Pennod Ⅵ.
Cof-ysgrif Zeniff.—Hanes ei bobl, o’r amser y gadawsant dir Zarahemla, hyd yr amser y gwaredwyd hwynt o ddwylaw y Lamaniaid.
Myfi, Zeniff, oeddwn wedi fy nysgu yn holl iaith y Nephiaid, ac wedi cael gwybodaeth am dir Nephi, neu dir etifeddiaethol cyntaf ein tadau, a danfonwyd fi yn ysbïwr i blith y Lamaniaid, fel yr ysbïwn allan eu galluoedd hwynt, fel y deuai ein byddin ni ar eu gwarthaf, a’u dinystrio; eithr pan welais yr hyn oedd yn dda yn eu plith, mi a chwennychais na chaffent eu dinystrio; am hyny, mi a amrysonais â’m brodyr yn yr anialwch, canys mi a fynwn i’n penaeth wneuthur cytundeb â hwynt; ond gan ei fod ef yn ddyn traws a schedig am waed, gorchymynodd fy lladd, eithr mi a achubwyd trwy dywalltiad llawer o waed; canys tad a ymladdai yn erbyn tad, a brawd yn erbyn brawd, hyd nes dinystrio y mwyrif yn yr anialwch; ac ni a ddychwelasom, y rhai a arbedwyd o honom, i dir Zarahemla, i adrodd yr hanes hwnw wrth eu gwragedd a’u plant. Ac etto, gan fod yn dra awyddus i etifeddu tir ein tadau, mi a gasglais gynnifer ag oedd yn ewyllysio myned i fyny i etifeddu y tir, ac a gychwynasom drachefn ar ein taith i’r anialwch, er myned i fyny i’r tir; eithr tarawyd ni gan newyn a chystuddiau blin, canys yr oeddem yn ddiog i gofio yr Arglwydd ein Duw. Er hyny, wedi crwydro dros amryw ddyddiau yn yr anialwch, codasom ein pebyll yn y man lle y lladdwyd ein brodyr, yr hwn oedd yn agos i dir ein tadau.
A bu i mi fyned drachefn gyda phedwar o’m gwyr i’r ddinas, i mewn at y brenin, fel y gwypwn dueddfryd y brenin, ac fel y gwypwn os gallwn fyned i mewn â’m pobl, a meddiannu y tir mewn heddwch. Ac aethym i mewn at y brenin, ac efe a gyfammododd â mi y cawn feddiannu tir Lehi-Nephi, a thir Shilom. Ac efe hefyd a orchymynodd i’w bobl ymadael â’r tir, a minnau a’m pobl a aethom i’r tir i’w feddiannu. A ni a ddechreuasom godi adeiladau, a chyweirio caerau y ddinas, ïe, sef caerau dinas Lehi-Nephi, a dinas Shilom. A dechreuasom lafurio y ddaear, ïe, sef â phob math o hadau, â hadau yd, a gwenith, a haidd, ac â neas, ac â sheum, ac â hadau yd, a o ffrwythau; a dechreuasom liosogi a llwyddo yn y tir. Yn awr, dichell a chyfrwysdra y brenin Laman, er dwyn fy mhobl i gaethiwed, oedd rhoddi i fyny y tir fel y meddiannem ef.
Gan hyny, dygwyddodd, ar ol tirgo o honom yn y tir am yspaid deuddeg mlynedd, i’r brenin Laman ddechreu bod yn aflonydd, rhag mewn un modd i’m pobl i fyned yn gryfion yn y tir, ac iddynt hwythau fethu ein gorthrechu a’n dwyn i gaethiwed. Yr oeddynt hwy yn bobl ddioglyd ac eilun-addolgar: o ganlyniad, chwennychent ein dwyn ni i gaethiwed, fel y glythient ar lafur ein dwylaw; ïe, fel yr ymwleddent ar ddeadelloedd ein meusydd.
Gan hyny, darfu i’r brenin Laman ddechreu cynhyrfu ei bobl, fel yr amrafaelient â’m pobl i; o ganlyniad dechreuodd fod rhyfeloedd ac amrafaelion yn y tir; canys, yn y drydedd flwyddyn ar ddeg o’m teyrnasiad yn nhir Nephi, ymaith ar y tu gogleddol i dir Shilom, tra yr oedd fy mhobl i yn dyfrhau a phorthi eu deadelloedd, ac yn llafurio eu tiroedd, daeth llu dirfawr o’r Lamaniaid arnynt, ac a ddechreuasant eu lladd, a chymmeryd ymaith eu deadelloedd, ac yd eu meusydd. Ië, a bu iddynt ffoi, pawb na oddiweddwyd, i ddinas Nephi, a galw arnaf fi am amddiffyn.
A darfu i mi eu harfogi â brau, ac â saethau, a chleddyfau, ac â chrymgleddyfau, ac â chwlbreni, ac â ffyn tafl, ac â phob math o arfau a allem ddyfeisio, a myfi a’m pobl a aethom yn erbyn y Lamaniaid i ryfel; ïe, yn nerth yr Arglwydd yr aethom i ryfel yn erbyn y Lamaniaid; canys myfi a’m pobl a waeddasom yn nerthol ar yr Arglwydd ar iddo ein gwaredu allan o ddwylaw ein gelynion, canys yr oeddem wedi ein deffroi i goffadwriaeth o waredigaeth ein tadau. A gwrandawodd Duw ein cri, ac a atebodd ein gweddiau; ac ni a aethom allan yn ei nerth, ïe, ni a aethom allan yn erbyn y Lamaniaid, ac mewn un dydd a noson, lladdasom dair mil a thri a deugain; lladdasom hwynt, hyd nes yr oeddem wedi eu gyru allan o’n tir. A mi fy hun, â’m dwylaw fy hunan, a gynnorthwyais i gladdu eu meirw. Ac wele, er ein tristwch mawr a’n galar, cafodd dau gant a phedwar ar bymtheg a thrigain o’n brodyr eu lladd.
A darfu i ni drachefn ddechreu cadarnhau y deyrnas, a dechreu drachefn etifeddu y tir mewn heddwch. Ac mi a berais wneuthur arfau rhyfel o bob math, fel y gallwn trwy hyny gael arfau i’m pobl, erbyn yr amser y deuai y Lamaniaid i fyny drachefn i ryfel yn erbyn fy mhobl. A gosodais wylwyr oddi amgylch y tir, fel na ddeuai y Lamaniaid arnom drachefn yn ddisymwth a’n dyfetha; ac felly y gwyliais fy mhobl a’m deadelloedd, ac y cedwais hwynt rhag syrthio i ddwylaw eu gelynion.
A darfu i ni etifeddu tir ein tadau, am lawer o flynyddau, ïe, am yspaid dwy flynedd a deugain; ac mi a berais i’r gwyr lafurio y ddaear, a chynnyrchu pob math o lafur, a phob math o ffrwyth. A pherais i’r gwragedd nyddu, a llafurio, a gweithio, a gwneuthur pob math o lian teg; ïe, a phob math o frethyn, fel y dilladem ein noethni; ac felly y llwyddasom yn y tir—felly y cawsom heddwch gwastadol yn y tir am yspaid dwy flynedd a deugain.
A bu i’r brenin Laman farw, ac i’w fab ddechreu teyrnasu yn ei le. Ac efe a ddechreuodd gynhyrfu ei bobl mewn gwrthryfel yn erbyn fy mhobl i; am hyny, hwy a ddechreuasant barotoi at ryfel, a dyfod i fyny i ryfel yn erbyn fy mhobl i. Eithr mi a anfonais ysbïwyr oddiamgylch tir Shemlon, fel y gwypwn am eu parotoiadau, ac y gwyliwn rhagddynt, fel na ddeuent ar fy mhobl a’u dinystrio.
A bu ddyfod o honynt i fyny y tu gogleddol i dir Shilom, yn llnoedd mawrion, yn wyr wedi eu harfogi â bwau, ac â saethau, ac â chleddyfau, ac â chrymgleddyfau, ac â cheryg, ac â ffyn tafl; ac yr oeddynt wedi eillio eu penau, nes yr oeddynt yn noethion; ac wedi ym wregysu â gwregys o groen oddi amgylch eu lwynau.
A dygwyddodd beri o honof guddio gwragedd a phlant fy mhobl yn yr anialwch; a pherais hefyd i’m henafgwyr a allent ddwyn arfau, ac hefyd fy holl wyr ieuainc a allent ddwyn arfau, ymgasglu ynghyd i fyned i ryfel yn erbyn y Lamaniaid; ac mi a’u cyfleais hwynt yn eu rhesi, pob dyn yn ol ei oedran.
A bu i ni fyned i fyny i ryfel yn erbyn y Lamaniaid; a myfl, ïe, myfl, yn fy hen ddyddiau, a nethym i fyny i ryfel yn erbyn y Lamaniaid. A bu i ni fyned i fyny yn nerth yr Arglwydd i ryfel.
Yn awr, ni wyddai y Lamaniaid ddim ynghylch yr Arglwydd, nac am nerth yr Arglwydd, am hyny hwy a ymddibynent ar nerth eu hunain. Etto yr oeddynt yn bobl gryflon, gyda golwg ar nerth dynion—yr oeddynt yn bobl wylltion, a chreulawn, a sychedig am waed, ac yn credu yn nhraddodiad eu tadau, yr hwn sydd fel hyn:—Credu iddynt gael eu gyru allan o wlad Jerusalem, o herwydd anwireddau eu tadau, ac iddynt gael cam yn yr anialwch gan eu brodyr, ac iddynt gael cam hefyd tra yn croesi y môr. A thrachefn, iddynt gael cam tra yn nhir cyntaf eu hetifeddiaeth, ar ol iddynt groesi y môr, a hyn oll oblegid fod Nephi yn ffyddlonach i gadw gorchymynion yr Arglwydd: gan hyny cafodd ffafr gan yr Arglwydd, canys yr Arglwydd a wrandawodd ei weddiau ac a’u hatebodd, ac efe a flaenorodd eu taith yn yr anialwch. A’i frodyr ef oeddynt ddigllawn wrtho, o herwydd na ddeallent ymdriniaethau yr Arglwydd; yr oeddynt yn ddigllawn wrtho hefyd ar y dyfroedd, o herwydd caledu o honynt eu calonau yn erbyn yr Arglwydd. A thrachefn, yr oeddynt yn ddigllawn wrtho wedi cymmeryd lywodraeth y bobl allan o’u dwylaw hwynt, a hwy a geisiasant ei ladd ef. A thrachefn, yr oeddynt yn ddigllawn wrtho, o herwydd ymadael o hono i’r anialwch yn ol fel y gorchymynodd yr Arglwydd, a chymmereyd y cof-lyfrau y rhai oeddynt wedi eu cerfio ar y llafnau pres, canys dywedent iddo eu lladrata hwynt. Ac fel hyn y dysgasant eu plant, i’w cashau hwynt, a’u llofruddio, a lladrata oddi arnynt, a’u hyspeilio, a gwneuthur yr oll a allent er eu dinystrio: gan hyny meddant gasineb gwastadol tuag at blant Nephi. Canys i’r dyben hyn yn unig y twyllwyd fi gan y brenin Laman, trwy ei hoced, a’i gyfrwysdra i dwyllo, a’i addewidion teg, fel y dygais fy mhobl hyn i’r tir hwn, fel eu dinystrier ganddynt; ïe, ac yr ydym wedi dyoddef hyn flynyddau lawer yn y tir.
Ac yn awr, myfi, Zeniff, wedi mynegi yr holl bethau hyn wrth fy mhobl ynghylch y Lamaniaid, a’u cynhyrfais i fyned i ryfel â’u holl nerth, gan osod eu hymddiried yn yr Arglwydd; am hyny, ymdrechasom â hwynt wyneb yn wyneb. A darfu i ni eu gyru drachefn allan o’n tir; a lladdasom hwynt â lladdfa fawr, ïe, cynnifer nad allem eu rhifo hwynt.
A bu i ni ddychwelyd drachefn i dir ein hunain, a’m pobl a ddechreuasant eilwaith ofalu am eu deadelloed, a thrin eu tir. Ac yn awr, gan fy mod innau yn hen, mi a roddais y deyrnas i un o’m meibion; am hyny, nid wyf yn dywedyd ychwaneg. A bydded i’r Arglwydd fendithio fy mhobl. Amen.