Pennod Ⅹ.
Eithr os edifarhant, a gwrandaw ar fy ngeiriau, a pheidio caledu eu calonau, mi a sefydlaf fy eglwys yn eu plith hwynt, a chânt ddyfod i mewn i’r cyfammod, a’u cyfrif yn mhlith y gweddill hwn o Jacob, i ba rai y rhoddais y tir hwn yn etifeddiaeth, a hwy a gynnorthwyant fy mhobl, gweddill Jacob, ac hefyd gynnifer o dŷ Israel ag a ddeuant, fel yr adeiladont ddinas, yr hon a elwir y Jerusalem Newydd; ac yna y cânt gynnorthwyo fy mhobl, fel y casgler hwynt i mewn, y rhai ag ydynt yn wasgaredig ar holl wyneb y tir, i’r Jerusalem Newydd. Ac yna y daw gallu y nef i waered i’w mysg hwynt; a minnau hefyd a fyddaf yn y canol; ac yna y dechreua gwaith y Tad yn y dydd hwnw, sef pan gaffo yr efengyl hon ei phregethu yn mysg gweddill y bobl hyn. Yn wir, meddaf i chwi, yn y dydd hwnw y dechreua gwaith y Tad yn mhlith holl wasgaredigion fy mhobl; ïe, sef y llwythau colledig, y rhai a arweiniodd y Tad allan o Jerusalem. Ië, y gwaith a ddechreua yn mhlith holl wasgaredigion fy mhobl, gyda’r Tad, i barotoi y ffordd trwy yr hon y gallant ddyfod ataf fi, fel y galwont ar y Tad yn fy enw i; ie, ac yna y gwaith a ddechreua, gyda’r Tad, yn mhlith pob cenedl, er parotoi y ffordd trwy yr hon y gall ei bobl gael eu casglu adref i wlad eu hetifeddiaeth. A hwy a gânt fyned allan o bob cenedl; ac ni chânt fyned ar, frys, nac ychwaith ar ffo, canys mi a âf o’u blaen hwynt, medd y Tad, ac a’u casglaf hwynt. Ac yna y bydd yr hyn sydd yn ysgrifenedig. Cân, di anmhlantadwy nid esgorodd; bloeddia ganu, a gorfoledda, yr hon nid esgorodd: o herwydd amlach meibion yr hon a adawyd, na’r hon y mae gwr iddi, medd yr Arglwydd. Helaetha le dy babell, ac estynant gortynau dy breswylfeydd; nac attal, estyn dy raffau, a sicrha dy hoelion. Canys ti a dori allan ar y llaw ddeau ac ar y llaw aswy; a’th had a etifedda y Cenedloedd, a dinasoedd anrheithiedig a wnant yn gyfanneddol. Nac ofna, canys ni’th gywilyddir: ac na’th waradwydder, am na’th warthruddir; canys ti a anghofi gywilydd dy ieuenctyd, ac ni chofi waradwydd dy ieuenctyd, a gwarthrudd dy weddwdod ni chofi mwyach. Canys dy wneuthurwr, dy briod, Arglwydd y lluoedd yw ei enw; a’th waredydd hefyd, Sanct Israel, Duw yr holl ddaear y gelwir ef. Canys fel gwraig wrthodedig, a chystuddiedig o ysbryd, y’th alwodd yr Arglwydd, a gwraig ieuenctyd, pan oeddit wrthodedig, medd dy dduw. Dros ennyd fechan y’th adewais; ond â mawr drugareddau y’th gasglaf. Mewn ychydig soriant y cuddiais fy wyneb oddi wrthyt ennyd awr; ond â thrugaredd tragywyddol y trugarhaf wrthyt, medd yr Arglwydd dy waredydd. Canys fel dyfroedd Noah y mae hyn i mi; canys megys y tyngais nad elai dyfroedd Noah mwy dros y ddaear; felly y tyngais na ddigiwn wrthyt ti. Canys y mynyddoedd a giliant, a’r bryniau a symudant; eithr fy nhrugaredd ni chilia oddi wrthyt, a chyfammod fy hedd ni syfi, medd yr Arglwydd sydd yn trugarhau wrthyt.
Y druan, helbulus gan dymhestl, y ddigysur, wele, mi a osodaf dy geryg di â charbuncl, ac a’th sylfaenaf â meini saphir. Gwnaf hefyd dy ffenestri o risial, a’th byrth o feini dysclaer, a’th holl derfynau o geryg dymunol. Dy holl feibion hefyd fyddant wedi eu dysgu gan yr Arglwydd, â mawr fydd heddwch dy feibion. Mewn cyfiawnder y’th sicrheir: byddi bell oddiwrth orthrymder, canys nid ofni; ac oddiwrth ddychryn, canys ni nesâ atat. Wele, gan ymgasglu hwy a ymgasglant yn dy erbyn, nid o honof fi; pwy bynag a ymgasglo i’th erbyn, efe a syrth er dy fwyn. Wele, myfi a greais y gôf, yr hwn a chwyth y marwor yn tân, ac a ddefnyddia arf i’w waith; myfi hefyd a greais y dinystrydd i ddystrywio. Ni lwydda un offeryn a lunier i’th erbyn; a thi a wnei yn euog bob tafod a gyfodo i’th erbyn mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr Arglwydd, a’u cyfiawnder hwy sydd oddi wrthyf fi, medd yr Arglwydd. Ac yn awr, wele, yr wyf yn dywedyd wrthych, y dylech chwilio y pethau hyn. Ië, gorchymyn wyf yn ei roddi i chwi, am chwilio y pethau hyn yn ddyfal; canys mawr yw geiriau Isaiah. Canys yn ddiau efe a lefarodd megys yn cyffwrdd â phob peth perthynol i’m pobl, y rhai ydynt o dŷ Israel; am hyny, y mae yn anghenrheidiol ei fod yn llefaru hefyd wrth y Cenedloedd. A phob peth a lefarodd efe, a fuont ac a fyddant, ïe, yn ol y geiriau a lefarodd. Am hyny, ystyriwch fy ngeiriau, ac ysgrifenwch y pethau a fynegais i chwi; ac, yn ol amser ac ewyllys y Tad, hwy a gânt fyned allan i’r Cenedloedd. A phwy bynag a wrandawo ar fy ngeiriau, ac a edifarhao, ac a fedyddier, a fydd cadwedig. Chwiliwch y prophwydi, canys y mae llawer yn tystiolaethu am y pethau hyn.
Ac yn awr, dygwyddodd ar ol i’r Iesu lefaru y geiriau hyn, iddo ddywedyd wrthynt drachefn, ar ol iddo egluro iddynt yr holl ysgrythyrau ag oeddynt wedi dderbyn, Wele, ysgrythyrau ereill a fynwn i chwi eu hysgrifenu, y rhai nid ydynt genych. A bu iddo ddywedyd wrth Nephi, Dwg allan y coflyfr ag a gedwaist ti. Ac wedi i Nephi ddwyn y cof-lyfrau alan, a’u gosod o’i flaen, efe a daflodd ei olwg arnynt, ac a ddywedodd, Yn wir, meddaf i chwi, mi a orchymynais i’m gwas Samuel, y Lamaniad, am dystiolaethu wrth y bobl hyn, mai yn y dydd y gogoneddai y Tad ei enw ynof fi, y byddai llawer o saint yn cyfodi oddiwrth y meirw, ac yn ymddangos i lawer, ac yn gweinyddu iddynt. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ai ni bu felly? A’i ddyscyblion a’i hatebodd, gan ddywedyd, Do, Arglwydd, Samuel a brophwydodd yn ol dy eiriau di, a hwy a gyflawnwyd oll. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Pa fodd y bu na ysgrifenasoch y peth hwn, ddarfod i lawer o saint adgyfodi ac ymddangos i laweroedd, a gweinyddu iddynt? A bu i Nephi gofio nad oedd y peth hwn wedi ei ysgrifenu. A bu i’r Iesu orchymyn iddo gael ei ysgrifenu; gan hyny, ysgrifenwyd ef yn ol fel y gorchymynodd.