Scriptures
Moroni 8


Pennod Ⅷ.

Epistol o eiddo fy nhad Mormon, wedi ei ysgrifenu ataf fi, Moroni; ac ysgrifenwyd ef ataf yn fuan ar ol fy ngalw i’r weinidogaeth. Ac yn y modd hyn yr ysgrifenodd ataf, gan ddywedyd, Fy anwyl fab Moroni, yr wyf yn gorfoleddu yn fawr fod dy Arglwydd Iesu Grist wedi gofalu am danat, ac wedi dy alw i’w weinidogaeth, ac at ei waith santaidd. Yr wyf yn cofio am danat ti yn wastadol yn fy ngweddiau, gan ddeisyf yn barhaus ar Dduw y Tad, yn enw ei blentyn santaidd Iesu, am iddo ef, o’i anfeidrol ddaioni a’i râs, dy gadw trwy barhad ffydd yn ei enw hyd y diwedd.

Ac yn awr, fy mab, yr wyf yn llefaru wrthyt ynghylch yr hyn ag sydd yn fy mlino i yn fawr; canys y mae yn flin genyf fod dadleuon yn cyfodi yn eich plith. Canys os wyf fi wedi clywed y gwirionedd, y mae dadleuon wedi bod yn eich plith chwi ynghylch bedyddio eich plant bychain. Ac yn awr, fy mab, mi a fynwn i ti lafurio yn ddyfal, fel y symuder y cyfeiliornad gwrthun hwn o’ch plith; canys i’r dyben yma yr ysgrifenais yr epistol hwn. Canys yn uniongyrchol wedi i mi glywed y pethau hyn gyda thi, mi a ymofynais â’r Arglwydd ynghylch y mater. A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf trwy allu yr Ysbryd Glân, gan ddywedyd, Gwrandaw ar eirlau Crist, dy Waredwr, dy Arglwydd, a’th Dduw. Wele, ni ddaethym i i’r byd i alw y rhai cyfiawn, eithr pechaduriaid i edifeirwch; ni raid i’r rhai iach wrth feddyg, ond i’r rhai cleifion; am hyny, y mae plant bychain yn iach, canys nid ydynt yn abl i gyflawni pechod; o ganlyniad, melldith Adda a gymmerwyd oddiwrthynt ynof fi, fel nad oes ganddi awdurdod arnynt; ac y mae cyfraith yr enwaediad wedi ei diddymu ynof fi. Ac yn y modd hyn yr eglurodd yr Ysbryd Glân air Duw i mi; am hyny, fy anwyi fab, mi a wn mai gwawd ofnadwy gerbron Duw, yw i chwi fedyddio plant bychain. Wele, yr wyf yn dywedyd wrthych, y peth hyn a ddysgwch chwi, edifeirwch a bedydd i’r rhai hyny ag ydynt yn gyfrifol ac yn alluog i gyflawni pechod; ïe, dysgwch rieni fod yn rhaid iddynt edifarhau a chael eu bedyddio, ac ymostwng megys eu plant bychain, a hwy a achubir oll gyda’u plant bychain; ac nid oes ar eu plant bychain eisieu edifeirwch, na bedydd. Wele, bedydd sydd i edifeirwch i gyflawniad y gorchymynion er maddeuant pechodau. Eithr y mae plant bychain yn fyw yn Nghrist, ïe, er seiliad y byd; pe nid felly, buasai Duw yn Dduw pleidiol, ac hefyd yn Dduw cyfnewidiol, ac yn dderbyniwr wyneb; canys pa gynnifer o blant bychain sydd wedi marw heb fedydd. Am hyny, os na allai plant bychain gael eu hachub heb fedydd, mae yn rhaid eu bod wedi myned i uffern ddiddarfod. Wele, meddaf wrthych, mae yr hwn sydd yn tybied fod ar blant bychain eisieu bedydd, mewn bustl chwerwder, ac mewn rhwymau anwiredd; canys nid oes ganddo ffydd, gobaith, na chariad; am hyny, pe cai efe ei dori ymaith tra yn meddwl hyny, rhaid fuasai ei fyned i lawr i uffern. Canys erchyll yw y drygioni o feddwl fod Duw yn achub un plentyn o herwydd bedydd, a bod rhaid i’r llall drengu o herwydd na chafodd fedydd. Gwae y sawl a wyrdroant ffyrdd yr Arglwydd yn y modd hyn, canys hwy a gânt drengu, os na edifarhant. Wele, yr wyf fi yn llefru gydag eofndra, gan fod genyf awdurdod oddiwrth Dduw; ac nid wyf yn ofni pa beth a wnel dyn; canys y mae perffaith gariad yn bwrw allan bob ofn; ac yr wyf fi wedi fy llenwi o gariad, yr hwn sydd gariad tragywyddol; am hyny, y mae pob plant yn gyffelyb i mi; o ganlyniad yr wyf fi yn caru plant bychain â chariad perffaith; ac y maent hwy oll yn gyffelyb, ac yn gyfranogion o iachawdwriaeth. Canys mi a wn nad yw Duw yn Dduw pleidiol, nac ychwaith yn fôd cyfnewidiol; eithr y mae efe yn anghyfnewidiol o bob tragywyddoldeb i bob tragywyddoldeb. Nis gall plant bychain edifarhau; am hyny, y mae yn ddrygioni erchyll i wadu pur drugareddau Duw tuag atynt, canys y maent oll yn fyw ynddo ef o herwydd ei drugaredd. A’r hwn a ddywed fod ar blant bychain anghen bedydd, sydd yn gwadu trugareddau Crist, ac yn dirmygu ei iawn ef a gallu ei achubiaeth. Gwae y cyfryw, canys y maent yn euog o farwolaeth, uffern, a phoenedigaeth ddiddiwedd. Yr wyf yn ei lefaru yn eofn, y mae Duw wedi gorchymyn i mi. Gwrandewch arnynt ac ystyriwch, neu ynte hwy a safant yn eich erbyn chwi wrth orseddfainc Crist. Canys wele, y mae pob plant bychain yn fyw yn Nghrist, ac hefyd yr holl rai ag ydynt heb y gyfraith. Canys y mae gallu y brynedigaeth yn dyfod ar yr holl rai nad oes ganddynt gyfraith; am hyny, yr hwn na chondemniwyd, neu yr hwn nad yw dan gondemniad, nis gall edifarhau; ac i’r cyfryw nid yw bedydd yn lleshau dim. Eithr y mae yn watwar gerbron Duw, yn gwadu trugareddau Crist, a gallu ei ysbryd santaidd, ac yn gosod ymddiried mewn gweithredoedd meirwon. Wele, fy mab, ni ddylai y peth hyn fod; canys edifeirwch sydd iddynt hwy ag ydynt dan gondemniad a than felldith cyfraith doredig. A ffrwythau cyntaf edifeirwch yw bedydd; ac y mae bedydd yn dyfod trwy ffydd, hyd at gyflawni y gorchymynion; ac y mae cyflawni y gorchymynion yn dwyn maddeuant pechodau; ac y mae maddeuant pechodau yn dwyn addfwynder, a gostyngeiddrwydd calon, ac o herwydd addfwynder a gostyngeiddrwydd calon, y mae yn dyfod ymweliad yr Ysbryd Glân, yr hwn ddyddanydd sydd yn llenwi o obaith a pherffaith gariad, yr hwn gariad sydd yn parhau trwy ddyfalwch mewn gweddi, hyd nes delo y diwedd, pan y caiff yr holl saint drigo gyda Duw. Wele, fy mab, mi a ysgrifenaf atat drachefn, os nad âf allan yn fuan yn erbyn y Lamaniaid. Wele, y mae balchder y genedl hon, neu bobl y Nephiaid, wedi profi yn ddinystr iddynt, os na edifarhant. Gweddia drostynt, fy mab, fel y delo edifeirwch iddynt. Eithr, wele, yr wyf yn ofni rhag fod yr ysbryd wedi darfod amryson â hwynt; ac yn y rhan hon o’r tir y maent hefyd yn ceisio darostwng pob gallu ac awdurdod, ag sydd yn dyfod oddiwrth Dduw; ac y maent yn gwadu yr Ysbryd Glân. Ac ar ol gwrthod gwybodat gyflawni y prophwydoliaethau y rhai a lefarwyd gan y prophwydi, yn gystal â geiriau yr Iachawdwr ei hun. Ffarwel, fy mab, hyd nes yr ysgrifenaf atat, neu y cyfarfyddaf â thi drachefn. Amen.