Pennod Ⅵ.
Ac yn awr, dygwyddodd ar ol i’r Iesu lefaru y geiriau hyn, iddo edrych ar y deuddeg y rhai a ddewisodd, a dywedyd wrthynt, Cofiwch y geiriau ag wyf wedi lefaru. Canys wele, chwychwi yw y rhai a ddewisais i weinidogaethu i’r bobl hyn. Am hyny, yr wyf yn dywedyd wrthych, Na ofelwch am eich bywyd, pa beth a fwytaoch, neu pa beth a yfoch; neu am eich corff, pa beth a wisgoch. Onid yw y bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corff yn fwy na’r dillad? Edrychwch ar adar y nefoedd oblegid nid ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau; ac y mae eich Tad nefol yn eu porthi hwy. Onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy? A phwy o honoch gan ofalu, a ddichon chwanegu un cufydd at eu faintioli? A phaham yr ydych chwi yn gofalu am ddillad? Ystyriwch lili y maes, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu; eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o’r rhai hyn. Am hyny os dillada Duw felly lysieuyn y maes, yr hwn sydd heddyw, ac y fory a fwrir i’r ffwrn, felly y dillada efe chwithau, os nad ydych o ychydig ffydd. Am hyny, na ofelwch, gan ddywedyd. Beth a fwytawn? Neu, Beth a yfwn? Neu, A pha beth yr ymddilladwn? Canys eich Tad nefol a ŵyr fod arnoch eisieu yr holl bethau hyn. Eithr yn gyntaf ceisiwch deyrnas Dduw, a’r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg. Na ofelwch gan hyny dros dranoeth; canys tranoeth a ofala am ei bethau ei hun. Digon i’r diwrnod ei ddrwg ei hun.
Ac yn awr, dygwyddodd ar ol i’r Iesu lefaru y geiriau hyn, iddo droi drachefn at y dyrfa, ac agor ei enau wrthynt drachefn, gan ddywedyd, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, na farnwch, fel na’ch barner. Canys â pha farn y barnoch, y’ch bernir; ac â pha fesur y mesuroch, yr adfesurir i chwithau. A phaham yr wyt ti yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun? Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gâd i mi fwrw allan y brycheuyn o’th lygad; ac wele, drawst yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o’th lygad dy hun; ac yna y gweli yn eglur fwrw y brycheuyn allan o lygad dy frawd. Na roddwch y peth santaidd i’r cwn, ac na theflwch eich gemau o flaen moch, rhag iddynt eu sathru dan eu traed, a throi a’ch rhwygo chwi.
Gofynwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi. Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a’r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir. Neu a oes un dyn o honoch, yr hwn os gofyn ei fab iddo fara, a rydd iddo gareg. Ac os gofyn efe bysgodyn, a ddyry efe sarff iddo? Os chwychwi gan hyny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd bethau da i’r rhai a ofynant iddo? Am hyny, pa bethau bynag oll a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy: canys hyn yw y gyfraith a’r prophwydi.
Ewch i mewn trwy y porth cyfyng; canys eang yw y porth, a llydan yw y ffordd sydd yn arwain i ddystryw; a llawer yw y rhai sydd yn myned i mewn trwyddi: oblegid cyfyng yw y porth, a chul yw y ffordd, sydd yn arwain i’r bywyd; ac ychydig yw y rhai sydd yn ei chael hi. Ymogelwch rhag gau brophwydi, y rhai a ddeuant atoch yn ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn bleiddiaid rheibus ydynt. Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. A gasgl rhai rawnwin oddiar ddrain, neu ffigys oddiar ysgall? Felly pob pren da sydd yn dwyn ffrwythau da; ond y pren drwg sydd yn dwyn ffrwythau drwg. Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren drwg ddwyn ffrwythau da. Pob pren heb ddwyn ffrwyth da, a dorir i lawr, ac a deflir yn tân. O herwydd paham, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.
Nid pob un a’r sydd yn dywedyd wrthyf, Arglwydd, arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd; ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phrophwydasom yn dy enw di? Ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enwdi? Ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw di? Ac yna yr addefaf wrthynt, Nis adnabum chwi erioed; ewch ymaith oddi wrthyf, chwi weithredwyr anwiredd.
Gan hyny pwy bynag sydd yn gwrandaw fy ngeiriau hyn, ac yn eu gwneuthur, mi a’u cyffelybaf ef i wr doeth, yr hwn a adeiladodd ci dŷ ar y graig; a’r gwlaw a ddisgynodd, a’r llifogydd a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a ruthrasant ar y tŷ hwnw; ac ni syrthiodd; oblegid sylfaenesid ef ar y graig. A phob un a’r sydd yn gwrandaw fy ngeiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gyffelybaf i wr ffol, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod; a’r gwlaw a ddisgynodd, a’r llif-ddyfroedd a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y tŷ hwnw; ac efe a syrthiodd, a’i gwymp a fu fawr.