Pennod Ⅱ.
Geiriau Crist, y rhai a lefarodd wrth ei ddyseyblion, y deuddeg y rhai a ddewisodd, pan yr oedd yn gosod ei ddwylaw arnynt. Ac efe a’u galwodd hwynt wrth eu henw, an ddywedyd, Chwi a gewch alw ar y Tad yn fy enw i, mewn gweddi nerthol; ac ar ol i chwi wneuthur hyn, chwi a gewch awdurdod fel ar y sawl y gosodoch eich dwylaw, y cewch roddi yr Ysbryd Glân; ac yn fy enw i y cewch ei roddi, canys felly y gwna fy apostolion i. Yn awr, y geiriau hyn a lefarodd Crist wrthynt yn amser ei ymddangosiad cyntaf; ac nis clywodd y dyrfa ef, eithr y dyscyblion a’i clywsant; ac ar gynnifer ag y gosodasant hwy eu dwylaw, y syrthiodd yr Ysbryd Glân.