Pennod Ⅸ.
Ail Epistol Mormon at ei Fab Moroni.
Fy anwyl fab, yr wyf yn ysgrifenu atat drachefn, fel y gwypot fy mod i etto yn fyw; eithr yr wyf yn ysgrifenu yr hyn ag sydd rywfaint yn ofidus. Canys wele, yr wyf wedi cael brwydr enbyd â’r Lamaniaid, yn yr hon ni orchfygasom ni; ac y mae Archeantus wedi syrthio trwy y cleddyf, ac hefyd Luram ac Emron; ïe, ac yr ydym wedi colli nifer fawr o’n gwyr dewisol. Ac yn awr, wele, fy mab, ofnwyf rhag y bydd i’r Lamaniaid ddyfetha y bobl hyn, canys nid ydynt yn edifarhau, ac y mae satan yn eu cyffroi hwynt i ddigofaint yn wastadol, y naill yn erbyn y llall. Wele, yr wyf fi yn llafurio gyda hwynt yn barhaus; a phan yr wyf yn llefaru gair Duw gyda llymdra, y maent yn crynu ac yn digio wrthyf; a phan na arferwyf lymdra, hwy a galedant eu calonau yn ei erbyn; am hyny, ofnwyf rhag fod ysbryd yr Arglwydd wedi darfod amryson â hwynt. Canys y maent yn digio mor enbyd, nes yr ymddengys i mi nad oes ynddynt ofn marwolaeth; ac y maent wedi colli eu cariad, y naill tuag at y llall; ac y maent yn sychedu am waed ac ymddial yn barhaus. Ac yn awr, fy anwyl fab, er eu holl galedwch, bydded i ni lafurio yn ddyfal; canys pe peidiem lafurio, ni a ddygid dan gondemniad; o herwydd y mae genym waith i’w gyflawni tra yn y tabernacl hwn o glai, fel y gorchfygom elyn pob cyfiawnder, a gorphwys ein heneidiau yn nheyrnas Dduw.
Ac yn awr, yr wyf yn ysgrifenu rhywfaint ynghylch dyoddefiadau y bobl hyn. Canys yn ol yr hysbysiaeth a dderbyniais oddiwrth Amoron, wele, mae gan y Lamaniaid lawer o garcharorion, y rhai a gymmerasant o dwr Sherrizah; ac yr oedd ganddynt wyr, gwragedd, a phlant. A gwyr priod a thadau y gwragedd a’r plant hyny a laddasant; ac ymborthant y gwragedd â chnawd eu gwyr, a’r plant a chnawd eu tadau, ac ni roddant iddynt ddim dwfr, ond rhyw ychydig. Ac er y ffieidd-dra mawr hwn o eiddo y Lamaniaid, nid yw yn fwy nag eiddo pobl ein hunain yn Moriantum. Oblegid, wele, llawer o ferched y Lamaniaid a gymmerasant hwy yn garcharorion; ac ar ol eu hamddifadu o’r hyn oedd fwyaf anwyl a gwerthfawr uwchlaw pob peth, yr hyn yw diweirdeb a rhinwedd; ac ar ol iddynt wneyd hyny, lladdasant hwynt yn y modd mwyaf creulawn, gan boenydio eu cyrff hyd farw; ac ar ol iddynt wneyd felly, llarpiant eu cnawd fel creaduriaid gwylltion, o herwydd caledwch eu calonau; a gwnant hyny fel arwydd o wroldeb. O, fy anwyl fab, pa fodd y gall pobl fel y rhai hyn, ag sydd heb wareiddiad—(ac ond ychydig flynyddau sydd er pan oeddynt yn bobl foesol ac hyfrydol)—ond, O, fy mab, pa fodd y gall pobl fel hyn, y rhai a ymhyfrydant mewn cymmaint o ffieidd-dra—pa fodd y gallwn ddysgwyl yr ettyl Duw ei law mewn barn yn ein herbyn? Wele, mae fy nghalon yn cyhoeddi gwae uwchben y bobl hyn. Tyred allan mewn barn, O Dduw, a chuddia eu pechodau, a’u drygioni, a’u ffieidd-dra oddiwrth dy wyneb. A thrachefn, fy mab, y mae llawer o wragedd gweddwon a’u merched yn aros yn Sherrizah; a’r gyfran hono o’r lluniaeth na chymmarodd y Lamaniaid ymaith, wele, cymmerwyd hi ymaith gan fyddin Zenephi, ac a’u gadawsant hwythau i grwydro i ba le bynag y gallent am ymborth; ac y mae llawer o hen wragedd yn llewygu ar y ffordd ac yn marw. Ac y mae y fyddin sydd gyda mi yn wan; ac y mae byddinoedd y Lamaniaid rhwng Sherrizah a minnau; ac y mae cynnifer ag sydd wedi ffoi at fyddin Aaron, wedi syrthio yn ysglyfaeth i’w creulondeb erchyll. O lygredigaeth fy mhobl! Y manet heb drefn ac heb drugaredd. Wele, nid wyf fi ond dyn, ac nid oes genyf ond nerth dyn, ac nis gallaf yn hwy ddirgymhell fy nghorchymynion; ac y maent hwythau wedi ymgryfhau yn eu gwyrdrawsedd; ac y maent yr un mor greulawn, heb arbed neb, hen nac ieuanc; ac y maent yn ymhyfrydu yn mhob peth ond yn yr hyn sydd dda; ac y mae dyoddefiadau ein gwragedd a’n plant ar hyd holl wyneb y tir hwn, tu hwnt i bob peth; ïe, nis gall tafod eu traethu, ac nis gellir eu hysgrifenu. Ac yn awr, fy mab, nid wyf yn ymhelaethu yn hwy ar yr olygfa ddychrynllyd hon. Wele, ti a adwaenost ddrygioni y bobl hyn; ti a wyddost eu bod yn ddiegwyddor ac yn ddideimlad; ac y mae eu drygioni yn fwy nag eiddo y Lamaniaid. Wele, fy mab, nis gallaf fi eu gorchymyn hwynt i Dduw, rhag iddo fy nharaw. Eithr wele, fy mab, yr wyf yn dy orchymyn di i Dduw, ac yr wyf yn hyderu yn Nghrist y byddi yn gadwedig; ac yr wyf yn gweddio ar Dduw y bydd iddo arbed dy fywyd, i weled dychweliad ei bobl ato, neu eu llwyr ddinystr; canys mi a wn y rhaid iddynt drengu, oddieithr iddynt edifarhau a dychwelyd ato ef; ac os trengant, cyffelyb fyddant i’r Jarediaid, o herwydd penderfynolrwydd eu calon, yn ymgeisio am waed ac ymddial. Ac os dygwydda y trengant, ni a wyddom fod llawer o’n brodyr wedi ymneillduo at y Lamaniaid, a llawer yn ychwaneg hefyd a ymneillduant atynt etto; am hyny, ysgrifena ryw ychydig o bethau, os arbedir di; a myfi a drengaf ac nis gwelaf di; eithr yr wyf yn hyderu cael dy weled yn fuan; canys y mae genyf gof-lyfrau cyssegredig ag wyf yn ewyllysio eu cyflwyno i ti. Fy mab, bydd ffyddlawn yn Nghrist; ac na fydded i’r pethau a ysgrifenais dy ofidio, a’th orlwytho i farwolaeth, eithr dyrchafed Crist ti i fyny, a bydded i’w ddyoddefiadau a’i farwolaeth ef, ac ymddangosiad ei gorff i’n tadau, a’i drugaredd a’i hir-ymaros, a gobaith ei ogoniant, a bywyd tragywydddol, aros yn dy feddwi yn dragywydd. A boed i râs Duw y Tad, yr hwn sydd â’i orsedd yn ddyrchafedig yn y nefoedd, a’n Harglwydd Iesu Grist, yr hwn sydd yn eistedd ar ddeheulaw ei allu, hyd nes y darostynger pob peth iddo, drigo a bod gyda chwi yn dragywydd. Amen.