Scriptures
Mormon 1


Llyfr Mormon.

Pennod Ⅰ.

Ac yn awr, yr wyf fi, Mormon, yn gwneuthur cof-lyfr o’r pethau a welais ac a glywais i, ac yn ei alw yn Llyfr Mormon. Ac ynghylch yr amser y cuddiodd Ammaron y cof-lyfrau i’r Arglwydd, efe a ddaeth ataf (ac yr oeddwn i ynghylch deng mlwydd oed; ac yr oeddwn yn dechreu bod yn ddysgedig rywfaint yn ol dull dysgeidiaeth fy mhobl), ac Ammaron a ddywedodd wrthyf, Yr wyf yn gweled dy fod di yn blentyn sobr, ac yn gyflym i graffu; am hyny, pan fyddi di ynghylch pedair mlwydd ar hugain oed, mi a ewyllysiwn i ti gofio y pethau a sylwaist arnynt o berthynas i’r bobl hyn; a phan fyddi yn yr oedran hwnw, dos i dir Antum, at fryn, yr hwn a gaiff ei alw Shim; ac yno y rhoddais i gadw i’r Arglwydd, yr holl gerfiadau cyssegredig a berthynant i’r bobl hyn. Ac wele, ti a gai gymmeryd llafnau Nephi i ti dy hun, a’r gweddill a adewi yn y man lle y maent; a thi a gai gerfio ar lafnau Nephi, yr holl bethau a sylwaist arnynt o berthynas i’r bobl hyn. A myfi, Mormon, yr hwn wyf ddisgynydd o Nephi (ac enw fy nhad oedd Mormon), a gofiais y pethau a orchymynodd Ammaron i mi. A bu i mi, gan fod yn un mlwydd ar ddeg oed, gael fy nghario gan fy nhad i’r tir yn ogleddol, sef i dir Zarahemla; ac yr oedd holl wyneb y tir wedi cael ei orchuddio ag adeiladau, ac yr oedd y bobl mor lliosog braidd â thywod y môr. A bu y flwyddyn hon, ddechreu fod rhyfel rhwng y Nephiaid, y rhai oeddynt yn gynnwysedig o’r Nephiaid, a’r Jacobiaid, a’r Josephiaid, a’r Zoramiaid; a’r rhyfel hwn oedd rhwng y Nephiaid, a’r Lamaniaid, a’r Lemueliaid, a’r Ishmaeliaid. Yn awr, yr oedd y Lamaniaid, a’r Lemueliaid, ar Ishmaeliaid, yn cael eu galw yn Lamaniaid, a’r ddwy blaid oedd y Nephiaid a’r Lamaniaid. A dygwyddodd i’r rhyfel ddechreu fod rhyngddynt ar gyffiniau Zarahemla, wrth ddyfroedd Sidon. A dygwyddodd fod y Nephiaid wedi casglu ynghyd nifer mawr o wyr, ïe, dros y nifer o ddeg mil ar hugain. A bu iddynt gael yn yr un flwyddyn hon nifer o frwydrau, yn mha rai yr oedd y Nephiaid yn gorthrechu y Lamaniaid, a lladd llaweroedd o honynt. A dygwyddodd i’r Lamaniaid dynu eu bwriad yn ol, a chafodd heddwch ei sefydlu yn y tir, a pharhaodd heddwch dros yspaid oddeutu pedair blynedd, fel na thywalltid dim gwaed. Eithr yr oedd drygioni yn ffynu dros holl wyneb y tir, yn gymmaint ag i’r Arglwydd gymmeryd ymaith ei ddyscyblion anwyl, a chyflawniad gwyrthiau ac iachâu a beidiodd, oblegid anwiredd y bobl. Ac nid oedd dim doniau oddiwrth yr Arglwydd, ac nid oedd yr Ysbryd Glân yn dyfod ar neb, o herwydd eu drygioni a’u hanghrediniaeth. A myfi, gan fod yn bymtheg mlwydd oed, a chan fy mod o feddwl sobr, ymwelwyd â mi gan yr Arglwydd, ac mi a brofais, ac a wyddwn am ddaioni yr Iesu. Ac mi a ymdrechais bregethu wrth y bobl hyn, eithr fy ngenau a gauwyd, a gwarafunwyd i mi bregethu iddynt; canys, wele, yr oeddynt wedi gwrthryfela yn wirfoddol yn erbyn eu Duw, ac yr oedd y dyscyblion anwyl wedi eu cymmeryd allan o’r tir, o herwydd eu drygioni. Eithr mi a arosais yn eu mysg, ond gwarafunwyd i mi bregethu iddynt, o herwydd caledwch eu calonau; ac o herwydd caledwch eu calonau, melldithiwyd y tir er eu mwyn. Ac yr oedd yr yspeilwyr Gadiantonaidd hyny, y rhai oeddynt yn mhlith y Lamaniaid, yn aflonyddu y tir, yn gymmaint â bod ei drigolion yn dechreu cuddio eu trysorau yn y ddaear; a hwy a aethant yn llithrig, o herwydd yr oedd yr Arglwydd wedi melldithio y tir, fel nas gallent eu dal hwynt, na’u cael drachefn. A dygwyddodd fod cyfareddion, a dewiniaeth, a awynion; ac yr oedd gallu yr un drwg yn cael ei weithredu ar hyd holl wyneb y tir, hyd at gyflawni holl eiriau Abinadi, ac hefyd Samuel y Lamaniad. A bu yn y flwyddyn hono, ddechreu fod rhyfel drachefn rhwng y Nephiaid a’r Lamaniaid. Ac er fy mod i yn ieuanc, yr oeddwn yn fawr mewn corffolaeth; am hyny, pobl Nephi a’m penodasant i fod yn flaenor arnynt, neu yn flaenor ar eu byddinoedd. Gan hyny, dygwyddodd yn fy unfed flwyddyn ar bymtheg, i mi fyned allan o flaen byddin o’r Nephiaid, yn erbyn y Lamaniaid; o ganlyniad yr oedd tri chant a chwech mlynedd ar hugain wedi myned heibio. A bu yn y seithfed flwyddyn ar hugain a thri chant, i’r Lamaniaid ddyfod arnom gyda gallu mawr iawn, yn gymmaint ag iddynt ddychrynu fy myddinoedd; am hyny, ni ymladdent, a dechreuasant encilio yn ol tua’r gwledydd gogleddol. A bu i ni ddyfod i ddinas Angola, a chymmeryd meddiant o’r ddinas, a gwneuthur parotoiadau i amddiffyn ein hunain yn erbyn y Lamaniaid. A bu i ni amgau y ddinas â’n holl allu; ond er ein holl amddiffynfeydd, daeth y Lamaniaid arnom, ac a’n gyrasant allan o’r ddinas. A hwy a’n gyrasant hefyd allan o dir Dafydd. A nyni a gychwynasom yn mlaen ac a ddaethom i dir Joshua, yr hwn oedd ar y cyffiniau yn orllewinol, wrth làn y môr. A bu i ni gasglu ein pobl i mewn mor gyflym ag oedd yn bosibl, fel y gallem eu cael hwynt ynghyd yn un corff. Eithr wele, yr oedd y tir wedi ei lanw gan yspeilwyr a chan Lamaniaid; ac er y dinystr mawr ag oedd yn hongian uwchben fy mhobl; nis edifarhasant am eu gweithredoedd drwg; o ganlyniad taenwyd gwaed a chyflafan dros holl wyneb y tir, o du y Nephiaid, ac hefyd o du y Lamaniaid; ac yr oedd yn un chwyldroad trwyadl dros holl wyneb y tir. Ac yn awr, yr oedd gan y Lamaniaid frenin, a’i enw oedd Aaron; ac efe a ddaeth yn ein herbyn ni â byddin o bedair a deugain o filoedd. Ac wele, mi a’i gwrthsefais ef â dwy a deugain o filoedd. A dygwyddodd i mi ei orchfygu ef â’m byddin, fel y ffôdd o’m blaen. Ac wele, cyflawnwyd hyn oll, ac yr oedd tri chant a deg mlynedd ar hugain wedi myned heibio. A bu i’r Nephiaid ddecchreu edifarhau am eu hanwiredd, a dechreu gwaeddi megys y prophwydwyd gan Samuel y prophwyd; canys nis gallai neb gadw ei eiddo, o herwydd y lladron, a’r yspeilwyr, a’r llofruddion, a’r swynyddiaeth, a’r dewiniaeth ag oedd yn y tir. Felly y dechreuodd fod galar ac wylofain yn yr holl dir o herwydd y pethau hyn; ac yn fwy neillduol yn mhlith pobl Nephi. A bu, pan welais i, Mormon, eu wylofain, a’u galar a’u tristwch gerbron yr Arglwydd, fy nghalon a ddechreuodd lawenhau o’m mewn, gan wybod am drugaredd a hir-amynedd yr Arglwydd, a thybied o ganlyniad y buasai efe drugarog tuag atynt, fel y deuant drachefn yn bobl gyfiawn. Eithr wele, fy llawenydd hwn oedd ofer, canys nid oedd eu tristwch er edifeirwch, o herwydd daioni Duw, eithr yn hytrach yn dristwch y damnedig, o herwydd na oddefai yr Arglwydd iddynt ymbleseru yn wastadol mewn pechod. Ac ni ddaethent at yr Iesu gyda chalonau drylliog ac ysbrydoedd edifeiriol, eithr melldithient Dduw, ac a ddymunent farw. Er hyny, hwy a ymdrechent â’r cleddyf am eu bywydau. A bu i’m tristwch ddychwelyd ataf drachefn, ac mi a welais fod dydd gras yn myned heibio gyda hwynt, yn dymmorol ac ysbrydol, canys mi a welais filoedd o honynt yn cael eu tori i lawr mewn rhyfel agored yn erbyn eu Duw, ac yn cael eu pentyru fel tom ar wyneb y tir. Ac felly yr oedd tri chant a phedair mlynedd a deugain wedi myned heibio.

A bu yn y bummed flwyddyn a deugain a thri chant, i’r Nephiaid ddechreu ffoi o flaen y Lamaniaid, ac ymlidiwyd hwynt hyd nes y daethant i dir Jashon, cyn yr oedd yn bosibl eu hattal hwynt yn eu henciliad. Ac yn awr, yr oedd dinas Jashon yn agos i’r tir lle y cuddiodd Ammaron y cof-lyfrau i’r Arglwydd, fel na chaent eu dinystrio. Ac wele, yr oeddwn i wedi myned yn ol gair Ammaron, a chymmeryd llafnau Nephi, ac mi a wnaethym gofnodiad yn ol geiriau Ammaron. Ac ar lafnau Nephi, mi a roddais hanes cyflawn am yr holl ddrygioni a’r ffieidd-dra; eithr ar y llafnau hyn mi a ochelais roddi hanes cyflawn am eu drygioni a’u ffieidd-dra; canys wele, y mae golygfa barhaus o ddrygioni a ffieidd-dra wedi bod o flaen fy llygald er pan eoddwn ddigon mawr i sylwi ar ffyrdd dyn. A gwae fi, oblegid eu drygioni, canys y mae fy nghalon wedi ei llenwi gan dristwch oblegid eu drygioni, trwy fy holl ddyddiau; er hyny, mi a wn y dyrchefir fi yn y dydd diweddaf.

A dygwyddodd yn y flwyddyn hon i bobl Nephi drachefn gael eu hymlid a’u gyru. A bu i ni gael ein gyru yn mlaen hyd nes y daethom yn ogleddol i’r tir yr hwn a elwid Shem. A bu i ni gadarnhau dinas Shem, a chasglu ein pobl i mewn gymmaint ag oedd yn bosibl, fel y gallem ysgatfydd eu hachub hwynt rhag dinystr. A bu yn y chwechfed flwyddyn a deugain a thri chant, iddynt ddechreu dyfod arnom drachefn. A bu i i lefaru wrth fy mhobl, a’u hannog yn egniol iawn, am sefyll yn ddewr o flaen y Lamaniaid, ac ymladd dros eu gwragedd, a’u plant, a’u tai, a’u cartref-leoedd. A’m geiriau a’u cyffrodd hwynt ychydig i fywiogrwydd, yn gymmaint ag na ffoisant o flaen y Lamaniaid, eithr hwy a safasant yn wrol yn eu herbyn hwynt. A bu i ni ymladd â byddin o ddeg mil ar hugain, yn erbyn byddin o hanner can mil. A bu i ni sefyll o’u blaen gyda’r fath ddiysgogrwydd, fel y ffoisant o’n blaen. A bu ar ol iddynt ffoi, i ni eu hymlid hwynt â’n byddinoedd, a’u cyfarfod hwynt drachefn, a’u gorthrechu; er hyny, nid oedd nerth yr Arglwydd gyda ni; ïe, yr oeddym wedi ein gadael wrthym ein hunain, fel nad oedd ysbryd yr Arglwydd yn preswylio ynom; am hyny, yr oeddym wedi myned yn weiniaid, yn gyffelyb i’n brodyr. Ac yr oedd fy nghalon yn ymdristâu o herwydd y drygfyd mawr hwn ar fy mhobl, o herwydd eu drygioni a’u ffieidd-dra. Eithr wele, ni a aethom allan yn erbyn y Lamaniaid, ac yspeilwyr Gadianton, hyd nes yr oeddym drachefn wedi cymmeryd meddiant o diroedd ein hetifeddiaeth. Ac yr oedd y nawfed flwyddyn a deugain a thri chant wedi myned heibio. Ac yn y ddegfed flwyddyn a deugain a thri chant, ni a wnaethom gytundeg â’r Lamaniaid ac yspeilwyr Gadianton, yn mha un y cawsom diroedd ein hetifeddiaeth wedi eu rhanu. A’r Lamaniaid a roddasant i ni y tir yn ogleddol; ïe, hyd y fynedfa gul yr hon a arweiniai i’r tir yn ddeheuol. A ninnau a roddasom i’r Lamaniaid yr holl dir deheuol.

A bu na ddaeth y Lamaniaid i frwydr drachefn hyd nes fod deng mlynedd yn ychwaneg wedi myned heibio. Ac wele yr oeddwn i wedi rhoi fy mhobl, y Nephiaid, ar waith i barotoi eu tiroedd a’u harfau erbyn amser rhyfel. A bu i’r Arglwydd ddywedyd wrthyf, Gwaedda ar y bobl hyn, Edifarhewch, a deuwch ataf fi, a bedyddier chwi, ac adeiladwch drachefn fy eglwys, a chwi a arbedir. Ac mi a waeddais ar y bobl hyn, eithr bu yn ofer, ac ni ddeallasant hwy mai yr Arglwydd a’u harbedodd hwynt, ac a roddodd iddynt gyfleusdra i edifarhau. Ac wele, hwy a galedasant eu calonau yn erbyn yr Arglwydd eu Duw. A bu ar ol i’r ddegfed flwyddyn hon fyned heibio, gan wneuthur, rhwng y cyfan, dri chant a thrugain mlynedd oddiar ddyfodiad Crist, i frenin y Lamaniaid ddanfon epistol ataf, yr hwn a’m hysbysai eu bod hwy yn ymbarotoi i ddyfod drachefn i ryfel yn ein herbyn. A darfu i mi achosi i’m pobl ymgasglu ynghyd yn nhir Anghyfannedd-dra, i ddinas ag oedd ar y cyffiniau, wrth y fynedfa gul a arweiniai i’r tir deheuol. Ac yno y gosodasom ein byddinoedd, fel y rhwystrem y Lamaniaid, fel na chaent feddiant o ddim o’n tiroedd; am hyny, darfu i ni amgaeru yn eu herbyn hwynt â’n holl egni.

A bu yn yr unfed flwyddyn a thrugain a thri chang, i’r Lamaniaid ddyfod i waered i ddinas Anghyfannedd-dra i ryfel, yn ein herbyn ni; a bu yn y flwyddyn hono, i ni eu gorchfygu hwynt, yn gymmaint ag iddynt ddychwelyd drachefn i’w tiroedd eu hunain. Ac yn yr ail flwyddyn a thrugain a thri chant, hwy a ddaethant i waered drachefn i ryfel. Ac ni a’u gorchfygasom hwynt drachefn, ac a laddasom nifer fawr o honynt, a’u meirw a fwriwyd i’r môr. Ac yn awr, o herwydd y peth mawr hwn a wnaeth fy mhobl, y Nephiaid, hwy a ddechreuasant ymffrostio yn eu nerth eu hunain, a dechreu tyngu gerbron y nefoedd, yr ymddialent waed eu brodyr, y rhai a laddwyd gan eu gelynion. A hwy a dyngasant i’r nefoedd, ac hefyd i orsedd Duw, yr aent i fyny i ryfel yn erbyn eu gelynion, a’u tori hwynt ymaith oddiar wyneb y tir.

A bu i mi, Mormon, wrthod yn gwbl o’r pryd hwn allan fod yn llywydd a blaenor ar y bobl hyn, o herwydd eu drygioni a’u ffieidd-dra. Wele, yr oeddwn wedi eu harwain, er eu holl ddrygioni; yr oeddwn wedi eu harwain amryw droion i ryfel, ac wedi eu caru, yn ol cariad Duw yr hwn oedd ynof, â’m holl galon; a’m henaid a gafodd ei dywallt allan mewn gweddi at fy Nuw drostynt, trwy gydol y dydd; etto, yr oedd heb ffydd, o herwydd caledwch eu calonau. A thair gwaith y gwaredais hwynt allan o ddwylaw eu gelynion, ac nid ydynt wedi edifarhau am eu pechodau. Ac wedi iddynt dyngu i’r hyn a waharddwyd iddynt gan ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist, yr elent i fyny at eu gelynion i ryfel, ac ymddial gwaed eu brodyr, wele, llef yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, Dïal sydd eiddof fi, ac mi a ad-dalaf; ac oblegid nad yw y bobl hyn yn edifarhau ar ol i mi eu gwaredu hwynt, wele, hwy a dorir ymaith oddiar wyneb y ddaear. A bu i mi gwbl wrthod myned i fyny yn erbyn fy ngelynion; ac mi a wnaethym megys y gorchymynodd yr Arglwydd i mi; ac mi a safais fel tyst segur i amlygu i’r byd y pethau a welais ac a glywais, yn ol amlygiadau yr ysbryd ag oedd wedi tystiolaethu am bethau i ddyfod. Am hyny, yr wyf yn ysgrifenu atoch chwi, Genedloedd, ac hefyd atoch chwithau, dŷ Israel, pan ddechreuo y gwaith, y byddwch chwi ynghylch parotoi i ddychwelyd i wlad eich etifeddiaeth: ïe, wele, yr wyf yn ysgrifenu at holl derfynau y ddaear; ïe, atoch chwithau, ddeuddeg llwyth Israel, y rhai a gewch eich barnu yn ol eich gweithredoedd, gan y ddeuddeg a ddewisodd yr Iesu i fod yn ddyscyblion iddo yn ngwlad Jerusalem. Ac yr wyf yn ysgrifenu hefyd at weddill y bobl hyn, y rhai hefyd a fernir gan y deuddeg a ddewisodd yr Iesu yn y wlad hon; a hwythau a fernir gan y deuddeg arall a ddewisodd yr Iesu yn ngwlad Jerusalem. A’r pethau hyn y mae yr ysbryd yn eu dangos i mi; am hyny, yr wyf yn ysgrifenu atoch oll. Ac i’r dyben hyn yr wyf yn ysgrifenu atoch, fel y gwypoch fod yn rhaid i chwi oll sefyll gerbron brawdle Crist, ïe, pob enaid ag sydd yn perthyn i holl deulu dynol Adda; a rhaid i chwi sefyll i gael eich barnu am eich gweithredoedd, pa un a fyddont ai da ai drwg; ac hefyd fel y credoch efengyl Iesu Grist, yr hon a gewch yn eich plith; ac hefyd fel y caffo yr Iuddewon, pobl gyfammodol yr Arglwydd, dyst arall heblaw yr hwn a welsant ac a glywsant, mai yr Iesu yr hwn a laddasant, oedd y gwir Grist, a’r gwir Dduw; ac mi a fynwn pe gallwn eich perswadio chwi, holl derfynau y ddaear, i edifarhau a pharotoi i sefyll gerbron brawdle Crist.