wyf yn cael cyflawnder o lawenydd. Eithr wele, y mae yn ofidus genyf oblegid y bedwaredd genedlaeth ar ol y genedlaeth hon, canys hwy a arweinir ymaith yn gaeth ganddo ef, megys mab y golledigaeth; canys hwy a’m gwerthant i am arian, ac am aur, ac am yr hyn y mae gwyfyn yn llygru, a’r hyn y gall lladron dori drwodd a lladrata. Ac yn y dydd hwnw yr ymwelaf â hwynt, er dymchwelyd eu gweithredoedd ar eu penau eu hunain.
A bu ar ol i’r Iesu orphen y geiriau hyn, iddo ddywedyd wrth ei ddyscyblion, Ewch i mewn trwy y porth cyfyng; canys cyfyng yw y porth, a chul yw y ffordd sydd yn arwain i’r bywyd, ac ychydig yw y rhai sydd yn ei chael hi; eithr eang yw y porth, a llydan yw y ffordd sydd yn arwain i farwolaeth, a llawer yw y rhai sydd yn myned i mewn trwyddi, hyd nes y mae y nos yn dyfod, yn yr hon nis gall neb weithio.
A bu ar ol i’r Iesu ddywedyd y geiriau hyn, iddo lefaru wrth ei ddyscyblion, un ac un, gan ddywedyd wrthynt, Pa beth a ewyllysiwch genyf, ar ol i mi fyned at y Tad? A hwy a lefarasant oll, oddieithr tri, Yr ydym yn ewyllysio ar ol i ni fyw hyd oedran gwr, fel y byddo i’n gweinidogaeth, â’r hon y’n gelwaist ni, ddiweddu, fel y gallom ddyfod ar frys atat ti yn dy deyrnas. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwyn eich byd, o herwydd i chwi ddymuno y peth hwn genyf; am hyny, ar ol i chwi fod yn ddeuddeg mlwydd a thrugain oed, chwi a gewch ddyfod ataf fi yn fy nheyrnas, a chyda mi y cewch orphwysdra. Ac wedi iddo lefaru wrthynt hwy, efe a drodd ei hun at y tri, ac a ddywedodd wrthynt, Pa beth a ewyllysiwch i mi wneuthur i chwi, ar ol i mi fyned at y Tad? A hwy a dristâent yn eu calonau, canys ni feiddient lefaru wrtho ef y peth a ddymunent. Ac yntau a ddywedodd wrthynt, Wele, mi a wn eich meddyliau, ac yr ydych wedi dymuno y peth a ddymunodd Ioan, fy anwylyd, yr hwn oedd gyda mi yn fy ngweinidogaeth, cyn i mi gael fy nyrchafu gan yr Iuddewon; am hyny, gwyn eich byd chwi yn fwy, canys ni chewch chwi byth brofi marwolaeth, eithr cewch fyw i weled holl weithrediadau y Tad tuag at blant dynion, hyd nes y cyflawnir pob peth, yn ol ewyllys y Tad, pan y deuaf fi yn fy ngogoniant, gyda galluoedd y nef; ac ni chewch chwi byth ddyoddef poenau marwolaeth; eithr pan ddeuaf fi yn fy ngogoniant, chwi a gyfnewidir ar darawiad llygad, o farwoldeb i anfarwoldeb; ac yna y byddwch chwi yn wynfydedig yn nheyrnas fy Nhad. A thrachefn, ni chewch boen tra y byddoch yn trigo yn y cnawd, na thristwch ychwaith, oddieithr dros bechodau y byd; a hyn oll a wnaf oblegid y peth a ddymunasoch genyf, canys chwi a ddymunasoch fel y gallech ddwyn eneidiau dynion ataf, tra y safai y byd; ac o achos hyn chwi a gewch gyflawndeer o lawenydd, ac a gewch eistedd i lawr yn nheyrnas fy Nhad; ïe, eich llawenydd a fydd yn gyflawn, megys ag y rhoddodd y Tad i minnau gyflawnder o lawenydd: a chwi a fyddwch megys finnau, a minnau megys y Tad; a’r Tad a minnau un ydym; ac y mae yr Ysbryd Glân yn tystiolaethu am y Tad a minnau; ac y mae y Tad yn rhoddi yr Ysbryd Glân i blant dynion, o’m hachos i.
A bu ar ol i’r Iesu lefaru y geiriau hyn, iddo gyffwrdd â phob un o honynt â’i fys, oddieithr y tri ag oeddynt i aros, ac yna efe a ymadawodd. Ac wele, y nefoedd a agorodd, a hwy a gipiwyd i fyny i’r nef, ac a welsant ac a glywsant bethau annhraethadwy. A gwaharddwyd iddynt draethu, ac ni roddwyd gallu iddynt fel y gallent draethu y pethau a welsant ac a glywsant; a pha un bynag ai yn y corff neu allan o’r corff yr oeddynt, nis gallasent ddywedyd; canys ymddangosai iddynt hwy fel yn weddnewidiad o honynt, fel y cyfnewidiwyd hwynt o’r corff hwn o gnawd, i sefyllfa anfarwol, fel y gallent weled pethau Duw. Eithr bu iddynt drachefn weinidogaethu ar wyneb y ddaear; er hyny, ni weinidogaethent o’r pethau a glywsent ac a welsent, o herwydd y gorchymyn a roddwyd iddynt yn y nef. Ac yn awr, pa un ai marwol ai anfarwol oeddynt, oddiar ddydd eu gweddnewidiad, nis gwn; eithr hyn a wn, yn ol yr hanes a roddwyd, eu bod yn myned allan ar wyneb y tir, ac yn gweinidogaethu i’r holl bobl, gan gyssylltu â’r eglwys gynnifer ag a gredent yn eu pregethu, gan eu bedyddio; a chynnifer ag a fedyddiwyd, a dderbyniasant yr Ysbryd Glân; a hwy a fwriwyd yn ngharchar gan y rhai ni pherthynent i’r eglwys. Ac nis gallai y carcharau eu dal hwynt, canys hwy a rwygid yn y canol; a hwy a fwrid i lawr i’r ddaear; eithr hwy a darawent y ddaear â gair Duw, yn gymmaint ag iddynt trwy ei allu, gael eu gwaredu allan o eigion y ddaear; ac am hyny, nis gallent gloddio pyllau galluog i’w cadw hwynt. A thair gwaith y bwriwyd hwynt i ffwrnais, ac ni dderbyniasant niwed. A dwy waith y bwriwyd hwynt, i ffau o fwystfilod gwylltion; ac wele, hwy a chwareuent â’r bwystfilod, megys plentyn ag oen sugno, ac ni dderbynient niwed. A bu iddynt felly fyned allan yn mhlith holl bobl Nephi, a phregethu efengyl Crist i’r holl bobl ar wyneb y tir; a hwy a ddychwelwyd at yr Arglwydd, ac a unwyd ag eglwys Crist, ac felly pobl y genedlaeth hono a fendithiwyd, yn ol gair yr Iesu. Ac yn awr, yr wyf fi, Mormon, yn gorphen llefaru am y pethau hyn, am amser. Wele, yr oeddwn ynghylch ysgrifenu enwau y rhai hyny nad oeddynt byth i brofi marwolaeth; eithr yr Arglwydd a’m gwaharddodd, gan hyny nid wyf yn eu hysgrifenu, canys y maent hwy yn guddiedig oddiwrth y byd. Eithr wele, mi a’u gwelais hwynt, a hwy a weiniasant i mi; ac wele, hwy a fyddant yn mhlith y Cenedloedd, a’r Cenedloedd nis adwaenant hwynt. Hwy a fyddant hefyd yn mhlith yr Iuddewon, a’r Iuddewon nis adwaenant hwynt.
A bydd, pan welo yr Arglwydd yn ei ddoethineb yn addas, y cânt weinidogaethu i holl lwythau gwasgaredig Israel, ac i bob cenedl, llwyth, iaith, a phobl, a dwyn allan o honynt i’r Iesu laweroedd o eneidiau, fel y cyflawner eu dymuniad, ac hyny trwy allu argyhoeddiadol Duw yr hwn sydd ynddynt; ac y maent megys angylion Duw, ac os gweddiant ar y Tad yn enw yr Iesu, hwy a allant ddangos eu hunain i ba ddyn bynag a ewyllysiont; am hyny, gweithredoedd mawrion a rhyfedd a wneir ganddynt hwy, cyn y dydd mawr sydd yn dyfod, pan y rhaid i’r holl bobloedd sefyll gerbron brawdle Crist; ïe, hyd y nod yn mhlith y Cenedloedd, y caiff gwaith mawr a rhyfedd ei wneuhur ganddynt, cyn dydd y farn. A phe buasai genych yr holl ysgrythyrau ag sydd yn rhoddi hanes am holl weithredoedd rhyfeddol Crist, chwi a wypech, yn ol geiriau Crist, fod yn rhaid i’r pethau hyn ddyfod. A gwae yr hwn ni wrandawo ar eiriau yr Iesu, ac hefyd y rhai a ddewisodd ac a ddanfonodd efe i’w mysg, canys yr hwn nid yw yn derbyn geiriau yr Iesu, a geiriau y rhai a ddanfonodd efe, nid yw yn ei dderbyn yntau; ac am hyny, yntau nis derbynia hwythau yn y dydd diweddaf; a buasai yn well iddynt pe nas ganesid hwynt. Canys a ydych chwi yn meddwl y gellwch gael gwared o gyfiawnder Duw tramgwyddedig, yr hwn a sathrwyd dan draed dynion, fel trwy hyny y deuai iachawdwriaeth? Ac yn awr, wele, megys ag y llefarais ynghylch y rhai a ddewisodd yr Arglwydd, ïe, y tri ag a gipiwyd i fyny i’r nef, nis gwyddwn pa un a lanhawyd hwynt o farwoldeb i anfarwoldeb. Eithr wele, er pan ysgrifenais, mi a ymofynais â’r Arglwydd, ac efe a’i hamlygodd i mi, fod yn rhaid fod cyfnewidiad wedi ei effeithio ar eu cyrff, onide fod yn rhaid iddynt brofi marwolaeth; am hyny, fel na phrofent farwolaeth, cafodd cyfnewidiad ei effeithio ar eu cyrff, fel na ddyoddefent boen na thristwch, oddieithr dros bechodau y byd. Yn awr, nid oedd y cyfnewidiad hwn yn gyfartal i’r cyfryw a gymmer le yn y dydd diweddaf; eithr effeithiwyd cyfnewidiad arnynt, yn gymmaint ag nas gallai satan gael awdurdod arnynt, fel nas gallai eu temtio hwynt, a hwy a santeiddiwyd yn y cnawd, fel yr oeddynt yn santaidd, ac fel na allai galluoedd y ddaear eu dal hwynt; ac yn y sefyllfa hon yr oeddynt i aros hyd ddydd barn Crist; ac yn y dydd hwnw yr oeddynt i dderbyn cyfnewidiad mwy, c i gael eu derbyn deyrnas y Tad, heb fyned allan mwy, eithr i drigo gyda Duw yn dragywyddol yn y nefoedd. Ac yn awr, wele, yr wyf yn dywedyd wrthych, pan welo yr Arglwydd yn addas yn ei ddoethineb, i’r geiriau hyn ddyfod at y Cenedloedd, yn ol ei air, yna y gellwch wybod fod y cyfammod a wnaeth y Tad â phlant Israel, yn nghylch eu hadferiad i diroedd eu hetifeddiaeth, eisoes yn dechreu cael ei gyflawni; a gellwch wybod y bydd i eiriau yr Arglwydd, y rhai a lefarwyd gan y prophwydi santaidd, gael eu cyflawni oll; ac nid oes achos i chwi ddywedyd fod yr Arglwydd yn cedi ei ddyfodiad at blant Israel; ac nid oes achos i chwi dybied yn eich ealonau fod y geiriau a lefarwyd yn ofer, canys, wele, yr Arglwydd a gofia ei gyfammod yr hwn a wnaeth â’i bobl o dŷ Israel. A phan weloch chwi yr ymadroddion hyn yn dyfod allan yn eich mysg, yna nid oes achos i chwi mwyach ddiystyru gweithredoedd yr Arglwydd, canys y mae cleddyf ei gyfiawnder yn ei ddeheulaw; ac wele, yn y dydd hwnw, os diystyrwch ei weithredoedd, efe a achosa iddo eich goddiweddu yn fuan. Gwae yr hwn a ddiystyro weithredoedd yr Arglwydd; ïe, gwae yr hwn a wado Grist a’i weithredoedd; ïe, gwae yr hwn a wado ddadguddiadau yr Arglwydd, ac a ddywedo, Nid yw yr Arglwydd mwyach yn gweithio trwy ddadguddiad, neu trwy brophwydoliaeth, neu trwy ddoniau, neu trwy dafodau, neu trwy iachâu, neu trwy allu yr Ysbryd Glân; ïe, a gwae yr hwn a ddywedo yn y dydd hwnw, Nis gall un wyrth gael ei chyflawni trwy Iesu Grist, er mwyn elw; canys yr hwn a wnelo hyn, a fydd yn gyffelyb i fab y golledigaeth, i’r hwn nid oedd drugaredd, yn ol gair Crist. Ië, ac nid oes achos yn hŵy i chwi hwtio, na diystyru, na gwawdio yr Iuddewon, nac unrhyw weddill o dŷ Israel, canys wele, mae yr Arglwydd yn cofio ei gyfammod â hwynt, ac efe a wna iddynt yn ol yr hyn a dyngodd; am hyny, na thybiwch y gellwch droi llaw ddeheu yr Arglwydd at yr aswy, fel na weinydelo farn er cyflawni ei gyfammod yr hwn a wnaeth â thŷ Israel.