Pennod Ⅴ.
Y drefn i weinyddu y gwin. Wele, hwy a gymmerent y cwpan, ac a ddywedent,—O Dduw, y Tad tragywyddol, yr ydym yn deisyf arnat yn enw dy Fab, Iesu Grist, i fendithio a santeiddio y gwin hwn i eneidiau pawb a yfant o hono, fel y byddo iddynt ei wneuthur mewn coffadwriaeth am waed dy Fab, yr hwn a dywalltwyd drostynt hwy; fel y byddo iddynt dystiolaethu i ti, O Dduw, y Tad tragywyddol, eu bod yn wastad yn ei gofio ef, a chael ei ysbryd i fod gyda hwynt. Amen.