Pennod Ⅲ.
Ac yn awr, yr wyf fi, Moroni, yn myned rhagof i roddi hanes Jared a’i frawd. Canys dygwyddodd ar ol i’r Arglwydd barotoi y ceryg a ddygodd brawd Jared i fyny i’r mynydd, i frawd Jared ddyfod i waered o’r mynydd, a gosod y ceryg yn y llongau a barotoasid, un yn mhob pen o honynt; ac wele, hwy a roddasant oleuni i’r llongau. Ac felly yr achosodd yr Arglwydd i geryg lewyrchu mewn tywyllwch, er rhoddi goleuni i wyr, gwragedd, a phlant, fel na chroesent y dyfroedd mawrion mewn tywyllwch.
A dygwyddodd wedi iddynt barotoi pob math o ymborth, fel trwy hyny y gallent fyw ar y dwfr, ac hefyd ymborth i’w da a’u defaid a pha greadur, neu anifel neu ehediad bynag a gymmerent gyda hwynt, ïe, dygwyddodd wedi iddynt wneuthur yr holl bethau hyn, iddynt fyned i mewn i’w llongau neu fadau, a chychwyn allan i’r môr, gan gyflwyno eu hunain i’r Arglwydd eu Duw. A bu i’r Arglwydd Dduw achosi i wynt angherddol chwythu ar wyneb y dyfroedd, tuag at y wlad addawedig; ac felly y taflwyd hwynt ar dònau y môr o flaen y gwynt. A dygwyddodd eu bod amryw weithiau yn gladdedig yn nyfnderau y môr, o herwydd y tònau y môr o flaen y gwynt. A dygwyddodd eu bod amryw weithiau yn gladdedig yn nyfnderau y môr, o herwydd y tònau mynyddig ag oedd yn ymdori arnynt, ac hefyd y tymhestloedd mawrion a dychrynllyd y rhai a achosid gan enbydrwydd y gwynt.
A bu pan yr oeddynt yn gladdedig yn y dyfnder, nad oedd dim dwfr a allai eu niweidio hwynt, gan fod eu llongau yn ddiddos megys phiol, ac hefyd yn ddiddos megys arach Noah; am hyny, pan oeddynt yn amgylchynedig gan ddyfroedd lawer, hwy a alwasant ar yr Arglwydd, ac efe a’u dygodd hwynt i fyny drachefn i wyneb y dyfroedd. A bu na pheidiodd y gwynt chwythu tua’r wlad addawedig, tra yr oeddynt ar y dyfroedd; ac felly y gyrwyd hwynt rhagddynt o flaen y gwynt; a hwy a ganasant glodydd i’r Arglwydd; ïe, brawd Jared a ganodd glodydd i’r Arglwydd, ac efe a ddiolchodd ac a foliannodd yr Arglwydd trwy gydol y dydd; a phan ddeuai y nos, ni pheidiasant glodfori yr Arglwydd. Ac felly y gyrwyd hwynt rhagddynt; ac ni allai un o anghenfilod y môr dori atynt, nac un morfil eu niweidio; a hwy a gawsant oleuni yn wastadol, pa un bynag ai uwchlaw y dwfr neu o dan y dwfr. Ac felly y gyrwyd hwynt rhagddynt, am dri chang a deugain a phedwar o ddyddiau ar y dwfr; a hwy a diriasant ar draeth y wlad addawedig. Ac wedi iddynt osod eu traed ar draeth y wlad addawedig, hwy a ymgrymasant i lawr ar wyneb tir, ac a ymostyngasant gerbron yr Arglwydd, ac a dywalltasant ddagrau o lawenydd gerbron yr Arglwydd, o herwydd amlder ei dosturiaethau tuag atynt.
A bu iddynt fyned allan ar wyneb y tir, a dechreu llafurio y ddaear. Ac yr oedd gan Jared bedwar o feibion; a hwy a elwid Jacom, a Gilgah, a Mahah, ac Orihah. A brawd Jared hefyd a genedlodd feibion a merched. A chyfeillion Jared a’i frawd, oeddynt mewn rhifedi ynghylch dau ar hugain o eneidiau; a hwythau hefyd a genedlasant feibion a merched, cyn iddynt ddyfod i wlad yr addewid; a chan hyny dechreuasant fod yn llawer. A hwy a ddysgwyd i rodio yn ostyngedig gerbron yr Arglwydd; a dysgwyd hwy hefyd oddi uchod.
A bu iddynt ddechreu ymledaenu ar wyneb y tir, a lliosogi, a llafurio y ddaear; a hwy a gryf hasant yn y tir. A brawd Jared a ddechreuodd heneiddio, a gwelodd fod yn rhaid iddo ar fyrder fyned i lawr i’r bedd; am hyny, efe a ddywedodd wrth Jared, Bydded i ni gasglu ein pobl ynghyd, fel y rhifom hwynt, ac y caffom wybod ganddynt pa beth a ewyllysiont genym cyn yr elom ni i lawr i’n beddau. A’r bobl yn ganlynol a gasglwyd ynghyd. Yn awr, rhifedi meibion a merched brawd Jared oedd ddau ar hugain o eneidiau; a rhifedi meibion a merched Jared oedd ddeuddeg, ac yr oedd ganddo bedwar o feibion. A bu iddynt rifo eu pobl; ac ar ol iddynt eu rhifo, hwy a ddymunent ganddynt y pethau a ewyllysient iddynt eu gwneuthur cyn yr elent i lawr i’w beddau. A bu i’r bobl ddymuno arnynt am eneinnio un o’u meibion i fod yn frenin arnynt. Ac yn awr, wele, yr oedd hyn yn flin ganddynt hwy. Eithr brawd Jared a ddywedodd wrthynt, Diau fod y peth hyn yn arwain i gaethiwed. Ond Jared a ddywedodd wrth ei frawd, Gâd iddynt i gael brenin; ac am hyny, efe a ddywedodd wrthynt, Dewiswch o fysg ein meibion ni frenin, ie, yr hwn a ewyllysioch.
A dygwyddodd iddynt ddewis cyntaf-anedig brawd Jared; a’i enw oedd Pagag. A bu iddo ef wrthod, ac ni fynai fod yn frenin iddynt. A’r bobl a ewyllysient i’w dad ei orfodi ef; eithr nis gwnai ei dad hyny; a gorchymynodd iddynt na orfodent un dyn i fod yn frenin iddynt. A bu iddynt ddewis holl frodyr Pagag, ac nis mynent hwythau fod. A dygwyddodd na fynai meibion Jared ychwaith, ïe, yr oll, oddieithr un; ac Orihah a eneinniwyd i fod yn frenin ar y bobl. Ac efe a ddechreuodd deyrnasu, a’r bobl a ddechreuasant lwyddo; a hwy a ddaethant yn dra chyfoethog. A bu i Jared farw, a’i frawd hefyd. A bu i Orihah rodio yn ostyngedig gerbron yr Arglwydd, a chofio pa bethau eu maint a wnaeth yr Arglwydd i’w dad; ac hefyd efe a ddysgodd ei bobl y fath bethau eu maint a wnaeth yr Arglwydd i’w tadau.
A bu i Orihah weinyddu barn yn y tir mewn cyfiawnder trwy ei holl ddyddiau, y rhai oeddynt lawer iawn. Ac efe a genedlodd feibion a merched; ïe, efe a genedlodd un-ar-ddeg ar hugain, yn mhlith y rhai yr oedd tri ar hugain o feibion. A bu iddo befyd genedlu Kib yn ei henaint. A bu i Kib deyrnasu yn ei le; a Kib a genedlodd Corihor. A phan oedd Corihor yn ddeuddeg mlwydd ar hugain oed, efe a wrthryfelodd yn erbyn ei dad, ac a aeth drosodd ac a drigodd yn nhir Nehor; ac efe a genedlodd feibion a merched; a hwy a ddaethant yn dra theg; am hyny, Corihor a dynodd ymaith lawer o bobl ar ei ol. A phan yr oedd wedi casglu byddin ynghyd, efe a ddaeth i fyny i dir Moron. Lle y preswyliai y brenin, ac a’i cymmerodd ef yn gaeth, yr hyn a ddygodd i ben ddywediad brawd Jared, y dygid hwy i gaethiwed. Yn awr, yr oedd tir Moron, lle y preswyliai y brenin, yn agos i’r tir a elwir Anghyfannedd-dra gan y Nephiaid. A bu i Kib drigo mewn caethiwed, ynghyd â’i bobl, o dan Corihor ei fab, hyd nes ei fyned yn dra hen; er hyny Kib a genedlodd Shule yn ei henaint, tra yr ydoedd etto mewn caethiwed.
A dygwyddodd i Shule fod yn ddigllawn wrth ei frawd; a Shule a gryfhaodd, ac a ddaeth yn alluog, gyda golwg ar nerth dyn; ac yr oedd hefyd yn alluog mewn barn. Am hyny, efe a ddaeth i fynydd Ephraim, ac a gloddiodd fŵn allan o’r mynydd, ac a wnaeth gleddyfau o ddur i’r rhai hyny a dynodd ymaith gydag ef; ac a ol iddo eu harfogi hwynt â chleddyfau, efe a ddychwelodd i ddinas Nehor, ac a roddodd frwydr i’w frawd Corihor, trwy yr hyn foddion efe a ennillodd y deyrnas, ac a’i hadferodd i’w dad Kib. Ac yn awr, o herwydd y peth a wnaethai Shule, ei dad a roddodd y deyrnas iddo ef; o ganlyniad, efe a ddechreuodd deyrnasu yn lle ei dad. A bu iddo weinyddu barn mewn cyfiawnder; ac efe a ledaenodd ei deyrnas ar hyd holl wyneb y tir, canys yr oedd y bobl wedi myned yn dra lliosog. A dygwyddodd i Shule hefyd genedlu llawer o feibion a merched. A Corihor a edifarhaodd am yr amryw ddrygau a wnaethai; am hyny Shule a roddodd iddo awdurdod yn ei deyrnas. A bu i Corihor gael llawer o feibion a merched. Ac yn mhlith meibion Corihor yr oedd un a’i enw Noah.
A bu i Noah wrthryfela yn erbyn Shule, y brenin, ac hefyd ei dad Corihor, a thynu ymaith Cohor ei frawd, ac hefyd ei holl frodyr, a llawer o’r bobl. Ac efe a roddodd frwydr i Shule, y brenin, yn yr hon yr ennillodd efe dir eu hetifeddiaeth gyntaf; ac efe a ddaeth yn rrenin dros y rhan hono o’r wlad. A dygwyddodd roddi brwydr drachefn i Shule, y brenin; ac efe a gymmerodd Shule y brenin, ac a’i dygodd ymaith yn gaeth i Moron. A bu tra yr oedd ef ynghylch ei osod i farwolaeth, i feibion Shule ymlasgo i mewn i d dŷ Noah yn y nos, a’i ladd ef, a thori drws y carchar a dwyn allan eu tad, a’i osod ar ei orsedd yn ei deyrnas ei hun; am hyny, mab Noah a adeiladodd i fyny ei deyrnas yn ei le; er hyny, ni chawsant allu mwyach ar Shule y brenin, a’r bobl ag oeddynt dan deyrnasiad Shule y brenin a lwyddiasant yn ddirfawr ac a gynnyddasant. A’r wlad a gafodd ei rhanu; ac yr oedd dwy deyrnas, teyrnas Shule, a theyrnas Cohor, mab Noah. A Cohor, mab Noah, a achosodd i’w bobl roddi brwydr i Shule, yn yr hon y gorchfygodd Shule hwynt, ac y lladdodd Cohor. Ac yn awr, yr oedd gan Cohor fab yr hwn a elwid Nimrod: a Nimrod a roddodd i fyny deyrnas Cohor i Shule, ac efe a ennillodd ffafr yn ngolwg Shule; am hyny, Shule a’i llwythodd ef â chymmwynasau mawrion, ac efe a wnaeth yn nheyrnas Shule yn ol ei ddymuniadau; ac hefyd yn nheyrnasiad Shule daeth prophwydi yn mysg y bobl, y rhai a ddanfonasid oddiwrth yr Arglwydd, gan brophwydo fod drygioni ac eilun-addoliaeth y bobl yn dwyn melldith ar y tir, ac y caent hwythau eu dinystrio, os na edifarhaent.
A bu i’r bobl ddifenwi y prophwydi, a’u gwatwar hwynt. A bu i Shule weinyddu barn yn erbyn yr holl rai a ddifenwent y prophwydi; ac efe a osododd gyfraith trwy yr holl dir, yr hon a roddai awdurdod i’r prophwydi fyned i ba le bynag yr ewyllysient; a thrwy hyn y dygwyd y bobl i edifeirwch. Ac o herwydd i’r bobl edifarhau am eu hanwireddau a’u heilunaddoliaeth, yr Arglwydd a’u harbedodd hwynt, a dechreuasant lwyddo drachefn yn y tir. A bu i Shule genedlu meibion a merched yn ei henaint. Ac ni fu ychwaneg o ryfeloedd yn nyddiau Shule; ac efe a gofiodd y pethau mawrion a wnaeth yr Arglwydd i’w dadau, trwy eu dwyn hwynt yn groes i’r dyfnder mawr i wlad yr addewid; am hyny, efe a weinyddodd farn mewn cyfiawnder trwy ei holl ddyddiau.
A bu iddo ef genedlu Omer, ac Omer a deyrnasodd yn ei le. Ac Omer a genedlodd Jared; a Jared a genedlodd feibion a merched. A Jared a wrthryfelodd yn erbyn ei dad, ac a ddaeth ac a drigodd yn nhir Heth. A bu iddo hudo llawer o bobl, trwy ei eiriau cyfrwys, hyd nes yr oedd wedi ennill hanner y deyrnas. Ac wedi iddo ennill hanner y deyrnas, efe a roddodd frwydr i’w dad, ac a ddygodd ei dad ymaith i gaethiwed, ac a wnaeth iddo wasanaethu mewn caethiwed. Ac yn awr, yn nyddiau teyrnasiad Omer, yr oedd efe mewn caethiwed hanner ei ddyddiau. A bu iddo genedlu mebion a merched, yn mhlith y rhai yr oedd Esrom a Coriantumr; ac yr oeddynt hwy yn ddigllawn iawn o herwydd gweithrediadau Jared eu brawd, yn gymmaint ag iddynt gyfodi byddin, a rhoddi brwydr i Jared. A u iddynt roddi brwydr iddo yn y nos. A bu wedi iddynt ladd byddin Jared, eu bod ynghylch ei ladd yntau hefyd; ac efe a ymbiliodd â hwynt na laddent ef, ac a addawodd y rhoddai y deyrnas i fyny i’w dad. A bu iddynt ganiatâu iddo ei fywyd. Ac yn awr, Jared a aeth yn drist iawn oblegid colli y deyrnas, canys yr oedd wedi gosod ei galon ar y deyrnas, ac ar ogoniant y byd. Yn awr, merch Jared, gan ei bod yn dra chyfrwys, a chan weled tristwch ei thad, a feddyliodd am ddyfeisio cynllun trwy yr hwn y medrai adferu y deyrnas i’w thad. Yn awr, yr oedd merch Jared yn deg odiaeth. A bu iddi ymddyddan â’i thad, a dywedyd wrtho, Trwy ba beth y mae fy nhad yn cael cymmaint o dristwch? Ai nid yw wedi darllen y cof-lyfr a ddygodd ein tadau yn groes i’r dyfnder mawr? Wele, ai nid oes hanes am y rhai gynt, mai trwy eu cynlluniau dirgel yr ennillent deyrnasoedd a gogoniant mawr? Ac yn awr, gan hyny, danfoned fy nhad am Akish, mab Kimnor; ac wele, yr wyf fi yn deg, ac mi a ddawnsiaf o’i flaen ef, ac mi a’i boddlonaf, fel y chwennycho fi yn wraig; gan hyny, os ewyllysia efe genyt roddi o honot fi yn wraig iddo, yna y dywedi, Mi a’i rhoddaf i ti, os dygi i mi ben fy nhad, y brenin. Ac yn awr, yr oedd Omer yn gyfaill i Akish; am hyny, pan ddanfonodd Jared am Akish, merch Jared a ddawnsiodd o’i flaen ef, nes y boddlonodd ef, yn gymmaint ag iddo ei chwennych hi yn wraig. A bu iddo ddywedyd wrth Jared, Rho hi i mi yn wraig. A Jared a ddywedodd wrtho, Mi a’i rhoddaf i ti, os dygi i mi ben fy nhad, y brenin. A bu i Akish gasglu i mewn i dŷ Jared ei holl berthynasau, a dywedyd wrthynt, A dyngwch chwi i mi y byddwch ffyddlawn i mi yn y peth yr hwn a ddymunaf genych? A bu iddynt oll dyngu wrtho ef, i Dduw y nef, ac hefyd i’r nefoedd, ac hefyd i’r ddaear, ac i’w penau, mai pwy bynag a wyrai oddiwrth y cynnorthwy ag oedd Akish yn ddymuno, a gai golli ei ben; a phwy bynag a ddadguddiai pa beth bynag a wnaeth Akish yn hysbys iddynt, y cyfryw a gai golli ei fywyd. A dygwyddodd mai felly y cytunasant ag Akish. Ac Akish a weinyddodd iddynt y llwon a roddwyd gan y rhai gynt, y rhai hefyd a geisient awdurdod, y rhai a drosglwyddwyd i waered hyd y nod oddiwrth Cain, yr hwn oedd yn llofrudd o’r dechreuad. A hwy a gadwyd i fyny trwy allu y diafol i weinyddu y llwon hyn i’r bobl, er eu cadw hwynt mewn tywyllwch, i gynnorthwyo y cyfryw a geisiant am awdurdod, i gael awdurdod, ac i lofruddio, ac yspeilio, a dywedyd celwydd, a chyflawni pob math o ddrygioni a phuteindra. A merch Jared ddarfu ei osod yn ei galon ef i chwilio allan yr hen bethau hyn; a Jared a’i gosododd yn nghalon Akish; am hyny, Akish a’i gweinyddodd i’w berthynasau a’i gyfeillion, gan eu harwain ymaith trwy addewidion teg i wneuthur pa beth bynag a ewyllysiai efe. A bu iddynt ffurfio cydfwriad dirgelaidd, megys hwynt-hwy gynt; yr hwn gydfwriad yw y mwyaf ffiaidd a drygionus uwchlaw pob peth, yn ngolwg Duw; canys nid yw yr Arglwydd yn gweithio mewn cydfwriadan dirgelaidd, ac nid yw efe yn ewyllysio i ddyn dywallt gwaed, eithr yn mhob peth y gwaharddodd ef, oddiar ddechreuad dyn. Ac yn awr, nid wyf fi, Moroni, yn ysgrifenu dull eu llwon a’u cydfwriadau, canys gwnaethwyd yn adnabyddus i mi eu bod i’w cael yn mhlith pob pobl, ac y maent i’w cael yn mhlith y Lamaniaid, ac y maent wedi achosi dinystr y bobl hyn am ba rai yr wyf yn awr yn llefaru, ac hefyd ddinystr pobl Nephi; a pha genedl bynag a ddaliant i fyny y fath gydfwriadau dirgelaidd, er cael awdurdod ac elw, hyd nes yr ymledaenont trwy y genedl, wele, hwy a ddinystrir, canys ni oddefa yr Arglwydd i waed ei saint, yr hwn a dywelltir ganddynt hwy, waeddi yn wastadol arno ef o’r ddaear am ddialedd arnynt, ac etto ddim yn eu dïal hwynt; am hyny, O chwi Genedloedd, y mae yn ddoethineb yn Nuw fod y pethau hyn yn cael eu dangos i chwi, fel trwy hyny yr edifarhaoch am eich pechodau, ac na adawoch i’r cydfwriadau llofruddiog hyn fyned uwchlaw i chwi, y rhai a gyfodir i fyny er cael awdurdod ac elw, ac i waith, ïe, sef gwaith dinystr ddyfod arnoch; ïe, cleddyf cyfiawnder y Duw tragywyddol a syrthia arnoch, er eich dadymchweliad a’ch dinystr, os goddefwch i’r pethau hyn fod; am hyny, mae yr Arglwydd yn gorchymyn i chwi, pan weloch y pethau hyn yn dyfod i’ch plith, am ddeffroi i deimlad o’ch sefyllfa enbydus, oblegid y cydfwriad dirgelaidd hwn ag a fydd yn eich plith, neu ynte gwae fydd iddo, o achos gwaed y rhai ag ydynt wedi eu lladd; canys hwy a waeddant o’r llwch am ddialedd arno, ac hefyd ar y rhai a’i hadeiladodd i fyny. Canys y mae yn dyfod oddiamgylch fod pwy bynag a’i hadeilado i fyny, yn ceisio dadymchwelyd rhyddid pob tir, cenedl, a gwlad; ac y mae yn dwyn oddiamgylch ddinystr pob pobl, canys y mae wedi ei adeiladu i fyny gan y diafol, yr hwn yw tad pob celwydd; ïe, yr un celwyddog hwnw yr hwn a dwyllodd ein rhieni cyntaf; ïe, yr un celwyddog hwnw yr hwn a achosodd i ddyn gyflawni llofruddiaeth o’r dechreuad; yr hwn sydd wedi caledu calonau dynion, nes y maent wedi llofruddio y prophwydi, a’u llabyddio, a’u bwrw hwynt allan o’r dechreuad. Am hyny, yr wyf fi, Moroni, wedi cael gorchymyn i ysgrifenu y pethau hyn, fel y peidio drygioni, ac fel y delo yr amser pan na chaffo satan awdurdod ar galonau plant dynion, eithr cael o honynt eu perswadio i wneuthur daioni yn wastadol, fel y delont i ffynnon pob cyfiawnder, a bod yn gadwedig.