Pennod Ⅱ.
Ac yn awr, dygwyddodd yn y drydedd flwyddyn a thrugain a thri chant, i’r Nephiaid fyned i fyny â’u byddinoedd i ryfel yn erbyn y Lamaniaid, allan o dir Anghyfannedd-dra. A bu i fyddinoedd y Nephiaid gael eu gyru yn ol drachefn i dir Anghyfannedd-dra. A thra yr oeddynt hwy etto yn flinedig, daeth byddin newydd o’r Lamaniaid arnynt; a hwy a gawsant frwydr erwin, yn gymmaint ag i’r Lamaniaid gymmeryd meddiant o ddinas Anghyfannedd-dra, a lladd llawer o’r Nephiaid, a chymmeryd llawer yn garcharorion; a’r gweddill a ffoisant ac a ymunasant â phreswylwyr dinas Teancum. Yn awr, yr oedd dinas Teancum yn gorwedd yn y cyffiniau wrth làn y môr; ac yr oedd hefyd yn agos i ddinas Anghyfannedd-dra. Ac o herwydd i fyddinoedd y Nephiaid fyned i fyny at y Lamaniaid, y dechreuasant gael eu taraw; canys oni bai hyny, nis gallai fod y Lamaniaid wedi cael y trecha arnynt. Eithr, wele, barnedigaethau Duw a oddiweddant y drygionus; a thrwy y drygionus y mae y drygionus yn cael eu cospi; canys y drygionus sydd yn cyffroi calonau meibion dynion i dywallt gwaed. A bu i’r Lamaniaid ymbarotoi i ddyfod yn erbyn dinas Teancum.
A bu yn y bedwaredd flwyddyn a thrugain a thri chant, i’r Lamaniaid ddyfod yn erbyn dinas Teancum, fel y cymmerent feddiant o ddinas Teancu hefyd. A bu iddynt gael eu gwrthwynebu a’u gyru yn ol gan y Nephiaid. A phan welodd y Nephiaid eu bod wedi gyru y Lamaniaid, hwy a ymffrostient drachefn yn eu nerth; a hwy a aethant allan yn eu nerth eu hunain, ac a gymmerasant feddiant drachefn o ddinas Anghyfannedd-dra. Ac yn awr, cafodd yr holl bethau hyn eu gwneuthur, a lladdwyd miloedd o bob ochr, o’r Nephiaid a’r Lamaniaid. A dygwyddodd fod y chwechfed flwyddyn a thrugain a thri chant wedi myned heibio, a’r Lamaniaid a ddaethant drachefn ar y Nephiaid i ryfel; ac etto y Nephiaid ni edifarhaent am y drwg a wnaethant, eithr ymlynent yn eu drygioni yn barhaus. Ac y mae yn anmhosibl i dafod ddesgrifio, neu i ddyn ysgrifenu desgrifiad perffaith o’r olygfa ddychrynllyd o waed a chyflafan ag oedd yn mhlith y bobl, y Nephiaid, a’r Lamaniaid; ac yr oedd pob calon wedi ymgaledu, fel yr ymhyfrydent i dywallt gwaed yn barhaus. Ac ni fu drygioni mor fawr yn mhlith holl blant Lehi, nac hyd y nod yn mhlith holl dŷ Israel, yn ol geiriau yr Arglwydd, ag oedd yn mhlith y bobl hyn.
A bu i’r Lamaniaid gymmeryd meddiant o ddinas Anghyfannedd-dra, a hyn o herwydd fod eu nifer yn fwy nâ nifer y Nephiaid. A hwy a aethant yn mlaen hefyd yn erbyn dinas Teancum, ac a yrasant y preswylwyr allan o honi, ac a gymmerasant yn aberthau i’w heilun dduwiau. A bu yn y seithfed fiwyddyn a thrugain a thri chant, i’r Nephiaid, gan fod yn ddigllawn oblegid fod y Lamaniaid wedi aberthu eu gwragedd a’u plant, fyned yn erbyn y Lamaniaid mewn llid mawr, yn gymmaint ag iddynt drachefn orthrechu y Lamaniaid, a’u gyru hwynt allan o’u tiroedd; ac ni ddaeth y Lamaniaid drachefn yn erbyn y Nephiaid, hyd y bymthegfed flwyddyn a thrugain a thri chant. Ac yn y flwyddyn hon, hwy a ddaethant i waered yn erbyn y Nephiaid gyda’u holl nerthoedd; ac ni chyfrifwyd hwynt oblegid lliosogrwydd eu nifer. Ac o’r amser hwn allan, ni chafodd y Nephiaid ddim gallu dros y Lamaniaid, eithr dechreuasant gael eu hysgubo ymaith ganddynt hwy, fel gwlith o flaen yr haul. A bu i’r Lamaniaid ddyfod i waered yn erbyn dinas Anghyfannedd-dra; ac ymladdwyd brwydr erwin iawn yn nhir Anghyfannedd-dra, yn yr hon y trechasant hwy y Nephiaid. A hwythau a ffoisant drachefn o’u blaen, ac a ddaethant i ddinas Boaz; ac yno y safasant yn erbyn y Lamaniaid gydag eofndra mawr, yn gymmaint ag na orthrechodd y Lamaniaid hwynt, hyd nes y daethant drachefn yr ail waith. Ac wedi iddynt ddyfod yr ail waith, y Nephiaid a yrwyd ac a laddwyd â lladdfa fawr iawn; eu gwragedd a’u plant a aberthwyd drachefn i eilunod. A bu i’r Nephiaid drachefn ffoi o’u blaen, gan gymmeryd yr holl drigolion ganddynt, mewn trefydd a phentrefydd. Ac yn awr, myfi, Mormon, gan weled fod y Lamaniaid ynghylch dadymchwelyd y wlad, a aethym i fynydd Shim, ac a gymmerais i fyny yr holl gof-lyfrau ag oedd Ammaron wedi eu cuddio i’r Arglwydd.
A bu i mi fyned allan yn mhlith y Nephiaid, ac edifarhau oblegid y llw a wnaethym na chynnorthwywn hwynt mwyach; a hwy a roddasant i mi drachefn lywyddiaeth eu byddinoedd; canys hwy a edrychent arnaf fi megys pe gallwn eu gwaredu o’u cystuddiau. Eithr wele, yr oeddwn i heb obaith, canys mi a wyddwn am farnedigaethau Duw y rhai a ddeuai aarnynt; canys nid oeddynt yn edifarhau am eu hanwireddau, eithr yn ymdrechu am eu bywydau, heb alw ar y Bôd hwnw a’u creodd hwynt. A bu i’r Lamaniaid ddyfod i’n herbyn pan yr oeddem wedi ffoi i ddinas Jordon; eithr wele, hwy a yrwyd yn ol, fel na chymmerasant y ddinas y pryd hwnw. A bu iddynt ddyfod i’n herbyn drachefn, ac ni a gadwasom y ddinas. Ac yr oedd dinasoedd ereill hefyd ag a gedwid gan y Nephiaid, a’r amddiffynfeydd hyn a’u torasant hwynt ymaith, fel nas gallent fyned i’r wlad ag oedd yn gorwedd o’n blaen, i ddinystrio trigolion ein tir. Eithr dygwyddodd pa ddinasoedd bynag a elem heibio iddynt, a’u trigolion heb gael eu casglu i mewn, iddynt gael eu dinystrio gan y Lamaniaid, a’u trefydd, a’u pentrefydd, a’u dinasoedd a losgid â thân; ac felly yr aeth heibio y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg a thrugain a thri chant.
A bu yn y pedwar-ugeinfed flwyddyn a thri chant, i’r Lamaniaid drachefn ddyfod yn ein herbyn i ryfel, ac ni a safasom yn eu herbyn hwynt yn wrol; eithr yr oedd y cyfan yn ofer, canys yr oedd eu rhifedi mor fawr fel y mathrent bobl y Nephiaid dan eu traed. A bu i ni drachefn ffoi, a’r rhai ag oedd â’u ffoedigaeth yn gyflymach nâ’r Lamaniaid a ddiangasant, a’r rhai ag nad oedd eu ffoedigaeth yn gynt nâ’r Lamaniaid, a ysgubwyd i lawr ac a ddinystriwyd. Ac yn awr, wele, nid wyf fi, Mormon, yn dymuno dryllio eneidiau dynion wrth osod o’u blaen y fath olygfa ofnadwy o waed a chyflafan ag a osodwyd o flaen fy llygaid i; eithr gan fy mod yn gwybod yn ddiau fod yn rhaid i’r pethau hyn gael eu gwneuthur yn hysbys, a bod yn rhaid i bob peth cuddiedig gael ei ddadguddio ar benau y tai, ac hefyd fod yn rhaid i wybodaeth o’r pethau hyn ddyfod at weddill y bobl hyn, ac hefyd at y Cenedloedd, y rhai y dywedai yr Arglwydd a gaent wasgaru y bobl hyn, ac y cyfrifid y bobl hyn megys diddym yn eu mysg hwynt,—mi a ysgrifenais gan hyny dalfyriad bychan, heb feiddio rhoddi hanes cyflawn o’r pethau a welais, o herwydd y gorchymyn a dderbyniais, ac hefyd fel na chaffech chwi ormod tristwch o herwydd dyrgioni y bobl hyn. Ac yn awr, wele, hyn wyf yn ei lefaru wrth eu had hwynt, ac hefyd wrth y Cenedloedd, y rhai sydd a gofal tŷ Israel arnynt, ac yn gwybod o ba le y mae eu bendithion yn dyfod. Canys mi a wn y tristâ y cyfryw oblegid drygfyd tŷ Israel; ïe, hwy a dristânt oblegid dinystr y bobl hyn; hwy a dristânt am nad edifarhaodd y bobl hyn, fel y gallent gael eu cofleidio yn mreichiau yr Iesu. Yn awr, mae y pethau hyn yn cael eu hysgrifenu at weddill tŷ Jacob; ac y maent wedi eu hysgrifenu yn y modd hyn, oblegid y gwyddis oddiwrth Dduw na ddwg drygioni hwynt allan iddynt; ac y maent i gael eu cuddio i’r Arglwydd, fel y delont allan yn ei amser cyfaddas ei hun. Ac hwn yw y gorchymyn a dderbyniais i; ac wele, hwy a ddeuant allan yn ol gorchymyn yr Arglwydd, pan welo efe yn addas yn ei ddoethineb. Ac wele, hwy a gânt fyned at yr anghrediniol o’r Iuddewon; ac i’r dyben hyn y cânt fyned, fel y perswadier hwy mai yr Iesu yw y Crist, Mab y Duw byw; fel y dygo y Tad oddiamgylch, trwy ei un anwylaf, ei fwriad mawr a thragywyddol, o adferu yr Iuddewon, neu holl dŷ Israel, i wlad eu hetifeddiaeth, yr hon y mae yr Arglwydd eu Duw wedi ei rhoddi iddynt, hyd at gyflawni ei gyfammod, ac hefyd fel y byddo i hâd y bobl hyn gredu ei efengyl yn fwy llwyr, yr hon a â allan iddynt oddiwrth y Cenedloedd; canys y bobl hyn a gânt eu gwasgaru, ac a ânt yn bobl dywyll, ffiaidd, ac atgas, tuhwnt i ddesgrifiad yr hyn a fu erioed yn ein plith ni; ïe, sef yr hyn a fu yn mhlith y Lamaniaid; a hyn oblegid eu hanghrediniaeth a’u heilun-addoliaeth. Canys wele, y mae ysbryd yr Arglwydd eisoes wedi darfod amryson â’u tadau, ac y maent hwythau heb Grist na Duw yn y byd, a gyrir hwynt oddiamgylch megys ûs o flaen y gwynt. Yr oeddynt unwaith yn bobl ddymunol, a chanddynt Grist yn fugail arnynt; ïe, hwy a arweinid hyd y nod gan Dduw y Tad. Eithr yn awr, wele, hwy a arweinir oddiamgylch gan satan, fel ûs yn cael ei yru o flaen y gwynt, neu fel llong yn cel ei thaflu o amgylch gan y tònau, heb hwyl nac angor, na dim i’w llywio; ac megys y mae hi, felly y maent hwythau. Ac wele, yr Arglwydd a gadwodd eu bendithion hwy, y rhai allasent dderbyn yn y wlad, er mwyn y Cenedloedd y rhai a gânt etifeddu y tir. Eithr wele, dygwydda iddynt gael eu gyru a’u gwasgaru gan y Cenedloedd, ac ar ol iddynt gael eu gyru a’u gwasgaru gan y Cenedloedd, wele, yna yr Arglwydd a gofia y cyfammod yr hwn a wnaeth i Abraham, ac i holl dŷ Israel. Ac hefyd yr Arglwydd a gofia weddiau y rhai cyfiawn, y rhai a ddanfonwyd i fyny ato ef drostynt. Ac yna, O chwi Genedloedd, pa fodd y gellwch sefyll o flaen gallu Duw, oddieithr i chwi edifarhau a dychwelyd oddiwrth eich ffyrdd drygionus! Ai ni wyddoch eich bod yn nwylaw Duw? Ai ni wyddoch fod ganddo ef bob gallu, ac mai wrth ei orchymyn mawr y caiff y ddaear ei phlygu ynghyd megys rhol? Am hyny, edifarhewch, ac ymddarostyngwch ger ei fron, rhag iddo ddyfod allan mewn barn yn eich erbyn; rhag i weddill o hâd Jacob fyned allan yn eich mysg megys llew, a’ch rhwygo, ac ni bydd achubydd.