Scriptures
Mosiah 12


Pennod ⅩⅡ.

Yn awr, dygwyddodd ar ol i feibion Alma gyflawni yr holl bethau hyn, iddynt gymmeryd ychydig nifer gyda hwynt, a dychwelyd at eu tad, y brenin, a dymuno arno ganiatâu iddynt fyned, gyda’r rhai a ddewisasant, i fyny i dir Nephi, fel y pregethent y pethau a glywsent, ac fel y cyfranent air Duw i’w brodyr, y Lamaniaid, fel y gallent ysgatfydd eu dwyn hwythau i wybodaeth o’r Arglwydd eu Duw, a’u hargyhoeddi hwynt o anwiredd eu tadau; ac fel y gallent, ysgatfydd, ladd eu casineb at y Nephiaid, fel y dygid hwythau hefyd i orfoleddu yn yr Arglwydd eu Duw, ac y deuent yn gyfeillgar i’w gilydd, ac na fyddai ychwaneg o amrafaelion yn y holl dir a roddwyd iddynt gan yr Arglwydd eu Duw. Yn awr hwy a chwennychent fod iachawdwriaeth yn cael ei thraethu wrth bob creadur, canys ni allent oddef i un enaid dynol fyned i golledigaeth; ïe, yr oedd hyd y nod y meddyliau o fod un enaid i gael dyoddef poenedigaeth ddiddiwedd, yn peri iddynt grynu a brawychu. Ac felly y gweithredodd ysbryd yr Arglwydd arnynt hwy, canys y penaf o bechaduriaid oeddynt. A’r rglwydd, yn ei drugaredd anfeidrol, a welodd yn addas i’w harbed; er hyny, dyoddefasant fawr ingoedd enaid, o herwydd eu hanwireddau; a hwy a ddyoddefasant lawer, trwy ofni cael eu bwrw ymaith yn dragywydd.

A bu iddynt ymbil â’u tad am ddyddiau lawer, fel y caent fyned i fyny i dir Nephi. A’r brenin Mosiah a aeth ac a ymofynodd â’r Arglwydd, os gollyngai efe i’w feibion fyned i fyny i blith y Lamaniaid i bregethu y gair. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Mosiah, Gad iddynt fyned, canys llaweroedd a gredant eu geiriau, a hwy a gant fywyd tragywyddol; ac mi a waredaf dy feibion allan o ddwylaw y Lamaniaid.

A bu i’r brenin Mosiah ganiatâu iddynt fyned, a gwneuthur yn ol eu dymuniad; a hwy a gymmerasant eu taith i’r anialwch, er myned i fyny i bregethu y gair yn mhlith y Lamaniaid; ac mi a roddaf hanes o’u gweithrediadau yn ol llaw. Yn awr, nid oedd gan y brenin Mosiah neb i gyflwyno y deyrnas iddo, canys nid oedd un o’i feibion yn foddlawn i’w derbyn; am hyny, efe a gymmerodd y cof-ysgrifau oedd wedi eu cerfio ar y llafnau pres, ac hefyd lafnau Nephi, a’r holl bethau a gadwodd ac a ddiogelodd efe, yn ol gorchymynion Duw, ar ol cyfieithu a pheri ysgrifenu y cof-ysgrifau ag oedd ar y llafnau aur, y rhai a gafwyd gan bobl Limhi, aa a roddwyd iddo ef trwy law Limhi; a hyn a wnaeth, oblegid awyddfryd mawr ei bobl, canys yr oeddynt yn dymuno yn anghyffredin i wybod ynghylch y bobl hyny ag oedd wedi eu dinystrio. Ac yn awr, efe a’u cyfieithodd hwynt trwy offeryngarwch y ddwy gareg hyny oedd wedi eu sierhau mewn dau ymyl bwa. Yn awr, rhagbarotowyd y pethau hyn o’r dechreuad, a throsglwyddwyd hwynt i lawr o genedlaeth, i’r dyben o gyfieithu ieithoedd; a hwy a gadwyd ac a ddiogelwyd gan law yr Arglwydd, fel y dadguddiai i bob creadur a etifeddai y tir, anwireddau a ffieidd-dra ei bobl: a phwy bynag a feddo y pethau hyn, a elwir yn weledydd, yn ol dull yr hen amseroedd.

Yn awr, wedi i Mosiah orphen cyfieithu y eof-ysgrifau hyn, wele, yr oeddynt yn rhoddi hanes y bobl a ddinystriwyd, o’r amser y dinystriwyd hwynt, yn ol hyd at adeiladiad y twr mawr, yr amser y cymmysgodd yr Arglwydd iaith y bobl; a hwy a wasgarwyd ar hyd wyneb yr holl ddaear, ïe, ac hyd y nod o’r amser hwnw hyd greadigaeth Adda. Yn awr, yr hanes hwn a achosodd i bobl Mosiah alaru yn fawr; ïe, llanwyd hwynt gan dristwch; er hyny, cawsant lawer o wybodaeth drwyddynt, am yr hyn y llawenychent. A’r hanes hwn a ysgrifenir etto: canys, wele, y mae yn fuddiol i’r holl bobloedd gael gwybod y pethau sydd yn ysgrifenedig yn yr hanes hwn.