Scriptures
Moroni 10


Pennod Ⅹ.

Yn awr, yr wyf fi, Moroni, yn ysgrifenu rhyw gymmaint megys y gwelwyf yn dda yn fy ngolwg; ac yr wyf yn ysgrifenu at fy mrodyr, y Lamaniaid; ac mi a fynwn iddynt wybod fod mwy nâ phedwar cant ac ugain o flynyddau wedi myned heibio oddiar yr arwydd a roddwyd o ddyfodiad Crist. Ac yr wyf fi yn selio i fyny y cof-ysgrifau hyn, ar ol i mi ysgrifenu ychydig o eiriau mewn ffordd o gynghor i chwi. Wele, mi a’ch cynghorwn chwi, pan fydd i chwi ddarllen y pethau hyn, os bydd yn ddoethineb yn Nuw fod i chwi eu darllen, ar gofio o honoch pa mor drugarog y bu yr Arglwydd tuag at blant dynion, er creadigaeth Adda, i lawr hyd yr amser y cewch dderbyn y pethau hyn, a dwys-ystyried hyny yn eich calonau. A phan Dduw, y Tad tragywyddol, yn enw Crist, os nad yw y pethau hyn yn wir; ac os gydd i chwi ofyn gyda chalon gywir, mewn gwir fwriad, gan feddu ffydd yn Nghrist, efe a eglura y gwirionedd o honynt i chwi, trwy allu yr Ysbryd Glân; a thrwy allu yr Ysbryd Glân chwi a ellwch wybod gwirionedd pob peth. Ac y mae pa beth bynag ag sydd yn dda, yn gyfiawn a chywir; am hyny, nid oes dim ag sydd yn dda yn gwadu y Crist, eithr yn cydnabod ei fod. A chwi a ellwch wybod ei fod, trwy allu yr Ysbryd Glân; am hyny, mi a’ch cynghorwn chwi, na wadoch allu Duw; canys y mae efe yn gweithredu trwy allu, yn ol ffydd plant dynion, yr un fath heddyw, ac y fory, ac yn dragywydd. A thrachefn, mi a’ch cynghorwn chwi, fy mrodyr, na wadoch ddoniau Duw, canys y maent yn llawer; ac y maent yn deillio oddiwrth yr un Duw. Ac y mae y doniau hyn yn cael eu cyfranu mewn gwahanol ffyrdd; eithr yr un yw Duw, yr hwn sydd yn gweithredu pob peth yn mhawb; a hwy a roddir trwy eglurhad ysbryd Duw i ddynion, er eu lleshad. Canys wele, i un, trwy ysbryd Duw, y rhoddir i ddysgu ymadrodd doethineb; ac i arall, i ddysgu ymadrodd gwybodaeth, trwy yr un ysbryd; ac i arall ddirfawr ffydd; ac i arall ddoniau iachâu, trwy yr un ysbryd. A thrachefn, i arall, fel y cyflawno wyrthiau nerthol; a thrachefn, i arall, fel y prophwydo ynghylch pob peth; a thrachefn, i arall, i weled angylion ac ysbrydion gwasanaethgar; a thrachefn, i arall, pob math o dafodau; a thrachefn, i arall, gyfieithad ieithoedd ac amryw dafodau. Ac y mae yr holl roddion hyn yn dyfod trwy ysbryd Crist; ac y maent yn dyfod i bob dyn ar wahan, megys y mae yn ewyllysio. Ac mi a’ch annogwn chwi, fy anwyl frodyr, i gofio fod pob rhodd dda yn dyfod oddiwrth Grist. Ac mi a’ch annogwn chwi, fy anwyl frodyr, i gofio mai yr un yw efe ddoe, heddyw, ac yn dragywydd, ac na fydd ir holl ddoniau hyn y llefarais am danynt, y rhai ydynt ysbrydol, byth gael eu dileu, ïe, cyhyd ag y safo y byd, ond yn ol anghrediniaeth plant dynion. Am hyny, y mae yn rhaid fod ffydd; ac os rhaid fod ffydd, mae yn rhaid hefyd fod gobaith; ac os rhaid fod gobaith, mae yn rhaid hefyd fod cariad; ac oni fydd genych gariad, nis gellwch mewn un modd gael eich achub yn nheyrnas Dduw; ac nis gellwch mewn un modd gael eich achub yn nheyrnas Dduw, oni fydd genych ffydd; ac nis gellwch ychwaith, oni fydd genych obaith; ac os nad oes genych obaith, anghenrhaid yw eich bod mewn anobaith; ac y mae anobaith yn dyfod o herwydd anwiredd. A Christ yn ddiau a ddywedodd wrth ein tadau, Os bydd genych ffydd, chwi a ellwch wneuthur pob peth ag sydd yn fuddiol i mi. Ac yn awr, yr wyf yn llefaru wrth holl derfynau y ddaear, os daw y dydd y dileir gallu a doniau Duw o’ch mysg, o achos anghrediniaeth y bydd. A gwae fydd i blant dynion, os mai felly y bydd; canys ni fydd neb ag sydd yn gwneuthur daioni yn eich mysg, na fydd un. Oblegid os bydd un yn eich mysg yn gwneuthur daioni, efe a weithreda trwy allu a doniau Duw. A gwae y rhai a ddilëant y pethau hyn ac a fyddant farw, canys byddant farw yn eu pechodau, ac nis gellir eu hachub yn nheyrnas Dduw; ac yr wyf yn llefaru hyn yn ol geiriau Crist, ac nid wyf yn dywedyd celwydd. Ac yr wyf yn eich annog i gofio y pethau hyn; canys y mae’r amser yn dyfod ar fyrder y cewch wybod nad wyf fi yn dywedyd celwydd, oblegid chwi a’m gwelwch wrth frawdle Duw, a’r Arglwydd Dduw a ddywed wrthych chwi, Ai ni thraethais i fy ngeiriau wrthych, y rhai a ysgrifenwyd gan y dyn hwn, megys un yn gwaeddi o blith y meriw? ïe, megys un yn llefaru allan o’r llwch? Yr wyf yn traethu y pethau hyn er cyflawni y prophwydoliaethau. Ac wele hwy a ddeuant allan o enau y Duw tragywyddol; a’i air ef a chwibana allan o genedlaeth i genedlaeth. A Duw a ddengys i chwi fod yr hyn a ysgrifenais i yn wirionedd. A thrachefn mi a’ch annogwn chwi i ddyfod at Grist, a dal gafael yn mhob rhodd dda, a pheidio cyffwrdd â’r rhodd ddrwg, na’r peth aflan. A deffro, a chyfod o’r llwch, O Jerusalem; ïe, a gwisg wisgoedddy ogoniant, O ferch Seion, a sicrha dy estynfeydd, ac helaetha dy gyffiniau yn dragywydd, fel na chywilyddier di mwyach, fel y cyflawner cyfammodau y Tad tragywyddol y rhai a wnaeth efe â thi, O dŷ Israel. Ië, deuwch at Grist, a pherffeithier chwi ynddo, ac ymwadwch â phob annuwioldeb; ac os ymwadwch â phob annuwioldeb, a charu Duw â’ch holl allu, meddwl, a nerth, yna digon fydd ei râs ef i chwi, fel trwy ei râs ef y byddwch berffaith yn Nghrist; ac os trwy râs Duw y byddwch berffaith yn Nghrist, nis gellwch mewn un modd wadu gallu Duw. A thrachefn, os byddwch, trwy râs Duw yn berffaith yn Nghrist, ac heb wadu ei allu, yna yr ydych wedi eich santeiddio yn Nghrist trwy râs Duw, trwy dywalltiad gwaed Crist, yr hwn sydd yn nghyfammod y Tad, er maddeuant eich pechodau, fel y byddoch santaidd a difrycheulyd. Ac yn awr yr wyf yn rhoddi ffarwel i chwi oll. Yr wyf yn myned ar fyr i orphwys yn mharadwys Duw, hyd nes yr ail-unir fy ysbryd a’m corff drachefn, ac y dygir minnau allan yn fuddugoliaethus trwy yr awyr, i gyfarfod â chwi gerbron brawdle ddymunol y Jehofah mawr, barnwr tragywyddol y byw a’r meirw. Amen.