Pennod Ⅲ.
Ac yn awr, yr wyf yn gorphen fy nghof-lyfr ynghylch dinystr fy mhobl, y Nephiaid. A bu i ni fyned rhagddom o flaen y Lamaniaid. A myfi, Mormon, a ysgrifenais epistol at frenin y Lamaniaid, ac a ddymunais arno i ganiatâu i ni gasglu ein pobl ynghyd i dir Cumorah, wrth fynydd a elwid Cumorah, ac yno y rhoddem frwydr iddynt. A bu i frenin y Lamaniaid ganiatây i mi y peth a ddymunais. A bu i ni gychwyn yn mlaen i dir Cumorah, a chodi ein pebyll oddiamgylch mynydd Cumorah; ac yr ydoedd mewn tir o ddyfroedd lawer, afonydd, a ffynnonau; ac yma gobeithiem i gael mantais ar y Lamaniaid. A phan yr oedd tri chant a phedwar ugain a phedwar o flynyddoedd wedi myned heibio, yr oeddym wedi casglu i mewn holl weddill ein pobl i dir Cumorah.
A dygwyddodd pan oeddym wedi casglu ein holl bobl yn un i dir Cumorah, fy mod i, Mormon, yn dechreu heneiddio; a chan wybod mai dyma ymdrech ddiweddaf fy mhobl, a bod yr Arglwydd wedi gorchymyn i mi na oddefwn i’r cof-lyfrau a drosglwyddwyd i waered gan ein tadau, y rhai oeddynt yn gyssegredig, i syrthio i ddwylaw y Lamaniaid (oblegid gwnai y Lamaniaid eu dinystrio), o ganlyniad mi a wnaethym y coflyfr hwn allan o lafnau Nephi, ac a guddiais yn mynydd Cumorah, yr holl gof-lyfrau a ymddiriedwyd i mi gan law yr Arglwydd, oddieithr yr ychydig lafnau a roddais i’m mab Moroni. A bu i’m pobl, gyda’u gwragedd a’u plant, weled yn awr fyddinoedd y Lamaniaid yn dyfod tuag atynt; a chydag ofn dychrynllyd marwolaeth yr hwn sydd yn llanw mynwesau yr holl rai drygionus, y dysgwyliasant i’w derbyn hwynt. A bu iddynt ddyfod i ryfel yn ein herbyn, ac yr oedd pob enaid yn llawn dychryn, o herwydd lliosogrwydd eu rhifedi. A bu iddynt syrthio ar fy mhobl â’r cleddyf, ac â’r bwa, ac â’r saeth, ac â’r fwyell, ac â phob math o offerynau rhyfel. A bu i’m gwyr gael eu tori i lawr, ïe, sef fy neg mil y rhai oedd gyda mi, a minnau a syrthiais yn archolledig yn eu mysg: ac aethant heibio i mi, fel na osodasant derfyn ar fy mywyd. Ac wedi iddynt fyned trwy a thori i lawr fy holl bobl, oddieithr pedwar ar hugain o honom (yn mhlith pa rai yr oedd fy mab Moroni), a chael o honom ninnau fyw ar ol y meirw o’n pobl, ni a welsom dranoeth, pan yr oedd y Lamaniaid wedi dychwelyd i’w gwersylloedd, oddiar ben mynydd Cumorah, y deg mil o’m pobl y rhai a dorwyd i lawr, y rhai a flaenorid y tu blaen genyf fi; a gwelsom hefyd y deg mil o’m pobl y rhai a arweinid gan fy mab Moroni. Ac wele, yr oedd deg mil Gidgiddonah wedi syrthio, ac yntau hefyd yn eu mysg; ac yr oedd Lamah a’i ddeg mil wedi syrthio; ac yr oedd Gilgal a’i ddeg mil wedi syrthio; ac yr oedd Limhah a’i ddeg mil wedi syrthio; ac yr oedd Joneam a’i ddeg mil wedi syrthio; ac yr oeddCamenihah, a Moronihah, ac Antionum, a Shiblom, a Shem, a Josh, a’u deg mil bob un wedi syrthio.
A dygwyddodd fod deg yn ychwaneg a ddarfu syrthio trwy y cleddyf, ynghyd â’u deg mil bob un; ïe, yr oedd hyd y nod fy holl fobl, oddieithr y pedwar ar hugain hyny ag oedd gyda mi, ac hefyd ryw ychydig ag oedd wedi dianc i’r gwledydd deheuol, ac ychydig ag oedd wedi ymneillduo at y Lamaniaid, wedi syrthio, ac yr oedd eu cnawd, a’u hesgyrn, a’u gwaed yn gorwedd ar wyneb y ddaear, wedi eu gadael gan y rhai a’u lladdodd hwynt, i bydru yn y tir, ac i falurio a dychwelyd i’w mam ddaear. A’m henaid a rwygwyd gan ingoedd, oblegid lladdedigion fy mhobl, ac mi a waeddais, O chwi rai prydferth, pa fodd y gallasoch ymadael o ffyrdd yr Arglwydd! O chwi rai prydferth, pa fodd y gallasoch wrthod yr Iesu hwnw, yr hwn a safai â breichiau agored i’ch derbyn! Wele, pe na fuasech wedi gwneuthur hyn, ni syrthiasech, Eithr wele, chwi a syrthiasoch, ac yr wyf yn galaru eich colled. O chwi brydferth feibion a merched, chwi dadau a mamau, chwi wyr a gwragedd, chwi rai prydferth, pa fodd y mae y gallasech syrthio! Eithr wele, yr ydych wedi myned, ac nis gall fy nhristwch ddwyn eich dychweliad; ac y mae’r dydd yn dyfod ar frys pan y rhaid i’ch marwol wisgo anfarwoldeb, ac y rhaid i’r cyrff hyn sydd yn awr yn malurio mewn llygredigaeth yn fuan ddyfod yn gyrff anllygredig; ac yna y bydd raid i chwi sefyll gerbron brawdle Crist, i gael eich barnu yn ol eich gweithredoedd; ac os dyg wydd eich bod yn gyfiawn, yna y bendithir chwi gan eich tadau y rhai a aethant o’ch blaen. O na fuasech wedi edifarhau cyn i’r dinystr mawr hwn ddyfod arnoch. Eithr wele, yr ydych chwi wedi myned, ac y mae’r Tad, ïe, Tad tragywyddol y nef, yn adwaen eich sefyllfa; ac y mae efe yn gwneuthur a chwi yn ol ei gyfiawnder a’i drugaredd.
Ac yn awr, wele, mi a fynwn lefaru rhywfaint wrth weddill y bobl hyn ag ydynt wedi eu harbed, os dygwydd i Dduw roddi iddynt fy ngeiriau, fel y gwybyddont am bethau eu tadau; ïe, yr wyf yn llefaru wrthych chwi weddill ty Israel; a’r rhai hyn yw y geiriau wyf yn lefaru, Gwybyddwch eich bod chwi o dy nis gellir eich achub. Gwybyddwch y rhaid i chwi osod i lawr eich arfau rhyfel, a pheidio ymhyfrydu mwyach i dywallt gwaed, a pheidio eu cymmeryd drachefn, oddieithr i Dduw orchymyn i chwi. Gwybyddwch y rhaid i chwi ddyfod i wybodaeth am eich tadau, ac edifarhau am eich holl bechodau a’ch anwireddau, a chredu yn Iesu Grist, mai efe yw Mab Duw, ac iddo gael ei ladd gan yr Iuddewon, a thrwy allu y Tad iddo gyfodi drachefn, trwy yr hyn y buddugoliaethodd ar y bedd; ac hefyd mai ynddo ef y llyncwyd colyn angeu. Ac y mae efe yn dwyn oddiamgylch adgyfodiad y meirw, trwy yr hyn y rhaid i ddyn gael ei gyfodi i sefyll gerbron ei frawdle ef. Ac efe a ddygodd oddiamgylch brynedigaeth y byd, trwy yr hyn y rhoddir i’r sawl a geir yn ddieuog ger ei fron ef yn nydd y farn, i drigo yn mhresennoldeb Duw yn ei deyrnas, i ganu mawl diddarfod gyda’r côrau fry, i’r Tad, ac i’r Mab, ac i’r Ysbryd Glân, y rhai ydynt un Duw, mewn sefyllfa o ddedwyddwch diddiwedd. Am hyny, edifarhewch, a bedyddier chwi yn enw Iesu Grist, a gafaelwch yn efengyl Crist, yr hon a osodir o’ch blaen chwi, nid yn unig yn y cof-lyfr hwn, ond hefyd yn y cof-lyfr a ddaw i’r Cenedloedd oddiwrth yr Iuddewon, yr hwn gof-lyfr a ddaw oddiwrth y Cenedloedd atoch chwi. Canys wele, ysgrifenir hwn i’r dyben i chwi gredu hwnw; ac os credwch hwnw, chwi a gredwch hwn hefyd; ac os credwch hwn, chwi a wybyddwch ynghylch eich tadau, ac hefyd y gweithredoedd rhyfeddol a weithredwyd gan allu Duw yn eu mysg hwynt; a chwi a wybyddwch hefyd eich bod yn weddill o had Jacob; am hyny cyfrifir chwi yn mhlith pobl y cyfammod cyntaf; ac os dygwydd i chwi gredu yn Nghrist, a chael eich bedyddio, yn gyntaf â dwfr, yna â thân ac â’r Ysbryd Glân, gan ddilyn esiampl ein Hiachawdwr yn ol yr hyn a ochymynodd i ni, bydd yn dda arnoch yn nydd y farn. Amen.