Scriptures
Mormon 4


Pennod Ⅳ.

Wele, yr wyf fi, Moroni, yn gorphen cof-lyfr fy nhad, Mormon. Wele, nid oes genyf ond ychydig o bethau i’w hysgrifenu, yr hyn bethau a orchymynwyd i mi gan fy nhad. Ac yn awr, dygwyddodd ar ol y frwydr fawr ac enbyd yn Cumorah, i’r Nephiaid y rhai a ddiangasant i’r wlad yn ddeheuol, gael eu hymlid gan y Lamaniaid, hyd nes iddynt gael eu dyfetha oll; a’m tad hefyd a laddwyd ganddynt, a myfi yn unig sydd yn aros i ysgrifenu hanes galarus dinystr fy mhobl. Eithr wele, y maent hwy wedi myned, ac yr wyf finnau yn cyflawni gorchymyn fy nhad. A pha un a laddant finnau, nis gwn; am hyny, mi a ysgrifenaf ac a guddiaf y cof-lyfrau yn y ddaear, a pha le yr âf fi nid yw wahaniaeth. Wele, fy nhad a wnaeth y cof-lyfr hwn, ac a ysgrifenodd y cynllun o hono. Ac wele, mi a’i hysgrifenwn ef hefyd, pe buasai genyf le ar y llafnau; eithr nid oes genyf; a mŵn nid oes genyf ddim, oblegid yr wyf yn unig; mae fy nhad wedi ei ladd yn y frwydr, a’m holl berthynasau, ac nid oes genyf gyfeillion na lle i fyned; a pha cyhyd y goddefa yr Arglwydd i mi fyw, nis gwn. Wele, y mae pedwar can mlynedd wedi myned heibio oddiar ddyfodiad ein Harglwydd a’n Hiachawdwr. Ac wele, y mae’r Lamaniaid wedi ymlid fy mhobl i, y Nephiaid, i waered o ddinas i ddinas, ac o le i le, hyd nes nad ydynt mwyach; a mawr fu eu cwymp hwynt: ïe, mawr a rhyfedd yw dinystr fy mhobl y Nephiaid. Ac wele, llaw yr Arglwydd a’i gwnaeth. Ac wele, hefyd, y mae’r Lamaniaid mewn rhyfel â’u gilydd: ac y mae holl wyneb y tir hwn yn un cylchdro parhaus o lofruddiaeth a thywallt gwaed; ac nis gŵyr neb am derfyn y rhyfel. Ac yn awr, wele, nid wyf yn dywedyd ychwaneg am danynt hwy, canys nid oes neb, oddieithr y Lamaniaid a’r yspeilwyr, yn bodoli ar wyneb y tir; ac nid oes neb ag ydynt yn adwaen y gwir Dduw, oddieithr dyscyblion yr Iesu, y rhai a drigent yn y tir hyd nes yr oedd drygioni y bobl mor fawr, fel na oddefai yr Arglwydd iddynt aros gyda’r bobl; a pha le y maent ar wyneb y tir, nis gŵyr neb. Eithr, wele, mae fy nhad a minnau wedi eu gweled, a hwy a weiniasant i ni. A phwy bynag a dderbynio y cof-lyfr hwn, ac nis condemnia ef oblegid yr anmherffeithderau ag sydd ynddo, y cyfryw a gaiff wybod am bethau mwy nâ’r rhai hyn. Wele, myfi yw Moroni; a phe buasai yn bosibl, mi a hysbyswn bob peth i chwi. Wele, yr wyf yn gorphen llefaru am y bobl hyn. Myfi yw mab Mormon, ac yr oedd fy nhad yn ddisgynydd o Nephi; a myfi yw yr hwn sydd yn cuddio y cof-lyfr hwn i’r Arglwydd; ac nid yw ei lafnau ef o ddim gwerth, oblegid gorchymyn yr Arglwydd. Canys yn ddiau efe a ddywedodd na chai neb hwynt i elwa: eithr y mae eu hanes o werth mawr; a phwy bynag a’i dygo i oleuni, hwnw a fendithia yr Arglwydd. Canys ni all neb gael gallu i’w ddwyn i oleuni, oddiethr ei roddi iddo gan Dduw; canys Duw a fyn iddo gael ei wneuthur gyda golwg sengl ar ei ogoniant, neu leshad hen bobl hir-wasgaredig a chyfammodol yr Arglwydd. A gwyn fyd yr hwn a ddwg y peth hwn i oleuni; canys dygir ef allan o dywyllwch i oleuni, yn ol gair Duw; ïe, dygir ef allan o’r ddaear, a chaiff ddysclaerio alan o dywyllwch, a dyfod i wybodaeth y bobl; a chaiff ei wneuthur trwy allu Duw; ac os bydd beiau, beiau dyn fyddant. Eithr wele, ni wyddom ni am un bai. Er hyny, y mae Duw yn gwybod pob peth; am hyny, yr hwn sydd yn condemnio, gocheled rhag iddo fod yn euog o dân uffern. A’r hwn a ddywedo, Dangos i mi, onide tarewir di, gocheled rhag iddo orchymyn yr hyn a waherddir gan yr Arglwydd. Canys wele, yr hwn sydd yn barnu yn fyrbwyll, a fernir yn fyrbwyll drachefn; canys yn ol ei waith y bydd ei gyflog; am hyny, yr hwn sydd yn taraw, a darewir drachefn gan yr Arglwydd. Wele, pa beth a ddywed yr ysgrythyr, Ni chaiff dyn daraw, nac ychwaith farnu; canys barn sydd eiddof fi, a dial sydd eiddof fi hefyd, ac mi a ad-dalaf. A’r hwn a fygythio lid ac amrysonau yn erbyn gwaith yr Arglwydd, ac yn erbyn pobl gyfammodol yr Arglwydd, y rhai ydynt dŷ Israel, ac a ddywedo, Ni a ddinystriwn waith yr Arglwydd, a’r Arglwydd ni chofia ei gyfammod yr hwn a wnaeth â thŷ Israel, sydd yn euog o gael ei dori i lawr a’i fwrw yn tân; canys bwriadau tragywyddol yr Arglwydd a dreiglant yn mlaen, hyd nes y caffo ei holl addewidion eu cyflawni. Chwiliwch brophwydoliaethau Isaiah. Wele, nis gallaf eu hysgrifenu hwynt. Ië, wele, yr wyf yn dywedyd i chwi, y bydd i’r saint hyny a aethant o’m blaen i, y rhai a etifeddent y tir hwn, waeddi; ïe, hyd y nod o’r llwch y gwaeddant ar yr Arglwydd; ac fel mai byw yr Arglwydd, efe a gofia y cyfammod yr hwn a wnaeth â hwynt. Ac efe a wyr am eu gweddiau, eu bod ar ran eu brodyr. Ac y mae yn adwaen eu ffydd hwynt; canys yn ei enw ef y gallent symud mynyddoedd; ac yn ei enw ef y gallent achosi i’r ddaear grynu; a thrwy allu ei air yr achosent i garcharau i ymdreiglo i’r ddaear; ïe, nis gallai hyd y nod y ffwrn dân eu niweidio hwynt; nac ychwaith fwystfilod gwylltion, na seirff gwenwynllyd, o herwydd gallu ei air. Ac wele, yr oedd eu gweddiau hefyd ar ran yr hwn a oddefai yr Arglwydd i ddwyn y pethau hyn allan. Ac nid oes rhaid i neb ddywedyd, na chânt ddyfod, canys yn ddiau hwy a gânt, canys y mae’r Arglwydd wedi ei lefaru; canys allan o’r ddaear y deuant, trwy law yr Arglwydd, ac nis gall neb eu lluddias; a hwy a ddeuant mewn dydd pan y dywedir fod gwyrthiau wedi darfod; a hwy a ddeuant megys pe byddai un yn llefaru oddiwrth y meirw. A hyn a ddaw mewn dydd pan fydd gwaed y saint yn gwaeddi ar yr Arglwydd, oblegid cydfwriadau dirgel a gweithredoedd y tywyllwch; ïe, daw mewn dydd pan y gwadir gallu Duw, ac y bydd eglwysi yn halogedig, ac wedi ymddyrchafu yn malchder eu calonau; ïe, mewn dydd pan fydd blaenoriaid eglwysi, ac athrawon, yn malchder eu calonau, hyd y nod yn cenfigenu wrth y rhai a berthynant i’w heglwysi; ïe, daw mewn dydd pan glywir am dân, a thymhestloedd, a tharth mwg mewn gwledydd pellenig; a chlywir hefyd am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd, a daeargrynfaäu mewn amryw fanau; ïe, daw mewn dydd pan fydd halogrwydd mawr ar wyneb y ddaear; a bydd llofruddiaethau, ac yspeiliadau, a chelwydd, a thwyll, a phuteindra, a phob math o ffieidd-dra; pan fydd llawer a ddywedant, Gwnewch hyn, neu gwnewch hyna, ac nid oes wahaniaeth, canys yr Arglwydd a gynnal y cyfryw yn y dydd diweddaf. Eithr gwae y cyfryw rai, canys y maent mewn bustl chwerwder a rhwymau anwiredd. Ië, daw mewn dydd pan fydd eglwysi wedi eu cyfodi ag a ddywedant, Deuwch ataf fi, ac am eich arian chwi a gewch faddeuant o’ch pechodau. O chwi bobl ddrygionus, gwrthnysig, a gwargaled, paham y cyfodasoch eglwysi i chwi eich hunain er mwyn elw? Paham y cyfnewidiasoch air santaidd Duw, fel y dygech ddinystr i’ch eneidiau? Wele, edrychwch i ddadguddiadau Duw. Canys wele, mae yr amser yn dyfod yn y dydd hwnw, pan y rhaid i’r holl bethau hyn gael eu cyflawni. Wele, mae yr Arglwydd wedi dangos i mi bethau mawrion a rhyfedd ynghylch yr hyn a raid ddyfod ar fyrder yn y dydd hwnw pan ddaw y pethau hyn allan yn eich plith chwi. Wele, yr wyf yn llefaru wrthych chwi megys pe byddech yn bresennol, ac etto nid ydych. Eithr, wele, y mae Iesu Grist wedi eich dangos chwi i mi, ac yr ydwyf yn adwaen eich ymarweddiad; ac mi a wn eich bod yn rhodio yn malchder eich calonau; ac pid oes neb, oddieithr ychydig yn unig, ag nad ydynt yn ymddyrchafu yn malchder eu calonau, i wisgo dillad gwychion, a meithrin cenfigen, ac amryson, a malais, ac erlidigaethau, a phob math o anwireddau; ac y mae eich eglwysi, ïe, bob un, wedi myned yn halogedig oblegid balchder eich calonau. Canys wele, yr ydych yn caru arian, a’ch eiddo, a’ch dillad gwychion, ac addurniad eich eglwysi, yn fwy nag yr ydych yn caru y tlawd a’r anghenog, y claf a’r cystuddiedig. O, chwi halogwyr, chwi ragrithwyr, chwi athrawon, y rhai a ymwerthwch am yr hyn sydd yn difa, paham y halogasoch eglwys santaidd Duw? Paham y cywilyddiwch gymmeryd arnoch enw Crist? Paham na feddyliwch mai mwy yw gwerth dedwyddwch diddiwedd, nâ’r trueni hwnw nad yw byth yn marw, oblegid clod y byd? Paham yr addurnwch eich hunain â’r hyn nad oes bywyd ynddo, ac etto yn gadael i’r newynog, a’r anghenus, a’r noeth, a’r claf, a’r cystuddiedig i fyned heibio i chwi yn ddisylw? Ië, paham y cyfodwch i fyny eich dirgel ffieidd-dra, er elwa, ac achosi i wragedd gweddwon alaru gerbron yr Arglwydd, ac i rai amddifaid hefyd alaru gerbron yr Arglwydd; ac hefyd i waed eu tadau a’u gwyr priod waeddi ar yr Arglwydd o’r ddaear, am ddialedd ar eich penau. Wele, y mae cleddyf dialedd yn hongian uwch eich penau; ac y mae yr amser yn dyfod ar fyrder pan y diala efe waed ei saint arnoch, canys ni oddefa efe eu llef yn hwy.

Ac yn awr, yr wyf yn llefaru hefyd ynghylch y rhai hyny nad ydynt yn credu yn Nghrist. Wele, a gredwch chwi yn nydd eich ymweliad, pan ddêl yr Arglwydd; ïe, sef y dydd mawr hwnw pan y plygir y ddaear ynghyd fel rhòl, ac y bydd i’r elfenau gan wir wres doddi; ïe, yn y dydd mawr hwnw pan y dygir chwi i sefyll gerbron Oen Duw, a wnewch chwi y pryd hwnw ddywedyd nad oes Duw? A wnewch chwi y pryd hwnw wadu Crist yn hwy, neu a ellwch chwi edrych ar Oen Duw? A ydych chwi yn tybied y cewch drigo gydag ef dan yr ymwybodolrwydd o’ch euogrwydd? A ydych chwi yn tybied y gallasech fod yn ddedwydd i drigo gyda’r bod santaidd hwnw, pan fyddo eich eneidiau yn cael eu dirboeni gan ymwybodolrwydd o euogrwydd eich bod erioed wedi anmharchu ei gyfreithiau? Wele, yr wyf yn dywedyd wrthych, y buasai yn fwy truenus arnoch i fyw gyda Duw santaidd a chyfiawn, dan yr ymwybodolrwydd o’ch aflendid ger ei fron, nâ phe buasech yn trigo gyda’r eneidiau damnedig yn uffern? Canys wele, pan ddygir chwi i ganfod eich noethni gerbron Duw, ac hefyd ogoniant Duw, a santeiddrwydd Iesu Grist, ennyna aarnoch fflam o dân anniffoddadwy. O ynte, chwi rai anghrediniol, trowch at yr Arglwydd; galwch yn nerthol ar y Tad yn enw yr Iesu, fel ysgatfydd y caffer chwi yn ddifrycheulyd, pur, teg, a gwynion, wedi eich glanhau trwy waed yr Oen, yn y dydd mawr a diweddaf hwnw. A thrachefn yr wyf yn llefaru wrthych, y rhai a wadwch ddadguddiadau Duw, ac a ddywedwch eu bod wedi darfod, ac nad oes dim dadguddiadau, na phrophwydoliaethau, na doniau, na iachâu, na llefaru â thafodau, na chyfieithad tafodau? Wele, yr wyf yn dywedyd wrthych, yr hwn sydd yn gwadu y pethau hyn, nid yw yn adwaen efengyl Crist; ïe, nid yw wedi darllen yr ysgrythyrau; os ydyw, nid yw yn eu deall hwynt. Canys yr ydym yn darllen mai yr un yw Duw ddoe, heddyw, ac yn dragywydd; ac yn yr hwn nid oes cyfnewidiad na chysgod tröedigaeth. Ac yn awr, os ydych wedi dychymmygu i chwi eich hunain dduw cyfnewidiol, ac yn yr hwn y mae cysgod tröedigaeth, yna yr ydych wedi dychymmygu i chwi eich hunain dduw nad yw yn Dduw y gwyrthiau. Eithr wele, mi a ddangosaf i chwi Dduw y gwyrthiau, ïe, Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob; a’r un Duw sydd wedi creu y nefoedd a’r ddaear, a phob peth ag sydd ynddynt. Wele, efe a greodd Adda; a thrwy Adda y daeth cwymp dyn. Ac oblegid cwymp dyn y daeth Iesu Grist, sef y Tad a’r Mab; ac oblegid Iesu Grist y daeth prynedigaeth dyn. Ac oblegid prynedigaeth dyn, yr hon a ddaeth trwy Iesu Grist, hwy a ddygir yn ol i bresennoldeb yr Arglwydd; ïe, trwy hyn y mae pob dyn yn cael eu gwaredu, o herwydd fod marwolaeth Crist yn dwyn oddiamgylch yr adgyfodiad, yr hyn sydd yn dwyn oddiamgylch waredigaeth o gwsg diddarfod, o ba gwsg y caiff pob dyn ei ddeffroi gan allu Duw, pan udgano yr udgorn; a hwy a ddeuant allan, fychain a mawrion, ac a safant oll o flaen ei frawdle, wedi cael eu gwaredu a’u rhyddhau oddiwrth rwymyn tragywyddol marwolaeth, yr hon farwolaeth sydd farwolaeth dymmorol; ac yna y daw arnynt farn y Sanct; ac yna y daw yr amser i’r hwn sydd aflan i fod yn aflan ett; a’r hwn sydd gyfiawn, i fod yn gyfiawn etto; yr hwn sydd ddedwydd, i fod yn ddedwydd etto: a’r hwn sydd yn annedwydd, i fod yn annedwydd etto. Ac yn awr, O chwi yr holl rai sydd wedi dychymmygu i chwi eich hunain dduw na all wneuthur gwyrthiau, mi a ewyllysiwn ofyn i chwi, a yw yr holl bethau hyn wedi myned heibio, am y rhai y llefarais? A ddaeth y diwedd etto? Wele, meddaf i chwi, naddo; ac nid yw Duw wedi darfod bod yn Dduw y gwyrthiau. Wele, ai nid yw y pethau a wnaeth Duw, yn rhyfeddol yn ein golwg? Ië, a phwy a all amgyffred gweithredoedd rhyfeddol Duw? Pwy a ddywed mai nid gwyrth oedd, i’r nef a’r ddaear fod trwy ei air? A thrwy allu ei air y crewyd dyn o bridd y ddaear; a thrwy allu ei air, y cyflawnwyd gwyrthiau. A phwy a ddywed na wnaeth Iesu Grist lawer o wyrthiau mawrion? A chafodd llawer o wyrthiau mawrion eu cyflawni trwy ddwylaw yr apostolion. Ac os cafodd gwyrthiau eu cyflawni, paham y peidiodd Duw fod yn Dduw y gwyrthiau, ac etto yn fôd anghyfnewidiol. Ac wele, meddaf wrthych, nid yw efe yn cyfnewid; pe felly, peidiai fod yn Dduw; ac nid yw efe yn peidio bod yn Dduw, a Duw y gwyrthiau ydyw. A’r achos ei fod ef yn peidio gwneuthur gwyrthiau yn mysg plant dynion, yw o herwydd eu bod yn methu mewn anghrediniaeth, ac yn ymadael o’r ffordd iawn ac ddim yn adwaen y Duw yn yr hwn y dylent ymddiried Wele, meddaf wrthych, pwy bynag sydd yn credu yn Nghrist heb ammau dim, pa beth bynag a ofyno i’r Tad yn enw Crist, efe a roddir iddo; ac y mae’r addewid hon i basb, ïe, hyd derfynau y ddaear. Canys wele, fel hyn y dywed Iesu Grist, Mab Duw, wrth ei ddyscyblion y rhai a arosent; ïe, ac hefyd wrth ei holl ddyscyblion, yn nghlyw y dyrfa, Ewch i’r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur; a’r hwn a gredo, ac a fedyddier, a fydd cadwedig, eithr yr hwn ni chredo, a gondemnir. A’r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant; yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid; â thafodau newyddion y llefarant; seirff a godant ymaith; ac os yfant ddim marwol, ni wna iddynt niwed; ar y cleifion y rhoddant eu dwylaw, a hwy a fyddant iach: a phwy bynag a gredo yn fy enw, heb ammau dim, iddo ef y cadarnhaf fy holl eiriau, ïe, hyd derfynau y ddaear. Ac yn awr, wele, pwy a all sefyll yn erbyn gweithredoedd yr Arglwydd? Pwy a ddichon wadu ei ymadroddion? Pwy a gyfyd i fyny yn erbyn gallu hollalluog yr Arglwydd? Pwy a ddiystyra weithredoedd yr Arglwydd? Pwy a ddirmyga blant Crist? Wele, chwi holl ddirmygwyr gweithredoedd yr Arglwydd, canys chwi a gewch ryfeddu a threngu. O, ynte, na ddirmygwch, ac na ryfeddwch, eithr gwrandewch ar eiriau yr Arglwydd, a gofynwch gan y Tad yn enw yr Iesu am ba bethau bynag y byddoch mewn anghen am danynt. Nac ammheuwch, eithr byddwch grediniol, a dechreuwch megys yn yr amseroedd gynt, a deuwch at yr Arglwydd â’ch holl galon, a gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain trwy ofn a dychryn ger ei fron. Byddwch ddoeth yn nyddiau eich ymbrawf; ymddiosgwch o bob aflendid; na ofynwch, fel y treulioch ef ar eich chwantau, eithr gofynwch gyda chadernid disigl, na ymollyngwch i un brofedigaeth, eithr y gwasanaethwch y gwir a’r bywiol Dduw. Edrychwch na fedyddier chwi yn annheilwng; edrychwch na chyfranogoch o sacrament Crist yn annheilwng; eithr edrychwch ar wneuthur o honoch bob peth yn deilwng, a’i wneuthur yn enw Iesu Grist, Mab y Duw byw: ac os gwnewch hyn, a pharhau hyd y diwedd, ni chewch mewn un modd eich bwrw allan. Wele, yr wyf yn llefaru wrthych megys pe llefarwn oddiwrth y meirw; canys mi a wn y cewch glywed fy ngeiriau. Na chondemniwch fi o herwydd fy anmherffeithrwydd; nac ychwaith fy nhad, o herwydd ei anmherffeithrw ydd yntau; nac ychwaith y rhai a ysgrifenodd o’i flaen ef, eithr yn hytrach diolchwch i Dduw ei fod wedi amlygu i chwi ein hanmherffeithderau, fel y dysgoch chwi fod yn ddoethach nag y buom ni.

Ac yn awr, wele, ni a ysgrifenasom y cof-lyfr hwn yn ol ein gwybodaeth o’r llythyrenau, y rhai a elwir yn ein mysg ni yr Aifftaeg ddiwygiedig, wedi ei throsglwyddo i waered a’i chyfnewid genym ni, yn ol ein dull o lefaru. A phe buasai ein llafnau yn ddigon mawr, buasem wedi ysgrifenu yn yr Hebraeg; eithr y mae’r Hebraeg wedi ei chyfnewid genym ni hefyd; a phe gallasem ysgrifenu yn yr Hebraeg, wele, ni fuasai un anmherffeithrwydd yn ein cof-lyfr. Eithr yr Arglwydd a ŵyr y pethau a ysgrifenasom, ac na ŵyr neb pobl arall ein iaith; am hyny, efe a barotodd offerynau er eu cyfieithu. Ac y mae’r pethau hyn yn cael eu hysgrifenu, fel y glanhaom ein dillad oddiwrth waed ein brodyr y rhai a fethasant mewn anghrediniaeth. Ac wele, y peethau hyn ag a ddymunasom ynghylch ein brodyr, ïe, sef eu hadferiad i wybodaeth o Grist, ydynt yn unol â gweddiau yr holl saint ag ydynt wedi preswylio yn y tir. A chaniataed yr Arglwydd Iesu Grist i’w gweddiau gael eu hateb yn ol eu ffydd; a boed i Dduw y Tad gofio o cyfammod yr hwn a wnaeth â thŷ Israel; a boed iddo eu bendithio hwynt yn dragywydd, trwy ffydd yn enw Iesu Grist. Amen.