Pennod Ⅶ.
Ac yn awr, dygwyddodd ar ol i’r Iesu orphen y geiriau hyn, iddo fwrw ei olwg oddiamgylch ar y dyrfa, a dywedyd wrthynt, Wele, chwi a glywsoch y pethau a ddysgais cyn i mi esgyn at fy Nhad; am hyny, yr hwn a gofio y geiriau hyn o’m heiddo, ac a’u gwnelo, efe a gyfodaf yn y dydd diweddaf. A bu ar ol i’r Iesu ddywedyd y geiriau hyn, iddo ganfod fod rhai yn eu mysg hwynt yn synu, a rhyfeddu pa beth a ewyllysiai efe ynghylch cyfraith Moses; canys nid oeddynt yn deall ydywediad fod yr hen bethau wedi myned heibio, a bod pob peth wedi dyfod yn newydd. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na ryfeddwch i mi ddywedyd wrthych, fod yr hen bethau wedi myned heibio, a bod pob peth wedi dyfod yn newydd. Wele, yr wyf yn dywedyd wrthych, fod y gyfraith a roddwyd i Moses wedi ei chyflawni. Wele, myfi yw yr hwn a roddodd y gyfraith, a myfi yw yr hwn a ymgyfammododd â’m pobl Israel:am hyny, ynof fi y cyflawnir y gyfraith, canys mi a ddaethym i gyflawni y gyfraith; o ganlyniad y mae diwedd iddi. Wele, nid wyf fi yn dinystrio y prophwydi, canys cynnifer ag ni chyflawnwyd ynof fi, yn wir meddaf i chwi, a gyfiawnir oll. Ac oblegid i mi ddywedyd wrthych, fod yr hen bethau wedi myned heibio, nid wyf yn dinystrio yr hyn a lefarwyd yn nghylch yr hyn sydd i ddyfod. Canys, wele, y cyfammod a wnaethym â’m pobl, nid yw oll wedi ei gyflawni; eithr y mae y gyfraith a roddwyd i Moses, yn diweddu ynof fi. Wele, myfi yw y gyfraith, a’r goleuni; edrychwch ataf fi, a pharhewch hyd y diwedd, a chwi a fyddwch fyw, canys i’r hwn a barhao hyd y diwedd, y rhoddaf fywyd tragywyddol. Wele, mi a roddais i chwi y gorchymynion; am hyny, cadwch fy nghorchymynion. A hyn yw y gyfraith a’r prophwydi, canys hwy a dystiolaethasant yn wirioneddol am danaf fi.
Ac yn awr, gygwyddodd ar ol i’r Iesu lefaru y geiriau hyn, iddo ddywedyd wrth y denddeg a ddewisodd, Chwychwi yw fy nyscyblion; ac yr ydych yn oleuni i’r bobl hyn, y rhai ydynt weddill o dŷ Joseph. Ac wele, hon yw gwlad eich etifeddiaeth; ac y mae y Tad wedi ei rhoddi i chwi. Ac nid yw y Tad un amser wedi gorchymyn i mi fynegi hyn wrth eich brodyr yn Jerusalem; ac nid yw y Tad un amser wedi gorchymyn i mi fynegi wrthynt am lwythau ereill tŷ Isael, y rhai a arweiniodd y Tad allan o’r wlad. Cymmaint â hyn a orchymynodd y Tad i mi fynegi wrthynt hwy, Defaid ereill sydd genyf, y rhai nid ydynt o’r gorlan hon; y rhai hyny hefyd sydd raid i mi eu cyrchu, a’m llais i a wrandawant; a bydd un gorlan, ac un bugail. Ac yn awr, o herwydd gwargaledrwydd ac anghrediniaeth, ni ddeallasant fy ngair: am hyny, gorchymynwyd i mi gan y Tad, na ddywedwn ychwaneg wrthynt hwy ynghylch y peth hwn. Eithr, yn wir, meddaf i chwi, mae y Tad wedi gorchymyn i mi, ac yr wyf yn ei fynegi wrthych, i chwi gael eich gwahanu o’u mysg hwynt o herwydd eu drygioni; am hyny, eu drygioni yw yr achos na wyddant am danoch chwi. Ac yn wir, meddaf i chwi drachefn, fod y Tad wedi gwahanu y llwythau ereill oddiwrthynt; a’u drygioni yw yr achos na wyddant am danynt. Ac yn wir, meddaf wrthych, chwychwi yw y rhai hyny y dywedais am danynt, Defaid ereill sydd genyf, y rhai nid yndynt o’r gorlan hon; y rhai hyny hefyd sydd raid i mi eu cyrchu, a’m llais i a wrandawant; a bydd un gorlan, ac un bugail. A hwynt hwy ni’m deallent, canys tybient mai y Cenedloedd oeddynt; canys ni ddeallent mai trwy eu pregethu hwy yr argyhoeddid y Cenedloedd ac ni ddeallent fi pan y dywedais y caent glywed fy llais; ac ni ddeallent fi na chai y Cenedloedd un amser glywed fy llais; na amlygwn fy hun iddynt hwy, ond trwy yr Ysbryd Giân. Eithr wele, chwi a glywsoch fy llais, ac a’m gwelsoch; a chwi yw fy nefaid, a chyfrifir chwi yn mhlith y rhai a roddodd y Tad i mi. Ac yn wir, yn wir, meddaf i chwi, y mae genyf ddefaid ereill, y rhai nid ydynt o’r wlad hon, nac o wlad Jerusalem, nac ychwaith yn unrhyw ranau o’r wlad hono oddiamgylch, yn mha le y bum yn gweinidogaethu. Canys hwynt-hwy am y rhai y llefarwyf, yw y rhai hyny nad ydynt etto wedi clywed fy llais; ac nid wyf fi un amser wedi amlygu fy hun iddynt. Eithr mi a dderbyniais orchymyn gan y Tad, fod i mi fyned atynt hwy, a bod iddynt gael clywed fy llais, a chael eu cyfrif gyda fy nefaid, fel y byddo un gorlan, ac un bugail; am hyny, yr wyf fi yn myned i ddangos fy hun iddynt. Ac yr wyf yn gorchymyn i chwi ysgrifenu y geiriau hyn, ar ol fy myned, fel os dygwydd i’m pobl yn Jerusalem, y rhai a’m gwelsant, ac a fuont gyda mi yn fy ngweinidogaeth, beidio gofyn i’r Tad yn fy enw i, fel y derbyniont wybodaeth am danoch chwi trwy yr Ysbryd Glân, ac hefyd am y llwythau ereill y rhai nis gwyddant am danynt, y byddo i’r geiriau hyn a ysgrifenwch gael eu cadw, a’u hamlygu i’r Cenedloedd, fel trwy gyflawnder y Cenedloedd, y byddo i weddill eu had hwy, ag a wasgerir ar wyneb yr holl ddaear, o herwydd eu hanghrediniaeth, gael eu dwyn i mewn, neu eu dwyn i wybodaeth am danaf fi, eu Gwaredwr. Ac yna mi a’u casglaf hwynt i mewn o bedwar cwr y ddaear; ac yna y cyflawnaf y cyfammod a wnaeth y Tad â holl bobl tŷ Israel. A gwynfyd y Cenedloedd, o herwydd eu crediniaeth ynof fi, yn a thrwy yr Ysbryd Glân, yr hwn a dystiolaetha wrthynt am danaf fi ac am y Tad. Wele, oblegid eu crediniaeth hwy ynof fi, medd y Tad, ac o herwydd eich anghrediniaeth chwithau, O dŷ Israel, y gwirionedd yn y dyddiau diweddaf a ddaw at y Cenedloedd, fel yr amlyger cyflawnder y pethau hyn iddynt hwy. Eithr gwae, medd y Tad, y rhai anghrediniol o’r Cenedloedd, canys er eu bod wedi dyfod ar wyneb y tir hwn, ac wedi gwasgaru fy mhobl, y rhai ydynt o dŷ Israel; a’m pobl y rhai ydynt o dŷ Israel, a fwriwyd allan o’u mysg, ac a fathrwyd ganddynt dan draed; ac o herwydd trugareddau y Tad tuag at y Cenedloedd, ac hefyd farnedigaethau fy Nhad ar fy mhobl, y rhai ydynt o dŷ Israel, yn wir, yn wir, meddaf i chwi, mai ar ol hyn oll, ac mi a achosais i’m pobl y rhai ydynt o dŷ Israel, gael eu taraw, a’u cystuddio, a’u lladd, a’u bwrw allan o’u mysg, a’u casâu ganddynt, ac i fyned yn ddiareb ac yn watwargerdd yn eu plith. Ac fel hyn y gorchymyna y Tad i mi ddywedyd wrthych, yn y dydd y pecho y Cenedloedd yn erbyn fy efengyl, ac yr ymddyrchafont yn malchder eu calonau uwchlaw pob cenedl, ac uwchlaw holl bobl y ddaear i gyd, ac yr ymlenwont â phob math o gelwyddau, a thwyll, a drygioni, â phob math o gelwyddau, a thwyll, a drygioni, a phob math o ragrith, a llofruddiaethau, a chrefydd-dwyll, a phuteindra, a dirgel ffieidd-dra; ac os gwnant yr holl bethau hyn, a gwrthod cyflawnder fy efengyl, wele, medd y Tad, mi a ddygaf gyflawnder fy efengyl o’u mysg hwynt; ac yna mi a gofiaf fy nghyfammod yr hwn a wnaethym â’m pobl, O dŷ Israel, ac a ddygaf fy efengyl iddynt; ac mi a ddangosaf i ti, O dŷ Israel, na chaiff y Cenedloedd awdurdod arnat, eithr mi a gofiaf fy nghyfammod â thi, O dŷ Israel, a thi a gai ddyfod i wybodaeth o gyflawnder fy efengyl. Eithr os na edifarha y Cenedloedd, a dychwelyd ataf fi, medd y Tad, wele, hwy a gyfrifir yn mhlith fy mhobl i, O dŷ Israel; ac ni oddefaf i’m pobl, y rhai ydynt o dŷ Israel, fyned trwy eu canol hwynt, a’u mathru i lawr, medd y Tad. Eithr os na throant ataf fi, a gwrandaw ar fy llais, mi a oddefaf iddynt, ïe mi a oddefaf i’m pobl, O dŷ Israel, fyned trwy eu canol hwynt, a’u mathru i lawr, a hwy a fyddant megys halen wedi colli ei flâs, yr hwn wedi hyny nid yw dda i ddim, ond i’w daflu allan, a’i sathru dan draed fy mhobl, O dŷ Israel. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, fel hyn y gorchymynodd y Tad i mi, ar roddi o honof i’r bobl yma, y tir hwn yn etifeddiaeth. A phan gyflawnir geiriau y prophwyd Isaiah, y rhai a ddywedant: Dy wylwyr a ddyrchafant lef; gyda’r llef y cydganant; canys gwelant lygad yn llygad, pan ddychwelo yr Arglwydd Seion. Bloeddiwch, cydgenwch, anialwch Jerusalem; canys yr Arglwydd a gysurodd ei bobl, efe a waredodd Jerusalem. Diosgodd yr Arglwydd fraich ei santeiddrwydd yn ngolwg yr holl genedloedd; a holl gyrau y ddaear a welant iachawdwriaeth ein Duw ni.