Scriptures
Ether 6


Pennod Ⅵ.

Ac yn awr, yr wyf fi, Moroni, yn myned rhagof i orphen fy nghof-lyr ynghylch dinystr y bobl am ba rai y bum yn ysgrifenu. Canys wele, hwy a wrthodasant holl eiriau Ether; oblegid yn ddiau efe a fynegodd wrthynt am bob peth, oddiar ddechreuad dyn; ac mai ar ol i’r dyfroedd gilio oddiar wyneb y tir hwn, iddo ddyfod yn dir dewisol uwchlaw pob tir arall, ïe, yn dir dewisol yr Arglwydd; am hyny, yr Arglwydd a fynai i bawb a drigent ar ei wyneb, ei wasanaethu ef; ac mai dyma le y Jerusalem Newydd, yr hon a ddeuai i waered o’r nef, a chyssegr santaidd yr Arglwydd. Wele, Ether a welodd ddyddiau Crist, ac efe a lefarodd am Jerusalem Newydd ar y tir hwn; ac efe a lefarodd hefyd am dŷ Israel, a’r Jerusalem o ba le y deuai Lehi; ac ar ol iddi gael ei dinystrio, hi a gawsai ei hadeiladu drachefn yn ddinas santaidd i’r Arglwydd; am hyny, nis gallai fod yn Jerusalem Newydd, canys yr oedd wedi bod yr amser gynt, eithr hi a gawsai ei hadeiladu drachefn, a dyfod yn ddinas santaidd i’r Artglwydd; a chawsai ei hadeiladu i dŷ Israel; ac y buasai i Jerusalem Newydd gael ei hadeiladu ar y tir hwn, i weddill hâd Joseph, am ba bethau y bu cysgod o honynt; canys megys ag y dygodd Joseph ei dad i waered i wlad yr Aifft, felly y bu efe farw yno; am hyny, yr Arglwydd a ddygodd weddill o had Joseph allan o wlad Jerusalem, fel y byddai drugarog wrth had Joseph, fel na threngent, megys ag y bu efe drugarog wrth dad Joseph, fel na threngodd yntau; am hyny, gweddill tŷ Joseph a gânt eu hadeiladu ar y tir hwn; a chaiff fod yn dir eu hetifeddiaeth; a hwy a gânt adeiladu dinas santaidd i’r Arglwydd, megys y Jerusalem gynt; ac ni chânt eu cywilyddio mwyach, hyd nes delo y diwedd, pan yr â y ddaear heibio. A bydd nefoedd newydd a daear newydd; a hwy a fyddant yn gyffelyb i’r hen, ond yn unig fod yr hen wedi myned heibio, a phob peth wedi dyfod yn newydd. Ac yna y daw y Jerusalem Newydd; a gwyn fyd y rhai sydd yn trigo ynddi, canys hwynt-hwy yw y rhai sydd â’u gwisgoedd yn wynion trwy waed yr Oen; a hwynt-hwy yw y rhai a gyfrifir yn mhlith gweddill had Joseph, y rhai oeddynt o dŷ Israel. Ac yna hefyd y daw y Jerusalem gynt; a gwyn fyd ei phreswylwyr hithau, canys hwy a olchwyd yn ngwaed yr Oen; a hwynt-hwy yw y rhai a wasgarwyd ac a gasglwyd i mewn o bedwar cwr y ddaear, ac o’r gwledydd gogleddol, a’r rhai ydynt yn gyfranogion o gyflawniad y cyfammod a wnaeth Duw â’u tad Abraham. A phan ddelo y pethau hyn, y cyflawnir yr ysgrythyr sydd yn dywedyd. Y rhai a fuont flaenaf, a fyddant olaf; a’r rhai a fuont olaf, a fyddant flaenaf.

Ac yr oeddwn i ynghylch ysgrifenu ychwaneg, eithr mi a waharddwyd; ond mawr a rhyfeddol oedd prophwydoliaethau Ether, eithr cyfrifasant ef megys diddym, a bwriasant ef allan, ac efe a guddiodd ei hun yn ngheudod craig yn y dydd, ac yn y nos efe a aethai allan i sylwi ar y pethau a ddeuai ar y bobl. A phan yr oedd yn preswylio mewn ceudod craig, y gwnaeth weddill y cof-lyfr hwn, gan sylwi ar y dinystriadau a ddaethent ar y bobl yn y nos. A dygwyddodd yn y flwyddyn hono yn mha un y cafodd efe ei fwrw allan o blith y bobl, i ryfel mawr ddechreu bod yn mhlith y bobl, canys yr oedd llawer yn cyfodi ag oeddynt yn wyr galluog, ac yn ceisio dyfetha Coriantumr trwy eu cynlluniau dirgel o ddrygioni, am y rhai y llefarwyd. Ac yn awr, Coriantumr, gan ei fod wedi myfyrio yn holl gelfyddyd rhyfel, a holl gyfrwysdra y byd, a roddodd frwydr i’r rhai hyny a geisient ei ddyfetha ef; eithr ni edifarhaodd ef, nae ychwaith ei brydferth feibion a merched; nac ychwaith brydferth feibion a merched Cohor; nac ychwaith brydfrth feibion a merched Corihor; ac yn fyr, nid oedd neb o’r prydferth feibion a merched ar wyneb yr holl ddaear, ag oedd wedi edifarhau am eu pechodau; am hyny, dygwyddodd yn y flwyddyn gyntaf ag y trigai Ether mewn ceudod craig, fod llaweroedd o bobl yn cael eu lladd trwy gleddyf y dirgel gydfwriadau hyny ag a ymladdent yn erbyn Coriantumr, fel yr ennillent y deyrnas. A bu i feibion Coriantumr ymladd llawer, a gwaedu llawer. Ac yn yr ail flwyddyn, gair yr Arglwydd a ddaeth at Ether, am iddo fyned a phrophwydo wrth Coriantumr, os gwnai efe edifarhau, ynghyd â’i holl deulu, y rhoddai yr Arglwydd y deyrnas iddo, ac arbed y bobl, onide y cawsent hwy eu dinystrio, ynghyd â’i holl deulu ef, oddieithr ei hunan, a chai yntau fyw yn unig i weled cyflawniad y prophwydoliaethau a lefarwyd ynghylch pobl arall yn derbyn y tir yn etifeddiaeth iddynt; a Coriantumr a gai dderbyn ei gladdedigaeth ganddynt hwy; a chawsai pob enaid ei ddyfetha oddieithr Coriantumr. A bu na edifarhaodd Coriantumr, nac ychwaith ei deulu, na’r bobl; ac ni pheidiodd y rhyfeloedd; a hwy a geisiasant ladd Ether, eithr efe a ffôdd rhagddynt, ac a guddiodd ei hun drachefn yn ngheudod y graig. A bu i Shared gyfodi, ac yntau hefyd a roddodd frwydr i Coriantumr; ac efe a’i gorchfygodd ef, yn gymmaint ag iddo yn y drydedd flwyddyn ei ddwyn i gaethiwed. A meibion Coriantumr, yn y bedwaredd flwyddyn, a orchfygasant Shared, ac a ennillasant y deyrnas drachefn i’w tad. Yn awr, dechreuodd fod rhyfel dros holl wyneb y tir, pob gwr â’i lu yn ymladd am yr hyn a ddymunai. Ac yr oedd yspeilwyr, ac yn fyr, bob math o ddrygioni ar wyneb yr holl dir. A dygwyddodd fod Coriantumr yn dra digllawn wrth Shared, ac efe a aeth i’w erbyn ef â’i fyddinoedd, i ryfel; a hwy a gyfarfuasant mewn digter mawr, a hwy a’i cyfarfuasant ef yn nyffryn Gilgal; a’r frwydr a aeth yn erwin iawn. A bu i Shared ymladd yn ei erbyn ef am yspaid tri diwrnod. A bu i Coriantumr ei orchfygu ef, a’i ymlid hyd nes y daeth i wastadedd Heshlon. A bu i Shared roddi brwydr iddo drachefn ar y gwastadedd; ac wele, efe a orchfygodd Coriantumr, ac a’i gyrodd yn ol drachefn i ddyffryn Gilgal. A Coriantumr a roddodd frwydr drachefn i Shared yn nyffryn Gilgal, yn yr hon y gorchfygodd Shared, ac y lladdodd ef. A Coriantumr a glwyfwyd gan Shared yn ei forddwyd, fel nad aeth efe i ryfel drachefn dros yspaid dwy flynedd, yn mha amser yr oedd yr holl bobl ar hyd holl wyneb y tir yn tywallt gwaed, ac nid oedd neb i’w rhwystro hwynt. Ac yn awr, dechreuodd fod melldith fawr ar yr holl dir, oblegid anwiredd y bobl, yn yr hon, os gosodai dyn ei offeryn neu ei gleddyf ar ei astyllen, neu ar y lle yr ewyllysiai ei gadw, wele, dranoeth nis gallai ei gael, gan gymmaint oedd y felldith ar y tir. Am hyny, pob dyn a afaelodd yn yr hyn ag oedd yn eiddo iddo, â’i ddwylaw; ac ni fenthyciai, ac ni roddai fenthyg; a chadwai pob dyn garn ei gleddyf yn ei law ddeheu, er amddiffyn ei eiddo, a’i fywyd ei hun, ac eiddo ei wragedd a’i blant. Ac yn awr, ar ol yspaid dwy flynedd, ac ar ol marwolaeth Shared, wele, cyfododd brawd Shared, ac efe a roddodd frwydr i Coriantumr, yn yr hon y gorchfygodd Coriantumr ef, ac yr ymlidiodd ef hyd anialwch Akish. A bu i frawd Shared roddi brwydr iddo ef yn anialwch Akish; a’r frwydr a aeth yn erwin iawn, a miloedd lawer a syrthiasant drwy y cleddyf. A bu i Coriantumr warchae hyd yr anialwch, a brawd Shared a gychwynodd allan o’r anialwch yn y nos, ac a laddodd ran o fyddin Coriantumr, pan yr oeddynt yn feddw. Ac efe a ddaeth i dir Moron, ac a osododd ei hun ar orsedd Coriantumr. A bu i Coriantumr drigo gyda’i fyddin yn yr anialwch am yspaid dwy flynedd, yn y rhai y derbyniodd efe nerth mawr at ei fyddin. Yn awr, brawd Shared, enw yr hwn oedd Gilead, a dderbyniodd hefyd nerth mawr at ei fyddin yntau, o herwydd dirgel gydfwriadau. A bu i’w archoffeiriad ef ei lofruddio tra yr oedd yn eistedd ar ei orsedd. A dygwyddodd i un o’r dirgel gydfwriad ei lofruddio yntau mewn mynedfa ddirgel, a chael y deyrnas iddo ei hunan; a’i enw ef oedd Lib; a Lib oedd ddyn o faintioli mawr, yn fwy nag un dyn arall yn mhlith yr holl bobl. A bu yn y flwyddyn gyntaf i Lib, ddyfod o Coriantumr i fyny i dir Moron, a rhoddi brwydr i Lib. A bu iddo ymladd â Lib, trwy yr hyn y tarawodd Lib ef ar ei fraich nes ei archolli; er hyny, byddin Coriantumr a wasgodd yn mlaen ar Lib, fel y ffodd i’r cyffiniau wrth làn y môr. A bu i Coriantumr ei ymlid ef; a Lib a roddodd frwydr iddo ar làn y môr. A bu i Lib daraw byddin Coriantumr, fel y ffoisant drachefn i anialwch Akish. A bu i Lib ei ymlid hyd nes y daeth i wastadedd Agosh. Ac yr oedd Coriantumr wedi cymmeryd yr holl bobl gydag ef, pan y ffôdd o flaen Lib yn y cwr hwnw o’r tir lle y ffodd iddo. Ac wedi iddo ddyfod i wastadedd Agosh, efe a roddodd frwydr i Lib, ac a’i tarawodd hyd nes y bu farw; er hyny, brawd Lib a ddaeth yn erbyn Coriantumr yn ei le ef, a’r frwydr a aeth yn erwin iawn, yn yr hon y ffodd Coriantumr drachefn o flaen byddin Lib. Yn awr, gelwid enw breawd Lib yn Shiz. A bu i Shiz ymlid ar ol Coriantumr, a dadymchwelyd llawser o ddinasoedd, ac efe a laddodd wragedd, a phlant, ac a losgodd eu dinasoedd; ac ofn Shiz a aeth trwy yr holl dir; ïe, aeth gwaedd allan trwy yr holl dir, Pwy a all sefyll o flaen byddin Shiz? Wele, y mae yn ysgubo y ddaear o’i flane? A bu i’r bobl ddechreu ymgynnull ynghyd yn fyddinoedd, ar hyd holl wyneb y tir. Ac yr oeddynt yn ranedig, a rhan o honynt a ffodd at fyddin Shiz, a rhan o honynt a ffodd at fyddin Coriantumr. Ac mor fawr a pharhaus a fu y rhyfel, ac mor hir a fu yr olygfa o dywalltiad gwaed a chyflafan, nes yr oedd holl wyneb y tir wedi ei orchuddio â chyrff y meirw; ac mor ffrwst a chyflym oedd y rhyfel, fel na adewid neb i gladdu y meirw, eithr hwy a elent o fod yn tywallt gwaed i dywallt gwaed, gan adael cyrff gwyr, gwragedd, a phlant yn sarnedig ar wyneb y tir, i fyned yn ysglyfaeth i bryf y cnawd; ac yr oedd eu sawyr yn myned ar hyd wyneb y tir, ïe, ar hyd holl wyneb y tir; am hyny, y bobl a fliuid ddydd a nos, o herwydd eu drewdod hwynt; er hyny, ni pheidiodd Shiz ag ymlid Coriantumr, canys yr oedd efe wedi tyngu i ymddial ei hun ar Coriantumr waed ei frawd, yr hwn a laddwyd, ac yr oedd gair yr Arglwydd wedi dyfod at Ether, na chai Coriantumr syrthio trwy y cleddyf. Ac felly gwelwn i’r Arglwydd ymweled â hwynt yn nghyflawnder ei lid, ac yr oedd eu drygioni a’u ffieidd-dra hwy wedi paarotoi ffordd er eu tragywyddol ddinystr. A bu i Shiz ymlid Coriantumr yn ddwyreiniol, hyd at gyffiniau glàn y môr, ac yno efe a roddodd frwydr i Shiz am yspaid tri diwrnod: ac mor ddychrynllyd oedd y dinystr yn mhlith byddinoedd Shiz, fel y dechreuodd y bobl frawychu, a dechreu ffoi o flaen byddinoedd Coriantumr; a hwy a ffoisant i dir Corihor, ac a ysgubasant y trigolion o’u blaen, sef yr holl rai na ymunent â hwynt; a hwy a godasant eu pebyll yn nyffryn Corihor. A Coriantumr a gododd ei bebyll yn nyffryn Shurr. Yn awr, yr oedd dyffryn Shurr yn agos i fynydd Comner; am hyny, Coriantumr a gasglodd ei fyddinoedd ynghyd, ar fynydd Comner, ac a udganodd udgorn i fyddinoedd Shiz, er eu gwahodd allan i frwydr. A bu iddynt ddyfod allan, eithr gyrwyd hwynt drachefn; a hwy a ddaethant yr ail waith; a hwy a yrwyd drachefn yr ail waith. A bu iddynt ddyfod drachefn y drydedd waith, a’r frwydr a aeth yn dra gerwin. A bu i Shiz daraw Coriantumr nes y rhoddodd iddo amryw archollion dyfnion; a Coriantumr, oblegid colli ei waed, a lewygodd, ac a gariwyd ymaith megys pe byddai farw. Yn awr, yr oedd y golled o wyr, gwragedd, a phlant, o bob tu, yn gymmaint fel y gorchymynodd Shiz i’w bobl na ymlidient fyddinoedd Coriantumr; o ganlyniad, hwy a ddychwelasant i’w gwersyll.

A dygwyddodd pan wellhaodd Coriantumr o’i archollion, iddo ddechreu cofio y geiriau a lefarodd Ether wrtho; efe a welodd fod dwy filiwn o’i bobl ef eisoes wedi eu lladd trwy y cleddyf, ac efe a ddechreuodd dristâu yn ei galon; ïe, cafodd dwy filiwn o wyr nerthol eu lladd, ac hefyd eu gwragedd a’u plant. Efe a ddechreuodd edifarhau am y drwg a wnaethai; dechreuodd gofio y geiriau a lefarwyd trwy enau yr holl brophwydi, ac efe a welodd eu bod wedi eu cyflawni, can belled, bob iot; a’i enaid a alarodd, ac a wrthododd gymmeryd ei gysuro. A bu iddo ysgrifenu epistol at Shiz, i ddymuno arno arbed y bobl, ac y rhoddai yntau y deyrnas i fyny er mwyn bywydau y bobl. A dygwyddodd pan dderbyniodd Shiz ei epistol ef, iddo yntau ysgrifenu epistol at Coriantumr, os rhoddai efe ei hun i fyny, fel y gallai ef ei ladd â’i gleddyf ei hun, yr arbedai yntau fywydau y bobl. A bu na edifarhaodd y bobl am eu hanwiredd; a phobl Coriantumr a gyffrowyd i ddigofaint yn erbyn pobl Shiz; ac yr oedd pobl Shiz wedi eu cyffroi i ddigofaint yn erbyn pobl Coriantumr; am hyny, pobl Shiz a rodasant frwydr i bobl Coriantumr. A phan welodd Coriantumr ei fod ef ynghylch syrthio, efe a ffodd drachefn o flaen pobl Shiz. A bu iddo ddyfod hyd ddyfroedd Ripliancum, yr hyn o’i gyfieithu yw mawr, neu mwy na’r cyfan; am hyny, pan ddaethant at y dyfroedd hyn, hwy a godasant eu pebyll; a Shiz hefyd a gododd ei bebyll gerllaw iddynt; ac o ganlyniad, dranoeth hwy a ddaethant i ryfel. A bu iddynt ymladd brwydr enbyd iawn, yn yr hon yr archollwyd Coriantumr drachefn, ac efe a lewygodd oblegid colli gwaed. A bu i fyddinoedd Coriantumr ymwasgu ar fyddinoedd Shiz, nes y gorchfygasant hwynt, ac yr achosasant iddynt i ffoi o’u blaen hwynt; a hwy a ffoisant yn ddeheuol, ac a godasant eu pebyll mewn lle yr hwn a elwid Ogath. A bu i fyddin Coriantumr godi eu pebyll wrth fyuydd Ramah; a’r mynydd hwnw oedd yr hwn y cuddiodd fy nhad y cof-lyfrau i’r Arglwydd, y rhai oeddynt gyssegredig. A bu iddynt gasglu ynghyd yr holl bobl, ar hyd holl wyneb y tir, ag uad oedd wedi eu lladd, oddieithr Ether. A dygwyddodd i Ether ganfod holl weithrediadau y bobl; ac efe a welodd fod y bobl ag oeddynt dros Coriantumr, wedi ymgasglu ynghyd at fyddin Coriantumr; a’r bobl ag oeddynt dros Shiz, wedi ymgasglu ynghyd at fyddin Shiz; am hyny, hwy a fuont am yspaid pedair blynedd yn casglu y bobl ynghyd, fel y gallent gael y cyfan ag oedd ar wyneb y tir, ac fel y gallent dderbyn yr holl nerth ag oedd yn bosibl iddynt allu derbyn. A bu pan yr oeddynt oll wedi ymgasglu ynghyd, pob un at y fyddin a ewyllysiai, gyda’u gwragedd a’u plant; ac yr oedd y gwyr, y gwragedd, a’r plant wedi eu harfogi ag arfau rhyfel, a chanddynt darianau, a dwyfronegau, ac helmau, ac wedi eu dilladu yn ol dull rhyfel;—iddynt gychwyn allan y naill yn erbyn y llall, i ryfel; a hwy a ymladdasant yr holl ddiwrnod hwnw, ac ni orchfygasant. A bu pan yr oedd yn nos, eu bod yn flinedig, a hwy a aethant i’w gwersylloedd; ac ar ol iddynt fyned i’w gwersylloedd, hwy a ddechreuasant ubain ac wylofain oblegid colli lladdedigion eu pobl; ac yr oedd eu hysgrechfeydd, eu hubain, a’u wylofain mor enbyd, nes yr oedd yn rhwygo yr awyr yn ddirfawr. A bu dranoeth iddynt fyned drachefn i frwydr, a mawr ac ofnadwy oedd y dydd hwnw; er hyny, ni orchfygasant, a phan ddaeth y nos drachefn hwy a rwygent yr awyr â’u hysgrechfeydd, a’u hubain, a’u galar, oblegid colli lladdedigion eu pobl.

A bu i Coriantumr drachefn ysgrifenu epistol at Shiz, i ddymuno arno na ddeuai drachefn i frwydr, eithr am iddo gymmeryd y deyrnas, ac arbed bywydau y bobl. Eithr, wele, yr oedd ysbryd yr Arglwydd wedi darfod amryson â hwynt, ac yr oedd satan wedi cael cyflawn awdurdod ar galonau y bobl, canys yr oeddynt wedi ymroddi i fyny i galedwch eu calonau, a dallineb eu meddyliau, fel y dyfethid hwynt; am hyny, hwy a aethant drachefn i ryfel. A bu iddynt ymladd yr holl ddiwrnod hwnw, a phan ddaeth y nos hwy a gysgent ar eu cleddyfau; a thranoeth hwy a ymladdent hyd nes yr aeth yn nos; a phan yr aeth yn nos, yr oeddynt yn feddw gan lidiawgrwydd, megys y mae dyn yn feddw gan win; a hwy a gysgent drachefn ar eu cleddyfau; a thranoeth ymladdent drachefn; a phan yr aeth yn nos, yr oeddynt oll wedi syrthio trwy y cleddyf, oddieithr deuddeg a deugain o bobl Coriantumr, a thrugain a naw o bobl Shiz. A bu iddynt gysgu ar eu cleddyfau y noson hono, a thranoeth ymladdasant drachefn, ac a ymdrechasant â’u holl nerth â’u cleddyfau, ac â’u tarianau, yr holl ddiwrnod hwnw; a phan yr aeth yn nos, yr oedd deuddeg ar hugain o bobl Shiz, a saith ar hugain o bobl Coriantumr. A bu iddynt fwyta a chysgu, ac ymbarotoi i farw dranoeth. Ac yr oeddynt hwy yn ddynion mawrion a nerthol, o ran nerth dynion. A bu iddynt ymladd am yspaid tair awr, a hwy a lewygasant oblegid colli gwaed. A dygwyddodd ar ol i wyr Coriantumr dderbyn digon o nerth, fel y gallent rodio, eu bod ynghylch ffoi am eu bywydau, eithr wele, eyfododd Shiz, a’i wyr hefyd, ac efe a dyngodd yn ei lid y lladdai Coriantumr, neu ynte y trengai ef trwy y cleddyf; gan hyny, efe a’u hymlidiodd hwynt, a thranoeth goddiweddodd hwynt; a hwy a ymladdasant drachefn â’r cleddyf. A bu ar ol iddynt oll syrthio trwy y cleddyf, oddieithr Coriantumr a Shiz, wele, yr oedd Shiz wedi llewygu oblegid colli gwaed. A bu ar ol i Coriantumr bwyso ar ei gleddyf, fel y gorphwysodd ychydig, iddo dori ymaith ben Shiz. A dygwyddodd ar ol iddo dori ymaith ben Shiz, i Shiz gyfodi ar ei ddwylaw a syrthio; ac ar ol iddo ymdrechu am ei anadl, efe a fu farw. A bu i Coriantumr syrthio ar y ddaear, a myned fel pe na fyddai bywyd ynddo. A’r Arglwydd a lefarodd wrth Ether, ac a ddywedodd wrtho, Dos allan. Ac efe a aeth allan, ac a welodd fod geiriau yr Arglwydd wedi cael eu cyflawni oll; ac efe a orphenodd ei gof-lyfr (ac nid wyf fi wedi ysgrifenu y ganfed ran), ac efe a’i cuddiodd mewn modd fel y cafodd pobl Limhi afael ynddo. Yn awr, y geiriau olaf a ysgrifenwyd gan Ether yw y rhai hyn:—Pa un a ewyllysia yr Arglwydd fy nghymmeryd, neu fod i mi ddyoddef ewyllys yr Arglwydd yn y cnawd, nid yw wahaniaeth, os bydd i mi fod yn gadwedig yn nheyrnas Dduw. Amen.