Pennod ⅩⅢ.
Ac yn awr, megys y dywedais wrthych, ar ol i’r brenin Mosiah wneuthur y pethau hyn, efe a gymmerodd y llafnau pres, a’r holl bethan a gadwodd ef, ac a’u cyflwynodd hwynt i Alma, yr hwn oedd mab Alma; ïe, yr holl gof-lyfrau, ac hefyd y cyfieithwyr, a gyflwynodd efe iddo ef, ac a’i gorchymynodd i’w cadw a’u diogelu, ac hefyd cadw cof-lyfr am y bobl, gan eu trosglwyddo i lawr o un genedlaeth i’r llall, ïe, megys y cyflwynwyd hwynt i lawr o’r amser y gadawodd Lehi Jerusalem. Yn awr, pan orphenodd Mosiah hyn, efe a anfonodd allan trwy yr holl dir, yn mhlith yr holl bobl i erfyn gwybod eu hewyllys ynghylch pwy fyddai eu brenin. A bu i lais y bobl ddyfod, gan ddywedyd, Yr ydym ni yn ewyllysio i Aaron dy fab fod i ni yn frenin, a llywodraethwr. Yn awr, yr oedd Aaron wedi myned i fyny i dir Nephi, o ganlyniad ni allai y brenin roddi y deyrnas iddo ef; ac ni chymmerai Aaron y deyrnas arno ychwaith; ac nid oedd un o feibion Mosiah yn foddlawn cymmeryd arnynt y deyrnas; am hyny, y brenin Mosiah a anfonodd drachefn i blith y bobl; ïe efe a anfonodd air ysgrifenedig i blith y bobl. A dyma y geiriau oedd wedi eu hysgrifenu, y rhai ydynt fel hyn: Wele, O chwi fy mhobl, neu fy mrodyr; canys yn gyfryw y cyfrifaf chwi; yr wyf yn dymuno arnoch i ystyried yr achos y galwyd chwi i’w ystyried; canys yr ydych yn dymuno cael brenin. Yn awr, yr wyf yn mynegi wrthych, fod yr hwn i ba un y perthyna y deyrnas yn gyfreithlawn, wedi gwrthod, ac ni cymmer y deyrnas arno. Ac yn awr, os penodir arall yn ei le, wele, ofnwyf y cyfyd amrafaelion yn eich plith; a phwy a wyr na fydd i’m mab, i’r hwn y perthyna y deyrnas, droi yn ddigllawn, a thyna ymaith ran o’r bobl ar ei ol, yr hyn a achosai ryfeloedd ac amrafaelion yn eich plith; yr hyn a achosai dywallt llawer o waed, a gwyrdroi ffordd yr Arglwydd; ïe, a dinystrio eneidiau llawer o bobl. Yn awr, yr wyf yn dywedyd wrthych, byddwn ddoeth ac ystyriwn y pethau hyn, canys nid oes hawl genym i ddinystrio fy mab, ac nid oes genym hawl ychwaith i ddinystrio arall, pe penodid ef yn ei le. A phe troai fy mab drachefn at ei falchder a’i bethau gwageddus, efe a alwai yn ol y pethau a lefarodd, ac a honai ei hawl i’r deyrnas, yr hyn a achosai iddo ef ac i’r bobl hyn gyflawni llawer o bechod. Ac yn awr, byddwn ddoethion ac edrychwn yn mlaen at y pethau hyn, a gwneuthur yr hyn a ddwg heddwch i’r bobl hyn. Am hyny, bydded i ni benodi barnwyr, i farnu y bobl hyn yn ol ein cyfraith, ac ni a drefnwn achosion y bobl hyn o’r newydd, canys ni a benodwn ddynion doeth i fod yn farnwyr, y rhai a farnant y bobl hyn yn ol gorchymynion Duw. Yn awr, y mae yn well i ddyn gael ei farnu gan Dduw na chan ddyn, oblegid y mae barnedigaethau Duw bob amswer yn gyfiawn, ond nid yw barnedigaethau dyn bob amser yn gyfiawn; am hyny, pe byddai yn bosibl i chwi gael dynion cyfiawn yn freninoedd arnoch, y rhai a sefydlent gyfreithiau Duw, ac a farnent y bobl hyn yn unol â’i orchymynion; ïe, pe gallech gael dynion i fod yn freninoedd arnoch, y rhai a wnaethent megys y gwnaeth fy nhad Benjamin dros y bobl hyn; ïe, meddaf wrthych, pe gallai hyn fod bob amser, yna buasai yn fuddiol i chwi gael breninoedd i lywodraethu arnoch. Ac yr wyf hyd y nod fy hun wedi llafurio yn holl nerth y cynneddfau oedd genyf, er dysgu i chwi orchymynion Duw, a sefydlu heddwch trwy y tir, fel na fyddai rhyfeloedd nac amrafaelion, na lladrata, nac yspeilio, na llofruddio, nac un math o ddrygioni: a phwy bynag a weithredodd anwiredd, y cyfryw a gospais yn ol y gyfraith a roddwyd i ni gan ein tadau.
Yn awr, yr wyf yn dywedyd wrthych, Oblegid nad yw pob dyn yn gyfiawn, nid yw yn fuddiol i chwi gael brnin neu freninoedd i lywodraethu arnoch. Canys, wele, gymmaint o anwiredd y mae un brenin drygionus yn achosi gael ei weithredu! ïe, y fath ddinystr mawr! Ië, cofiwch am ybrenin Noah, a’i ddrygioni a’i ffieidd-dra; ac hefyd ddrygioni i ffieidd-dra ei bobl. Wele, y fath ddinystr mawr a ddaeth arnynt hwy; ac hefyd oblegid eu hanwireddau, y dygwyd hwynt i gaethiwed. Ac oni buasai ymyraeth eu Creawdwr holl-ddoeth, a hyn o herwydd eu hedifeirwch diffuant, yn ddiau buasent yn aros mewn caethiwed hyd yn bresennol. Ond, wele, efe a’u gwaredodd o herwydd iddynt ymostwng o’i flaen; ac o herwydd iddynt alw yn nerthol arno ef, y gwaredodd hwynt o gaethiwed: ac felly y mae yr Arglwydd yn gweithio trwy ei alu yn mhob amgylchiad yn mhlith plant dynion, gan estyn braich trugaredd tuag at y rhai sydd yn gosod eu hymddiried ynddo ef. Ac wele, yn awr meddaf wrthych, nisgellwch ddiorseddu brenin drygionus, ond trwy lawer o amrafael, a thywalltiad gwaed lawer. Canys, wele, y mae ganddo gyfeillion mewn drygioni, ac y mae yn cadw ei wylwyr o’i amgylch; ac y mae yn diddymu cyfreithiau y rhai a deyrnasasant mewn cyfiawndeer o’i flaen ef: a sathra dan ei draed orchymynion Duw; ac mae yn gwneuthur cyfreithiau, ac yn eu danfon allan i fysg ei bobl; ïe, cyfreithiau yn ol dull ei ddrygioni ei hun; a phwy bynag na ufyddhao i’w gyfreithiau ef, a bera gael ei ddinystrio; a phwy bynag a wrthryfelo yn ei erbyn, efe a ddenfyn ei fyddinoedd yn eu herbyn i ryfel, ac os gall, efe a’u dyfetha hwynt; ac felly y mae brenin anghyfiawn yn gwyrdroi ffyrdd pob dyfiawnder. Ac yn awr, wele, meddaf wrthych, nid oes achos i’r fath ffieidd-dra i ddyfod arnoch chwi; am hyny, dewiswch farnwyr, trwy lais y bobl hyn, fel y barner chwi yn unol â’r cyfreithiau a roddwyd i chwi gan eich tadau, y rhai ydynt uniawn, ac a roddwyd iddynt hwy trwy law yr Arglwydd. Yn awr, nid yn gyffredin y mae llais y bobl yn dewis dim sydd yn groes i’r hyn sydd yn gyfreithlawn; eithr y mae yn beth cyffredin i’r llai-rif o’r bobl i ddewis yr hyn nad yw yn gyfreithlawn; am hyny, eofiwch hyn, a bydded yn ddeddf genych i drafod eich materion trwy lais y bobl. Ac os daw yr amser i lais y bobl ddewis anwiredd, dyna y ramser y daw arnoch farnedigaethau Duw; ïe, dyna yr amser yr ymwel efe â chwi mewn dinystr mawr, megys hyd yn hyn y mae wedi ymweled â’r tir hwn. Yn awr, os bydd genych farnwyr, ac nis barnant chwi yn ol y gyfraith a roddwyd, chwi a ellwch achosi iddynt hwy gael eu barnu gan farnwr uwch; os na farna eich uwch-farnwyr farnedigaethau cyfiawn, achoswch i nifer fechan o’ch is-farnwyr i ymgynnull ynghyd, a hwy a farnant eich uwch-farnwyr, yn unol â llais y bobl. Ac yr wyf yn gorchymyn i chwi wneuthur hyn yn ofn yr Arglwydd: ac yr wyf yn gorchymyn i chwi wneuthur y pethau hyn, ac na chaffoch frenin: ac os cyflawna y bobl hyn bechodau ac anwireddau, hwy a atebir ar eu penau hwy eu hunain. Canys, wele, meddaf wrthych, y mae pechodau llaweroedd o bobl wedi eu hachosi gan anwireddau eu breninoedd: am hyny, eu hanwireddau hwy a atebir ar benau eu breninoedd. Ac yn awr, yr wyf yn dymuno na fyddo yr anghydraddoldeb hwn mwyach yn y tir yma, yn neillduol yn mysg fy mhobl hyn; eithr dymunaf fod y tir hwn yn dir rhyddid, fel y gallo pob dyn fwynhau ei iawnderau a’i freintiau yn gyffelyb, cyhyd ag y gwelo yr Arglwydd yn addas, i ni fyw ac etifeddu y tir; ïe, cyhyd ag yr aroso rhyw rai o’n hiliogaeth ar wyneb y tir. A llawer o bethau yn ychwaneg a ysgrifenodd y brenin Mosiah atynt, gan hysbysu iddynt holl dreialon a thrafferthion brenin cyfiawn; ïe, holl lafur enaid dros ei bobl, ac hefyd holl rwgnach y bobl wrth su brenin; ac efe a’u heglurodd oll iddynt. Ac efe ddywedodd wrthynt, na ddylai y pethau hyn fod; eithr y dylai y baich ddyfod ar yr holl bobl, fel y dygai pob dyn ei gyfran. Ac efe a eglurodd iddynt hefyd yr holl anfnteision y llafurient o danynt, trwy gael brenin anghyfiawn i lywodraethu arnynt; ïe, ei holl anwireddau a’i ffieidd-dra, a’r holl ryfeloedd, a’r amrafaelion, a thywalltiad gwaed, a’r lladrata a’r yspeilio, a’r puteinio, a phob math o anwiredd, y rhai nis gellir eu cyfrif; gan fynegi wrthynt na ddylai y pethau hyn fod; eu bod yn wir wrthwynebol i orchymynion Duw.
Ac yn awr, dygwyddodd, ar ol i’r brenin Mosiah ddanfon y pethau hyn allan i blith y bobl, iddynt gael eu hargyhoeddi o wirionedd ei eiriau; am hyny, rhoddasant heibio eu dymuniadau i gael brenin, ac a ddaethant yn dra awyddus i bob dyn gael yr un fantais trwy yr holl dir; ïe, a dangosodd pob dyn ei foddlonrwydd i fod yn atebol am ei bechodau ei hun. Gan hyny, dygwyddodd iddynt ymgynnull ynghyd, yn dorfeydd, trwy y tir, i bleidleisio ynghylch pwy fyddai eu barnwyr, i’w barnu yn ol y gyfraith a roddwyd iddynt; ac yr oeddynt yn dra llawen, o herwydd y rhyddid a roddwyd iddynt. A hwy a gynnyddasant mewn cariad tuag at Mosiah; ïe, cyfrifent ef yn fwy nag un dyn arall: canys ni edrychent arno megys gormeswr, yr hwn oedd yn ceisio elw, ïe, yr elw hwnw sydd yn llygru yr enaid, oblegid ni fynodd efe eu cyfoeth hwynt, ac ni ymhyfrydodd mewn tywallt gwaed; eithr efe a sefydlodd heddwch yn y tir, ac a ganiataodd i’w bobl gael eu gwaredu o bob math o gaethiwed; am hyny, hwy a’i parchent ef, ïe, yn fawr iawn. A bu iddynt benodi barnwyr i lywodraethu arnynt, neu i’w barnu yn ol y gyfraith; a hyn a wnaethant trwy yr holl dir.
A bu i Alma gael ei benodi i fod yn brif farnwr blaenaf, gan mai efe hefyd oedd yr archoffeiriad, trwy fod ei dad wedi cyflwyno y swydd iddo, ac wedi rhoddi iddo ofal holl achosion y deyrnas. Ac yn awr, darfu i Alma rodio yn ffyrdd yr Arglwydd, a chadw ei orchymynion, a barnu barnedigaethau cyfiawn; ac yr oedd heddwch gwastadol trwy y tir; ac felly y dechreuodd teyrnasiad y barnwyr trwy holl dir Zarahemla, yn mhlith yr holl bobl a elwid Nephiaid; ac Alma oedd y prif farnwr blaenaf. Ac yn awr, dygwyddodd i’w dad farw, gan fod yn ddwy flwydd a phedwar ugain oed, wedi byw i gyflawni gorchymynion Duw.
A bu i Mosiah farw hefyd, yn y drydedd flwyddyn ar ddeg ar hugain o’i deyrnasiad, gan fod yn dair blwydd a thrigain oed; gan wneuthur yn y cyfan bum cant a naw mlynedd o’r amser y gadawodd Lehi Jerusalem; ac felly y terfynodd teyrnasiad y breninoedd ar bobl nephi; ac felly y terfynodd dyddiau Alma, yr hwn oedd sylfaenydd eu heglwys.