Scriptures
Mosiah 10


Pennod Ⅹ.

Ac yn awr, darfu i Ammon a’r brenin Limhi ddechren ymgynghori â’r bobl pa fodd y gwaredent eu hunain o gaethiwed; ïe, parasant i’r holl bobl ymgynnull ynghyd: a hyn a wnaethant, fel y gallent gael llais y bobl ynghylch y mater. A bu nad allent gael un ffordd i waredu eu hunain o gaethiwed, ond trwy gymmeryd eu gwragedd a’u plant, a’u da a’u defaid, a’u pebyll, a chychwyn i’r anialwch; canys yr oedd y Lamaniaid mor lliosog, fel y byddai yn anmhosibl i bobl Limhi ymdrechu, gan dybied y gallent waredu eu hunain o gaethiwed trwy y cleddyf.

Yn awr, darfu i Gideon fyned a sefyll gerbron y brenin, ac a ddywedodd wrtho, Yn awr, O frenin, hyd yma ti a wrandaw aist ar fy ngeiriau lawer o weithiau, tra y buom yn ymdrechu â’n brodyr y Lamaniaid. Ac yn awr, O frenin, os na chefaist all an fy mod yn was anfuddiol, neu os gwrandawaist mewn un gradd ar fy ngeiriau hyd yma, ac iddynt fod er gwasanaeth i ti; felly hefyd, mi a fynwn i ti wrandaw ar fy ngeiriau yr amser hwn, ac mi a fyddaf yn was i ti, ac a waredaf y bobl hyn o gaethiwed. A’r brenin a ganiataodd iddo lefaru. A Gideon a ddywedodd wrtho, Wele y fynedfa tu-cefn, trwy y mur tu-cefn, ar ochr tu-cefn y ddinas. Mae y Lamaniaid, neu warchodlu y Lamaniaid, yn feddw y nos; am hyny, anfonwn gyhoeddiad i blith yr holl bobl hyn, fel y casglont ynghyd eu da a’u defaid, ac y gyront hwynt i’r anialwch yn y nos. A minnau a af, yn ol dy orchymyn, ac a dalaf y deyrnged olaf o win i’r Lamaniaid, a hwy a fyddant yn feddw; a ninnau a awn trwy y fynedfa ddirgel y tu aswy i’r gwersyll, pan fyddont hwy yn feddw ac yn nghwsg: felly yr ymadawn gyda ein gwragedd a’n plant, a’n da a’n defaid, i’r anialwch; ac ni a deithiwn oddiamgylch tir Shilom. A bu i’r brenin wrandaw ar eiriau Gideon. A’r brenin Limhi a berodd i’w bobl gasglu eu deadelloedd ynghyd; ac efe a anfonodd y deyrnged o win i’r Lamaniaid; ac efe a anfonodd hefyd ychwaneg o win, fel rhodd iddynt: a hwy a yfasant yn helaeth o’r gwin a anfonodd y brenin Limhi iddynt.

A bu i bobl y brenin Limhi ymadael liw nos i’r anialwch, gyda eu da a’u defaid, ac a aethant oddiamgylch tir Shilom yn yr anialwch, ac a gyfeiriasant eu taith tua thir Zarahemla, gan gymmeryd eu harwain gan Ammon a’i frodyr. Ac yr oeddynt wedi cymmeryd eu holl aur, a’u harian, a’u pethau gwerthfawr, gymmaint a allant ddwyn; ac hefyd eu darpariadau, gyda hwynt i’r anialwch; a hwy a aethant yn mlaen ar eu taith. Ac wedi bod llawer o ddyddiau yn yr anialwch, cyrhaeddasant dir Zarahemla, ac a ymunasant â’r bobl yno, ac a ddaethant yn gyd-ddeiliaid. A bu i Mosiah eu derbyn hwynt gyda llawenydd; a derbyniodd hefyd eu cof-lyfrau hwy, ac hefyd y coflyfrau a gafwyd gan bobl Limhi. Ac yn awr, dygwyddodd pan wybu y Lamaniaid fod pobl Limhi wedi ymadael â’r tir yn y nos, iddynt ddanfou byddin i’r anialwch i’w hymlid hwynt; ac ar ol iddynt eu hymlid am ddau ddiwrnod, ni allent mwyach ddilyn eu hol; gan hyny, hwy a gollwyd yn yr anialwch.