Pennod Ⅷ.
A bu ar ol i Abinadi orphen y geiriau hyn, iddo ddywedyd wrthynt. A ddysgasoch chwi y bobl yma y dylent ofalu gwneuthur y pethau hyn oll? ac i gadw y gorchymynion hyn? Yr wyf yn dywedyd wrthych, Naddo; canys pe gwnaethech, ni pherai yr Arglwydd i mi ddyfod a phrophwydo drwg am y hobl hyn. Ac yn awr, dywedasoch fod iachawdwriaeth yn dyfod trwy gyfraith Moses. Yr wyf yn dywedyd wrthych fod yn anghenrheidiol i chwi gadw cyfraith Moses hyd yma; eithr yr wyf yn dywedyd wrthych, y daw yr amser pan na fydd mwyach yn anghenrheidiol cadw cyfraith Moses. Ac yn mhellach, meddaf wrthych, nid yw iachawdwriaeth yn dyfod trwy y gyfraith yn unig; ac oni bai yr iawn a rydd Duw ei hun dros bechodau ac anwireddau ei bobl, er bod o gyfraith Moses, rhaid fuasai eu cyfrgolli yn anocheladwy. Ac yn awr, yr wyf yn dywedyd wrthych, ei bod yn anghenrheidiol rhoddi cyfraith i blant Israel, ïe, cyfraith gaeth iawn; canys pobl wargaled oeddynt; yn gyflym i weithredu drygioni, ac yn ddiog i gofio yr Arglwydd eu Duw; am hyny y rhoddwyd cyfraith iddynt, ïe, cyfraith cyflawniadau ac ordinhadau, cyfraith ag oeddynt i’w hufyddhau yn gaeth, o ddydd i ddydd, er eu cadw mewn coffadwriaeth o Dduw, a’u dyledswydd tuag ato. Ond, wele, meddaf wrthych, yr holl bethau hyn oeddynt gysgod pethau i ddyfod. Ac yn awr, a ddeallasant hwy y gyfraith? Yr wyf yn dywedyd wrthych, Naddo, nid oeddynt oll yn deall y gyfraith; a hyn o herwydd caledwch eu calonau; canys nid oeddynt yn deall nas gallai un dyn gael ei achub, oddieithr trwy brynedigaeth Duw. Canys, wele, oni phrophwydodd Moses wrthynt am ddyfodiad y Messiah, ac y gwaredai Duw ei bobl, ïe, ac hyd y nod yr holl brophwydi y rhai a brophwydasant er dechreuad y byd? Ai ni lefarasant hwy fwy neu lai am y pethau hyn? Ai ni ddywedasant y deuai Duw ei hun i lawr i blith plant dynion, ac y cymmerai arno ddull dyn, ac yr ai mewn awdurdod nerthol ar wyneb y ddaear? Ië, ai ni ddywedasant hefyd, y dygai efe oddiamgylch adgyfodiad y meirw, ac y cawsai efe ei hun ei orthrymu a’i gystuddio? Ië, ai ni ddywedasant hefyd, y dygai efe oddiamgylch adgyfodiad y meirw, ac y cawsai efe ei hun ei orthrymu a’i gystuddio? Ië, ai ni ddywedasant hefyd, y dygai efe oddiamgylch adgyfodiad y meirw, ac y cawsai efe ei hun ei orthrymu a’i gystuddio? Ië, ai ni ddywed hyd y nod Isaiah, Pwy a gredodd i’n hymadrodd? Ac i bwy y dadguddiwyd braich yr Arglwydd? Canys efe a dyf o’i flaen ef fel blaguryn, ac fel gwreiddyn o dir sych; nid oes na phryd na thegwch iddo; a phan edrychom arno, ni bydd pryd fel y dymunem ef. Dirmygedig yw, a diystyraf o’r gwyr; dyn gofidus, a chynnefin â dolur; ac yr oeddym megys yn cuddio ein gwynebau oddi wrtho: dirmygedig oedd, ac ni wnaethom gyfrif o hono.
Diau efe a gymmerth ein gwendid ni, ac a ddyg ein doluriau; etto ni a’i cyfrifasom ef wedi ei faeddu, ei daro gan Dduw, a’i gystuddio. Ond efe a archollwyd am ein camweddau ni, efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni: cospedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef; a thrwy ei glei siau ef yr iachawyd ni. Nyni oll a grwydrasom fel defaid: troisom bawb i’w ffordd ei hun; a’r ‘Arglwydd a roddes arno ef ein hanwiredd ni i gyd. Efe a orthrymwyd, ac efe a gystuddiwyd, ac nid agorai ei enau; fel oen yr arweinid ef i’r lladdfa, ac fel y tau dafad o flaen y rhai a’i cneifiai, felly nid agorai yntau ei enau. O garchar ac o farn y cymmerwyd ef; a phwy a draetha ei oes ef? Canys efe a dorwyd o dir y rhai byw; rhoddwyd pla arno ef am gamwedd fy mhobl. Ac efe a wnaeth ei fedd gyda’i rhai anwir, a chyda’r cyfoethog yn ei farwolaeth; am na wnaethai gam, ac nad oedd twyll yn ei enau.
Eithr yr Arglwydd a fynai ei ddryllio ef; efe a’i clwyfodd: pan osodo efe ei enaid yn aberth dros bechod, efe a wel ei had, efe a estyn ei ddyddiau; ac ewyllys yr Arglwydd a lwydda yn ei law ef. O lafur ei enaid y gwel, ac y diwellir: fy ngwas cyfiawn a gyfiawnha lawer trwy ei wybodaeth; canys efe a ddwg eu hanwireddau hwynt. Am hyny y rhanaf iddo ran gyda llawer, ac efe a rana yr yspail gyda’r cedyrn; am iddo dywallt ei enaid i farwolaeth: ac efe a gyfrifwyd gyda’r troseddwyr; ac efe a ddyg bechodau llaweroedd, ac a eiriolodd dros y troseddwyr.
Ac yn awr, Abinadi a ddywedodd wrthynt, Mi a ewyllysiwn i chwi ddeall y daw Duw ei hun i waered i blith plant dynion, ac y gwareda ei bobl; ac am ei fod yn trigo mewn cnawd, efe a elwir yn Fab Duw: ac wedi darostwng y cnawd i ewyllys y Tad, gan fod yn Dad a Mab; yn Dad, o herwydd iddo gael ei genedlu trwy allu Duw; ac yn Fab, o herwydd y cnawd; felly y mae yn dyfod yn Fab a Thad; a hwynt-hwy ydynt un Duw, ïe, gwir Dad tragywyddol nef a daear; ac felly mae y cnawd, trwy ddyfod yn ddarostyngedig i’r ysbryd, neu y Tad i’r Mab, gan fod yn un Duw, yn dyoddef temtasiwn ac yn peidio ymollwng i’r demtasiwn, eithr yn dyoddef temtasiwn ac yn peidio ymollwng i’r demtasiwn, eithr yn dyoddef cael ei watwar, a’i fflangellu, a’i fwrw allan, a’i ddiarddel, gan ei bobl. Ac ar ol hyn oll, wedi cyflawni llawer o wrthiau nerthol yn mysg plant dynion, efe a arweinir, ïe, megys y dywedodd Isaiah, fel y tau dafad o flaen y rhai a’i cneiflai, felly nid agorai yntau ei enau; ïe, felly y caiff efe ei arwain, ei groeshoelio, a’i ladd, trwy fod y cnawd yn dyfod yn ddarostyngedig hyd y nod i farwolaeth, ac ewyllys y Mab yn cael ei llyncu i fyny yn ewyllys y Tad; ac felly y mae Duw yn dryllio rhwymau marwolaeth; wedi buddugoliaethu ar angeu; gan roddi gallu i’r Mab i eiriol dros blant dynion; wedi esgyn i’r nef; yn meddu ymysgaroedd trugaredd; yn llawn tosturi tuag at blant dynion; yn sefyll rhyngddynt a chyfiawnder; wedi dryllio rhwymau marwolaeth, gan gymmeryd arno eu hanwiredd a’u troseddiadau; wedi eu gwaredu hwynt, a boddloni gofynion cyfiawndeer. Ac yn awr, meddaf wrthych, Pwy a fynegai ei oes ef? Wele, meddaf wrthych, ar ol i’w enaid gael ei wneuthur yn offrwm dros bechod, efe a wel ei had. Ac yn awr, pa beth a ddywedwch chwi? A phwy fydd ei had ef? Wele, meddaf wrthych, pwy bynag a wrandawodd eiriau y prophwydi, ïe, yr holl brophwydi santaidd a brophwydasant am ddyfodiad yr Arglwydd; yr wyf yn dywedyd wrthych, yr holl rai a wrandawsant ar eu geiriau, ac a gredasant y gwaredai yr Arglwydd ei bobl, ac a edrychasant yn mlaen at y dydd hwnw am faddeuant o’u pechodau; yr wyf yn dywedyd wrthych, mai y rhai hyn yw ei had ef, neu etifeddion teyrnas Dduw; canys y rhai hyn yw y rhai y dygodd efe eu pechodau; y rhai hyn yw y rhai y bu efe farw drostynt, i’w gwaredu hwynt o’u troseddiadau. Ac yn awr, ai nid hwy yw ei had ef? Ië, ac ai nid yw y prophwydi, pob un a agorodd ei enau i brophwydo, ag na syrthiodd i drosedd; meddyfiwyf yr holl brophwydi santaidd er dechreuad y byd? Yr wyf yn dywedyd wrthych, eu bod hwythau yn had iddo; a’r rhai hyn yw y rhai a gyhoeddasant heddwch, y rhai a fynegasant ddaioni, y rhai gyhoeddasant iachawdwriaeth; ac a ddywedasant wrth Seion, Dy Dduw di sydd yn teyrnasu! Ac O, mor brydferth ar y mynyddoedd oedd eu traed! A thrachefn, mor brydferth ar y mynyddoedd yw traed y rhai sydd etto yn cyhoeddi heddwch? A thrachefn, mor brydferth ar y mynyddoedd fydd traed y rhai ar ol hyn a gyhoeddant heddwch; ïe, o’r amser hwn allan ac yn dragywydd! Ac wele, meddaf wrthych, nid hyn yw y cyfan: Canys, O mor brydferth ar y mynyddoedd yw traed yr hwn sydd yn efengylu, yr hwn sydd yn sefydlwr heddwch: ïe, sef yr Arglwydd, yr hwn a waredodd ei bobl: ïe, yr hwn a roddodd inchawdwriaeth i’w bobl: canys oni bai y brynedigaeth a wnaeth i’w bobl, yr hon y barotowyd er seiliad y byd; yr wyf yn dywedyd wrthych, oni bai hyn, y buasai holl ddynolryw wedi eu dyfetha. Ond, wele, rhwymau marwolaeth a ddryllir, ac y mae’r Mab yn teyrnasu, a chanddo awdurdod dros y meirw; am hyny, dyga oddiamgylch adgyfodiad y meirw. Ac y mae adgyfodiad yn dyfod, sef adgyfodiad cyntaf; ïe, sef adgyfodiad y rhai a fu, sydd, ac a fydd, sef hyd adgyfodiad Crist; canys felly y gelwir ef. Ac yn awr, adgyfodiad yr holl brophwydi, a’r holl rai a gredasant eu geiriau, neu yr holl rai a gadwasant orchymynion Duw, a ddeuant allan yn yr adgyfodiad cyntaf: am hyny, hwynt hwy yw yr adgyfodiad cyntaf. Cyfodir hwy i drigo gyda Duw yr hwn a’u gwaredodd: felly cant fywyd tragywyddol trwy Grist, yr hwn a ddrylliodd rwymau marwolaeth. A’r rhai hyn yw y sawl a gant ran yn yr adgyfodiad cyntaf; a’r rhai hyn ydynt hwy a fuont feirw cyn dyfod Crist, yn eu hanwybodaeth, heb fod iachawdwriaeth wedi ei thraethu wrthynt. Ac felly y mae’r Arglwydd yn dwyn oddiamgylch adferiad y rhai hyn; ac y maent yn cael rhan yn yr adgyfodiad cyntaf, neu fywyd tragywyddol, gan eu bod wedi eu gwaredu gan yr Arglwydd. Ac y mae plant bychain hefyd yn cael bywyd tragywyddol. Eithr wele, ofnwch, a chrynwch gerbron Duw; canys chwi a ddylech grynu; oblegid nid yw yr Arglwydd yn gwaredu neb o’r cyfryw sydd yn gwrthyfela yn ei erbyn, ac yn marw yn eu pechodau; ïe, sef yr holl rai a drengasant yn eu pechodau oddiar ddechreuad y byd, y rhai a wrthryfelasant yn wirfoddol yn erbyn Duw; y rhai a wybyddent orchymynion Duw, ac nis cadwent hwynt; y rhai hyn yw y rhai na chant ran yn yr adgyfodiad cyntaf.Am hyny, ai ni ddylech chwi grynu? Canys nid yw iachawdwriaeth yn dyfod at neb o’r cyfryw; o herwydd nid yw yr Arglwydd wedi gwaredu neb o’r cyfryw; ïe, ac ni all yr Arglwydd waredu y cyfryw; canys ni all efe wadu ei hun; oblegid ni all wadu cyfiawnder pan y mae hawl ganddi.
Ac yn awr, meddaf wrthych, daw yr amser pan y bydd i iachawdwriaeth yr Arglwydd gael ei thraethu i bob cenedl, llwyth, iaith, a phobl. Ië, Arglwydd, dy wylwyr a ddyrchafant eu llef; gyda eu llef y cyd-ganant; canys gwelant lygad yn llygad, pan ddychwelo yr Arglwydd Seion. Bloeddiwch, cyd-genwch, anialwch Jerusalem; canys yr Arglwydd a gysurodd ei bobl, efe a waredodd Jerusalem. Diosgodd yr Arglwydd fraich ei santeiddrwydd yn ngolwg yr holl genedloedd: a holl gyrau y ddaear a welant iachawdwriaeth ein Duw ni.
Ac yn awr, dygwyddodd ar ol i Abinadi lefaru y geiriau hyn, iddo estyn ei law a dywedyd, Daw yr amser pan y caiff pawb weled iachawdwriaeth yr Arglwydd; pan y caiff pob cenedl, llwyth, iaith, a phobl, weled lygad yn lygad, a chyffesu gerbron Duw fod ei farnedigaethau ef yn gyfiawn; ac yna y drygionus a fwrir allan, a chant achos i ubain, wylofain, galaru, a rhineian eu dannedd; a hyn am na wrandawsant ar lais yr Arglwydd; am hyny, nid yw yr Arglwydd yn eu gwaredu, canys y maent yn gnawdol a chythreulig, ac y mae gan y diafol awdurdod arnynt; ïe, sef yr hen sarff hono a dwyllodd ein rhieni cyntaf, yr hyn oedd achos eu cwymp; yr hyn oedd yr achos i holl ddynolryw fyned yn gnawdol, yn anianol, yn gythreulig, gan adnabod y drwg oddiwrth y da, ac ymddarostwng i’r diafol. Felly yr aeth holl ddynolryw yn golledig; ac wele, buasent yn dragywyddol golledig, oni buasai i Dduw waredu ei bobl o’u sefyllfa golledig a syrthiedig. Eithr cofiwch, yr hwn sydd yn parhau yn ei anian gnawdol ei hun, ac yn myned ar hyd ffyrdd pechod a gwrthryfel yn erbyn Duw, a erys yn ei sefyllfa syrthiedig, ac y mae gan y diafol bob awdurdod arno. Am hyny, y mae efe megys pe na byddai prynedigaeth wedi ei gwneyd; gan fod yn elyn i Dduw; ac y mae y diafol hefyd yn elyn Duw. Ac yn awr, pe na ddaethai Crist i’r byd, gan lefaru am bethau i ddyfod, megys pe byddentwedi dyfod eisoes, nis gallai fod prynedigaeth. A phe na adgyfodai Crist oddiwrth y meirw, neu ddryllio rhwymau marwolaeth, fel na chaffai y bedd fuddugoliaeth, ac na chaffai angeu golyn, nis gallai fod adgyfodiad. Ond y mae adgyfodiad, gan hyny ni chafodd y bedd fuddugoliaeth, a cholyn angeu a lyncwyd i fyny yn Nghrist: Efe yw goleuni a bywyd y byd; ïe, goleuni ag sydd yn ddiddiwedd, nad ellir byth ei dywyllu; ïe, ac hefyd, fywyd yr hwn sydd yn ddiddiwedd, fel nas gall fod marwolaeth mwy. Hyd y nod y marwol hwn a wisga anfarwoldeb, a’r llygredig hwn a wisga anllygredigaeth, ac a ddygir i sefyll gerbron brawdle Duw, i gael eu barnu ganddo yn ol eu gweithredoedd, pa un bynag a fyddont ai da neu ddrwg. Os byddant dda, i adgyfodiad bywyd annherfynol a dedwyddwch; ac os byddant ddrwg, i adgyfodiad damnedigaeth annherfynol; gan fod wedi eu traddodi i’r diafol, yr hwn a’u darostyngodd hwynt, yr hyn yw damnedigaeth; wedi myned yn ol eu hewyllysiau a’u dymuniadau cnawdol eu hunain; heb alw erioed ar yr Arglwydd tra yr oedd breichiau trugaredd yn estynedig tuag atynt; canys breichiau trugaredd a estynwyd tuag atynt, ac nis mynent hwy; wedi eu rhybyddio am eu hanwireddau, ac etto ni ymadawent â hwynt; ac wedi eu gorchymyn i edifarhau, ac etto ni edifarhaent. Ac yn awr, ai ni ddylech grynu ac edifarhau am eich pechodau, a chofio mai yn a thrwy Grist yn unig y gellir eich achub? Gan hyny, os ydych yn dysgu cyfraith Moses, dysgwch hefyd ei fod yn gysgod o’r pethau hyny sydd i ddyfod; dysgwch hwynt fod prynedigaeth yn deillio trwy Grist yr Arglwydd, yr hwn yw y gwir Dad tragywyddol. Amen.