Pennod Ⅳ.
Ac yn awr, yr wyf fi, Moroni, yn myned rhagof gyda’m coflyfr. Gan hyny, wele, dygwyddodd trwy gydfwriadau dirgel Akish a’i gyfeillion, iddynt ddadymchwelyd teyrnas Omer; er hyny, yr Arglwydd a fu drugarog wrth Omer, ac hefyd wrth ei feibion a’i ferched, y rhai ni cheisient ei ddinystrio ef. A’r Arglwydd a rybyddiodd Omer mewn breuddwyd am iddo ymadael allan o’r tir; am hyny, Omer a ymadawodd allan o’r tir gyda’i deulu, ac a deithiodd lawer o ddyddiau, ac a ddaeth drosodd gan basio mynydd Shim, a dyfod drosodd i’r man lle y dinystriwyd y Nephiaid, ac oddiyno yn ddwyreiniol; ac efe a ddaeth i le a elwid Ablom, wrth làn y mor, ac yno y cyfododd efe ei babell, ac hefyd ei feibion a’i ferched, a’i holl deulu, oddieithr Jared a’i deulu.
A bu i Jared gael ei eneinnio yn frenin ar y bobl, gan law drygioni; ac efe a roddodd i Akish ei ferch yn wraig. A bu i Akish geisio bywyd ei dad-yn-nghyfraith; ac efe a apeliodd at y rhai hyny a dyngodd efe wrth lw yr henafiaid, a hwy a gawsant ben ei dad-yn-nghyfraith, fel yr oedd yn eistedd ar ei orsedd, yn rhoddi gwrandawiad i’w bobl; canys yr oedd y gymdeithas ddrygionus a dirgelaidd hon wedi ymledaenu gymmaint, nes yr oedd wedi llygru calonau yr holl bobl; gan hyny, llofruddiwyd Jared ar ei orsedd, ac Akish a deyrnasodd yn ei le. A bu i Akish ddechreu fod yn ddrwg-dybus o’i fab; o ganlyniad efe a’i cauodd i fyny mewn carchar, ac a’i cadwodd ar ychydig neu ddim bwyd, hyd nes iddo ddyoddef marwolaeth. Ac yn awr, yr oedd brawd yr hwn a ddyoddefodd farwolaeth (a’i enw ef oedd Nimrah) yn ddigllawn wrth ei dad, oblegid yr hyn a wnaethai ei dad i’w frawd. A bu i Nimrah gasglu ynghyd ychydig nifer o wyr, a ffoi allan o’r tir, a dyfod drosodd a thrigo gydag Omer. A bu i Akish genedlu meibion ereill, a hwy a ennillasant galonau y bobl, er eu bod wedi tyngu wrtho ef y cyflawnent bob math o anwiredd, yn ol yr hyn a ewyllysiai efe. Yn awr, yr oedd pobl Akish yn chwannog o elw, megys ag yr oedd Akish yn chwannog o awdurdod; am hyny, meibion Akish a gynnygiasant arian iddynt, trwy ba fodd y tynasant ymaith y rhan fwyaf o’r bobl ar eu hol; a dechreuodd fod rhyfel rhwng meibion Akish ac Akish, yr hwn a barhaodd am yspaid llawer o flynyddoedd; ïe, hyd ddinystriad braidd holl bobl y deyrnas; ïe, hyd y nod yr oll, oddieithr deg ar hguain o eneidiau, ynghyd â’r rhai a ffoisant gyda thŷ Omer; am hyny, Omer a adferwyd drachefn i dir ei etifeddiaeth. A bu i Omer ddechreu fod yn hen; er hyny, yn ei henaint efe a genedlodd Emer; ac efe a eneinniodd Emer i fod yn frenin i deyrnasu yn ei le ef. Ac wedi iddo eneinnio Emer i fod yn frenin, efe a welodd heddwch yn y tir am yspaid dwy flynedd, ac efe a fu farw, wedi gweled llawer iawn o ddyddiau, y rhai oeddynt yn llawn tristwch. A bu i Emer deyrnasu yn ei le, ac efe a ddilynodd ol traed ei dad. A’r Arglwydd a ddechreuodd drachefn i gymmeryd y felldith oddiar y tir, a thŷ Emer a lwyddiasant yn fawr o dan deyrnasiad Emer; ac mewn yspaid dwy flynedd a thrugain, yr oeddynt wedi dyfod yn gryfion iawn, yn gymmaint ag iddybt fyned yn dra chyfoethog, gan feddu pob math o ffrwyth, ac ŷd, ac o sidan, ac o lian main, ac o aur, ac o arian, ac o bethau gwerthfawr, ac hefyd bob math o anifeiliaid, o ychain, a gwartheg, a defaid, a moch, a geifr, ac hefyd lawer math o anifeiliaid ereill ag oeddynt yn ddefnyddiol er ymborth i ddyn; ac yr oedd ganddynt hefyd geffylau, ac asynod, ac yr oedd elephantiaid, a curelomiaid, a cumomiaid; yr oll o ba rai oeddynt wasanaethgar i ddyn, ac yn fwy neillduol yr elephantiaid, a’r curelomiaid, a’r cumomiaid, Ac felly y tywalltodd yr Arglwydd ei fendithion ar y tir hwn, yr hwn oedd ddewisol uwchlaw pob tir arall; ac efe a orchymynodd fod pwy bynag a feddiannent y tir, i’w feddiannu i’r Arglwydd, neu ynte y caent eu dinystrio pan fyddent wedi addfedu mewn anwiredd; canys ar y cyfryw, medd yr Arglwydd, y tywalltaf allan gyflawnder fy llid. Ac Emer a weinyddodd farn mewn cyfiawnder trwy ei holl ddyddiau, ac efe a genedlodd lawer o feibion a merched; ac efe a genedlodd Coriantum; ac efe a eneinniodd Coriantum i deyrnasu yn ei le. Ac wedi iddo eneinnio Coriantum i deyrnasu yn ei le, efe a fu byw bedair blynedd, ac a welodd heddwch yn y tir; ïe, ac hyd y nod efe a welodd Haul Cyfiawnder, ac a lawenychodd ac a orfoleddodd yn ei ddydd; ac efe a fu farw mewn heddwch. A bu i Coriantum rodio yn llwybrau ei dad, ac adeiladu llawer o ddinasoedd cedyrn, a gweinyddu yr hyn ag oedd yn dda i’w bobl, trwy ei holl ddyddiau. A dygwyddodd na fu iddo ddim plant, hyd nes yr oedd yn dra hen. A bu i’w wraig farw, gan fod yn gant a dwy flwydd oed. A bu i Coriantum gymmeryd merch ieuanc yn wraig, yn ei hen ddyddiau, ac efe a genedlodd feibion a merched; gan hyny, efe a fu byw hyd nes yr oedd yn gant a dwy flwydd a deugain oed. A bu iddo genedlu Com, a Com a deyrnasodd yn ei le; ac efe a deyrnasodd ddeugain a naw o flynyddoedd, ac a genedlodd Heth; ac efe a genedlodd hefyd feibion ereill a merched. Ac yr oedd y bobl etto wedi ymledaenu dros holl wyneb y tir, a dechreuodd drachefn fod drygioni mawr iawn ar wyneb y tir, a dechreuodd heth gofleidio drachefn y cynlluniau dirgelaidd gynt, er dyfetha ei dad. A bu iddo ddiorseddu ei dad; canys efe a’i lladdodd â’i gleddyf ei hun; ac efe a deyrnasodd yn ei le. A daeth prophwydi i’r tir drachefn, yn gwaeddi edifeirwch wrthynt; fod yn rhaid iddynt barotoi ffordd yr Arglwydd, neu ynte y deuai melldith ar wyneb y tir; ïe, byddai newyn mawr, trwy yr hwn y caent eu dyfetha, os na edifarhaent. Ond ni chredodd y bobl eiriau y prophwydi, eithr bwriasant hwynt allan; a rhai o honynt a fwriasant i byllau, ac a’u gadawsant i drengu. A bu iddynt wneuthur yr holl bethau hyn yn ol gorchymyn y brenin Heth. A bu ddechreu fod prinder mawr yn y tir, a’r trigolion a ddechreuasant gael eu dyfetha yn gyflym iawn, o herwydd y prinder, canys nid oedd dim gwlaw ar wyneb y ddaear; a daeth allan seirff gwenwynllyd hefyd ar wyneb y tir, ac a wenwynasant lawer o bobl. A bu i’w deadelloedd ddechreu ffoi o flaen y seirff gwenwynllyd, tua’r tir yn ddeheuol, yr hwn a elwid gan y Nephiaid, Zarahemla. A dygwyddodd i lawer o honynt drengu ar y ffordd; er hyny, yr oedd rhai a ddarfu iddynt ffoi i’r tir yn ddeheuol. A bu i’r Arglwydd achosi i’r seirff beidio eu hymlid yn hwy, eithr am iddynt gau i fyny y ffordd, fel nas gallai y bobl basio; fel y byddai i bwy bynag a gynnygiai basio, syrthio trwy y seirff gwenwynllyd. A bu i’r bobl ganlyn ffordd yr anifeiliaid, a difa ysgerbydau y rhai a syrthient ar y ffordd, hyd nes iddynt eu difa oll. Yn awr, pan welodd y bobl fod yn rhaid iddynt drengu, hwy a ddechreuasant edifarhau am eu hanwireddau, a galw ar yr Arglwydd. A dygwyddodd wedi iddynt ymostwng yn ddigonol gerbron yr Arglwydd, iddo ddanfon gwlaw ar wyneb y ddaear, a’r bobl a ddechreuasant adnewyddu drachefn, a dechreuodd fod ffrwyth yn y gwledydd gogleddol, ac yn yr holl wledydd oddiamgylch. A’r Arglwydd a amlygodd ei allu iddynt, trwy eu cadw hwynt rhag newyn. A bu i Shez, yr hwn oedd ddisgynydd o Heth, canys yr oedd Heth wedi trengu trwy y newyn, ynghyd â’i holl dŷ, oddieithr Shez; ïe, bu i Shez, gan hyny, ddechreu adeiladu i fyny drachefn bobl doredig. A bu i Shez gofio dinystr ei dadau, ac efe a adeiladodd i fyny deyrnas gyfiawn, canys efe a gofiodd yr hyn a wnaeth yr Arglwydd wrth ddwyn Jared a’i frawd yn groes i’r dyfnder; ac efe a rodiodd yn ffyrdd yr Arglwydd, ac a genedlodd feibion a merched. A’i fab henaf, enw yr hwn oedd Shez, a wrthryfelodd yn ei erbyn ef; er hyny, Shez a darawyd gan law yspeiliwr, o herwydd ei fawr gyfoeth, yr hyn a ddygodd heddwch drachefn i’w dad. A bu i’w dad adeiladu llawer o ddinasoedd ar wyneb y tir, a’r bobl a ddechreuasant drachefn wasgaru ar hyd holl wyneb y tir. A Shez a fu byw i oedran mawr iawn; ac efe a genedlodd Riplakish, ac a fu farw. A Riplakish a deyrnasodd yn ei le. A bu na wnaeth Riplakish yr hyn ag oedd yn uniawn yn ngolwg yr Arglwydd, canys yr oedd ganddo lawer o wragedd a gordderch-wragedd, a gosododd ar warau dynion yr hyn ag oedd yn anhawdd ei ddwyn; ïe, efe a’u trethodd hwynt a threthi trymion; ac a’r threthi efe a gyfododd lawer o adeiladau helaeth. Ac efe a wnaeth iddo ei hun orsedd dra ardderchog, ac a adeiladodd lawer o garcharau; a phwy bynag ni ymddarostyngai i’r trethi, a fwriai efe yn ngharchar; a phwy bynag nad oedd yn alluog i dalu trethi, a fwriai efe yn ngharchar; ac efe a achosodd iddynt lafurio yn barhaus er eu cynnaliaeth; a phwy bynag a wrthodai weithio, a achosai efe gael ei osod i farwolaeth; am hyny efe a gawsai ei holl degwaith, ïe, hyd y nod ei aur coeth a achosai efe i gael ei buro yn ngharchar, a phob math o gywreinwaith a achosai efe i gael ei wneuthur yn ngharchar. A bu iddo flino y bobl a’i buteindra a’i ffieidd-dra; ac wedi iddo deyrnasu am ddwy flynedd a deugain, y bobl a gyfodasant mewn gwrthryfel yn ei erbyn ef, a dechreuodd fod rhyfel drachefn yn y tir, yn gymmaint ag i Riplakish gael ei ladd, a’i hiliogaeth ei gyru allan o’r tir.
A bu ar ol yspaid llawer o flynyddau, i Morianton (yr hwn oedd ddisgynydd o Riplakish) gynnull ynghyd fyddin o alltudion, a myned allan i roddi brwydr i’r bobl; ac efe a ennillodd allu dros lawer o ddinasoedd; a’r rhyfel a aeth yn erwin iawn, ac a barhaodd am yspaid llawer o flynyddau, ac efe a ennillodd allu dros yr holl dir, ac a sefydlodd ei hun yn frenin dros yr holl dir. Ac ar ol iddo ef sefydlu ei hun yn frenin, efe a esmwythaodd faich y bobl, trwy yr hyn yr ennillodd ffafr yn ngolwg y bobl, a hwy a’i heneinniasant ef i fod yn frenin arnynt. Ac efe a wnaeth gyfiawnder a’r bobl, ond nid a’i hun, oblegid ei fawr buteindra; am hyny, efe a dorwyd ymaith o bresennoldeb yr Arglwydd. A bu i Morianton adeiladu llawer o ddinasoedd, a’r bobl a ddaethant yn dra chyfoethog o dan ei deyrnasiad, mewn adeiladau, ac mewn aur, ac arian, ac mewn codi yd, ac mewn da, a defaid, a’r cyfryw bethau ag a adferwyd iddynt. A Morianton a fu byw i oedran mawr iawn, ac yna efe a genedlodd Kim; a Kim a deyrnasodd yn lle ei dad; ac efe a deyrnasodd wyth mlynedd, a’i dad a fu farw. A bu na theyrnasodd Kim mewn cyfiawnder, am hyny ni chafodd ffafr gan yr Arglwydd. A’i frawd a gyfododd mewn gwrthryfel yn ei erbyn ef, trwy yr hyn y dygodd ef i gaethiwed; ac efe a arosodd mewn caethiwed trwy ei holl ddyddiau; ac efe a genedlodd feibion a merched mewn caethiwed; ac yn ei henaint efe a genedlodd Lefi, ac a fu farw.
A bu i Lefi wasanaethu mewn caethiwed ar ol marwolaeth ei dad, am yspaid dwy flynedd a deugain. Ac efe a wnaeth ryfel yn erbyn brenin y tir, trwy yr hyn yr ennillodd iddo ei hun y deyrnas. Ac wedi ennill iddo ei hun y deyrnas, efe a wnaeth yr hyn ag oedd yn uniawn yn ngolwg yr Arglwydd; a’r bobl a lwyddiasant yn y tir, ac efe a fu byw i oedran teg, ac a genedlodd feibion a merched; ac efe a genedlodd Corom hefyd, yr hwn a eneinniodd efe yn frenin yn ei le. A bu i Corom wneuthur yr hyn ag oedd yn dda yn ngolwg yr Arglwydd, trwy ei holl ddyddiau; ac efe a genedlodd lawer o feibion a merched; ac ar ol iddo weled llawer o ddyddiau, efe a basiodd heibio, yn gyffelyb i’r lleill o’r ddaear; a Kish a deyrnasodd yn ei le. A bu i Kish basio heibio hefyd, a Lib a deyrnasodd yn ei le yntau. A bu i Lib hefyd wneuthur yr hyn ag oedd yn dda yn ngolwg yr Arglwydd. Ac yn nyddiau Lib cafodd y seirff gwenwynllyd eu dinystrio; am hyny, hwy a aethant i’r tir yn ddeheuol, i hela ymborth i bobl y tir, canys yr oedd y tir wedi ei orchuddio gan anifeiliaid y goedwig. A Lib ei hun hefyd a ddaeth yn helwr mawr. A hwy a adeiladasant ddinas fawr wrth y gwddf-dir cul, ger y fan lle y mae y mor yn rhanu y tir. A hwy a gadwasant y tir yn ddeheuol i fod yn anialwch i gael helwriaeth. Ac yr oedd holl wyneb y tir yn ogleddol wedi ei orchuddio a thrigolion; ac yr oeddynt yn dra diwyd, a hwy a brynent ac a werthent, ac a fasgnachent a’u gilydd, fel y caent elw. A hwy a weithient bob math o fwn, ac a wnaent aur, ac arian, ac haiarn, a phres, a phob math o feteloedd; a hwy a’i cloddient ef allan o’r ddaear; am hyny, hwy a gloddient i fyny grugiau mawrion o bridd er cael mwn aur, ac arian, ac haiarn, a chopr. A hwy a weithient bob math o waith teg. Ac yr oedd ganddynt sidanau, a llian main cyfrodedd; a hwy a weithient bob math o frethyn, fel y dilladent eu hunain rhag eu noethni. A hwy a wnaent bob math o offer i drin y ddaear, i aredig, ac i hau, i fedu, i chwynu, ac hefyd i ddyrnu. A hwy a wnaent bob math o offer a pha rai y gweithient eu hanfeiliaid. A hwy a wnaent bob math o arfau rhyfel. A hwy a weithient bob math o waith o fawr gywreinrwydd. Ac ni allasai byth fod pobl wedi eu bendithio yn fwy na hwy, nac wedi eu llwyddo yn fwy gan law yr Arglwydd. Ac yr oeddynt mewn tir ag oedd yn fwy dewisol na phob tir, canys yr Arglwydd a’i llefarodd. A bu i Lib fyw llawer o flynyddau, ac efe a genedlodd feibion a merched; ac efe a genedlodd Hearthom hefyd. A bu i Hearthom deyrnasu yn lle ei dad. Ac wedi i Hearthom deyrnasu pedair blynedd ar hugain, wele, y deyrnas a gymmerwyd oddi wrtho. Ac efe a wasanaethodd lawer o flynyddau mewn caethiwed; ïe, trwy holl weddill ei ddyddiau. Ac efe a genedlodd Heth, a Heth a fu byw mewn caethiwed trwy ei holl ddyddiau. A Heth a genedlodd Aaron, ac Aaron a drigodd mewn caethiwed trwy ei holl ddyddiau; ac efe a genedlodd Amnigaddah, ac Amnigaddah hefyd a drigodd mewn caethiwed trwy ei holl ddyddiau; ac efe a genedlodd Coriantum, a Coriantum a drigodd mewn caethiwed trwy ei holl ddyddiau; ac efe a genedlodd Com. A bu i Com dynu ymaith hanner y deyrnas. Ac efe a deyrnasodd dros hanner y deyrnas ddwy flynedd a deugain; ac a aeth i ryfel yn erbyn y brenin Amgid, a hwy a ymladdasant am yspaid llawer o flynyddau, yn ystod pa amser Com a ennillodd allu dros Amgid, ac a gafodd awdurdod dros y gweddill o’r deyrnas. Ac yn nyddiau Com dechreuodd fod yspeilwyr yn y tir; a hwy a fabwysiadent yr hen gynlluniau, ac a weinyddent lwon yn ol dull yr henafiaid, ac a geisient drachefn ddinystrio y deyrnas. Yn awr, fe ymladdodd Com lawer yn eu herbyn: er hyny, ni orchfygodd hwynt. A daeth hefyd yn nyddiau Com lawer o brophwydi, a phrophwydo am ddinystr y bobl liosog hyny, os na edifarhaent a dychwelyd at yr Arglwydd, a gadael eu llofruddiaethau a’u drygioni.
A bu i’r prophwydi gael eu gwrthod gan y bobl, a hwy a ffoisant at Com am nodded, canys y bobl a geisient eu dyfetha hwynt; a hwy a brophwydasant wrth Com lawer o bethau; ac efe a fendithiwyd dros holl weddill ei ddyddiau. Ac efe a fu fyw i oedran teg, ac a genedlodd Shiblom; a Shiblom a deyrnasodd yn ei le. A brawd Shiblom a wrthryfelodd yn ei erbyn; a dechreuodd fod rhyfel mawr iawn yn yr holl dir.
A bu i frawd Shiblom achosi i’r holl brophwydi a brophwydent am ddinystr y bobl, gael eu gosod i farwolaeth; ac yr oedd trallod mawr trwy yr holl dir, canys yr oeddynt hwy wedi tystiolaethu y deuai melldith fwy ar y tir, ac hefyd ar y bobl, ac y byddai dinystr mawr yn eu plith hwynt, fy fath ag na fu erioed ar wyneb y ddaear; ac y buasai eu hesgyrn fel twmpathau o bridd ar wyneb y tir, os na edifarhaent am eu drygioni. A hwy ni wrandawent ar lais yr Arglwydd, o herwydd eu cydfwriadau drygionus; am hyny, dechreuodd fod rhyfeloedd ac amrafaelion yn yr holl dir, ac hefyd lawer o newyn a heintiau, yn gymmaint â bod dinystr mawr, y fath ag na fn erioed yn adnabyddus ar wyneb y ddaear, a hyn oll a ddygwyddodd yn nyddiau Shiblom. A’r bobl a ddechreuasant edifarhau am eu hanwiredd; ac yn gymmaint ag y gwnaethant, yr Arglwydd a gymmerodd drugaredd arnynt.
A bu i Shiblom gael ei ladd, ac i Seth gael ei ddwyn i gaethiwed, ac efe a drigodd mewn caethiwed trwy ei holl ddyddiau. A dygwyddodd i Ahah, ei fab, gael y deyrnas; ac efe a deyrnasodd ar y bobl trwy ei holl ddyddiau. Ac efe a weithredodd bob math o anwiredd yn ei oes, trwy yr hyn yr achosodd lawer o dywallt gwaed; ac ychydig fu ei ddyddiau. Ac Ethem, yr hwn oedd yn ddisgynydd o Ahah, a gafodd y deyrnas; ac yntau hefyd a wnaeth yr hyn oedd yn ddrygionus yn ei oes. A dygwyddodd yn nyddiau Ethem, ddyfod llawer o brophwydi a phrophwydo drachefn wrth y bobl; ïe, hwy a brophwydasent y gwnai yr Arglwydd eu llwyr ddyfetha hwynt oddiar wyneb y ddaear, os na edifarhaent am eu hanwireddau. A bu i’r bobl galedu eu calonau, ac ni fynent wrandaw ar eu geiriau; a’r prophwydi a alarent ac a gilient o blith y bobl.
A bu i Ethem weinyddu barn mewn drygioni trwy ei holl ddyddiau; ac efe a genedlodd Moron. A bu i Moron deyrnasu yn ei le; a Moron a weithredodd yr hyn ag oedd yn ddrygionus gerbron yr Arglwydd. A dygwyddodd i wrthryfel gyfodi yn mhlith y bobl, o herwydd y cydfwriad dirgelaidd hwnw a sefydlwyd er cael awdurdod ac elw; a chyfododd dyn galluog mewn drygioni yn eu mysg hwynt, ac a roddodd frwydr i Moron, yn yr hon y dadymchwelodd hanner y deyrnas: ac efe a gadwodd hanner y deyrnas dros amryw flynyddau. A bu i Moron ei ddadymchwelyd ef, ac ennill y deyrnas drachefn. A dygwyddodd i ddyn galluog arall gyfodi; ac yr oedd efe yn ddisgynydd o frawd Jared. A b iddo ef ddadymchwelyd Moron, a chael y deyrnas; gan hyny, Moron a drigodd mewn caethiwed holl weddill ei ddyddiau; ac efe a genedlodd Coriantor.
A dygwyddodd i Coriantor drigo mewn caethiwed trwy ei holl ddyddiau. Ac yn nyddiau Coriantor hefyd daeth llawer o brophwydi, ac a brophwydasant am bethau mawrion a rhyfedd, ac a waeddasant edifeirwch wrth y bobl, ac os na edifarhaent, y gweinyddai yr Arglwydd Dduw farn yn eu herbyn hwynt er eu llwyr ddinystr; ac y byddai i’r Arglwydd Dduw ddanfon neu ddwyn allan bobl arall i feddiannu y wlad, trwy ei allu ef, yn ol y dull y dygodd eu tadau hwy. A hwy a wrthodasant holl eiriau y prophwydi, o herwydd eu cymdeithas ddirgel a’u ffieidd-dra drygionus. A bu i Coriantor genedlu Ether, a marw, wedi trigo mewn caethiwed trwy ei holl ddyddiau.