Pennod Ⅴ.
Ac yn awr, dygwyddodd ar ol i’r brenin Mosiah gael heddwch parhaus, am yspaid tair blynedd, iddo chwennych gwybod ynghylch y bobl a aethant i fyny i breswylio yn nhir Lehi-Nephi, neu yn ninas Lehi-Nephi; canys nid oedd ei bobl ef wedi clywed dim oddiwrthynt, er yr amser y gadawsant dir Zarahemla; am hyny, hwy a’i blinasant ef â’u taerineb.
A bu i’r brenin Benjamin ganiatâu i un ar bymtheg o’i wyr cedyrn fyned i fyny i dir Lehi-Nephi, i ymofyn ynghylch eu brodyr. A bu dranoeth iddynt gychwyn i fyny, a chanddynt un Ammon, dyn cadarn a galluog, ac yn ddisgynydd o Zarahemla; ac efe hefyd oedd eu harweinydd. Ac yn awr, ni wyddent pa ffordd y dylent deithio yn yr anialwch, er myned i fyny i dir Lehi-Nephi; am hyny hwy a grwydrasant ddyddiau lawer yn yr anialwch, ïe, crwydrasant ddeugain niwrnod. Ac wedi iddynt deithio ddeugain niwrnod daethant at fryn, yr hwn sydd tua’r gogledd o wlad Shilom, a chodasant yno eu pebyll. Ac Ammon a gymmerodd dri o’i frodyr, a’u henwau oeddynt Amaleki, Helem, a Hem, ac aethant i waered i dir Nephi; ac wele, cyfarfuasant â brenin y bobl, y rhai oeddynt yn nhir Nephi, ac yn nhir Shilom; ac amgylchwyd hwynt gan warchodlu y brenin, a chymmerwyd a rhwymwyd hwynt, a gosodwyd hwynt yn ngharchar. A bu ar ol bod yn ngharchar ddau niwrnod, iddynt gael eu dwyn eilwaith o flaen y brenin, ac i’w rhwymau gael eu rhyddhau; a hwy a safasant o flaen y brenin, a chaniatâwyd, neu yn hytrach gorchymynwyd iddynt ateb y gofyniadau a ofynai efe iddynt. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Wele, myfi wyf Limhi, mab Noah, fab Zeniff, yr hwn a ddaeth i fyny o dir Zarahemla i etifoddu y tir hwn, yr hwn oedd dir eu tadau, yr hwn a wnaed yn frenin trwy lais y bobl. Ac yn awr, mi a ddymunwn wybod yr achos i chwi fod mor eofn â dyfod yn agos at gaerau y ddinas, pan yr oeddwn i fy hunan, gyda’m gwarchodlu, y tu allan i’r porth? Ac yn awr, i’r dyben hyn y goddefais i chwi gael eich arbed, fel yr holwn chwi, onide buaswn wedi peri i’m gwarchodlu eich gosod i farwolaeth. Caniateir i chwi lefaru.
Ac yn awr, pan welodd Ammon ei fod yn cael cenad i lefaru, efe a aeth ac a ymgrymodd o flaen y brenin; a chan gyfodi drachefn, dywedodd, O frenin, yr wyf yn dra diolchgar gerbron Duw y dydd hwn, fy mod etto yn fyw, a’m bod yn cael cenad i lefaru; ac ymdrechaf lefaru yn eofn; canys yr wyf yn sicr pe adnabuech fi, na oddefech i mi wisgo y rhwymau hyn. Canys myfi wyf Ammon, ac yr wyf yn ddisgynydd o Zarahemla, ac wedi dyfod i fyny o dir Zarahemla, i ymofyn ynghylch ein brodyr, y rhai a ddygodd Zeniff allan o’r tir hwnw.
Ac yn awr, darfu i Limhi, wedi clywed geiriau Ammon, fod yn dra llawen, a dywedodd, Yn awr, y gwn mewn sicrwydd fod fy mrodyr y rhai oeddynt yn nhir Zarahemla yn fyw etto. Ac yn awr, mi a orfoleddaf; ac y fory mi a beraf i’m pobl orfoleddu hefyd. Canys wele, yr ydym mewn caethiwed gan y Lamaniaid, ac yn cael ein trethu â threth sydd anhawdd ei dyoddef. Ac yn awr, wele, ein brodyr a’n gwaredant allan o’n caethiwed, neu allan o ddwylaw y Lamaniaid, ac ni a fyddwn yn gaethion iddynt hwy; canys gwell yw i ni fod yn gaethion i’r Nephiaid, na thalu teyrnged i frenin y Lamaniaid.
Ac yn awr, gorchymynodd y brenin Limhi i’w warchodlu na rwyment Ammon mwyach, na’i frodyr, eithr perodd iddynt fyned at y bryn y tu gogleddol i Shilom, a dwyn eu brodyr i’r ddinas, fel y caent fwyta, ac yfed, ac ymorphwys oddiwrth ludded eu taith; canys yr oeddynt wedi dyoddef llawer o bethau; dyoddefasant newyn, syched, a lludded.
Ac yn awr, dygwyddodd dranoeth i’r brenin Limhi anfon cyhoeddiad yn mhilth ei holl bobl, fel yr ymgynnullent ynghyd i’r deml, i glywed y geiriau a lefarai efe wrthynt. A bu wedi ymgynnull o honynt ynghyd, iddo lefaru wrthynt yn y modd hyn, gan ddywedyd, O chwi, fy mhobl, dyrchefwch eich penau a chysurer chwi; canys wele, mae yr amser wrth law, neu nid yw yn neppell, pan na fydd i ni mwyach fod yn ddarostyngedig i’n gelynion; er ein hymdrechiadau mynych, y rhai a fuont ofer, etto hyderaf fod ymdrech effeithiol yn aros i gael eu gwneyd. Gan hyny, dyrchefwch eich penau, a gorfoleddwch, a gosodwch eich ymddiried yn Nuw, yn y Duw hwnw yr hwn oedd Duw Abraham, ac Isaac, a Jacob; ac hefyd, y Duw hwnw a ddygodd blant Israel allan o wlad yr Aifft, ac a achosodd iddynt rodio trwy y Môr Coch ar dir sych, ac a’u porthodd â manna, fel na threngent yn yr anialwch; a llawer o bethau yn ychwaneg a wnaeth efe erddynt. A thrachefn: yr un Duw hefyd a ddygodd ein tadau allan o wlad Jerusalem, ac a gadwodd ac a ddiogelodd ei bobl hyd yn bresennol. Ac wele, o herwydd ein hanwireddau a’n ffieidd-dra y dygwyd ni i gaethiwed. Ac yr ydych yn dystion oll y dydd hwn, i Zeniff, yr hwn a wnaed yn frenin ar y bobl hyn, trwy fod yn rhy awyddus i etifeddu tir ei dadau, gael ei dwyllo trwy ddichell a chyfrwysdra y brenin Laman, yr hwn a wnaeth gytundeb â’r brenin Zeniff, ac a drosglwyddodd i’w ddwylaw feddiant o ran o’r tir, neu hyd y nod ddinas Lehi-Nephi, a dinas Shilom; a’r wlad oddiamgylch; ac hyn oll a wnaeth i’r unig ddyben o ddarostwng y bobl hyn, neu eu dwyn i gaethiwed. Ac wele, yr amser hwn yr ydym yn talu teyrnged i frenin y Lamaniaid, o hanner ein ŷd, a’n haidd, ac hyd y nod ein ydau oll o bob math, ac hanner cynnyrch ein eidionau a’n defaid; ac hyd y nod hanner o bob peth sydd genym neu a feddwn, a fỳn brenin y Lamaniaid oddiarnom, neu ynte ein bywydan. Ac yn awr, onid yw hyn yn anhawdd ei ddwyn? Ac onid yw ein trallod hwn yn fawr? Yn awr, wele, onid oes genym achos mawr i gwynfan? Oes, meddaf wrthych, y mae achos mawr genym i gwynfan, canys wele, y fath nifer o’n brodyr sydd wedi eu lladd, a’u gwaed wedi ei dywallt yn ofer, a’r cyfan o herwydd anwiredd. Canys oni buasai fod y bobl wedi syrthio i drosedd, ni oddefai yr Arglwydd i’r mawr ddrwg hwn ddyfod arnynt. Canys, wele, ni wrandawant ar ei eiriau; eithr cododd amrafaelion yn eu plith, ïe, i’r fath raddau nes y tywalltasant waed yn eu mysg eu hunain. Ac y maent wedi lladd prophwyd i’r Arglwydd; ïe, dyn etholedig gan Dduw, yr hwn a fynegodd wrthynt am eu drygioni a’u ffieidd-dra, ac a brophwydodd am lawer o bethau i ddyfod, ïe, hyd y nod ddyfodiad Crist. Ac o herwydd iddo ddywedyd wrthynt mai Crist oedd y Duw, Tad pob peth, a dywedyd wrthynt mai Crist oedd y Duw, Tad pob peth, a dywedyd y cymmerai efe arno ffurf dyn, ac y byddai yn ol y ffurf hono y crewyd dyn ynddi yn y dechreuad; neu mewn geiriau ereill, dywedodd fod dyn wedi ei greu ar ddelw Duw, ac y deuai Duw i lawr i blith plant dynion, ac y cymmerai arno gig a gwaed, a myned allan ar hyd wyneb y ddaear; ac yn awr, o herwydd iddo ddywedyd hyn, gosodasant ef i farwolaeth; a gwnaethant lawer o bethau yn ychwaneg, yr hyn a dynodd ddigofaint Duw i lawr arnynt. Gan hyny, pwy sydd yn rhyfeddu eu bod mewn caethiwed, ac yn cael eu taraw gan gystuddiau blinion? Canys wele, dywedodd yr Arglwydd, Ni amgeleddaf fy mhobl yn nydd eu trosedd: eithr mi a gauaf i fyny eu ffyrdd, fel na lwyddont; a’u gweithredoedd a fyddant megys maen tramgwydd o’u blaen hwynt. A thrachefn, dywed, Os fy mhobl a heuant aflendid, hwy a fedant ei ûs yn y corwynt; a’i effeithiau sydd wenwyn. A thrachefu, dywed, Os fy mhobl a hauant aflendid, hwy a fedant y gwynt dwyreiniol, yr hwn sydd yn dwyn dystryw dioed. Ac yn awr, wele, cyflawnwyd addewid Duw; a chwithau a darewir ac a gystuddir. Eithr os dychwelwch at yr Arglwydd gyda llwyr-fryd calon, a gosod eich ymddiried ynddo, a’i wasanaethu â holl ddiwydrwydd eich meddwi; os gwnewch hyn, efe, yn ol ei ewyllys a’i bleser ei hun, a’ch gwareda allan o gaethiwed.
A bu ar ol i’r brenin Limhi orphen llefaru wrth ei bobl, canys efe a lefarodd lawer o bethau wrthynt, a dim ond ychydig o honynt a ysgrifenais yn y llyfr hwn, iddo fynegi wrthynt bob peth o berthynas i’w brodyr y rhai oeddynt yn nhir Zarahemla; ac efe a berodd i Ammon sefyll i fyny o flaen y dyrfa, ac adrodd wrthynt yr oll a ddygwyddodd i’w brodyr, o’r amser yr aeth Zeniff i fyny o’r tir, hyd yr amser y daeth ef ei hun i fyny o’r tir. Ac efe a adroddodd hefyd wrthynt y geiriau diweddaf a ddysgodd y brenin Benjamin wrthynt, ac a’u heglurodd i bobl y brenin Limhi, fel y deallent yr holl eiriau a lefarodd. A darfu ar ol iddo wneuthur hyn oll, i’r brenin Limhi ollwng ymaith y dyrfa, a pheri iddynt ddyehwelyd, bob un i’w dŷ ei hun.
A darfu iddo beri i’r llafnau a gynnwysent hanes ei bobl o’r pryd y gadawsant dir Zarahemla, gael eu dwyn gerbron Ammon, fel y darllenai hwynt. Yn awr, can gynted ag a darllenodd Ammon yr hanes, gofynodd y brenin iddo os medrai gyfieithu ieithoedd, a dywedodd Ammon nas gallai. A’r brenin a ddywedodd wrtho, Gan fod yn flin o herwydd cystuddiau fy mhobl, mi a berais i dri a deugain o’m pobl gymmeryd taith i’r anialwch, fel y caent allan dir Zarahemla, ac y gallem ninnau apelio at ein brodyr i’n gwaredu allan o gaethiwed; a hwy a gollwyd yn yr anialwch am yspaid llawer o ddyddiau; etto buont ddiwyd, ac ni chawsant dir Zarahemla, eithr dychwelasant i’r tir hwn, wedi bod yn teithio mewn tir yn mysg llawer o ddyfroedd; wedi darganfod tir wedi ei orchuddio gan esgyrn dynion, ac anifeiliad, &c., ac wedi ei orchuddio hefyd gan adfeilion adeiladau o bob math; wedi darganfod tir a gafodd ei boblogi â phobl mor lliosog â lluoedd Israel. Ac yn dystiolaeth fod y pethau a ddywedasant yn wirionedd, dygasant bedwar llafn ar hugain wedi eu llanw â cherfiadau, ac y maent o aur pur. Ac wele, hefyd, dygasant ddwyfronegau, y rhai ydynt yn fawrion, ac y maent o bres a chopr, ac yn gwbl ddianaf. A thrachefn, dygasant gleddyfau, a’u carnau wedi dyfetha, a’u llafnau wedi eu bwyta gan rwd; ac nid oes neb yn y tir yn alluog i gyfieithu yr iaith neu y cerfiadau sydd ar y llafnau. Am hyny, mi a ddywedais wrthyt ti, A elli di gyfieithu? Ac yr wyf yn dywedyd wrthyt etto, A wyddost ti am rywun a all gyfieithu? Canys yr wyf yn ewyllysio cael y llafnau hyn wedi eu cyfieithu i’n hiaith ni; o herwydd, efallai, y rhoddant wybodaeth am weddill o’r bobl, y rhai a ddinystriwyd, oddiwrth ba rai y daeth y cof-ysgrifau hyn atom; neu, efallai, y rhoddant wybodaeth i ni am y bobl hyn a ddinystriwyd; ac yr wyf fi yn dymuno gwybod yr achos o’u dinystr.
Yn awr, dywedodd Ammon wrtho, Yn ddiau mi a allaf dy hysbysu di, O, frenin, am ddyn a all gyfiethu y cof-ysgrifau; canys y mae ganddo yr hyn y gall edrych trwyddynt, a chyfieithu pob cof-ysgrifau sydd o hen amseryddiad; a dawn ydyw oddiwrth Dduw. A gelwir y pethau yn gyfieithwyr, ac ni all un dyn edrych ynddynt, oddieithr iddo gael gorchymyn, rhag iddo edrych am yr hyn na ddylai, a marw. A phwy bynag a orchymynir i edrych ynddynt, yr unrhyw a elwir yn weledydd. Ac wele, brenin y bobl sydd yn nhir Zarahemla, yw y dyn a orchymynir i wneuthur y pethau hyn, a’r hwn sydd â’r ddawn oruchel hon oddiwrth Dduw. A’r brenin a ddywedodd fod gweledydd yn fwy nâ phrophwyd. Ac Ammon a ddywedodd fod gweledydd yn ddadguddiwr a phrophwyd hefyd; a dawn fwy nis gall un dyn gael, oddieithr iddo feddu gallu Duw, yr hyn ni all un dyn; etto gall dyn gael gallu mawr wedi ei roddi iddo oddiwrth Dduw. Eithr gall gweledydd wybod am bethau sydd wedi myned heibio, ac hefyd am bethau i ddyfod; a thrwyddynt hwy y dadguddir pob peth, neu yn hytrach, yr eglurir pethau dirgel, ac y dygir pethau ciddiedig i’r goleuni, a phethau anhysbys a wneir yn hysbys drwyddynt; ac hefyd hysbysir pethau trwyddynt na ellid eu gwybod un ffordd arall. Felly, y mae Duw wedi darparu offerynau ag y gall dyn, trwy ffydd, gyflawni gwyrthiau nerthol; o ganlyniad, y mae yn dyfod o leshad mawr i’w gyd-greaduriad.
Ac yn awr, pan orphenodd Ammon lefaru y geiriau hyn, y brenin a lawenychodd yn ddirfawr, ac a ddiolchodd i Dduw, gan ddywedyd, Diau fod dirgelwch mawr yn gynnwysedig ar y llafnau hyn, ac y mae yn ddiau fod y cyfieithwyr hyn wedi eu rhagbarotoi i’r dyben o egluro pob dirgelion o’r fath i blant dynion. O mor rhyfedd yw gweithredoedd yr Arglwydd, ac mor hir y goddefa gyda’i bobl; ïe, ac mor ddall ac annhreiddgar yw dealltwriaeth plant dynion, canys ni cheisiant ddoethineb, ac ni ddymunant iddi lywodraethu arnynt. Ië, y maent megys praidd gwylltion yn rhedeg oddiwrth y bugail, ac yn gwasgaru, ac yna yn cael eu gyru a’u dyfetha gan fwystfilod y goedwig.