Pennod Ⅳ.
Trefn eu henuriaid a’u hoffeiriaid yn gweinyddu cnawd a gwaed Crist i’r eglwys. A hwy a’u gweinyddent yn ol gorchymynion Crist; am hyny, ni a wyddom fod y drefn yn gywir; a’r henuriad neu yr offeiriad oedd yn ei weinyddu. A hwy a ymostyngent ar eu gliniau gyda’r eglwys, ac a weddient ar y Tad yn enw Crist, gan ddywedyd,—O Dduw, y Tad tragywyddol, yr ydym yn deisyf arnat yn enw dy Fab, Iesu Grist, i fendithio a santeiddio y bara hwn i eneidiau pawb a gyfranogont o hono, fel y byddo iddynt ei fwyta mewn coffadwriaeth am gorff dy Fab, a thystio wrthyt ti, O Dduw, y Tad tragywyddol, eu bod yn ewyllysgar i gymmeryd arnynt enw dy Fab, a chofio am dano a chadw ei orchymynion a roddodd efe iddynt, fel y byddo iddynt yn wastad gael ei ysbryd ef i fod gyda hwynt. Amen.