Pennod Ⅴ.
A dygwyddodd fod dyddiau Ether yn nyddiau Coriantumr; ac yr oedd Coriantumr yn frenin ar yr holl dir. Ac Ether oedd yn brophwyd i’r Arglwydd; am hyny, Ether a ddaeth allan yn nyddiau Coriantumr, ac a ddechreuodd brophwydo wrth y bobl, canys ni ellid ei attal o herwydd ysbryd yr Arglwydd yr hwn oedd ynddo; canys efe a waeddai o’r boreu, ïe, hyd fachludiad haul, gan annog y bobl i gredu yn Nuw i edifeirwch, rhag iddynt gael eu dinystrio, gan ddywedyd wrthynt, mai trwy ffydd y mae pob peth yn cael eu cyflawni; gan hyny, yr hwn a gredo yn Nuw, efe a all obeithio mewn sicrwydd am fyd gwell, ïe, hyd y nod am le ar ddeheulaw Duw, yr hwn obaith sydd yn dyfod trwy ffydd, gan fod yn angor i eneidiau dynion, yr hyn a’u gwnai hwynt yn sicr a diymmod, yn helaethion yn wastadol mewn gweithredoedd da, gan gael eu harwain i ogoneddu Duw. A bu i Ether brophwydo pethau mawrion a rhyfedd wrth y bobl; y rhai ni chredent hwy, oblegid nas gwelent hwynt. Ac yn awr, myfi, Moroni, wyf yn ewyllysio llefaru rhywfaint ynghylch y pethau hyn; yr wyf yn ewyllysio dangos i’r byd mai ffydd yw pethau y gobeithir am danynt ac nis gwelir; am hyny, na anmheuwch oblegid nad ydych yn gweled, canys nid ydych yn derbyn tystiolaeth hyd nes ar ol profi eich ffydd, canys trwy ffydd y dangosodd Crist ei hun i’n tadau, wedi iddo adgyfodi oddiwrth y meirw; ac ni ddangosodd efe ei hun iddynt hwy, hyd nes ar ol iddynt gael ffydd ynddo; gan hyny, mae yn rhaid fod ffydd gan rai ynddo, canys ni ddangosodd efe ei hun i’r byd. Eithr o herwydd ffydd dynion, efe a ddangosodd ei hun i’r byd, ac a ogoneddodd enw y Tad, ae a barotôdd ffordd trwy yr hon y gallai ereill fod yn gyfranogion o’r rhodd nefol, fel y gobeithiont am y pethau hyny y rhai nis gwelsant; gan hyny, chwi a ellwch hefyd gael gobaith, a bod yn gyfranogion o’r rhodd, os bydd i chwi gael ond ffydd. Wele, trwy ffydd y cafodd y rhai gynt eu galw yn ol urdd santaidd Duw; am hyny, trwy ffydd y rhoddwyd cyfraith Moses. Eithr yn y rhodd o’i Fab, y mae Duw wedi parotoi ffordd fwy ragorol; a thrwy ffydd y cafodd ei gwneuthur; canys os na fydd ffydd yn mhlith plant dynion, nis gall Duw wneuthur gwyrth yn eu plith hwynt; am hyny, ni ddangosodd efe ei hun hyd nes ar ol cael eu ffydd. Wele, ffydd Alma ac Amulek a achosodd i’r carchar dreiglo i’r llawr. Wele, ffydd Nephi a Lehi a weithredodd y cyfnewidiad yn y Lamaniaid, fel y bedyddiwyd hwynt â thân ac â’r Ysbryd Glân. Wele, ffydd Ammon a’i frodyr, a weithredodd y fath wyrth fawr yn mhlith y Lamaniaid; ïe, a’r holl rai a gyflawnasant wyrthiau, a’u cyflawnasant hwynt trwy ffydd, ïe, y rhai hyny ag oeddynt o flaen Crist, ac hefyd y rhai a fu ar ei ol. A thrwy ffydd y cafodd y tri dyseybl addewid na ohaent brofi marwolaeth; ac ni chawsant yr addewid hyd nes ar ol cael eu ffydd. Ac ni chyflawnodd neb wyrthiau unrhyw bryd, hyd nes ar ol cael eu ffydd; am hyny, hwy a gredent yn gyntaf yn Mab Duw. Ac yr oedd llawer ag oeddynt â’u ffydd mor gryf cyn dyfod Crist, y rhai ni ellid eu cadw rhag tu fewn y llèn, eithr yn ddiau a welsant â’u llygaid y pethau ag oeddynt wedi weled â llygad o ffydd, ac yr oedd yn dda ganddynt. Ac wele, ni a welsom yn y cof-lyfr hwn, mai un o’r rhai hyn oedd brawd Jared; canys yr oedd ei ffydd gymmaint yn Nuw, fel pan estynodd Duw ei fys allan, nas gallai ei guddio o olwg brawd Jared, o herwydd ei air yr hwn oedd wedi lefaru wrtho, yr hwn air a gyrhaeddodd efe trwy ffydd. Ac ar ol i frawd Jared weled bys yr Arglwydd, trwy yr addewid a gafodd brawd Jared trwy ffydd, nis gallai yr Arglwydd gadw dim o’i olwg; am hyny, efe a ddangosodd iddo bob peth, canys nis gallai efe yn hwy gael ei gadw tu allan y llèn. A thrwy ffydd y cafodd fy nhadau yr addewid y deuai y pethau hyn at eu brodyr trwy y Cenedloedd; o ganlyniad, yr Arglwydd a’m gorchymynodd i, ïe, sef Iesu Grist. Ac mi a ddywedais wrtho, Arglwydd, y Cenedloedd a wawdiant y pethau hyn, o herwydd ein gwendid ni yn ysgrifenu, canys gwnaethost ni, Arglwydd, yn alluog mewn gair trwy ffydd, eithr nis gwnaethost ni yn alluog mewn ysgrifen; canys ti a wnaethost yr holl bobl hyn fel y gallent lefaru llawer, o herwydd yr Ysbryd Glân yr hwn a roddaist iddynt; a thi a’n gwnaethost fel na allwn ysgrifenu ond ychydig, o herwydd lledchwithdra efn dwylaw. Wele, nis gwnaethost ni yn alluog mewn ysgrifen fel brawd Jared, canys ti a’i gwnaethost ef hyd nes yr oedd y pethau a ysgrifenodd yn alluog fel tithau, hyd at orchfygu dyn i’w darllen. Ti a wnaethost hefyd ein geiriau ninnau yn nerthol a mawreddog, ïe, fel nas gallem eu hysgrifenu; am hyny, pan yr ysgrifenwn, yr ydym yn gweled ein gwendid, ac yn cyfeiliorni yn nghyflead ein geiriau; ac yr wyf yn ofni rhag i’r Cenedloedd wawdio ein geiriau. Ac wedi i mi ddywedyd hyn, yr Arglwydd a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Ffyliaid a watwarant, eithr hwy a gânt alaru; ac y mae fy ngrâs i yn ddigonol i’r rhai addfwyn, fel na chymmerant fantais ar eich gwendid; ac os daw dynion ataf fi, mi a ddangosaf iddynt eu gwendid hwy. Yr wyf yn rhoddi gwendid i ddynion, fel y byddont ostyngedig; ac y mae fy ngrâs i yn ddigonol i bawb ag ydynt yn ymddarostwng ger fy mron; canys osymddarostyngant ger fy mron i, a meddu ffydd ynof, yna mi a wnaf i bethau gweinion fyned yn gryfion iddynt hwy. Wele, mi a ddangosaf i’r Cenedloedd eu gwendid, ac a ddangosaf iddynt mai ffydd, gobaith, a chariad, sydd yn dwyn ataf fi ffynnonell pob cyfiawnder. A myfi, Moroni, wedi clywed y geiriau hyn, a gysurwyd, ac mi a ddywedais, O, Arglwydd, gwneler dy ewyllys gyfiawn, canys mi a wn dy fod yn gweithredu tuag at blant dynion yn ol eu ffydd; canys brawd Jared a ddywedodd wrth y mynydd Zerin, Symud, ac efe a symudwyd. Ac oni buasai fod ffydd ganddo, ni symudasai; am hyny, yr wyt ti yn gweithredu ar ol i ddynion gael ffydd; canys felly yr amlygaist dy hun i’th ddyscyblion. Canys ar ol iddynt hwy gael ffydd, a llefaru yn dy enw, y dangosaist dy hun iddynt mewn gallu mawr; ac yr wyf fi yn cofio hefyd i ti ddywedyd dy fod wedi parotoi tŷ i ddyn, ïe, sef yn mhlith trigfanau dy Dad, yn yr hwn y gall dyn gael gobaith mwy rhagorol; am hyny, mae yn rhaid i ddyn obeithio, neu ynte ni all dderbyn etifeddiaeth yn y lle a barotöaist ti. A thrachefn, yr wyf yn cofio i ti ddywedyd ddarfod i ti garu y byd, hyd at roddi dy fywyd i lawr dros y byd, fel y cymmerit ef drachefn er parotoi lle i blant dynion. Ac yn awr, mi a wn mai y tosturi hwn ag oedd genyt tuag at blant dynion, yw cariad; am hyny, os na fydd gan ddynion gariad, nis gallant etifeddu y lle a barotoaist ti yn nghrigfanau dy Dad. Am hyny, mi a wn trwy y peth yma yr hyn a ddywedaist, os na fydd gan y Cenedloedd gariad, o herwydd ein gwendid ni, y gwnai di eu profi hwynt, a chymmeryd ymaith en talent, ïe, sef yr hyn a dderbyniasant, a’i roddi i’r rhai a fydd ganddynt yn helaethach.
A bu i mi weddio ar yr Arglwydd, am iddo roddi grâs i’r Cenedloedd, fel y byddai ganddynt gariad. A bu i’r Arglwydd ddywedyd wrthyf, Os na fydd ganddynt gariad. A bu i’r Arglwydd ddywedyd wrthyf, Os na fydd ganddynt gariad, nid yw wahaniaeth i ti, tydi a fuost ffyddlawn; am hyny, dy wisgoedd di a lanheir. Ac oblegid i ti weled dy wendid, ti a wneir yn gryf, hyd at gael eistedd i lawr yn y lle a barotoais i yn nhrigfanau fy Nhad. Ac yn awr, yr wyf fi, Moroni, yn rhoi ffarwel i’r Cenedloedd, ïe, ac hefyd i’m brodyr y rhai wyf yn garu, hyd nes y cyfarfyddom gerbron brawdle Crist, lle y caiff pawb wybod nad yw fy ngwisgoedd wedi eu llychwino â’ch gwaed chwi; ac yna y cewch wybod fy mod i wedi gweled yr Iesu, a’i fod wedi ymddyddan â mi wyneb yn wyneb, ac iddo fynegi wrthyf mewn gostyngeiddrwydd syml, megys y mynega dyn i arall yn fy iaith i fy hun, ynghylch y pethau hyn; ac ychydig yn unig a ysgrifenais, oblegid fy ngwendid mewn ysgrifen. Ac yn awr, mi a’ch cymmeradwywn chwi i geisio yr Iesu hwn, am yr hwn yr ysgrifenodd y prophwydi a’r apostolion, fei y byddo i râs Duw y Tad, ac hefyd yr Arglwydd iesu Grist, a’r Ysbryd Glân, yr hwn a ddwg dystiolaeth am danynt, aros a thrigo gyda chwi yn dragywydd. Amen.