Pennod Ⅱ.
Ac yn awr, myfi, Moroni, a ysgrifenais y geiriau a orchymynwyd i mi, yn ol fy nghof; ac mi a fynegais i chwi y pethau a seliais i fyny; am hyny, na chyffyrddwch â hwynt, i’r dyben o gyfieithu; canys gwaherddir i chwi y peth hwnw, oddieithr y bydd maes o law yn ddoethineb yn Nuw. Ac wele, chwi a ellwch gael y fraint o ddangos y llafnau i’r rhai hyny a gynnorthwyant i ddwyn y gwaith hwn allan; ac i dri y dangosir hwy trwy allu Duw; gan hyny, hwy a wybyddant mewn sicrwydd fod y pethau hyn yn wir. Ac yn ngenau trio o dystion y bydd y pethau hyn yn safadwy; a thystiolaeth tri, a’r gwaith hwn, yn mha un y dangosir allan allu Duw, ac hefyd ei air, o’r hyn y mae’r Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân yn dwyn tystiolaeth; a chaiff hyn oll sefyll yn dystiolaeth yn erbyn y byd yn y dydd diweddaf. Ac os dygwydd iddynt edifarhau a dyfod at y Tad yn enw yr Iesu, hwy a dderbynir i deyrnas Dduw. Ac yn awr, os nad oes genyf awdurdod dros y pethau hyn, bernwch chwi, canys chwi a gewch wybod fod genyf awdurdod pan y gwelwch fi, ac y cawn sefyll gerbron Duw yn y dydd diweddaf. Amen.