Llyfr Ether.
Pennod Ⅰ.
Ac yn awr, yr wyf fi, Moroni, yn myned rhagof i roddi hanes am yr hen drigolion hyny a ddinystriwyd gan law yr Arglwydd ar wyneb y wlad ogleddol hon. Ac yr wyf yn cymmeryd fy hanes allan o’r pedwar llafn ar hugain ag a gafwyd gan bobl Limhi, y rhai a elwir Llyfr Ether. A chan fy mod yn tybied fod y rhan flaenaf o’r cof-lyfr hwn, ag sydd yn llefaru ynghylch creadigaeth y byd, ac hefyd am Adda, ac hanes o’r pryd hwnw hyd y tŵr mawr, a pha bethau bynag a gymmerasant le yn mysg plant dynion hyd y pryd hwnw, i’w chael yn mysg yr Iuddewon; am hyny, nid wyf fi yn ysgrifenu y pethau hyny a gymmerasant le oddiar ddyddiau Adda hyd y pryd hwnw; eithr y maent i’w cael ar y llafnau; a’r hwn a’u caffo hwynt, y cyfryw a gaiff allu i gael yr hanes cyflawn. Eithr wele, nid wyf fi yn rhoddi yr hanes cyflawn, eithr rhan o’r hanes wyf fi yn ei roddi, o’r tŵr i waered hyd nes y dinystriwyd hwynt. Ac yn y modd hyn yr wyf yn rhoddi yr hanes. Y sawl a ysgrifenodd y cof-lyfr hwn oedd Ether, ac yr oedd efe yn ddisgynydd o Coriantor; Coriantor oedd fab Moron, a Moron oedd fab Ethem, ac Ethem oedd fab Ahah, ac Ahah oedd fab Seth, a Seth oedd fab Shiblon, a Shiblon oedd fab Com, a Com oedd fab Coriantum, a Coriantum oedd fab Amnigaddah, ac Amnigaddah oedd fab Aaron, ac Aaron oedd ddisgynydd o Heth, yr hwn oedd fab Hearthom, ac Hearthom oedd fab Lib, a Lib oedd fab Kish, a Kish oedd fab Corum, a Corum oedd fab Lefi, a Lefi oedd fab Kim, a Kim oedd fab Morianton, a Morianton oedd ddisgynydd o Riplakish, a Riplakish oedd fab Shez, a Shez oedd fab Heth, a Heth oedd fab Com, a Com oedd fab Coriantum, a Coriantum oedd fab Emer, ac Emer oedd fab Omer, ac Omer oedd fab Shule, a Shule oedd fab Kib, a Kib oedd fab Orihah, yr hwn oedd fab Jared, yr hwn Jared a ddaeth allan gyda’i frodyr a’u teuluoedd, ynghyd ag ereill a’u teuluoedd, o’r tŵr mawr, yn yr amser ag y cymmysgodd yr Arglwydd iaith y bobl, a thyngu yn ei lid y caent eu gwasgaru ar hyd holl wyneb y ddaear; ac yn ol gair yr Arglwydd y bobl a wasgarwyd. A brawd Jared oedd ddyn mawr a galluog, ac yn ddyn hoff iawn gan yr Arglwydd; canys Jared ei frawd a ddywedodd wrtho, Galw ar yr Arglwydd, na ddyryso ni fel na ddeallom ein geiriau. A bu i frawd Jared alw ar yr Arglwydd, a’r Arglwydd a dosturiodd wrth Jared; am hyny, ni chymmysgodd efe iaith Jared; ac ni ddyryswyd Jared a’i frawd. Yna Jared a ddywedodd wrth ei frawd, Galw drachefn ar yr Arglwydd, a dichon y troa ymaith ei lid oddiwrth y rhai ag ydynt ein cyfeillion, fel na chymmysgo eu hiaith hwythau. A bu i frawd Jared alw ar yr Arglwydd, a’r Arglwydd a dosturiodd wrth eu cyfeillion, a’u teuluoedd hefyd, fel na ddyryswyd hwynt. A bu i Jared lefaru drachefn wrth ei frawd, gan ddywedyd, Dos ac ymofyna â’r Arglwydd pa un a yr efe ni allan o’r wlad, ac os gyra efe ni allan o’r wlad, gofyn iddo pa lo y cawn fyned. A phwy a ŵyr na ddwg yr Arglwydd ni allan i wlad fwy dewisol nâ’r holl ddaear. Ac os mai felly y bydd, gadewch i ni fod yn ffyddlawn i’r Arglwydd, fel y derbyniom hi i ni yn etifeddiaeth.
A bu i frawd Jared alw ar yr Arglwydd yn ol yr hyn a lefarwyd trwy enau Jared. A dygwyddodd i’r Arglwydd wrandaw ar frawd Jared, a thrugarhau wrtho, a dywedyd wrtho, Dos ymaith, a chasgla ynghyd dy ddeadelloedd, yn wrryw a benyw, o bob rhywogaeth; ac hefyd o had y ddaear o bob math, a’th deuluoedd; ac hefyd Jared dy frawd a’i deulu; ac hefyd dy gyfeillion a’u teuluoedd, a chyfeillion Jared a’u teuluoedd. Ac wedi i ti wneuthur hyn, ti a gai eu blaenori hwynt i waered i’r dyffryn, yr hwn sydd yn ogleddol. Ac yno y cyfarfyddaf â thi, ac mi a âf o’th flaen i dir ag sydd yn fwy dewisol nâ holl dir y ddaear. Ac yno y bendithiaf di a’th had, ac y cyfodaf i mi o’th had di, ac o had dy frawd, a’r rhai a gânt fyned gyda thi, genedl fawr. Ac ni fydd un genedl yn fwy nâ’r hon a gyfodaf i mi o’th had di, ar hyd holl wyneb y ddaear. Ac felly y gwnaf i ti, oblegid yr amser hirfaith hwn y gelwaist arnaf.
A bu i Jared, a’i frawd, a’u teuluoedd, ac hefyd gyfeillion Jared a’i frawd a’u teuluoedd, fyned i waered i’r dyffryn ag oedd yn ogleddol (ac enw y dyffryn oedd Nimrod, gan gael ei alw yn ol yr heliwr cadarn), gyda’u deadelloedd y rhai oeddynt wedi casglu ynghyd, yn wrryw a benyw, o bob rhywogaeth. A hwy a osodasant faglau i ddal ehediaid yr awyr, ac hefyd parotoisant lestr, yn yr hwn y dygasant gyda hwynt bysgod y dyfroedd, a hwy hefyd a ddygasant gyda hwynt deseret, yr hyn o’i gyfieithu yw gwenynen; ac felly y dygasant gyda hwynt heidiau o wenyn, a phob math o bethau ag oedd ar wyneb y tir, a hadau o bob math. Ac wedi iddynt ddyfod i waered i ddyffryn Nimrod, yr Arglwydd a ddisgynodd ac a ymddyddanodd â brawd Jared; ac yr oedd efe mewn cwmwl, a brawd Jared nis gwelodd ef. A bu i’r Arglwydd orchymyn iddynt fyned yn mlaen i’r anialwch, ïe, i’r cwr hwnw lle na fu dyn erioed. A bu i’r Arglwydd fyned o’u blaen hwynt, ac ymddyddan â hwynt, tra yn sefyll mewn cwmwl, a rhoddi cyfarwyddiadau iddynt pa le i deithio. A bu iddynt deithio yn yr anialwch, ac adeiladu badau, yn y rhai y croesent lawer o ddyfroedd, gan gael eu cyfarwyddo yn barhaus gan law yr Arglwydd. A’r Arglwydd ni oddefai iddynt aros tu hwnt i’r môr yn yr anialwch, eithr efe a fynai iddynt ddyfod hyd y nod i’r wlad addawedig, yr hon oedd fwy dewisol nâ’r holl diroedd ereill ag a gadwodd yr Arglwydd Dduw i bobl gyfiawn; ac efe a dyngodd yn ei lid wrth frawd Jared, mai pwy bynag a feddiannent y wlad addawedig hon, o’r amser hwnw allan ac yn dragywydd, a gaent ei wasanaethu ef, y gwir a’r unig Dduw, neu ynte yr ysgubid hwynt ymaith pan y deuai cyflawnder ei lid ef arnynt. Ac yn awr, gallwn weled arfaethau Duw ynghylch y wlad hon, ei bod yn wlad addawedig, a pha genedl bynag a’i meddianna, a gânt wasanaethu Duw, neu ynte ysgu ir hwynt ymaith pan ddaw cyflawnder ei lid ef arnynt. Ac y mae cflawnder ei lid ef yn dyfod arnynt pan y byddont hwy wedi addfedu mewn drygioni; canys wele, mae y tir hwn yn ddewisol uwchlaw pob tir arall; am hyny, yr hwn sydd yn ei feddiannu, a gaiff wasanaethu Duw, neu gael ei ysgubo ymaith; canys hyn yw arfaeth dragywyddol Duw. Ac nid hyd nes y delo cyflawnder o anwiredd yn mhlith plant y wlad, yr ysgubir hwynt ymaith. Ac y mae hyn yn dyfod atoch chwi, O Genedloedd, fel y gwypoch arfaethau Duw, fel yr edifarhaoch, ac na pharhaoch yn eich anwireddau hyd nes y delo y cyflawnder, fel na thynoch i waered gyflawnder digofaint Duw arnoch, megys ag y gwnaeth preswylwyr y wlad hyd yn hyn. Wele, hon sydd wlad ddewisol, a pha genedl bynag a’i meddianno, a fydd yn rhydd o gaethiwed, ac oddiwrth bob cenedl arall dan y nef, os bydd iddynt wasanaethu Duw y wlad, yr hwn yw Iesu Grist, yr hwn a amlygwyd trwy y pethau a ysgrifenasom ni. Ac yn awr, yr wyf yn myned rhagddof gyda’m cof-lyfr; canys wele, dygwyddodd i’r Arglwydd ddwyn Jared a’i frodyr allan hyd at y môr mawr ag sydd yn rhanu y tiroedd. A phan ddaethant at y môr, hwy a godasant eu pebyll; a hwy a alwasant enw y lle yn Moriancumer; a hwy a breswylient mewn pebyll; a hwy a breswyliasant mewn pebyll ar làn y môr am yspaid pedair blynedd. A bu yn niwedd y pedair blynedd, i’r Arglwydd ddyfod drachefn at frawd Jared, a sefyll mewn cwmwl, ac ymddyddan ag ef. Ac am yspaid tair awr yr ymddyddanodd yr Arglwydd â brawd Jared, ac y ceryddodd ef o herwydd nad oedd yn cofio galw ar enw yr Arglwydd. A brawd Jared a edifarhaodd am y drwg a wnaethai, ac a alwodd ar enw yr Arglwydd dros ei frodyr oedd gydag ef. A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Mi a faddeuaf i ti a’th frodyr eich pechodau; eithr na phecha mwyach, canys cofia nad amrysona fy ysbryd i â dyn o hyd; am hyny, os pechwch hyd nes y byddwch yn llwyr addfed, chwi a dorir ymaith o bresennoldeb yr Arglwydd. A’r rhai hyn ydynt fy meddyliau i ynghylch y tir a roddaf i chwi yn etifeddiaeth; canys bydd yn dir dewisol uwchlaw pob tir arall. A’r Arglwydd a ddywedodd, Ewch i weithio ac adeiladu, yn ol cynllun y badau a adeiladasoch hyd yma. A bu i frawd Jared fyned i weithio, a’i frodyr hefyd, ac adeiladu badau yn ol y cynllun ag oeddynt wedi adeiladu wrtho, yn ol cyfarwyddiadau yr Arglwydd. Ac yr oeddynt yn fychain, ac yn ysgafn ar y dwfr, ïe, yn gyffelyb i ysgafnder ehediad ar y dwfr; ac yr oeddynt wedi eu hadeiladu mewn modd tra diddos, fel y dalient ddwfr yn gyffelyb i phiol; ac yr oedd eu gwaelod yn ddiddos megys phiol; ac yr oedd eu hŷd yn hŷd pren; ac yr oedd eu drws, pan yn nghau, yn ddiddos, megys phiol. A bu i frawd Jared alw ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, O Arglwydd, mi a gyflawnais y gwaith a orchymynaist i mi, ac a wnaethym y badau megys ag y cyfarwyddaist fi. Ac wele, O Arglwydd, ynddynt nid oes dim goleuni, pa le y cawn gyfeirio. Ac hefyd ni a drengwn, canys ynddynt nis gallwn anadlu, oddieithr yn yr awyr ag sydd ynddynt; am hyny, ni a drengwn. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth frawd Jared, Wele, ti a gai wneuthur twll yn eu pen, ac hefyd yn eu gwaelod; a phan y dyoddefi o eisieu awyr, ti a gai agor eu twll, a derbyn awyr. Ac os dygwydd i’r dwfr ddyfod i mewn arnat, wele, ti a gai gauad eu twll fel na threngot yn y llifeiriant. A bu i frawd Jared wneuthur felly, yn ol fel y gorchymynodd yr Arglwydd. Ac efe a alwodd ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, O Arglwydd, mi a wnaethym megys ag y gorchymynaist i mi; ac mi a barotoais y llongau i’m pobl, ac wele, nid oes dim goleuni ynddynt. Wele, O Arglwydd, a adewi di i ni groesi y dwfr mawr hwn mewn tywyllwch? A’r Arglwydd a ddywedodd wrth frawd Jared. Pa beth a fynech i mi wneuthur fel y galloch gael goleuni yn y llongau? Canys wele, nis gellwch gael ffenestri, canys hwy a falurir yn ddarnau; ac ni chewch gymmeryd tân gyda chwi, canys ni chewch fyned wrth oleuni tân; canys wele, chwi a fyddwch fel morfil yn nghanol y môr; canys y tònau mynyddig a ymdorant arnoch. Er hyny, mi a’ch dygaf i fyny drachefn o ddyfnderau y môr; canys y gwyntoedd a aethant allan o’m genau, ac hefyd y gwlawogydd a’r llif-ddyfroedd a ddanfonais allan. Ac wele, yr wyf yn eich parotoi chwi gyferbyn â’r pethau hyn; canys nis gellwch groesi y dyfnder mawr hwn, oddieithr i mi eich parotoi chwi yn erbyn tònau y môr, a’r gwyntoedd a aethant allan, a’r llifogydd a ddeuant. Gan hyny, pa beth a fynech i mi barotoi i chwi, fel y caffoch oleuni pan fyddoch yn cael eich llyneu yn nyfnderau y môr?
A dygwyddodd i frawd Jared (yn awr nifer y llongau a barotowyd oedd wyth) fyned i’r mynydd, yr hwn a alwent yn fynydd Shelem, o herwydd ei fawr uchder, a naddu allan o graig un ar bymtheg o gergy bychain; ac yr oeddynt yn wynion a chlir, ïe, megys gwydr tryloyw; ac efe a’u cariodd hwynt yn ei ddwylaw i ben y mynydd, ae a alwodd drachefn ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, O Arglwydd, ti a ddywedaist fod yn rhaid i ni gael ein hamgylchynu gan y llifogydd. Yn awr, wele, O Arglwydd, na fydd ddigllawn wrth dy was o herwydd ei wendid ger dy fron; canys ni a wyddom dy fod di yn santaidd, a’th fod yn preswylio yn y nefoedd; a’n bod ni yn annheilwng ger dy fron; oblegid y cwymp, ein natur a aeth yn ddrygionus yn barhaus; er hyny, O Arglwydd, ti a roddaist orchymyn fod yn rhaid i ni alw arnat ti, fel y derbyniom oddiwrthyt yn ol ein dymuniadau. Wele, O Arglwydd, ti a’n tarewaist ni oblegid ein hanwiredd, ac a’n gyraist allan, a thrwy yr amryw flynyddau hyn ni a fuom yn yr anialwch; er hyny, ti a fuost drugarog wrthym. O Arglwydd, edrych arnaf mewn trugaredd, a thro ymaith dy lid oddiwrth y bobl hyn, ac na âd iddynt fyned yn groes i’r dyfnder cynddeiriog hwn mewn tywyllwch, eithr gwel y pethau hyn a naddais i allan o’r graig. Ac mi a wn, O Arglwydd, fod genyt ti bob gallu, ac y gelli wneuthur pa beth bynag a ewyllysi er lles dyn; am hyny, cyffwrdd â’r ceryg hyn, O Arglwydd, â’th fys, a pharotô hwynt fel y llewyrchont allan mewn tywyllwch; a hwy a lewyrchant i ni yn y llongau a barotoisom, fel y caffom oleuni tra fyddom yn croesi y môr. Wele, O Arglwydd, ti a elli wneuthur hyn. Ni a wyddom y gelli di ddangos allan allu mawr, yr hwn a ymddengys yn fychan i ddealltwriaeth dynion. A bu wedi i frawd Jared ddywedyd y geiriau hyn, i’r Arglwydd estyn allan ei law a chyffwrdd â’r ceryg, un ac un, â’i fys: a’r gorchudd a gymmerwyd oddiar lygaid brawd Jared, ac efe a welodd fys yr Arglwydd; ac yr ydoedd megys bys dyn, yn gyffelyb i gig a gwaed; a brawd Jared a syrthiodd i lawr gerbron yr Arglwydd, canys efe a darawyd gan ofn. A’r Arglwydd a welodd fod brawd Jared wedi syrthio i’r ddaear; a’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, paham y syrthiaist? Ac yntau a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Mi a welais fys yr Arglwydd, ac mi a ofnais rhag iddo fy nharaw; canys nis gwyddwn i fod gan yr Arglwydd gig a gwaed. A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, O herwydd dy ffydd ti a welaist y bydd i mi gymmeryd arnaf gig a gwaed; ac ni ddaeth dyn erioed o’m blaen i gyda’r fath ffydd fawr ag sydd genyt ti; canys oni bai felly, nis gallasit fod wedi gweled fy mys. A welaist ti fwy nâ hyn? Ac yntau a atebodd, Naddo, Arglwydd; dangos dy hun i mi. A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, A gredu di y geiriau a lefaraf? Ac yntau a atebodd, Gwnaf, Arglwydd, mi a wn dy fod yn llefaru y gwirionedd, canys Duw y gwirionedd ydwyt, ac nis gelli ddywedyd celwydd. Ac wedi iddo ef ddywedyd y geiriau hyn, wele, yr Arglwydd a ddangosodd ei hun iddo, ac a ddywedodd, O herwydd dy fod yn gwybod y pethau hyn, ti a waredwyd oddiwrth y cwymp; gan hyny, ti a ddygwyd yn ol i’m presennoldeb i; am hyny, yr wyf yn dangos fy hun i ti. Wele, myfi yw yr hwn a barotowyd er seiliad y byd i waredu fy mhobl. Wele, myfi yw Iesu Grist. Myfi yw y Tad a’r Mab. Ynof fi y caiff holl ddynolryw oleuni, a hyny yn dragywyddol, sef y rhai a gredant yn fy enw; a hwy a ddeuant yn feibion ac yn ferched i mi. Ac erioed nis dangosais i fy hun i ddyn yr hwn a greais, canys ni chredodd dyn erioed ynof fel y credaist ti. A weli di dy fod wedi dy greu ar f nelw i? Ië, cafodd pob dyn, yn y dechreuad, eu creu ar fy nelw i? Wele, y corff yma, yr hwn a weli di yn awr, yw corff fy ysbryd; ac mi a greais ddyn yn ol corff fy ysbryd; ac megys yr wyf yn ymddangos i ti fy mod yn yr ysbryd, yr ymddangosaf i’m pobl yn y cnawd.
Ac yn awr, gan i mi, Moroni, ddywedyd nas gallwn roddi hanes cyflawn o’r pethau hyn ag ydynt yn ysgrifenedig, o ganlyniad digon yw i mi ddywedyd, i’r Iesu ddangos ei hu i’r dyn hwn yn yr ysbryd, ar dull ac yn nghyffelybrwydd yr un corff, megys y dangosodd ei hun i’r Nephiaid; ac efe a weinyddodd iddo, megys ag y gweinyddodd i’r Nephiaid; a hyn oll, fel y gwybyddodd y dyn hwn mai Duw ydoedd, o herwydd yr amryw weithredoedd mawrion ag oedd yr Arglwydd wedi ddangos iddo. Ac o herwydd gwybodaeth y dyn hwn, nis gallai gael ei gadw rhag gweled tu fewn i’r llèn; ac efe a welodd fys yr Iesu, yr hwn, pan welodd, efe a syrthiodd o ofn; canys efe a wyddai mai bys yr Arglwydd ydoedd; ac nid oedd ganddo ffydd mwyach, canys efe a wyddai, heb ammau dim; am hyny, gan feddu y wybodaeth berffaith hon o Dduw, nis gellid ei gadw rhag y tu fewn i’r llèn; am hyny, efe a welodd yr Iesu, ac efe a weinyddodd iddo.
A bu i’r Arglwydd ddywedyd wrth frawd Jared, Wele, na adawa i’r pethau hyn y rhai a welaist ac a glywaist, fyned allan i’r byd, hyd nes y delo yr amser y bydd i mi ogoneddu fy enw yn y cnawd; am hyny, trysora y pethau a welaist ac a glywaist, ac na ddangos hwynt i neb. Ac wele, pan ddeui di ataf fi, ti a gai eu hysgrifenu a’u selio i fyny, fel nas gallo neb eu cyfieithu; canys ti a’u hysgrifeni mewn iaith fel nas gellir eu darllen. Ac wele, y ddwy gareg hyn a roddaf i ti, a thi a’u seli hwythau hefyd, gyda’r pethau a ysgrifeni. Canys wele, yr iaith a ysgrifeni di, a gymmysgais; am hyny, mi a achosaf yn fy amser cyfaddas i’r ceryg hyn fawrygu i lygaid dynion, y pethau hyn a gai di eu hysgrifenu. Ac wedi i’r Arglwydd ddywedyd y geiriau hyn, efe a ddangosodd i frawd Jared holl drigolion y ddaear ag oeddynt wedi bod, ac hefyd yr holl rai a fyddent; ac ni chadwodd efe hwynt oddiwrth ei olwg, hyd at derfynau y ddaear; canys yr oedd efe wedi dywedyd wrtho mewn amseroedd blaenorol, os gwnai efe gredu ynddo ef, y gallai ddangos iddo bob peth, y caent eu dangos iddo; am hyny, nis gallai yr Arglwydd gadw dim oddiwrtho ef, canys efe a wyddai y gallai yr Arglwydd ddangos iddo bob peth. A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Ysgrifena y pethau hyn, a selia hwynt i fyny, ac mi a’u dangosaf yn fy amser cyfaddas i blant dynion.
A bu i’r Arglwydd orchymyn iddo selio i fyny y ddwy gareg a dderbyniodd, a pheidio eu dangos, hyd nes y dangosai yr Arglwydd hwynt i blant dynion. A’r Arglwydd a orchymynodd i frawd Jared fyned i lawr o’r mynydd oddiwrth bresennoldeb yr Arglwydd, ac ysgrifenu y pethau a welodd; a gwaharddwyd hwynt i ddyfod at blant dynion, hyd nes y byddai ar ol ei ddyrchafu ef ar y groes; ac o herwydd hyn y cadwodd y brenin Mosiah hwynt, fel na chaent ddyfod at y byd hyd nes y byddai ar ol i Grist ddangos ei hun i’w bobl. Ac ar ol i Grist yn ddiau ddangos ei hun i’w bobl, efe a orchymynodd iddynt gael eu hamlygu. Ac yn awr, ar ol hyny, y maent hwy oll wedi methu mewn anghrediniaeth, ac nid oes neb, oddieithr y Lamaniaid, ac y maent hwy wedi gwrthod efengyl Crist; am hyny, gorchymynir i mi eu cuddio hwynt drachefn yn y ddaear. Wele, mi a ysgrifenais ar y llafnau hyn y pethau a welodd brawd Jared; ac ni chafodd pethau mwy erioed eu hamlygu, na’r hyn a amlygwyd i frawd Jared; am hyny, yr Arglwydd a orchymynodd i mi eu hysgrifenu hwynt; ac mi a’u hysgrifenais hwynt. Ac efe a orchymynodd i mi eu selio hwynt i fyny; ac efe a orchymynodd hefyd i mi selio i fyny eu cyfieithad; am hyny, mi a seliais i fyny y cyfieithwyr, yn ol gorchymyn yr Arglwydd. Canys yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Ni chant fyned allan at y Cenedloedd hyd y dydd yr edifarhant am eu hanwiredd, ac y dueant yn lân gerbron yr Arglwydd; ac yn y dydd yr ymarferont ffydd ynof fi, medd yr Arglwydd, ïe, megys ag y gwnaeth brawd Jared, fel y delont yn santeiddiedig ynof fi, yna yr amlygaf iddynt y pethau a welodd brawd Jared, hyd at egluro iddynt fy holl ddadguddiadau, medd Iesu Grist, Mab Duw, Tad y nefoedd a’r ddaear, a phob peth ag sydd ynddynt. A’r hwn a ymdrecho yn erbyn gair yr Arglwydd, bydded felldigedig; a’r hwn a wado y pethau hyn, bydded felldigedig; canys i’r cyfryw nis dangosaf bethau mwy, medd Iesu Grist, canys myfi yw yr hwn sydd yn llefaru; ac wrth fy nghorchymyn y mae’r nefoedd yn cael ei hagor a’i chau; ac wrth fy ngair, yr ysgydwa y ddaear; ac wrth fy ngorchymyn, yr â ei thrigolion heibio, megys trwy dân; a’r hwn nad yw yn credu fy ngeiriau i, nid yw yn credu fy nyscyblion; ac os nad myfi sydd yn llefaru, bernwch chwi; canys chwi a gewch wybod mai myfi sydd yn llefaru, yn y dydd diweddaf. Eithr yr hwn sydd yn credu y pethau hyn ag wyf wedi lefaru, mi a ymwelaf ag ef ag eglurhad fy ysbryd; ac efe a gaiff wybod a dwyn tystiolaeth. Canys trwy fy ysbryd efe a gaiff wybod fod y pethau hyn yn wir; canys y mae efe yn perswadio dynion i wneuthur daioni; a pha beth bynag sydd yn perswadio dynion i wneuthur daioni, sydd o honof fi; canys nid yw daioni yn dyfod oddiwrth neb, ond oddiwrthyf fi. Myfi yw yr hwn sydd yn arwain dynion i bob daioni; yr hwn ni chreda fy ngeiriau i, nis creda minnau, fy mod; a’r hwn nis creda fi, nis creda y Tad yr hwn a’m danfonodd. Canys wele, myfi yw y Tad, myfi yw goleuni, a bywyd, a gwirionedd y byd. Deuwch ataf fi, O chwi Genedloedd, ac mi a ddangosaf i chwi y pethau mwy, y wybodaeth a guddiwyd o herwydd anghrediniaeth. Deuwch ataf, O chwi dŷ Israel, ac fe eglurir i chwi pa bethau eu maint a drysorodd y Tad er eich mwyn, er seiliad y byd; ac ni ddaethant ataoch chwi, o herwydd anghrediniaeth. Wele, pan rwygoch y llèn hono o anghrediniaeth ag sydd yn achosi i chwi aros yn eich sefyllfa enbyd o ddrygioni a chaledwch calon, a dallineb meddwl, yna y caiff y pethau mawrion a rhyfedd ag ydynt wedi eu cuddio er seiliad y byd oddiwrthych chwi; ïe, pan alwoch ar y Tad yn fy enw i, gyda chalon ddrylliog ac ysbryd edifeiriol, yna y cewch wybod fod y Tad wedi cofio y cyfammod a wnaeth â’ch tadau chwi, O dŷ Israel; ac yna y caiff fy nadguddiadau i, y rhai a achosais i gael eu hysgrifenu gan fy ngwas Ioan, gael eu hegluro yn ngolwg yr holl bobl. Cofiwch, pan weloch y pethau hyn, y gwybyddwch fod yr amser wrth law pan yr amlygir hwynt mewn gwirionedd; am hyny, pan dderbynioch y cof-lyfr hwn, gellwch wybod fod gwaith y Tad wedi dechreu ar holl wyneb y tir. Am hyny, edifarhewch chwi holl derfynau y ddaear, a deuwch ataf fi, a chredwch fy efengyl, a bedyddier chwi yn fy enw; canys y neb a gredo, ac a fedyddier, a fydd cadwedig; eithr y neb ni chredo, a gondemnir; ac arwyddion a ganlynant y rhai a gredant yn fy enw. A gwyn fyd yr hwn a geir yn ffyddlawn i’m henw i, yn y dydd diweddaf, canys efe a ddyrchefir i drigo yn y deyrnas a barotowyd iddo ef er seiliad y byd. Ac wele, myfi sydd wedi ei lefaru. Amen.