Scriptures
Mosiah 7


Pennod Ⅶ.

Ac yn awr, darfu i Zeniff roddi y deyrnas i Noah, un o’i feibion, am hyny, Noah a ddechreuodd deyrnasu yn ei le; eithr ni rodiodd efe yn ffyrdd ei dad. Canys wele, ni chadwodd orchymynion Duw, eithr efe a rodiodd yn ol dymuniadau ei galon ei hun. Ac yr oedd ganddo lawer o wragedd a gordderchwragedd. Ac achosodd i’w bobl gyflawni pechod, a gwneuthur yr hyn oedd yn fffiaidd yn ngolwg yr Arglwydd. Ië, hwy a gyflawnasant odineb, a phob math o ddrygioni. Ac efe a osododd dreth o bummed ran o’r oll a feddent; y bummed ran o’u haur ac o’u harian, a’r bummed ran o’u ziff, ac o’u copr, ac o’u pres a’u haiarn; a’r bummed ran o’u pesgedigion; ac hefyd y bummed ran o’u holl yd. A hyn oll a wnaeth er cynnal ei hun, a’i wragedd, a’i ordderchwragedd; ac hefyd ei offeiriaid, a’u gwragedd a’u gordderchwragedd hwythau; felly y cyfnewidiodd efe achosion y deyrnas. Canys efe a dynodd ymaith yr holl offeiriaid a gyssegrwyd gan ei dad; ac a gyssegrodd rai newyddion yn eu lle, y cyfryw ag oeddynt wedi ymddyrchafu yn malchder eu calonau. Ië, ac felly y cynnaliwyd hwynt yn eu diogi, ac yn eu heilun-addoliaeth, ac yn eu puteindra, trwy y trethi a osododd y brenin Noah ar ei bobl; felly y bobl a lafuriasant yn fawr i gynnal anwiredd. Ië, ac aethant hwythau hefyd yn eilun-addolgar, oblegid hwy a dwyllwyd gan eiriau ofer a gwenieithus y brenin a’r offeiriaid; canys hwy a lefarasant bethau gwenieithus wrthynt.

A bu i’r brenin Noah gyfodi amryw adeiladau gwychion ac helaeth; ac addurnodd hwynt â hardd-waith o goed, ac o bob math o bethau gwerthfawr, o aur, ac arian, haiarn, a phres, a ziff, a chopr; ac a adeiladodd iddo hefyd balas eang, a gorsedd yn ei ganol, yr hon oll oedd o goed teg, ac wedi ei gwychu ag aur, ac arian, ac â phethau gwerthfawr. Ac hefyd perodd i’w weithwyr weithio pob math o hardd-waith o fewn muriau y deml, o goed teg, ac o gopr, ac o bres; a’r eisteddleoedd a neillduwyd i’r archoffeiriaid, y rhai oeddynt yn uwch nâ’r holl eisteddleoedd ereill, a addurnodd efe ag aur pur; a pherodd wneuthur bronwaith o’u blaen, fel y gorphwysent eu cyrff a’u breichiau arno, tra y llefarent eiriau celwyddog ac ofer wrth ei bobl

A darfu iddo adeiladu twr yn agos i’r deml; ïe, twr tra uchel, ïe, can ucheled ag y medrai efe sefyll ar ei ben ac edrych dros dir Shilom, ac hefyd dir Shemlon, yr hwn a feddiannid gan y Lamaniaid; ac efe a allai hyd y nod edrych dros yr holl wlad oddi amgylch.

A bu iddo beri cyfodi llawer o adeiladau yn nhir Shilom; a pherodd adeiladu twr mawr ar y bryn yn ogleddol i dir Shilom, yr hwn a fu yn gynniweirfa i blant Nephi, yn yr amser y ffoisant allan o’r tir; ac felly y gwnaeth efe â’r cyfoeth a gafodd trwy drethu ei bobl.

A darfu iddo osod ei galon ar ei gyfoeth, a threulio ei amser i fyw yn derfysglyd gyda’i wragedd a’i ordderchwragedd; ac felly hefyd ei offeiriaid a dreuliasant eu hamser gyda phuteiniaid. A bu iddo blanu gwinllanoedd oddi amgylch yn y tir; ac adeiladu gwinwryfau, a gwneuthur gwin mewn cyflawnder; ac am hyny efe a aeth yn yfwr gwin, a’i bobl hefyd.

A bu i’r Lamaniaid ddechreu dyfod i mewn ar ei bobl, ar niferi bychain, a’u lladd hwynt yn eu meusydd, a thra yr oeddynt yn gofalu am eu dendelloedd. A’r brenin Noah a anfonodd wylwyr oddi amgylch y tir i’w cadw hwynt ymaith; eithr ni anfonodd nifer digonol, a daeth y Lamaniaid arnynt ac a’u lladdasant, ac a yrasant lawer o’u deadelloedd allan o’r tir: felly y dechreuodd y Lamaniaid eu dinystrio, ac ymarfer eu casineb tuag atynt.

A darfu i’r brenin Noah ddanfon ei fyddinoedd yn eu herbyn, a hwy a yrwyd yn ol, neu o leiaf hwy a yrwyd yn ol am amser; am hyny hwy a ddychwelasant gan orfoleddu yn eu hyspail. Ac yn awr, o herwydd y fuddugoliaeth fawr hon, ymddyrchafasant yn malchder eu calonau; ymffrestient yn eu nerth eu hunain, gan ddywedyd, y gallai eu deg a deugain hwy sefyll yn erbyn miloedd o’r Lamaniaid; ac felly yr ymffrostient, ac yr ymhyfrydent mewn gwaed, a thywalltiad gwaed eu brodyr, a hyn oblegid drygioni eu brenin a’u hoffeiriaid.

A dygwyddodd fod dyn yn eu mysg, enw yr hwn oedd Abinadi; ac efe a aeth allan yn eu mysg, ac a ddechreuodd brophwydo, gan ddywedyd, Wele, fel hyn y dywed yr Arglwydd, ac fel hyn y gorchymynodd i minnau, gan ddywedyd, Dos, a dywed wrth y bobl hyn, Fel hyn y dywed yr Arglwydd: gwae y bobl hyn, canys mi a welais eu ffieidd-dra, a’u drygioni, a’u puteindra; ac oddieithr iddynt edifarhau, mi a ymwelaf â hwynt yn fy llid. Ac oddieithr iddynt edifarhau, a throi at yr Arglwydd eu Duw, mi a’u rhoddaf yn nwylaw eu gelynion; ïe, a dygir hwy i gaethiwed; a chystuddir hwynt trwy law eu gelynion. A bydd y gwybyddant mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw, a’m bod yn Dduw eiddigus, yn ymweled ag anwireddau fy mhobl. A bydd oddieithr i’r bobl hyn edifarhau, a throi at yr Arglwydd eu Duw, y dygir hwy i gaethiwed; ac ni achub neb hwynt, oddieithr yr Arglwydd, y Duw Hollalluog. Ië, a bydd, pan waeddant arnaf, y byddaf ddiog i wrandaw eu llef; ïe, a goddefaf iddynt gael eu tarnw gan eu gelynion. Ac oddieithr iddynt edifarhau mewn sachlian a lludw, a galw yn nerthol ar yr Arglwydd eu Duw, ni wrandawaf eu gweddiau, ac ni waredaf hwynt o’u cystuddiau; ac felly y dywedodd yr Arglwydd, ac felly y gorchymynodd i minnau.

Yn awr, dygwyddodd pan lefarodd Abinadi y geiriau hyn wrthynt, iddynt lidio wrtho, a cheisio cymmeryd ymaith ei fywyd; eithr yr Arglwydd a’i gwaredodd ef allan o’u dwylaw. Yn awr, wedi i’r brenin Noah glywed y geiriau a lefarodd Abinadi wrth y bobl, yntau hefyd a lidiodd; ac a ddywedodd. Pwy yw Abinadi, fel y bernir fi a’m pobl ganddo ef? Neu, pwy yw yr Arglwydd, a ddwg ar fy mhobl y fath gystudd mawr? Yr wyf yn gorchymyn i chwi ddwyn Abinadi yma, fel y lladdwyf ef; canys efe a ddywedodd y pethau hyn, fel y cynhyrfai fy mhobl i ddigio wrth eu gilydd, a chyfodi amrafaelion yn mysg fy mhobl; am hyny, mi a’i lladdaf. Yn awr yr oedd llygaid y bobl wedi eu dallu; gan hyny caledasant eu calonau yn erbyn geiriau Abinadi, a cheisiasant o’r amser hwnw allan ei gymmeryd. A’r brenin Noah a galedodd ei galon yn erbyn gair yr Arglwydd, ac ni edifarhaodd am ei weithredoedd drwg.

A bu ar ol yspaid dwy flynedd, ddyfod o Abinadi i’w mysg wedi ymddyeithro, fel na adwaenent ef, a dechreuodd brophwydo yn eu mysg, gan ddywedyd, Fel hyn y gorchymynodd yr Arglwydd i mi, gan ddywedyd, Abinadi, dos a phrophwyda wrth fy mhobl hyn, canys hwy a galedasant eu calonau yn erbyn fy ngeiriau: ni edifarhasant am eu gweithredoedd drwg; am hyny, mi a ymwelaf â hwynt yn fy nigofaint, ïe, yn fy nigter llidiog yr ymwelaf â hwynt yn eu hanwireddau a’u ffieidd-dra; ïe, gwae y genedlaeth hon. A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, dywed yr Arglwydd, A bydd i’r genedlaeth hon, o herwydd eu hanwireddau, gael eu dwyn i gaethiwed a’u cernodio; ïe, a hwy a yrir gan ddynion, ac a leddir; a fylturiaid yr awyr, a’r cwn, ïe, a’r bwystfiled gwylltion, a fwytânt eu cnawd.

A bydd y cyfrifir bywyd y brenin Noah megys dilledyn mewn ffwrnais boeth; canys efe a gaiff wybod mai myfi yw yr Arglwydd. A bydd y tarawaf fy mhobl hyn â chystuddiau blin; ïe, â newyn ac â haint; a pheraf iddynt wylofain trwy gydol y dydd. Ië, a pheraf iddynt gael beichiau wedi eu rhwymo ar eu cefnau; a hwy a yrir o flaen megys asyn mud.

A bydd i mi ddanfon cenllysg i’w mysg, a hwy a darewir ganddynt; a tharewir hwynt hefyd gan y dwyrein-wynt; a phryfed hefyd a aflonyddant eu tir, ac a ddyfethant eu ŷd. A tharewir hwynt â haint fawr; a hyn oll a wnaf o herwydd eu hanwiredd a’u ffieidd-dra.

A bydd os na edifarhant, i mi eu llwyr ddyfetha oddiar wyneb y ddaear; er hyny cant adael hanes ar eu hol, ac mi a’i cadwaf er mwyn y cenedloedd ereill a etifedant y tir; ïe, hyn a wnaf fel y dadguddiwyf ffieidd-dra y bobl hyn i genedloedd ereill. Ac Abinadi a brophwydodd lawer o bethau yn erbyn y bobl hyn.

A darfu iddynt fod yn ddigllawn wrtho; a hwy a’i cymmerasant ac a’i dygasant yn rhwym o flaen y brenin, ac a ddywedasant wrth y brenin, Wele, ni a ddygasom ddyn o’th flaen yr hwn a brophwydodd yn ddrwg am dy bobl, ac a ddywed y dinystria Duw hwynt. Ac efe a brophwyda ddrwg hefyd am dy fywyd di, ac a ddywed y bydd dy fywyd megys dilledyn mewn ffwrnais dân. A thrachefn, dywed y byddi di megys gwelltyn, ïe, megys gwelltyn sych y maes, yr hwn a fathrir gan anifeiliaid ac a sethrir dan draed. A thrachefn, dywed y byddi di megys blodau ysgallen, yr hon pan fyddo yn llwyr addfed, os chwytha y gwynt, a yrir ar hyd wyned y tir; ac hòna mai Duw a’i llefarodd. A dywed y daw hyn oll arnat ti, os na fydd i ti edifarhau; a hyn o herwydd dy anwireddau.

Ac yn awr, O frenin, pa ddrwg mawr a wnaethost, neu pa bechodau mawrion a gyflawnodd dy bobl, fel ein condemnir gan Dduw, neu ein bernir gan y dyn hwn? Ac yn awr, O frenin, wele, yr ydym ni yn ddieuog, a thithau, O frenin, ni phechaist; am hyny y dyn hwn a ddywedodd gelwydd am danat, ac a brophwydodd yn ofer. Ac wele, yr ydym ni yn gryfion, ni ddeuwn i gaethiwed, ac ni chaethgludir ni gan ein gelynion; ïe, a thithau a lwyddaist yn y tir, a thi a gai lwyddo hefyd. Wele, dyma y dyn, rhoddwn ef yn dy ddwylaw di; gwna ag ef megys y gwelot yn dda.

A darfu i’r brenin Noah beri i Abinadi gael ei fwrw yn ngharchar; ac efe a orchymynodd i’r offeiriaid ymgasglu ynghyd, fel y cynnaliai gynghor gyda hwynt pa beth a wnelai iddo. A bu iddynt hwy ddywedyd wrth y brenin, Dwg ef yma, fel yr holom ef; a’r brenin a achosodd ei ddwyn ger eu bron. A hwy a ddechreuasant ei holi, fel y croesent ef, fel trwy hyny y gallent gael rhywbeth i’w gyhuddo ag ef; ond efe a’u hatebodd yn eofn, ac a wrthsafodd eu holl gwestiynau, ïe, er eu syndod; canys gwrthsafodd hwynt yn eu holl gwestiynau, ac a’u dyrysodd yn eu holl eiriau.

A darfu i un o hon ynt ddywedyd wrtho, Pa beth a feddylia y geiriau sydd yn ysgrifenedig, ac a ddysgwyd gan ein tadau, gan ddywedyd, Mor brydferth ar y mynyddoedd yw traed yr hwn sydd yn efengylu, yn cyhoeddi heddwch; a’r hwn sydd yn mynegi daioni, yn cyhoeddi iachawdwriaeth; yn dywedyd wrth Seion, Dy Dduw sydd yn teyrnasu! Dy wylwyr a ddyrchafant lef; gyda’r llef y cyd-ganant; canys gwelant lygad yn llygad, pan ddychwelo yr Arglwydd Seion. Bloeddiwch, cydgenwch, anialwch Jerusalem; canys yr Arglwydd a gysurodd ei bobl, efe a waredodd Jerusalem. Diosgodd yr Arglwydd fraich ei santeiddrwydd yn ngolwg yr holl genedloedd; a holl gyrau y ddaear a welant iachawdwriaeth ein Duw ni. Ac yn awr dywedodd Abinadi wrthynt, A ydych chwi yn offeiriaid, ac yn cymmeryd arnoch i ddysgu y bobl hyn, ac i ddeall ysbryd y brophwydoliaeth, ac etto yn chwennych gwybod genyf fi pa beth a feddylia y pethau hyn? Yr wyf yn dywedyd wrthych, Gwae chwi am ŵyrdroi ffyrdd yr Arglwydd. Canys os ydych yn deall y pethau hyn, nis dysgasoch hwynt; gan hyny, yr ydych wedi gŵyrdroi ffyrdd yr Arglwydd. Nid ydych wedi gogwyddo eich calonau at ddeall; gan hyny, ni fuoch ddoeth. Am hyny, pa beth ydych yn ddysgu i’r bobl hyn? A hwy a ddywedasant, Yr ydym yn dysgu cyfraith Moses. A thrachefn efe a ddywedodd wrthynt, Os ydych yn dysgu cyfraith Moses, paham nad ydych chwi yn ei chadw? Paham y gosodwch eich calonau ar gyfoeth? Paham y godinebwch, ac y gwariwch eich cryfdwr gyda phuteiniaid, ïe, sef drwg mawr yn erbyn y bobl hyn? Ai ni wyddoch fy mod yn llefaru y gwirionedd? Yn ddiau, gwyddoch fy mod yn llefaru y gwirionedd, a dylech grynu gerbron Duw.

A bydd, y tarewir chwi am eich anwireddan: canys dywedasoch eich bod yn dysgu cyfraith Moses. A pha beth a wyddoch ynghylch cyfraith Moses? A ddaw iachawdwriaeth trwy gyfraith Moses? Pa beth a ddywedwch chwi? A hwy a atebasant, gan ddywedyd, fod iachawdwriaeth yn dyfod trwy gyfraith Moses. Ond yn awr, Abinadi a ddywedodd wrthynt, Mi a wn, os ydych yn cadw gorchymynion Duw, yr achubir chwi; ïe, os ydych yn cadw y gorchymynion a roddodd yr Arglwydd i Moses ar fynydd Sinai, gan ddywedyd, Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th ddug di allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed. Na fydded i ti dduwiau ereill ger fy mron. Na wna i ti ddelw gerfledig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a’r y sydd ar y ddaear isod. Yn awr, Abinadi a ddywedodd wrthynt, A ydych chwi wedi gwneuthur hyn oll? Yr wyf yn dywedyd wrthych, Naddo. Ac a ddysgasoch chwi y bobl yma i wneuthur yr holl bethau hyn? Yr wyf yn dywedyd wrthych, Naddo.

Ac yn awr, pan glywodd y brenin y geiriau hyn, efe a ddywedodd wrth ei offeiriaid, Ymaith â’r dyn hwn, a lladdwch ef: canys pa beth sydd genym i wneuthur iddo, oblegid y mae yn ynfyd. A hwy a safasant ac a gynnygiasant osod eu dwylaw arno; eithr efe a’i gwrthsafodd, ac a ddywedodd wrthynt, Na chyffyrddwch â mi, canys Duw a’ch tery os gosodwch eich dwylaw arnaf fi, oblegid nid wyf etto wedi cyflawni y genadwri a anfonodd yr Arglwydd fi i’w chyflawni; ac nid wyf ychwaith wedi mynegi wrthych yr hyn a ddymunasoch arnaf ei fynegi; gan hyny, ni oddefa Duw i mi gael fy nyfetha yr amser hwn. Eithr rhaid i mi gyflawni y gorchymynion a orchymynodd yr Arglwydd i mi; ac o herwydd i mi fynegi y gwirionedd wrthych, yr ydych yn ddigllawn wrthyf. A thrachefn, o herwydd i mi lefaru gair Duw, barnasoch fy mod yn ynfyd.

Yn awr, dygwyddodd ar ol i Abindi lefaru y geiriau hyn, na feiddiodd pobl y brenin Noah osod eu dwylaw arno, canys yr oedd ysbryd yr Arglwydd arno; a’i wynebpryd oedd yn llewyrchu â dyscleirdeb mawr, hyd y nod megys Moses tra ar fynydd Sinai, pan yn llefaru â’r Arglwydd. Ac efe a lefarodd gyda gallu ac awdurdod oddiwrth Dduw; ac a ychwanegodd i lefaru, gan ddywedyd, Yr ydych yn gweled nad oes genych allu i’m lladd, gan hyny mi a orphenaf fy nghenadwri. Ië, ac yr wyf yn canfod ei god yn eich gotidio yn eich calonau, oblegid fy mod yn mynegi y gwirionedd ynghylch eich anwireddau; ïe, ac y mae fy ngeiriau yn eich llenwi â syndod, a rhyfeddod, ac â digter. Eithr yr wyf fi yn gorphen fy nghenadwri; ac yna nid oes wahaniaeth pa le yr âf, os byddaf gadwedig. Ond hyn wyf yn ei ddywedyd wrthych, Yr hyn a wnewch i mi, ar ol hyn, a fydd yn arwyddlun a chysgod o bethau sydd i ddyfod. Ac yn awr, darllenaf i chwi y gweddill o orchymynion Duw, canys canfyddaf nad ydynt yn ysgrifenedig yn eich calonau; a chanfyddaf eich bod wedi astudio a dysgu anwiredd y rhau fwyaf ‘och oes.

Ac yn awr, yr ydych yn cofio i mi ddywedyd wrthych, Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a’r y sydd ar y ddaear isod, nac a’r sydd yn y dwfr dan y ddaear. A thrachefn: Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt; oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw, wyf Ddaw eiddigus, yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genedlaeth o’r rhai a’m cashant; ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant ac a gadwant fy nghorchymynion. Na chymmer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer; canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymmero ei enw ef yn ofer. Cofia y dydd Sabboth i’w santeiddio ef. Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnai dy holl waith: ond y seithfed dydd, Sabboth yr Arglwydd dy Dduw, na wna ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th wasanaethwr, na’th wasanaethferch, na’th anifail, na’th ddyeithrddyn a fyddo o fewn dy byrth; o herwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a’r ddaear, y môr, a’r hyn oll sydd ynddynt; ac a orphwysodd y seithfed dydd; am hyny, y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Sabboth ac a’i santeiddiodd ef. Anrhydedda dy dad a’th fam, fel yr estyner dy ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn rhoddi i ti. Na ladd. Na wna odineb. Na ladrata. Na ddwg gam-dystiolaeth yn erbyn dy gymmydog. Na chwennych dŷ dy gymmydog, na chwennych wraig dy gymmydog, na’i wasanaethwr, na’i wasanaethferch, na’i ŷch, na’i asyn, na dim a’r sydd eiddo dy gymmydog.