Scriptures
Mosiah 3


Pennod Ⅲ.

Ac yn awr, wedi i’r brenin Benjamin lefaru felly wrth ei bobl, bu iddo ddanfon i’w mysg, i ddymuno cael gwybod gan ei fobl, os oeddynt yn credu y geiriau a Iefarodd wrthynt. A hwy a waeddasant oll gydag un llais, gan ddywedyd, Ydym, credwn yr holl eiriau a lefaraist wrthym; ac hefyd, gwyddom ei sicrwydd a’u gwirionedd, oblegid Ysbryd yr Arglwydd Hollalluog a weithredodd gyfnewidiad ynom ni, neu yn ein calonau, fel nad oes ynom mwyach duedd i wneuthur drygioni, eithr i wneuthur daioni yn barhaus. Ac yr ydym ni, ein hunain, hefyd, trwy ddaioni anfeidrol Duw, ac eglurhad ei Ysbryd, wedi cael golygfeydd mawrion o’r hyn sydd i ddyfod; a pho buasai anghen, gallem brophwydo am bob peth. A’r ffydd yr hon a gawsom yn y pethau a lefarodd ein brenin wrthym, a’r hon a’n dygodd i’r wybodaeth fawr hon, yw yr achos ein bod yn gorfoleddu gyda’r fath lawenydd mawr; ac yr ydym yn foddlawn i ymgyfammodi â’n Duw i mneuthur ei ewyllys, a bod yn ufydd i’w orchymynion yn mhob peth a orchymyno i ni, holl weddill ein dyddiau, fel na ddygom arnom ein hunain boenedigaeth diddiwedd, megys y llefarwyd gan yr angel, ac nad yfom allan o gwpan digofaint Duw.

Ac yn awr, dyma y geiriau a ddymunodd y brenin Benjamin gael oddiwrthynt; ac am hyny efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a lefarasoch y geiriau a ddymunais; ac y mae’r cyfammod a wnaethoch yn gyfammod cyfiawn. Ac yn awr, o herwydd y cyfammod a wnaethoch, gelwir chwi yn blant Crist, ei feibion a’i ferched ef; canys wele, y dydd hwn efe a’ch cenedlodd yn ysbrydol; canys yr ydych yn dywedyd fod eich calonau wedi eu cyfnewid trwy ffydd yn ei enw ef; am hyny yr ydych wedi eich geni o hono, ac wedi dyfod yn feibion a merched iddo. Ac o dan y pen hwn, chwi a wnaed yn rhyddion, ac nid oes pen arall trwy yr hwn y gellir eich gwneyd yn rhyddion. Ac nid oes enw arall trwy yr hwn y daw iachawdwriaeth; am hyny, mi a ewyllysiwn i chwi gymmeryd arnoch enw Crist, chwi oll ag sydd wedi ymgyfammodi â Duw, fel y byddoch ufydd hyd ddiwedd eich einioes. A bydd, y ceir pwy bynag a wnelo hyn, ar ddeheulaw Duw, canys efe a adwaen yr enw wrth ba un ei gelwir; canys efe a elwir wrth enw Crist.

A bydd, yn awr, pwy bynag na chymmero arno enw Crist, a raid ei alw wrth ryw enw arall; am hyny, efe a gaiff ei hun ar law aswy Duw. Ac mi a fynwn i chwi gofio hefyd, mai dyma yr enw a ddywedais y rhoddaswn i chwi na ddileid byth, oddieithr trwy drosedd; gan hyny, gofalwch na throseddoch, fel na ddilëer yr enw o’ch calonau. Yr wyf yn dywedyd wrthych, mi a fynwn pe cadwech yr enw yn ysgrifenedig o hyd yn eich calonau, fel na chaffer chwi ar law aswy Duw, eithr fel y clywoch ac yr adnabyddoch y llais gan yr hwn y’ch gelwir, ac hefyd yr enw wrth ba un y’ch gelwir ganddo; canys pa fodd yr adnebydd dyn y meistr na wasanaethodd, a’r hwn sydd yn ddyeithr iddo, ac yn mhell oddiwrth feddyliau a bwriadau ei galon? A thrachefn: A yw dyn yn cymmeryd asyn a berthyn i’w gymmydog, ac yn ei gadw? Yr wyf yn dywedyd wrthych, nac ydyw; ni oddefa hyd y nod iddo bori gyda’i ddeadelloedd, eithr gyr ef ymaith, ac a’i bwria allan. Yr wyf yn dywedyd wrthych, mai felly y bydd yn eich plith chwithau, os na adnabyddwch yr enw wrth yr hwn y’ch gelwir. Gan hyny, mi a fynwn i chwi fod yn sicr a diysgog, ac helaethlawn yn wastadol mewn gweithredoedd da, fel y selier chwi gan Grist, yr Arglwydd Dduw Hollalluog, yn eiddo iddo ef, fel y dyger chwi i’r nef, ac y caffoch iachawdriaeth dragywyddol a bywyd annherfynol, trwy ddoethineb, a gallu, a chyfiawnder, a thrugaredd yr hwn a greodd bob peth, yn y nef ac ar y ddaear yr hwn sydd Dduw uwchlaw pawb. Amen.