Pennod Ⅸ.
Ac yn awr, dygwyddodd ar ol i Abinadi orphen y geiriau hyn, i’r brenin orchymyn i’r offeiriaid ei gymmeryd, ac achosi iddo gael ei osod i farwolaeth. Eithr yr oedd un yn eu mysg, enw yr hwn oedd Alma, yr hwn oedd hefyd yn ddisgynydd o Nephi. Ac yr oedd efe yn ddyn ieuanc, ac yr oedd yn credu y geiriau a lefarodd Abinadi, canys efe a wyddai am yr anwiredd a dystiolaethodd Abinadi yn eu herbyn; am hyny, efe a ddechreuodd ymbilio â’r brenin am beidio bod yn ddigllawn wrth Abinadi, eithr goddef iddo ymadael mewn heddwch. Ond y brenin a ddigllonodd yn fwy, ac a berodd i Alma gael ei fwrw allan o’u mysg, ac a ddanfonodd ei weision ar ei ol i’w ladd. Eithr efe a ffodd o’u blaen hwynt, ac a ymguddiodd, fel nas gallent ei gael. A chan fod yn guddiedig am amryw ddyddiau, efe a ysgrifenodd yr holl eiriau a lefarodd Abinadi.
A darfu i’r brenin beri i’w warchodlu amgylchu Abinadi, a’i gymmeryd; a hwy a’i rhwymasant ac a’i bwriasant yn ngharchar. Ac ar ol tri niwrnod, wedi ymgynghori â’i offeiriaid, perodd ei ddwyn ef drachefn ger ei fron. Ac efe a ddywedodd wrtho, Abinadi, yr ydym ni wedi cael cyhuddiad yn dy erbyn, ac yr wyt yn haeddu marwolaeth. Canys dywedaist y deuai Duw ei hun i waered i fysg plant dynion; ac yn awr, am y peth hwn y gosodir di i farwolaeth, oddieithr i ti alw yn ol yr holl eiriau a lefaraist yn ddrwg am danaf fi a’m pobl.
Yn awr, Abinadi a ddywedodd wrtho, Yr wyf yn dywedyd wrthyt, na alwaf yn ol y geiriau a lefarais wrthych am y bobl hyn, canys y ament yn eirwir; ac fel y gwypoch am eu sicrwydd, mi a oddefais fy hun i syrthio i’ch dwylaw chwi. Ië, ac mi a ddyoddefaf hyd at angeu, ac ni alwaf yn ol fy ngeiriau, a hwy a gant sefyll yn dystiolaeth yn eich erbyn chwi. Ac os lladdwch fi, chwi a dywalltwch waed gwirion, a chaiff hwn hefyd sefyll yn dystiolaeth yn eich erbyn chwi yn y dydd diweddaf.
Ac yn awr, yr oedd y brenin Noah ynghylch ei ryddhau ef, o herwydd iddo ofni ei air; canys ofnai rhag i farnedigaethau Duw ddyfod arno. Ond yr offeiriaid a ddyrchafasant eu llef yn ei erbyn, ac a ddechreuasant ei gyhuddo, gan ddywedyd, Y mae wedi cablu y brenin. Am hyny, y brenin a gyffrowyd i ddigofaint yn ei erbyn, ac efe a’i traddododd i fyny, i gael ei ladd.
A darfu iddynt ei gymmeryd ef, a llosgi ei groen â ffagodau, ïe, i farwolaeth. Ac yn awr, pan ddechreuodd y fflamiau ei losgi, efe a lefodd wrthynt, gan ddywedyd, Wele, megys y gwnaethoch â mi, efelly hefyd y daw i ben y bydd i’th had di beri i laweroedd gael dyoddef, ïe, boenau marwolaeth trwy dân; a hyn o herwydd eu bod yn credu yn iachawdwriaeth yr Arglwydd eu Duw. A bydd y cystuddir chwi â phob math o glefydau, o herwydd eich anwireddau. Ië, a chwi a darewir ar bob llaw, ac a yrir ac a wasgerir yma ac acw, megys praidd gwylltion yn cael eu gyru gan gwystfilod gwylltion a chreulawn. Ac yn y dydd hwnw yr ymlidir chwi, ac y cymmerir chwi gan law eich gelynion, ac yna y dyoddefwch, megys yr wyf finnau yndyoddef, boenau marwolaeth trwy dân. Felly y mae Duw yn talu dial ar y rhai sydd yn dinystrio ei bobl. O Dduw, derbyn fy enaid. Ac yn awr, wedi i Abinadi ddywedyd y geiriau hyn, efe a syrthiodd, wedi dyoddef marwolaeth trwy dân; ïe, wedi ei osod i farwolaeth o herwydd na wadai orchymynion Duw; gan selio gwirionedd ei eiriau trwy ei farwolaeth.
Ac yn awr, dygwyddodd i Alma, yr hwn a ffodd rhag gweision y brenin Noah, edifarhau am ei bechodau a’i anwireddau, a myned oddiamgylch yn ddirgelaidd yn mhlith y bobl, a dechreu dysgu geiriau Abinadi; ïe, am yr hyn oedd i ddyfod, ac hefyd am adgyfodiad y meirw, a phrynedigaeth y bobl, yr hyn a ddygwyd oddiamgylch trwy allu, a dyoddefiadau, a marwolaeth Crist, a’i adgyfodiad, a’i esgyniad i’r nef. Ac efe a ddysgodd gynnifer a wrandawai ei air. Ac efe a’u dysgodd yn ddirgelaidd, fel na ddeuai i wybodaeth y brenin. A llawer a gredasant ei eiriau. A bu i gynnifer a’i credasant, fyned i le a elwid Mormon, wedi derbyn ei enw odediwrth y brenin, gan fod ar gyffiniau y tir, ac a ddifwynid, ar amserau, neu dymmorau, gan o ddwfr pur, ac Alma a gyrchodd yno, gan fod gerllaw y dwfr brysglwyn o goed bychain, lley yr ymguddiai yn ystod y dydd rhag ymchwiliadau y brenin. A darfu i gynnifer a’i credasant, fyned yno i wrandaw ei eiriau. A bu yn mhen llawer o ddyddiau, fod nifer lliosog wedi ymgasglu ynghyd i’r lle hwnw, sef Mormon, i wrandaw geiriau Alma. Ië, yr oedd yr holl rai a gredent ei air, wedi ymgasglu ynghyd i’w wrandaw. Ac efe a’u dysgodd, ac a bregethodd edifeirwch iddynt, a phrynedigaeth, a ffydd yn yr Arglwydd.
A bu iddo ddywedyd wrthynt, Wele, dyma ddyfroedd Mormon; canys felly y gelwid hwynt. Ac yn awr, gan eich bod yn ewyllysio dyfod i gorlan Duw, a chael eich galw yn fobl iddo, ac yn ewyllysgar i ddyoddef beichiau eich gilydd, fel y byddont yn ysgafn; ïe, ac yn foddlongar i alaru gyda’r rhai a alarant; ïe, a chysuro y rhai sydd mewn anghen o gysur, a sefyll megys tystion i Dduw bob amser, ac yn mhob peth, ac yn mhob lle y byddoch ynddo, ïe, hyd angeu, fel yr achuber chwi gan Dduw, ac y cyfrifer chwi gyda y rhai sydd o’r adgyfodiad cyntaf, fel y caffoch fywyd tragywyddol: Yn awr, meddaf wrthych, os hyn yw dymuniad eich calonau, beth sydd genych yn erbyn cymmeryd eich bedyddio yn enw yr Arglwydd, fel tystiolaeth ger ei fron eich bod wedi ymgyfammodi ag ef, y bydd i chwi ei wasanaethu a chadw ei orchymynion, fel y tywallto efe ei ysbryd arnoch yn helaethach? Ac yn awr, pan glywodd y bobl y geiriau hyn, curasant eu dwylaw o lawenydd, ac a waeddasant, Hyn yw dymuniad ein calonau.
Ac yn awr, darfu i Alma gymmeryd Helam, gan ei fod ef yn un o’r rhai cyntaf, a myned a sefyll yn y dwfr, a gwaeddi, gan ddywedyd, O, Arglwydd, tywallt dy ysbryd ar dy was, fel y cyflawno y gorchwyl hwn mewn santeiddrydd calon. Ac wedi iddo ddywedyd y geiriau hyn, ysbryd yr Arglwydd oedd arno, ac efe a ddywedodd, Helam, yr wyf yn dy fedyddio di, wedi fy awdurdodi gan y Duw Hollalluog, yn dystiolaeth dy fod wedi ymgyfammodi i’w wasanaethu ef hyd farw, gyda golwg ar y corff marwol; a bydded ysbryd yr Arglwydd gael ei dywallt arnat; a bydded iddo ef roddi i ti fywyd tragywyddol, trwy brynedigaeth Crist, yr hon a ragbarotodd efe er seiliad y byd. Ac ar ol i Alma ddywedyd y geiriau hyn, Alma ac Helam a gladdwyd yn y dwfr; a hwy a gyfodasant ac a ddaethant o’r dwfr gan orfoleddu, wedi eu llanw o’r ysbryd. A thrachefn, Alma a gymmerodd un arall, ac a aeth yr ail waith i’r dwfr, ac a’i bedyddiodd ef yr un modd â’r cyntaf, ond yn unig na chladdodd efe ei hun drachefn yn y dwfr. Ac yn y modd hyn y bedyddiodd efe bob un a ddaeth i’r lle a elwid Mormon: ac yr oeddynt mewn rhifedi oddeutu dau gant a phedwar o eneidiau; ïe, a hwy a fedyddiwyd yn nyfroedd Mormon, ac a lanwyd â grâs Duw; a hwy a alwyd yn eglwys Dduw, neu eglwys Crist, o’r amser hwnw allan.
A darfu i bwy bynag a fedyddiwyd trwy allu ac awdurdod Duw, gael ei ychwanegu at ei eglwys.
A bu i Alma, wedi ei awdurdodi gan Dduw, ordeinio offeiriaid; ïe, un offeiriad i bob deg a deugain o’u nifer a benododd efe i bregethu iddynt, a’u dysgu ynghylch y pethau a berthynant i deyrnas Dduw. Ac efe a orchymynodd na ddysgent ddim ond y pethau a ddysgodd ef, a’r hyn a lefarwyd trwy enau y prophwydi santaidd. Ië, efe a orchymynodd na ddysgent ddim ond edifeirwch a ffydd yn yr Arglwydd, yr hwn a waredodd ei bobl. A gorchymynodd na amrafaelient â’u gilydd, eithr edrych o honynt yn mlaen ag un golwg, gan fod ag un ffydd ac un bedydd; gan fod â’u calonau wedi eu cyd-glymu mewn undeb a chariad, y naill tuag at y llall. Ac felly y gorchymynodd iddynt bregethu. Ac felly y daethant yn blant Duw. Ac efe a orchymynodd iddynt gadw y dydd Sabboth, a’i santeiddio, ac y dylent hefyd bob dydd ddiolch i’r Arglwydd eu Duw. Ac efe a orchymynodd iddynt hefyd am i’r offeiriaid a ordeiniodd lafurio â’u dwylaw eu hunain at eu cynnaliaeth; a bod un dydd o bob wythnos wedi ei neillduo er iddynt ymgynnull ynghyd i ddysgu y bobl, ac i addoli yr Arglwydd eu Duw, ac hefyd am iddynt ymgynnull ynghyd mor fynych ag y gallent. Ac nid oedd yr offeiriaid i ymddibynu ar y bobl am eu cynnaliaeth; eithr eu bod, am eu llafur, i dderbyn gras Duw, fel y cryfhaent yn yr ysbryd, gan feddu gwybodaeth o Dduw, fel y dysgent gyda gallu ac awdurdod oddiwrth Dduw. A thrachefn, gorchymynodd Alma i bobl yr eglwys gyfranu o’u heiddo, pob un yn ol yr hyn oedd ganddo; os oedd ganddo yn helaethach, y dylai gyfranu yn helaethach; a’r hwn oedd ganddo ond ychydig, mai ychydig a ofynid oddiwrtho; ac i’r hwn nad oedd ganddo, y rhoddid iddo. Ac felly y dylent gyfranu o’u heiddo, o’u hewyllys rydd eu hunain a’u dymuniadau da tuag at Dduw, ac i’r offeiriaid hyny a fuasent mewn anghen, ïe, i bob enaid noeth, anghenog. A hyn a ddywedodd efe wrthynt, trwy orchymyn Duw; a hwy a rodiasant yn uniawn gerbron Duw, gan gyfranu i’w gilydd, yn dymmorol ac ysbrydol, yn ol eu hanghen a’u heisieu.
A bu i hyn oll gael ei wneuthur yn Mormon; ïe, wrth ddyfroedd Mormon, yn y goedwig gerllaw dyfroedd Mormon: ïe, y lle Mormon, dyfroedd Mormon, coedwig Mormon, mor ddymunol y maent i lygaid y rhai a ddaethant yno i wybodaeth o’n Gwaredwr; ïe, ac mor wynfydedig ydynt, canys hwy a gant ganu ei foliant ef yn dragywydd. A’r pethau hyn a wnaethwyd ar gyffiniau y tir, fel na ddeuent i wybodaeth y brenin. Eithr wele, dygwyddodd i’r brenin, wedi canfod cyffroad yn mhlith y bobl, anfon ei weision i’w gwylied. Gan hyny, ar y dydd pan oeddynt yn ymgynnull ynghyd i wrandaw gair yr Arglwydd, dadguddiwyd hwynt i’r brenin. Ac yn awr, y brenin a ddywedodd fod Alma yn cyffroi y bobl i wrthryfel yn ei erbyn ef; am hyny, efe a anfonodd ei fyddin i’w dyfetha hwynt. A dygwyddodd i Alma a phobl yr Arglwydd gael eu rhybyddio am ddyfodiad byddin y brenin; am hyny, hwy a gymmerasant eu pebyll a’u teuluoedd, ac a ymadawsant i’r anialwch. Ac yr oeddynt mewn rhifedi oddeutu pedwar cant a deg a duegain o eneidiau.
A darfu i fyddin y brenin ddychwelyd, wedi chwilio yn ofer am bobl yr Arglwydd. Ac yn awr wele, yr oedd galluoedd y brenin yn fychain, gan eu bod wedi eu lleihau, a dechreuodd fod ymraniad yn mhlith gweddill y bobl. A’r rhan leiaf a ddechreuasant chwythu bygythion yn erbyn y brenin, a dechreuodd fod aunrafael mawr yn eu mysg. Ac yn awr, yr oedd dyn yn eu mysg, enw yr hwn oedd Gideon; a chan ei fod yn ddyn cryf, ac yn elyn i’r brenin, efe a dynodd ei gleddyf, ac a dyngodd yn ei lid y lladdai efe y brenin. A darfu iddo ymladd â’r brenin; a phan welodd y brenin ei fod ynghycih ei orthrechu, efe a ffodd ac a redodd i ben y twr ag oedd yn agos i’r deml. A Gideon a’i dilynodd, ac yr oedd ynghylch myned i ben y twr i ladd y brenin; a’r brenin a daflodd ei olygon oddiamgylch tua thir Shemlon, ac wele, yr oedd byddin y Lamaniaid o fewn cyffiniau y tir. Ac yn awr, y brenin a waeddodd allan yn nghyfyngder ei enaid, gan ddywedyd, Gideon, arben ti, canys mae y Lamaniaid yn dyfod arnom, a hwy a’n dinystriant; ïe, hwy a ddinystriant fy mhobl. Ac yn awr, nid oedd y brenin mor ofalus am ei bobl, ag oedd am fywyd ei hun; er hyny, Gideon a arbedodd ei fywyd. A’r brenin a orchymynodd i’r bobl ffoi o flaen y Lamaniaid, ac efe ei hun a aeth o’u blaen hwynt, a hwy a ffoisant i’r anialwch gyda eu gwragedd a’u plant. A darfu i’r Lamaniaid eu hymlid hwynt a’u goddiweddid, ac a ddechreusant eu lladd.
Yn awr, darfu i’r brenin orchymyn iddynt am i’r holl wyr adael en gwragedd a’u plant ar ol, a ffoi o flaen y Lamaniaid. Yn awr yr oedd llawer nas gadawent hwynt, eithr a ddewisent aros a threngu gyda hwynt. A’r lleill a adawsent eu gwragedd a’u plant, ac a ffoisant.
A darfu i’r rhai a aresent gyda’u gwragedd a’u plant, beri i’w merched glandeg sefyll ac ymbil â’r Lamaniaid, na laddent hwynt. A bu i’r Lamaniaid dosturio wrthynt, canys hwy a swynwyd gan lendid eu benywod; am hyny y Lamaniaid a arbedasant eu bywydau, ac a’u cymmerasant yn garacharorion, ac a’u dygasant yn ol i dir Nephi, ac a ganiatasant iddynt gael meddiant o’r tir, ar yr ammodau fod iddynt draddodi y brenin Noah i ddwylaw y Lamaniaid, a rhoddi i fyny eu meddiannau; ïe, un hanner o’r hyn oll a feddent; un hanner o’u haur, a’u harian, a’u holl bethau gwerthfawr, ac felly y caent dalu teyrnged i frenin y Lamaniaid, o flwyddyn i flwyddyn. Ac yn awr, yr oedd un o feibion y brenin yn mhlith y rhai a gymmerwyd yn garcharorion, enw yr hwn oedd Limhi. Ac yn awr yr oedd Limhi yn dymuno na chaffai ei dad ei ddinystrio; er hyny, nid oedd Limhi yn anwybodus am anwireddau ei dad, gan ei fod efe ei hun yn ddyn cyfiawn.
A bu i Gideon ddanfon ei wyr i’r anialwch yn ddirgelaidd, i chwilio am y brenin, a’r rhai oedd gydag ef. A darfu iddynt gyfarfod y bobl yn yr anialwch, i gyd oddieithr y brenin a’i offeiriaid. Yn awr, yr oeddynt hwy wedi tyngu yn eu calonau y dychwelent i dir Nephi, ac os oedd eu gwragedd a’u plant wedi ou lladd, ac hefyd y rhai a arosasent gyda hwynt, y ceisient ymddial, ac hefyd gymmeryd eu lladd gyda hwynt. A’r brenin a orchymynodd iddynt na ddychwelent; a hwy a lidiasant wrth y brenin, ac a berasant iddo ddyoddef, ïe, i farwolaeth trwy dân. Ac yr oeddynt ynghylch cymmeryd yr offeiriaid hefyd, a’u gosod hwythau i farwolaeth, eithr hwy a ffoisant rhagddynt.
A dygwyddodd eu bod ynghylch dychwelyd i dir Nephi, a hwy a gyfarfuasant wyr Gideon. A gwyr Gideon a fynegasant wrthynt yr hyn oll a ddygwyddodd i’w gwragedd a’u plant; a bod y Lamaniaid wedi caniatâu iddynt feddiant o’r tir, trwy dalu teyrnged i’r Lamaniaid o un hanner o’r oll a feddent. A’r bobl a fynegasant wrth wyr Gideon eu bod wedi lladd y brenin, a bod ei offeiriaid wedi ffoi rhagddynt yn mhellach i’r anialwch. A bu wedi gorphen o honynt yr ymweliad, iddynt ddychwelyd i dir Nephi, gan orfoleddu, am nad oedd eu gwragedd a’u plant wedi eu lladd; a hwy a fynegasant i Giedon yr hyn a wnaethent i’r brenin.
A bu i frenin y Lamaniaid dyngu wrthynt, na chaffai ei bobl ef eu lladd hwynt. A Limhi, gan fod yn fab y brenin, wedi rhoddi y deyrnas iddo gan y bobl, a dyngodd wrth frenin y Lamaniaid, y cai ei bobl dalu teyrnged iddo ef, sef hanner yr hyn oll a feddent.
A darfu i’r brenin Limhi ddechreu trefnu y deyrnas, a sefydlu heddwch yn mhlith ei bobl. A brenin y Lamaniaid a osododd warchodlu oddi amgylch y tir, fel y cadwai bobl Limhi yn y tir, rhag iddynt ymadael i’r anialwch; ac efe a gynnaliodd ei warchodlu allan o’r deyrnged a dderbyniai gan y Nephiaid. Ac yn awr, y brenin Limhi a gafodd heddwch parhaus yn ei deyrnas, am yspaid dwy flynedd, fel na fu i’r Lamaniaid eu haflonyddu, na cheisio eu dyfetha.
Ac yn awr, yr oedd lle yn Shemlon, yr ymgynnullai merched y Lamaniaid ynghyd iddo i ganu, a dawnsio, ac ymddifyru. A bu un diwrnod nad oedd ond nifer fychan o honynt wedi ymgynnull ynghyd i ganu ac i ddawnsio. Ac yn awr, offeiriaid y brenin Noah, gan fod cywilydd arnynt i ddychwelyd i ddinas Nephi, ïe, ac yn ofni hefyd y lladdai y bobl hwynt; am hyny, ni feiddient ddychwelyd at eu gwragedd a’u plant. Ac ar ol trigo yn yr anialwch, a chanfod merched y Lamaniaid, hwy a orweddent i’w gwylio hwynt; a phan nad oedd ond ychydig o honynt wedi ymgynnull ynghyd i ddawnsio, hwy a ddaethant o’u dirgel-fanau, ac a’u cymmerasant hwynt, ac a’u dygasant i’r anialwch; ïe, pedwar ar hugain o ferched y Lamaniaid a ddygasant i’r anialwch.
A bu pan gafodd y Lamaniaid allan fod eu merched yn eisieu, iddynt lidio wrth bobl Limhi; canys meddyliasant mai pobl Limhi oeddynt hwy. Am hyny, danfonasant allan eu byddinoedd; ïe, y brenin ei hunan a aeth o flaen ei bobl; a hwy a aethant i fyny i dir Nephi, i ddinystrio pobl Limhi. Ac yn awr, Limhi a’u canfyddodd hwynt o’r twr, ïe, eu holl barotoiadau rhyfel a ganfyddodd; gan hyny efe a gynnullodd ei bobl ynghyd, ac a gudd-ddysgwyliodd am danynt yn y meusydd ac yn y coedwigoedd. A bu ar ol i’r Lamaniaid ddyfod i fyny, i bobl Limhi syrthio arnynt o’u dysgwylfeydd, a dechreu eu lladd hwynt.
A bu i’r frwydr fyned yn boeth iawn, canys hwy a ymladdent fel llewod am eu hysglyfaeth. A darfu i bobl Limhi ddechreu gyru y Lamaniaid o’u blaen; etto, nid oeddynt hwy yn hanner mor lliosog â’r Lamaniaid. Eithr ymladdasant am eu bywydau, a thros eu gwragedd a’u plant; am hyny, hwy a ymdrechasant, ac megys dreigiau yr ymladdasant.
A bu, gael o honynt frenin y Lamaniaid yn mysg nifer eu meirw; etto nid oedd yn farw, eithr wedi ei archolli a’i adael ar y maes, gan mor gyflym oedd ffoedigaeth ei bobl. A hwy a’i cymmerasant ac a rwymasant ei archollion, ac a’i dygasant gerbron Limhi, ac a ddywedasant, Wele, dyma frenin y Lamaniaid; gan ei fod wedi ei archolli, efe a syrthiodd yn mysg eu meirw, a hwy a’i gadawsant ef; ac wele, ni a’i dygasom ef ger dy fron di; ac yn awr lladdwn ef. Ond Limhi a ddywedodd wrthynt, Ni chewch ei ladd ef, eithr dygwch ef yma, fel y gwelwyf ef. A hwy a’i dygasant. A Limhi a ddywedodd wrtho, Pa achos a gafaist i ddyfod i fyny i ryfel yn erbyn fy mhobl i? Wele, nid yw fy mhobl i wedi tori y llw a wnaethym i ti; gan hyny, paham y toraist ti y llw a wnaethost i’m pobl i? Ac yn awr y brenin a ddywedodd, Mi a dorais y llw, o herwydd i’th bobl di ddwyn ymaith ferched fy mhobl; am hyny, yn fy nigter mi a berais i’m pobl ddyfod i fyny i ryfel yn erbyn dy bobl di. Yn awr, nid oedd Limhi wedi clywed dim ynghylch y mater hwn; gan hyny efe a ddywedodd, Mi a chwiliaf yn mhlith fy mhobl, a phwy bynag a wnaeth y peth hwn a ddyfethir. Am hyny, perodd i ymchwiliad gael ei wneuthur yn mhlith ei bobl. Yn awr, pan glywodd Gideon y pethau hyn, gan mai efe oedd cadben y brenin, efe a aeth ac a ddywedodd wrth y brenin, Yr wyf yn atolwg arnat i beidio, ac na chwilia y bobl hyn, ac na osod y peth hwn yn eu herbyn. Canys onid ydwyt yn cofio am offeiriaid dy dad, y rhai a geisiodd y bobl hyn eu dyfetha? Ac ai nid ydynt yn yr anialwch? Ac ai nid hwy yw y rhai a ladratasant ferched y Lamaniaid? Ac yn awr, wele, dywed y pethau hyn wrth y brenin, fel y mynego yntau i’w bobl, fel yr heddycher hwynt tuag atom ni: canys wele, y maent eisoes yn parotoi i ddyfod yn ein herbyn; ac wele hefyd, nid oes ond ychydig o honom ni. Ac wele, y maent hwy yn dyfod â’u lluoedd lliosog; ac oddieithr i’r brenin eu heddychu hwynt tuag atom, ni a ddyfethir. Canys ai nid yw geiriau Abinadi yn cael eu cyflawni, y rhai a brophwydodd yn ein herbyn? A hyn oll o herwydd na wrandawem ar eiriau yr Arglwydd, a throi oddiwrth ein hanwireddau? Ac yn awr, bydded i ni heddychu y brenin, ac ni a gyflawnwn y llw a wnaethom iddo: canys y mae yn well i ni fod mewn caethiwed, nâ bod i ni golli ein bywydau; am hyny, gadewch i ni osod terfyn ar dywalltiad cymmaint o waed. Ac yn awr Limhi a fynegodd wrth y brenin yr holl bethau ynghylch ei dad, a’r offeiriaid a ffoisant i’r anialwch, ac a briodolodd ddygiad ymaith eu merched iddynt hwy.
A bu i’r brenin ymheddychu tuag at ei bobl ef: ac efe a ddywedodd wrthynt, Awn i gyfarfod â’m pobl i, heb arfau; ac yr wyf yn tyngu wrthych gyda llw, na chaiff fy mhobl ladd eich pobl chwi. A darfu iddynt ganlyn y brenin, ac a aethant heb arfau i gyfarfod â’r Lamaniaid. A bu iddynt gyfarfod â’r Lamaniaid; a brenin y Lamaniaid a ymblygodd i lawr o’u blaen hwynt, ac a ymbiliodd ar ran pobl Limhi. A phan welodd y Lamaniaid bobl Limhi, eu bod heb arfau, hwy a drugarasant wrthynt, ac a heddychwyd tuag atynt, ac a ddychwelasant gyda’i brenin mewn heddwch i’w tir eu hunain.
A bu i Limhi a’i bobl ddychwelyd i ddinas Nephi, a dechreu trigo eilwaith yn y tir mewn heddwch. A bu ar ol llawer o ddyddiau, i’r Lamaniaid ddechreu cael eu cyffroi drachefn i ddigofaint yn erbyn y Nephiaid, a dechreu dyfod i gyffinau y tir oddiamgylch. Yn awr, ni feiddient eu lladd, o heerwydd y llw a wnaeth eu brenin i Limhi; eithr hwy a’u cernodient, ac a arferent awdurdod arnynt; ac a ddechreuent osod beichiau trymion ar eu cefnau, ac a’u gyrent megys asyn mud; ïe, hyn oll a wnaed fel y cyflawnid gair yr Arglwydd. Ac yn awr, yr oedd cystuddiau y Nephiaid yn fawrion, ac nid oedd un ffordd y gallent waredu eu hunain allan o’u dwylaw, canys yr oedd y Lamaniaid wedi eu hamgylchu ar bob tu.
A bu i’r bobl ddechreu grwgnach wrth eu brenin, o herwydd eu cystuddiau; a dechreuasant fod yn awyddus i fyned i ryfel yn eu herbyn hwynt. A hwy a ofidient y brenin yn fawr â’u hachwyniadau; am hyny, efe a ganiataodd iddynt wneuthur yn ol eu dymuniadau. A hwy a ymgynnullasant ynghyd drachefn, ac a wisgasant eu harfogaeth, ac a aethant yn erbyn y Lamaniaid i’w gyru allan o’u tir. A bu i’r Lamaniaid eu gorthrechu, a’u gyru yn ol, a lladd llawer o honynt. Ac yn awr yr oedd galar ac wylofain mawr yn mhlith pobl Limhi: y weddw yn galaru am ei phriod; y mab a’r ferch yn galaru am eu tad, a’r brodyr am eu cyd-frodyr. Yn awr, yr oedd llawer o weddwon yn y tir, ac yr oeddynt yn llefain yn fawr o ddydd i ddydd, canys yr oedd dirfawr ofn y Lamaniaid wedi dyfod arnynt. A bu i’w llefain parhaus gyffroi y gweddill o bobl Limhi i ddigofaint yn erbyn y Lamaniaid; ac aethant drachefn i ryfel, eithr a yrwyd yn ol eilwaith, wedi dyoddef colled mawr. Ië, hwy a aethant drachefn hyd y nod y drydedd waith, ac a ddyoddefasant yn gyffelyb; a’r rhai hyny na laddwyd, a ddychwelasant drachefn i ddinas Nephi. A hwy a ymostyngasant hyd y nod i’r llwch, gan ymddarostwng i iau caethiwed, a dyoddef gael eu taraw, a’u gyru yn ol a blaen, a’u beichio, yn ol dymuniadau eu gelynion. A hwy a ymostyngasant hyd y nod i ddyfnderau gostyngeiddrwydd; ac a alwasant yn nerthol ar Dduw; ïe, trwy gydol y dydd y galwasant ar eu Duw i’w gwaredu hwynt o’u cystuddiau. Ac yn awr, yr Arglwydd oedd hwyrfrydig i wrandaw eu cri, oblegid eu hanwireddau; er hyny, yr Arglwydd a wrandawodd eu cri, ac a ddechreuodd feddalhau calonau y Lamaniaid, fel y dechreuasant esmwythâu eu beichiau; etto, ni welodd yr Arglwydd yn addas i’w gwaredu allan o gaethiwed.
A bu iddynt ddechreu llwyddo yn raddol yn y tir, a dechreu codi llafur mewn mwy o gyflawnder, a defaid a gwartheg, fel na ddyoddefasant newyn. Yn awr, yr oedd nifer fawr o wragedd, yn fwy nag oedd o wyr; am hyny, y brenin Limhi a orchymynodd i bob dyn gyfranu tuag at gynnaliaeth y gwragedd gweddwon a’u plant, fel na threngent o newyn: a hyn a wnaethant o herwydd lliosogrwydd y nifer a laddwyd o’u gwyr. Yn awr, pobl Limhi a gadwasant gyda’u gilydd fel corff, gymmaint ag oedd yn bosibl, ac a sicrasant eu llafur a’u deadelloedd; ac ni ymddiriedai y brenin ei berson i fod tu allan caerau y ddinas, heb gymmeryd ei warchodlu gydag ef, rhag mewn rhyw fodd iddo syrthio i ddwylaw y Lamaniaid. Ac efe a berodd i’w bobl wylio y tir oddiamgylch, fel trwy ryw fodd y dalient yr offeiriaid a ffoisant i’r anialwch, y rhai a ladratasant ferched y Lamaniaid, ac a achosent y fath ddinystr i ddyfod arnynt hwy; canys yr oeddynt yn chwennych eu dal hwynt, fel y gallent eu cospi; oblegid yr oeddynt wedi dyfod i dir Nephi ar hyd y nos, a dwyn ymaith eu ŷd, a llawer o’u pethau gwerthfawr; am hyny hwy a gynllwyniasant i’w dal.
A dygwyddodd na fu rhagor o derfysg rhwng y Lamaniaid a phobl Limhi, hyd yr amser y daeth Ammon a’i frodyr i’r tir. A’r brenin, wedi bod tu allan i byrth y ddinas gyda’i warchodlu, a ganfyddodd Ammon a’i frodyr; a chan dybied mai offeiriaid Noah oeddynt, efe a achosodd eu dal, a’u rhwymo, a’u bwrw yn ngharchar A phe dygwyddasai mai offeiriaid Noah oeddynt, efe a berai iddynt gael eu gosod i farwolaeth; ond pan gafodd allan mai nid hwy oeddynt, eithr mai ei frodyr oeddynt, a’u bod wedi dyfod o dir Zarahemla, efe a lanwyd gan lawenydd mawr iawn. Yn awr, yr oedd y brenin Limhi wedi danfon, yn flaenorol i ddyfodiad Ammon, ychydig nifer o wyr i chwilio am dir Zarahemla; eithr nis gallent ei gael allan, a hwy a gollwyd yn yr anialwch. Er hyny, cawsant allan dir a fu wedi ei boblogi; ïe, tir ag oedd wedi ei orchuddio gan esgyrn sychion, ïe, tir ag oedd wedi cael ei boblogi, a’i bobl wedi eu dyfetha; a hwy, gan dybied mai tir Zarahemla oedd, a ddychwelasant i dir Nephi, ac ni chyrhaeddasant gyffiniau y tir ond ychydig o ddyddiau cyn dyfodiad Ammon. A hwy a ddygasant gof-ysgrif ganddynt, ie, cof-ysgrif am y bobl y cawsent hwy eu hesgyrn; ac yr oedd wedi ei hysgrifenu ar lafnau o fwn. Ac yn awr, Limhi a lanwyd drachefn o lawenydd, pan ddeallodd trwy enau Ammon fod y brenin Mosiah yn meddu dawn oddiwrth Dduw, trwy yrhon y medrai gyfieithu y cyfryw gerfiadau; ïe, ac Ammon a lawenychai hefyd. Etto, Ammon a’i frodyr a lanwyd o dristwch, oblegid fod cynnifer o’u brodyr wedi eu lladd; ac hefyd fod y brenin Noah a’i offeiriaid wedi achosi i’r bobl gyflawni cynnifer o bechodau ac anwireddau yn erbyn Duw; a hwy hefyd a alarasant am farwolaeth Abinadi; ac hefyd oblegid ymadawiad Alma a’r bobl a aeth gydag ef, y rhai oeddynt wedi ffurfio eglwys i Dduw, trwy nerth a gallu Duw, a ffydd yn y geiriau a lefarwyd gan Abinadi; ïe, hwy a alarasant oblegid en hymadawiad, am na wyddent i ba le yr aethant. Yn awr, buasai yn dda ganddynt i ymuno â hwynt, canys yr oeddynt hwy eu hunain wedi ymgyfammodi â Duw, i’w wasanaethu ef, a chadw ei orchymynion. Ac yn awr, oddiar ddyfodiad Ammon, yr oedd y brenin Limhi hefyd wedi ymgyfammodi â Duw, ac hefyd llaweroedd o’i bobl, i’w wasanaethu ef, a chadw ei orchymynion.
A bu i’r brenin Limhi, a llaweroedd o’i bobl, ddymuno cael eu bedyddio; eithr nid oedd neb yn y tir yn meddu awdurdod oddiwrth Dduw. Ac Ammon a wrthododd gyflawni hyn, gan ystyried ei hun yn was annheilwng; am hyny, ni ffurfiasant eu hunain yn eglwys yr amser hwnw, eithr dysgwyliasant wrth ysbryd yr Arglwydd. Yn awr, yr oeddynt yn chwennych bod megys Alma a’i frodyr, y rhai a ffoisant i’r anialwch. Chwennychent gael eu bedyddio, yn ddangosiad ac yn dystiolaeth eu bod yn foddlawn gwasanaethu Duw â’u holl galon; er hyny hwy a oedasant yr amser: a rhoddir hanes eu bedydd yn ol llaw. Ac yn awr, holl fyfyrdod Ammon a’i bobl, a’r brenin Limhi a’i bobl, oedd gwaredu eu hunain o ddwylaw y Lamaniaid, ac o gaethiwed.