Pennod Ⅳ.
Ac yn awr meddyliodd y brenin Benjamin ei fod yn anghenrheidiol, ar ol gorphen llefaru wrth y bobl, iddo gymmeryd enwau yr holl rai a ymgyfammodasant â Duw i gadw ei orchymynion. A dygwyddodd nad oedd un enaid, oddieithr plant bychain, na ddarfu ymgyfammodi, a chymmeryd arnynt enw Crist. A thrachefn: dygwyddodd ar ol i’r brenin Benjamin orphen yr holl bethau hyn, a chyssegru ei fab Mosiah yn llywodraethwr a brenin ar ei bobl, a rhoddi gofal y deyrnas iddo, ac hefyd appwyntio offeiriaid i ddysgu y bobl, fel y clywent ac yr adnabyddent orchymynion Duw, ac i’w cynhyrfu i gofio am y llw a wnaethant, iddo ollwng ymaith y dyrfa a hwy ddychwelasant, pob un yn ol ei deulu, i’w tai eu hunain.
A Mosiah a ddechreuodd deyrnasu yn lle ei dad. A dechreuodd deyrnasu yn y ddegfed flwyddyn ar hugain o’i oedran, gan wneuthur y cyfan ynghylch pedwar cant ac un flynedd ar bymtheg a thrugain er y pryd y gadawodd Lehi Jerusalem. A’r brenin Benjamin a fu byw dair blynedd, ac a fu farw. A bu i’r brenin Mosiah rodio yn ffyrdd yr Arglwydd, a pharchu ei farnedigaethau, a’i ddeddfau, a chadw ei orchymynion yn mha bethau bynag a orchymynodd iddo.
A’r brenin Mosiah a berodd i’w bobl lafurio y ddaear. Ac efe ei hunan hefyd a lafuriodd y ddaear, fel trwy hyny na fyddai yn faich i’w bobl, fel y gwnelai megys y gwnaeth ei dad yn mhob peth. Ac ni fu amrafael yn mhlith ei bobl am yspaid tair blynedd.